Eitem ar yr agenda
BIL DRAFFT OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS (CYMRU) – YMGYNGHORI
Derbyn adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi
ynghlwm) sy’n darparu copi o Fil Drafft Ombwdsman
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a cheisio sylwadau gan y Pwyllgor er mwyn llunio
ymateb.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Dirprwy Swyddog
Monitro (DMO), a oedd yn darparu copi o Fil drafft Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru, ac yn gofyn am sylwadau gan y Pwyllgor er mwyn llunio ymateb,
wedi’i gylchredeg ynghynt.
Eglurwyd y byddai'r adroddiad yn galluogi'r Aelodau i ystyried y cynigion a
chyfrannu at y broses ymgynghori ffurfiol.
Mewn cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Safonau, cyflwynwyd eitem fusnes ar
Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2014/15, pan
gyfeiriwyd at y posibilrwydd o ymestyn pwerau i'r Ombwdsmon yng Nghymru.
Roedd y nodyn atgoffa a gyflwynwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru newydd wedi cael ei ymgorffori yn yr adroddiad, gyda'r Bil wedi’i gynnwys
fel Atodiad 1 a llythyr ymgynghori fel Atodiad 2. Roedd cyfraniad cynharach
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y broses yn amgaeedig fel Atodiad 3.
21 Hydref 2015, cyhoeddodd Pwyllgor Cyllid Cynulliad
Cenedlaethol Cymru ymgynghoriad yn ceisio barn unigolion a sefydliadau ar y
cynigion ym Mil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft, a fwriedir i
gryfhau pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Yn dilyn argymhellion a ddarparwyd
mewn adroddiad ym mis Mai, 2015, roedd cynigion y Pwyllgor Cyllid yn y Bil
drafft yn cynnwys rhoi pwerau i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
·
Gychwyn ei ymchwiliadau ei hun a derbyn
cwynion llafar.
·
Delio â chwynion ar draws gwasanaethau
cyhoeddus.
·
Ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i gynnwys
darparwyr gofal iechyd preifat (mewn rhai amgylchiadau).
Cadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai'r
ymgynghoriad yn cau 18 Ionawr, 2016.
Gallai effaith y
cynigion ar Bwyllgorau Safonau arwain at hyd yn oed mwy o ddibyniaeth ar
Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau i orfodi'r Cod Ymddygiad, a llai o
ddibyniaeth ar Swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ystyried diffyg
cyfeiriad penodol, neu gyfeiriad penodol annigonol at God Ymddygiad Aelodau a
Rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn y Bil. Gwahoddwyd yr aelodau i
roi sylwadau ar Atodiad 3, a’r sylwadau ynddo ar God Ymddygiad Aelodau.
Gwnaeth Aelodau'r Pwyllgor arsylwadau ac fe
wnaethant fynegi’r safbwyntiau a ganlyn mewn perthynas â Bil drafft Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:-
-
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Dudalen 28, Adran 12 (1) o’r
Rhaglen "Efallai na fydd yr Ombwdsmon yn ymchwilio i fater o dan y Rhan
hon os yw'r person a dramgwyddwyd, os o gwbl, gyda neu wedi cael:- (c)
datrysiad ar ffurf achos mewn llys barn". Amlygodd yr angen am
eglurder ac eglurodd, mewn achosion lle bu honiadau o athrod, gellid delio â
materion o'r fath drwy weithredu wedyn am ddifenwi. Fodd bynnag,
cyfeiriodd at faterion eraill y gellid eu codi na fyddai'n cael eu cwmpasu'n
uniongyrchol gan gamau gweithredu dilynol.
Eglurodd y Swyddog Monitro mai Bil drafft oedd hwn ac amlinellodd y pwerau
sydd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ran awdurdodaeth y Pwyllgor
Safonau mewn perthynas â'r Cod Ymddygiad, fel y crybwyllir yn Neddf Llywodraeth
Leol 2000. Hysbysodd yr Aelodau fod Deddf gyfredol Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru 2005, a ddisodlir gan Fil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Cymru, yn delio â'r awdurdodaeth mewn perthynas â chwynion am wasanaeth neu
gamweinyddu, ac yn darparu gwahaniaeth rhwng dwy rôl Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru. Hysbyswyd yr Aelodau bod yr adroddiad yn amlinellu
gwaith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ac yn amlygu canlyniadau dilynol
posibl y Bil. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at ganfyddiadau'r
ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad Cenedlaethol, ar waith
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Amlinellwyd y pryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru yn Atodiad 3 i'r adroddiad gan y Swyddog Monitro, a chyfeiriwyd yn
arbennig at y canlyniadau posibl sy'n deillio o ddiffyg cyllid ac adnoddau
ychwanegol, yr effaith ar faterion Cod Ymddygiad ac o bosibl, encilio o'r
agenda moesegol. Mynegodd y Swyddog Monitro bryder hefyd mewn
perthynas ag unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r ddeddfwriaeth.
Mynegodd y Cadeirydd y farn y gallai cynnydd mewn
pwerau, gyda chyllideb sefydlog ac adnoddau staff, gael effaith andwyol gyda
phenderfyniadau yn gorfod cael eu gwneud ar ba gwynion i ymchwilio iddynt a'r
angen am flaenoriaethu. Teimlai'r Cadeirydd y gellid rhoi ystyriaeth i
gynyddu pwerau Pwyllgorau Safonau, o dan gyfyngiadau o’r fath.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at Dudalen 46, Adran 44, (1)
Y bobl sydd â hawl i gwyno wrth yr Ombwdsmon yw:- (a) aelod o'r cyhoedd sy'n
honni neu wedi honni iddynt gael anghyfiawnder neu galedi". Teimlai fod
angen eglurhad gyda diffiniad o ran "anghyfiawnder a chaledi". Cyfeiriodd yn
benodol at y diffyg manylder ac ansicrwydd yn ymwneud â'r bobl sydd â hawl i
gwyno.
Tynnodd yr Aelod Annibynnol J. Hughes (JH) sylw at
y materion canlynol:-
-
Dylid cael ymrwymiad o fewn y fframwaith, i ddarparu
ymatebion electronig neu gopi caled.
-
Mynegwyd cefnogaeth i Ombwdsmon Gwasanaeth Cyhoeddus
Cymru gael pwerau i adennill y costau wrth ymchwilio i wasanaethau iechyd
preifat, a fyddai'n helpu i gynorthwyo wrth ddilyn ymchwiliadau drwy'r broses
gyfan.
-
Cyfeiriwyd at Dudalen 91, Tystiolaeth Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd y broses a'r angen i
sicrhau bod ymgynghori ac ymgysylltu effeithiol. Pwysleisiwyd na ddylid
rhuthro'r broses i gyd-fynd ag Etholiadau Llywodraeth Cynulliad Cymru, a allai
arwain at ganlyniadau anfwriadol. Teimlwyd y dylid archwilio pob opsiwn arall yn
llawn, gan gynnwys unrhyw feysydd problemus posibl.
-
Codwyd pryderon mewn perthynas â'r paragraff olaf ar
dudalen 96. Cyfeiriwyd at y newidiadau posibl yn rôl Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru a’r effeithiau dilynol sy'n codi o uno Awdurdodau. Roedd Aelodau'r
Pwyllgor yn cefnogi'r farn y gallai diwygio rôl Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru, a gwanhau’r Cod yn dilyn hynny, fod yn gam yn ôl ar adeg pan gynigiwyd
diwygio mor ddadleuol o fewn Llywodraeth Leol. Mynegwyd y farn y
gallai pwerau cynyddol arfaethedig i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
gael effaith andwyol ar ganfyddiad y cyhoedd mewn perthynas â chwynion yn erbyn
Cynghorwyr.
Teimlai'r Aelod Annibynnol A. Mellor y gallai
cryfhau rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru roi hyder i achwynwyr a
allai werthfawrogi cyfranogiad corff annibynnol, yn enwedig o ran cwynion sy'n
ymwneud â'r GIG. Fodd bynnag, roedd hi hefyd yn cydnabod effaith niweidiol
bosibl ar y Cod Ymddygiad.
Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd i ystyried
pryderon a godwyd gan y Pwyllgor, esboniodd y Swyddogion Monitro y byddai'r
materion a godwyd yn cael eu cyfleu i'r swyddog sy’n llunio ymateb y Cyngor, er
mwyn galluogi cynnwys barn y Pwyllgor yn ymateb ehangach y Cyngor.
Mynegodd Paula White, Aelod Annibynnol, ei
gwerthfawrogiad am y gwaith a wnaed gan y Dirprwy Swyddog Monitro.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD -bod y Pwyllgor Safonau yn cytuno cyfleu’r
materion a godwyd gan yr Aelodau i'r swyddog sy’n llunio ymateb y Cyngor, er
mwyn galluogi cynnwys barn y Pwyllgor yn ymateb ehangach y Cyngor.
(GW i Weithredu)
Dogfennau ategol:
- PSOW Bill Report, Eitem 7. PDF 109 KB
- PSOW App 1, Eitem 7. PDF 298 KB
- PSOW App 2, Eitem 7. PDF 215 KB
- PSOW App 3, Eitem 7. PDF 171 KB