Eitem ar yr agenda
GWASANAETHAU LLYFRGELL
I ystyried adroddiad gan y Pen Lyfrgellydd
/ Partner Busnes Gwasanaeth Cwsmeriaid, sy'n amlinellu perfformiad y Gwasanaeth
Llyfrgell yn erbyn Fframwaith Llywodraeth Cymru o Safonau Llyfrgelloedd
Cyhoeddus 2014-17, ac ystyried hyn yng nghyd-destun Fframwaith Darparu
Gwasanaeth Cwsmeriaid Wyneb yn Wyneb newydd Sir Ddinbych, a oedd eisoes wedi’i
ddosbarthu.
11.30 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad ar
y cyd gan y Prif Lyfrgellydd a'r Partner Busnes Gwasanaethau Cwsmeriaid, a oedd
yn amlinellu perfformiad y Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn Fframwaith Safonau
Llyfrgelloedd Cyhoeddus Llywodraeth
Cymru 2014-17, ac yn gofyn i'r Pwyllgor ystyried hyn yng nghyd-destun
Fframwaith Darparu Gwasanaethau Cwsmeriaid Wyneb yn Wyneb newydd Sir Ddinbych,
wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Roedd manylion
am ddyletswyddau statudol Awdurdodau Llyfrgelloedd yng Nghymru wedi eu
hamlinellu yn yr adroddiad, a chyfeiriwyd yn arbennig at ofynion Deddf
Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964. Roedd Fframweithiau
Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn galluogi Adran Amgueddfeydd, Archifau
a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru, CyMAL yn flaenorol, i fesur ac asesu sut
oedd Awdurdodau yn cyflawni eu dyletswyddau statudol. Roedd y Pumed Fframwaith wedi ei lansio ar 1
Mai, 2014.
Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau yr adroddiad ar Asesiad LlC o berfformiad y
Gwasanaeth Llyfrgell ar gyfer 2014/15, a oedd hefyd yn rhoi gwybod i aelodau am
y gwaith a wnaed ac a gynlluniwyd gyda'r bwriad o ddatblygu llyfrgelloedd yn
ganolfannau cymunedol. Rhoddodd y Prif
Lyfrgellydd fanylion am gynnwys yr adroddiad mewn perthynas â pherfformiad y
Gwasanaeth Llyfrgell yn erbyn safonau LlC, tra gwnaeth y Partner Busnes
Gwasanaethau Cwsmeriaid egluro’r gwaith mewn perthynas â datblygu llyfrgelloedd
yn ganolfannau cymunedol a'r Fframwaith sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwnnw.
Dywedwyd wrth yr
Aelodau:-
·
Roedd 17 allan
o'r 18 Hawl Craidd yn Fframweithiau Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi
eu bodloni, roedd yr unig un heb ei gyflawni yn ymwneud ag argaeledd
Strategaeth a Gweledigaeth y Gwasanaeth. Nid oedd hyn wedi ei fodloni oherwydd bod y
Gwasanaeth, fel rhan o'r broses Rhyddid a Hyblygrwydd wedi bod yn
ailstrwythuro.
Byddai’r
hawl craidd terfynol hwn yn cael ei fodloni erbyn mis Mawrth 2016 gan y
byddai'r weledigaeth ar gael yn ddwyieithog ar-lein ac wedi ei hargraffu erbyn
hynny;
·
O ran y
Dangosyddion Ansawdd sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Safonau, fel a restrir
yn yr adroddiad, roedd y Cyngor dim ond yn rhannol wedi bodloni’r Dangosyddion
Ansawdd sy’n ymwneud â mynediad at ddeunyddiau darllen cyfredol ac ni fyddai'n
ei fodloni yn y flwyddyn gyfredol chwaith. Nid oedd
y Cyngor yn poeni’n ormodol am hyn gan fod benthyciadau llyfrau ar draws y sir
yn uchel, sydd yn ei hun yn arwydd bod y Gwasanaeth yn prynu'r hyn y mae
darllenwyr eisiau ei ddarllen;
·
Roedd y
Dangosydd Ansawdd sy'n ymwneud â gwariant priodol ar ddeunyddiau darllen hefyd
dim ond wedi ei fodloni’n rhannol - roedd hyn oherwydd bod y Sir yn cymryd y
dull o roi blaenoriaeth i brynu llyfrau ar gyfer plant. Roedd y Cyngor yn gwario
yn uwch na tharged LlC ar lyfrau plant gyda'r bwriad o wella sgiliau darllen a
llythrennedd sylfaenol, ac roedd yn dilyn y dull gweithredu hwn yn ystod y
flwyddyn gyfredol.
Roedd
swyddogion wedi cwrdd â Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant,
Chwaraeon a Thwristiaeth i bwysleisio’r ymagwedd hon;
·
Dangosydd
Ansawdd arall a oedd wedi ei fodloni’n rhannol yn unig oedd yr un yn ymwneud â
lefelau staffio a chymwysterau - byddai hyn yn cael sylw eto yng ngoleuni'r
ailstrwythuro staffio i weld beth y gellid ei fodloni mewn perthynas â'r
Dangosydd Ansawdd; a
·
Dylai'r
Fframwaith newydd helpu'r Cyngor i gyflawni dangosyddion ansawdd sy’n ymwneud â
thudalennau gwe a nifer cwsmeriaid sy'n manteisio ar wasanaethau TGCh.
Mewn ymateb i
gwestiynau’r Aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion ddweud:-
·
Y gronfa ar
gyfer prynu deunyddiau darllen ar gyfer 2014/15 oedd £160K;
·
Roedd Fframwaith
newydd yr Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd braidd yn rhagnodol ac
yn canolbwyntio gormod ar fewnbwn yn hytrach nag ar allbynnau, canlyniadau a
manteision i ddinasyddion, sef yr hyn yr oedd Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych
yn awyddus i ganolbwyntio arno;
·
Cynhaliwyd
cyfarfodydd gyda Dirprwy Weinidog LlC dros Ddiwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth a Cyfarwyddwr yr Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd o
ran natur ragnodol y Safonau Fframwaith, ac roedd y ddau wedi nodi eu
cefnogaeth lawn i Sir Ddinbych am ei ymagwedd at ehangu'r ystod o wasanaethau a
gynigir o fewn llyfrgelloedd a’u troi’n ganolfannau cymunedol;
·
Ni allai LlC
atal cyllid i'r gwasanaeth llyfrgell ar y sail nad oedd yn bodloni pob
dangosydd gofynnol, pe gallai'r Gwasanaeth brofi ei fod yn darparu gwasanaethau
y mae preswylwyr eu heisiau ac yn eu gwerthfawrogi;
·
Roeddent yn
hyderus y byddai Wi-fi ar gael ym mhob un o lyfrgelloedd y sir erbyn diwedd mis
Mawrth 2016. Roedd swyddogion wedi gofyn hefyd bod y Gwasanaeth yn cael ei
gynnwys fel rhan o gynllun peilot Wi-fi Nova;
·
Roedd swyddogion
o'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn cyfarfod yn rheolaidd gyda staff y Gwasanaeth
Addysg, byddent hefyd yn y dyfodol agos yn cyfarfod â staff y Gwasanaeth
Ieuenctid, gyda'r bwriad o gefnogi mentrau ôl-16 a rhai nad ydynt mewn Addysg,
Cyflogaeth na Hyfforddiant (NEET);
·
O dan y Fframwaith Gwasanaeth i Gwsmeriaid
‘Wyneb yn Wyneb’ roedd y Cyngor yn anelu at gynnig darpariaeth gwasanaeth cyson
i'w holl gwsmeriaid, trwy eu dull darparu gwasanaeth a ffefrir e.e. wyneb yn
wyneb, dros y ffôn, electronig, hunanwasanaeth;
·
Byddai’r
ail-strwythur staffio, recriwtio staff eraill wedi'u cyfuno â rhaglen hyfforddi
â ffocws yn sicrhau bod yr holl staff yn meddu ar y sgiliau angenrheidiol i
ddarparu pob gwasanaeth sydd ar gael yn y ‘canolfannau’;
·
Roedd staff yn
cerdded o gwmpas yn rheolaidd i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn aros yn hir am
gymorth;
·
Yn dilyn gwaith
adnewyddu diweddar yn Llyfrgell y Rhyl, roedd bellach desg Heddlu yn y
Llyfrgell ac roedd dau aelod o staff Refeniw a Budd-daliadau wedi eu lleoli yno
yn gweithio mewn partneriaeth â'r Ganolfan Waith yn cynorthwyo pobl i wneud
cais am y Credyd Cynhwysol newydd ar-lein. Roedd y CAB hefyd yn cynnal cymorthfeydd cyfnodol
yn y Llyfrgell;
·
Yn Rhuddlan
roedd gwaith ar y gweill gyda'r Cyngor Tref gyda golwg ar ailadrodd model tebyg
i'r un yn y Rhyl, ond gyda mwy o bwyslais ar ganolbwynt cymunedol h.y. caniatáu
grwpiau lleol i gyfarfod yn adeilad y llyfrgell;
·
Yn Ninbych roedd
trafodaethau ar y gweill gyda swyddogion Cymunedau yn Gyntaf gyda'r bwriad eu
bod yn defnyddio adeilad y Llyfrgell, byddai hyn yn galluogi'r Cyngor i wneud
cais am grantiau penodol sydd ar gael i sefydliadau Cymunedau yn Gyntaf ar
gyfer addasu’r adeilad.
Er
gwaethaf y ffaith fod adeilad y Llyfrgell ei hun y tu allan i’r ardal Cymunedau
yn Gyntaf yn y dref, roedd y sefydliad o'r farn mai hwn oedd yr adeilad mwyaf
priodol yn yr ardal i ddarparu eu gwasanaethau;
·
At ddiben
diogelu’r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol roedd pob lleoliad yn cael ei asesu ar
sail ei allu a'i ddefnydd posibl er mwyn gwneud y gorau o’u defnyddio.
Llongyfarchodd yr
Aelodau y Gwasanaeth ar ei berfformiad ac ar ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol,
a oedd yn galonogol yn enwedig ar adeg pan mae nifer o awdurdodau lleol yn
trafod cau nifer o'u llyfrgelloedd.
PENDERFYNWYD - yn amodol ar y
sylwadau uchod, derbyn Asesiad Llywodraeth Cymru o berfformiad y Gwasanaeth
Llyfrgell 2014/15, cefnogi ymateb ac ymagwedd Sir Ddinbych i gyflwyno'r
gwasanaethau yn enwedig yng nghyd-destun y Fframwaith Darparu Gwasanaethau
Cwsmeriaid newydd, a chymeradwyo dull y Cyngor sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i
ddarparu gwasanaethau i'r gymuned.
Dogfennau ategol:
- Library Report, Eitem 8. PDF 121 KB
- Library App 1, Eitem 8. PDF 193 KB
- Library App 2, Eitem 8. PDF 174 KB
- Library App 3, Eitem 8. PDF 97 KB