Eitem ar yr agenda
HYGYRCHEDD GWYBODAETH GAN GYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED.
Derbyn adroddiad
llafar gan Julia Hughes (Aelod Annibynnol)
Cofnodion:
Cyfeiriodd yr Aelod
Annibynnol Julia Hughes (JH) at drafodaethau blaenorol ar gyhoeddi gwybodaeth
yn electronig gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, a oedd bellach yn orfodol,
a thynnodd sylw at yr angen am fynediad rhwydd at wybodaeth.
Fel y cytunwyd yn y cyfarfod blaenorol, rhoddodd
grynodeb manwl o'r archwiliad gwirfoddol i asesu hygyrchedd gwybodaeth oddi ar
wefannau’r pedwar ar bymtheg Cyngor Dinas, Tref a Chymuned canlynol:-
Dinbych, Derwen,
Dyserth, Efenechtyd, Gwyddelwern, Henllan, Llanarmon-yn-Iâl, Llanbedr Dyffryn
Clwyd, Llandegla, Llandrillo, Llandyrnog, Llanelidan, Llanfair Dyffryn Clwyd,
Llanferres, Llangollen, Llangynhafal, Llanrhaeadr, Llantysilio, Llanynys.
Roedd y meysydd a archwiliwyd a’r wybodaeth a
geisiwyd o'r archwiliad yn cynnwys:-
-
Darparu gwefan a'i hygyrchedd
-
Argaeledd cofnodion y cyfarfod blaenorol
-
Manylion am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod nesaf,
a mynediad i raglenni
-
Darparu diweddariadau rheolaidd
Esboniodd JH, o ran meysydd i'w
harchwilio, ei bod wedi cynnwys colofnau yn ymwneud â darpariaeth ddwyieithog
ac unrhyw nodiadau cyffredinol.
Amlygwyd y pwyntiau amlycaf canlynol o'r arfer a
gynhaliwyd:-
·
Roedd nifer o Gynghorau yn
methu â chwrdd â'r gofynion gorfodol. Fodd bynnag, nodwyd bod yna hefyd lawer o arferion da.
·
Dylid
ei wneud yn ofynnol i bob Cyngor Dinas, Tref a Chymuned gael dolen i wefan Sir
Ddinbych.
·
Roedd rhai gwefannau wedi
dyddio.
·
Yr angen i sicrhau bod dolenni
cyswllt gwefan yn gywir ac yn gyfredol.
·
Nid oedd pob gwefan yn ddwyieithog, a thynnwyd
sylw at bwysigrwydd darparu gwybodaeth ddwyieithog.
·
Mewn rhai achosion, roedd
gwefannau ar hyn o bryd yn cael eu datblygu.
·
Roedd gan nifer o wefannau
raglenni safonol nad oedd byth yn newid.
·
Mewn rhai achosion, darparwyd
ffurflenni electronig at ddibenion cyswllt.
·
Roedd buddion drwy ddarparu
sawl dull o gael gafael ar wybodaeth.
·
Mae angen nodi fod llawer o'r
gwaith yn cael ei wneud ar sail wirfoddol.
·
Yr angen am eglurhad mewn perthynas
â'r ddarpariaeth orfodol a dymunol.
·
Ystyriaeth yn cael ei rhoi i
ddarparu hyfforddiant i Glercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.
Hysbyswyd
y Pwyllgor gan y Swyddog Monitro bod pryderon wedi cael eu codi ynghylch
argaeledd adnoddau o ran darparu a chynnal a chadw gwefannau, yn enwedig ar
gyfer Cynghorau gwledig llai. Eglurodd
hefyd fod Clercod i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ond yn cael eu talu am
nifer penodol o oriau.
Gyda
chymeradwyaeth Aelodau, cytunodd y Swyddog Monitro y dylai canlyniad y
trafodaethau mewn perthynas â'r archwiliad a gynhaliwyd gan JH gael ei anfon
ymlaen at y Rheolwr Cynhwysiant Cymunedol, a gysylltodd yn rheolaidd gyda
Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned ac a allai gyfleu'r farn a fynegwyd i'r
Cynghorau perthnasol, ac fe allai'r materion gael sylw ar sail lled
uchelgeisiol. Amlinellodd gylch gwaith y
Pwyllgor Safonau hefyd ac esboniodd nad oedd y materion a drafodwyd o
angenrheidrwydd yn faterion Cod Ymddygiad.
Cyfeiriodd
y Cynghorydd W.L. Cowie at y dull a fabwysiadwyd gan Gyngor Dinas Llanelwy o
ran y polisi dwyieithog a darparu gwybodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar gais y Cynghorydd Cowie,
cytunodd y Swyddog Monitro i gysylltu â'r Swyddogion Arweiniol ar Safonau’r
Gymraeg yn Sir Ddinbych, gyda'r bwriad o gysylltu a darparu cyngor a chymorth i
Glerc Cyngor Dinas Llanelwy mewn perthynas â Pholisi’r Gymraeg.
Tynnwyd
sylw at bwysigrwydd pennu'r amserlenni, gan y byddai'r wybodaeth a ddarperir yn
yr adroddiad yn gallu newid ar ôl ei gynhyrchu.
Diolchodd
y Cadeirydd i JH am y gwaith caled a wnaed i gynhyrchu'r wybodaeth, a fyddai'n
galluogi'r Pwyllgor i fonitro tueddiadau a gwneud awgrymiadau ar gyfer
gwelliannau yn y dyfodol. Cadarnhaodd y Pwyllgor y byddai'n
derbyn adroddiad diweddaru ysgrifenedig yn ei gyfarfod ym mis Mawrth, 2016, fel
y nodir yn rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi cynnwys
yr adroddiad a gyflwynwyd gan yr Aelod Annibynnol Julia Hughes,
(b)
yn anfon
canlyniad y trafodaethau mewn perthynas â'r archwiliad ymlaen at y Rheolwr
Cynhwysiant Cymunedol, a fyddai'n cael cais i ymgysylltu â'r Cynghorau Dinas,
Tref a Chymuned ynghylch y materion a godwyd.
(c)
y
Swyddog Monitro i gysylltu â'r Swyddogion Arweiniol ar Safonau’r Gymraeg yn Sir
Ddinbych, gyda'r bwriad o gysylltu a darparu cyngor a chymorth i Glerc Cyngor
Dinas Llanelwy mewn perthynas â Pholisi’r Gymraeg.
(d)
yn cyflwyno adroddiad diweddaru ysgrifenedig i gyfarfod
Mawrth, 2016 o'r Pwyllgor.
(GW i Weithredu)