Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 2 2015/16

I ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad Strategol, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o gyflawni'r Cynllun Corfforaethol 2012/17 fel ar ddiwedd chwarter 2 o 2015/16, a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu.

                                                                                                           10.10 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad chwarter 2 2015/16 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ar berfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Gynllun Corfforaethol:-

 

·                     dywedodd fod y dangosyddion a oedd yn dibynnu ar naill ai'r preswylwyr neu arolygon busnes, yn hanesyddol o ran natur ac y byddent yn cael eu diweddaru yn y chwarter nesaf gyda'r data diweddaraf.

·                      tynnodd sylw at y meysydd perfformiad allweddol a restrir yn yr adroddiad a dywedodd fod y Cyngor yn bwriadu dileu dangosydd perfformiad (DP) QSCC013ai - ‘canran yr achosion agored ar y gofrestr amddiffyn plant sydd â gweithiwr cymdeithasol wedi ei ddyrannu iddynt’ gan nad oedd bellach yn ddangosydd statudol ac roedd swyddogion wedi cytuno nad oedd yn DP ystyrlon ar gyfer mesur canlyniadau bwriedig.  Roeddent yn teimlo y gallai'r canlyniadau bwriedig gael eu rheoli a'u cyflawni mewn ffyrdd gweithredol eraill yn well;

·                     er bod lefelau absenoldeb salwch corfforaethol yn parhau i wella, roedd y maes hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer gwella;

·                     roedd y gostyngiad yn nifer y staff a oedd wedi derbyn arfarniad perfformiad o leiaf yn rhannol i'w briodoli i'r system feddalwedd cofnodi i-Trent.  Roedd yr Aelod Arweiniol a'r swyddogion yn monitro'r agwedd hon yn ofalus;

·                     roedd anallu'r Cyngor i ddarparu gwybodaeth ar gyfer allyriadau carbon ar hyn o bryd o ganlyniad i fater sy'n ymwneud â system bilio ei ddarparwr ynni.  Nid oedd y broblem yn unigryw i Sir Ddinbych, roedd nifer fawr o awdurdodau lleol wedi'u heffeithio ac roedd y cwmni yn gweithio ar atebion i ddatrys y broblem.   Fodd bynnag, roedd y Cyngor yn newid ei ddarparwr ynni o fis Ebrill 2016 a gallai’r darparwr newydd ddarparu'r holl wybodaeth angenrheidiol maes o law;

·                     nid oedd yr un o Brosiectau Corfforaethol y Cyngor yn cofrestru statws ‘coch’.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:-

·                      roedd y penderfyniad i newid darparwr ynni o fis Ebrill 2016 wedi ei wneud ar sail fasnachol;

·                     gallai taflu sbwriel a baw cŵn gael eu mesur ar gyfer dibenion perfformiad o fewn parthau 30 milltir yr awr (mya) yn unig.  Fodd bynnag, roedd dulliau o olrhain gweithgarwch o'r fath y tu allan i ardaloedd 30mya;

·                     roedd swyddogion o bob adran y Cyngor bellach yn gyfarwydd ac yn hyderus wrth ddefnyddio'r system Verto at y diben o gofnodi gwybodaeth sy'n gysylltiedig â pherfformiad a phrosiect;

·                     roeddent yn hyderus fod y nifer gwirioneddol o arfarniadau perfformiad a gynhaliwyd ar draws y Cyngor yn debygol o fod yn yr ystod wyth deg y cant uchel.  Gyda'r bwriad o gael asesiad cywir o berfformiad y Cyngor yn y maes hwn roedd y Prif Weithredwr wedi gofyn i bob Pennaeth Gwasanaeth wirio eu bod wedi mewnbynnu’r holl wybodaeth ofynnol i mewn i'r system i-Trent.  Roedd hefyd wedi gofyn i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd adolygu'r system er mwyn pennu achos y broblem adrodd;

·                     Roedd y Gweithgor Trechu Tlodi wedi dechrau ei astudiaeth.  Roedd yn Grŵp uchelgeisiol ac yn fuan byddai ganddo nifer o Ddangosyddion Perfformiad y gellid craffu arnynt;

·                     nid oedd gan archwilio unrhyw bwerau i orfodi darparwr ynni’r Cyngor i fynychu cyfarfod i drafod ei anallu i ddarparu gwybodaeth am allyriadau carbon.  Gallai fodd bynnag, pe bai’n dymuno, eu gwahodd i fod yn bresennol.

 

Dywedodd y Cydlynydd Archwilio y byddai’n gwirio a oedd is-ddeddfau arfaethedig sy'n ymwneud â gwahardd cŵn o gaeau ysgol a meysydd chwarae eraill wedi eu mabwysiadu erioed.   Atgoffwyd Aelodau a swyddogion, os oeddent yn meddwl bod unrhyw un o'r meysydd a restrir yn y Cynllun Corfforaethol yn haeddu archwilio manwl, dylent lenwi ‘ffurflen cynnig archwilio’ a'i chyflwyno i'r Cydlynydd Archwilio i'w hystyried gan y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion Archwilio.  Gwnaeth y Pwyllgor:-

 

BENDERFYNU - yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn yr adroddiad ar berfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Gynllun Corfforaethol mewn ymgais i wella canlyniadau i breswylwyr.

 

 

Dogfennau ategol: