Eitem ar yr agenda
GWERTHUSIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL AGGCC 2014/15
Ystyried
adroddiad gan y Pen Reolwr: Cefnogi Busnes, Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol,
sy'n manylu ar y materion allweddol sy'n codi o werthusiad Arolygiaeth Gofal a
Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru o berfformiad Gwasanaethau Cymdeithasol Sir
Ddinbych ar gyfer 2014-15, a oedd eisoes wedi’i ddosbarthu ynghynt.
9.35 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Prif Reolwr: Cymorth
Busnes, Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar
gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau yr
adroddiad ac eglurodd fod y gwerthusiad yn seiliedig ar amrywiaeth eang o
dystiolaeth gan y Cyngor, rheoleiddwyr a defnyddwyr gwasanaeth. Ar y cyfan roedd gwerthusiad y
Rheoleiddiwr o Wasanaethau Gofal Cymdeithasol y Cyngor yn un cadarnhaol, gyda
dim ond ychydig o feysydd ar gyfer gwelliant wedi’u nodi. Y prif feysydd y byddai Arolygiaeth Gofal
a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn cysylltu yn rheolaidd gyda'r
Cyngor amdanynt yn ystod y flwyddyn bresennol gyda golwg ar sicrhau y byddent
yn cael eu cryfhau neu eu symud ymlaen oedd:-
·
Y
newidiadau i seilwaith uwch reolwyr ar gyfer cyflwyno gofal cymdeithasol a’u
heffaith ar blant ac oedolion;
·
Diogelu Oedolion Diamddiffyn (PoVA) - gwella amseroldeb ac ymgysylltiad
PoVA ac ymgymryd ag adolygiad o lefelau trothwy
·
Monitro
ansawdd yr holl ddarparwyr gofal cartref (gan gynnwys cael barn a phrofiadau
defnyddwyr gwasanaeth o’r gwasanaethau); a
·
Gwaith
partneriaeth integredig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
Amlinellodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol Gogledd Cymru
AGGCC i'r Pwyllgor y prif bwyntiau a amlygwyd yn adroddiad y Rheoleiddiwr.
Yn ogystal â'r meysydd a restrir
uchod a oedd angen eu cryfhau dywedodd:-
·
Mae
astudiaeth genedlaethol gan Swyddfa Archwilio Cymru yn ddiweddar wedi dod i'r
casgliad bod angen mwy o ddefnydd o Teleofal a thechnoleg gynorthwyol ar draws
Cymru, felly byddai’r Rheoleiddwyr yn monitro'r sefyllfa ar draws y wlad;
·
O ran yr angen i wella monitro ansawdd darparwyr gofal cartref, byddai
angen i'r Cyngor roi sylw i adroddiad cenedlaethol sydd i'w gyhoeddi yng
ngwanwyn 2016 wrth ddatblygu’r agwedd hon o'i waith;
·
Roedd
y cynnydd o 38% yn nifer y bobl sy'n cael taliadau uniongyrchol ar gyfer pobl
ag anableddau dysgu neu anghenion iechyd meddwl yn gymeradwy;
·
Roedd
proffilio pobl â phroblemau iechyd meddwl yn faes ar gyfer gwella ar draws
rhanbarth Gogledd Cymru. Roedd angen eglurder ynghylch nodi, asesu a
chomisiynu gwasanaethau;
·
Roedd
gan Sir Ddinbych nifer eithriadol o uchel o bobl ag anableddau dysgu, yn aml ag
anghenion cymhleth, o'r tu allan i'r sir yn byw o fewn ei ffiniau. Roeddent
yn bennaf yn byw mewn llety a gynhelir gan ddarparwyr annibynnol, roedd nifer
ohonynt wedi'u sefydlu yn dilyn cau hen Ysbyty Gogledd Cymru. Gan fod
nifer o'r preswylwyr o'r tu allan i Sir Ddinbych, roedd risg nad oeddynt ar hyn
o bryd yn hysbys naill ai i'r gwasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol, ond
roedd yn debygol y daw amser pan fyddai angen iddynt gael mynediad i
wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sylfaenol a chael eu diogelu gan
wasanaethau diogelu'r Cyngor. Felly roedd angen i'r Cyngor a'i
bartneriaid asesu pwysau posibl ar eu gwasanaethau yn y dyfodol;
·
Mae
dull atal ac ymyrryd yn fuan y Cyngor trwy amrywiol dimau sy'n gweithio o fewn
y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi arwain at ostyngiad sylweddol mewn
atgyfeiriadau ac ail-atgyfeiriadau i'r Gwasanaeth. Serch hynny, roedd angen olrhain a monitro
canlyniadau i blant a theuluoedd a gaiff eu cyfeirio at wasanaethau eraill;
Gan fod y gofal seibiant anghyfrannol ar gyfer plant ag anableddau yn awr wedi dod i ben, byddai angen monitro a oedd rhai teuluoedd yn dewis peidio â derbyn gofal seibiant ar sail ariannol, a'r effaith ganlyniadol oedd yn ei gael ar y teulu cyfan;
Hefyd byddai angen monitro mynediad a chanlyniadau i blant a theuluoedd nad oeddent ar hyn o bryd yn cyrraedd y trothwy i gael mynediad uniongyrchol i gymorth gan y Gwasanaethau Plant – byddai’r Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd (sy’n cael ei dreialu ar hyn o bryd gan Sir Ddinbych) yn cynorthwyo gyda'r agwedd hon;
·Er bod gwelliannau o ran gwasanaethau a
gynigir i Blant sy'n Derbyn Gofal roedd angen mwy o waith o ran sicrhau
archwiliadau iechyd a deintyddol rheolaidd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal ac
mewn perthynas â chynllunio ymlaen a chanlyniadau i bobl ifanc sy'n gadael
gofal;
·
Roedd
y cynllun peilot Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol yn y sir fel pe bai’n
gweithio'n dda; ac
·
Roedd y
Rheoleiddiwr yn fodlon gydag arweinyddiaeth a llywodraethu gwasanaethau gofal
cymdeithasol yn y sir - roedd o'r farn bod y broses herio gwasanaeth a chraffu
ar y ddarpariaeth gwasanaeth yn gadarn.
Wrth ymateb i gwestiynau Aelodau, dywedodd
swyddogion a Chyfarwyddwr Rhanbarthol AGGCC:-
·
Nid oedd
clystyrau mawr o ddarpariaeth gofal annibynnol ar gyfer pobl sydd ag anableddau
dysgu anghenion dwys/cymhleth yn cyd-fynd ag ethos bwriedig cau’r hen
sefydliadau iechyd meddwl;
·
Byddai darpariaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014,
pan fyddant yn dod i rym ym mis Ebrill 2016, yn cryfhau pwerau sy'n ymwneud â
rhannu gwybodaeth;
·
Roedd
angen rhoi'r Gwasanaeth SPoA ar gyllid ariannol mwy diogel, roedd yn ddibynnol
iawn ar arian grant ar hyn o bryd. Roedd angen hefyd tyfu’r gwasanaeth i
gynnwys mwy o bartneriaid/budd-ddeiliaid, ar hyn o bryd Iechyd, Gofal
Cymdeithasol a'r sector gwirfoddol oedd yn cymryd rhan yn y gwasanaeth. Gallai
Gwasanaeth yr Heddlu fod yn un partner posibl yn y dyfodol;
·
Roedd
y Cyngor yn cymryd ei gyfrifoldebau o ran diogelu plant ac oedolion o ddifrif. Un o
amcanion ail-strwythuro presennol y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol oedd cryfhau
agweddau ar ddiogelu. Yn ogystal, roedd adolygiad cymheiriaid wedi ei
wneud gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a byddai mesurau a nodwyd fel rhan o
ganfyddiadau'r adolygiad hwnnw yn cael eu hymgorffori yn y gwasanaeth, fel y
byddai canfyddiadau Adolygiad Operation Jasmine LlC.
Roedd Rheolwyr Arweiniol dynodedig hefyd wedi
bod yn destun hyfforddiant meithrin hyder arbenigol a byddai swydd newydd
Rheolwr Tîm Diogelu yn hanfodol wrth roi arweiniad proffesiynol ym maes
diogelu;
·
Dylai
Rhan 6 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 helpu o ran
sicrhau gwell canlyniadau addysgol a chynllunio ymlaen ar gyfer plant sy'n
derbyn gofal, fel y byddai'r newid polisi o gwmpas ‘Pan Fydda i’n Barod’. Fodd bynnag, roedd gan Sir
Ddinbych eisoes bolisi tebyg o ran penderfynu ar yr amser mwyaf priodol i
berson ifanc adael gofal, a elwir yn ‘Staying Put’, byddai hyn angen rhywfaint
o fireinio er mwyn sicrhau ei fod yn unol â'r ddeddfwriaeth newydd. Roedd nyrs
plant sy'n derbyn gofal wedi ei benodi yn ystod 2014/15 ac roedd hyn wedi
gwella perfformiad o ran sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal wedi'u cofrestru
gyda meddyg teulu a Deintydd;
·
Sir
Ddinbych oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru i sefydlu Tîm SPoA. Mae’r tîm ar y cyd rhwng Iechyd,
Gwasanaethau Cymdeithasol a'r sector gwirfoddol yn cael sgwrs ‘Beth sy'n
Bwysig’ gydag unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr er mwyn sefydlu'r math o
gefnogaeth sydd ei hangen ac i'w cyfeirio at wasanaethau neu sefydliadau
perthnasol eraill. Roedd gwerthusiad ffurfiol o'r Gwasanaeth SPoA
wedi ei gynnal yn ddiweddar ac roedd wedi dod i'r casgliad ei fod yn wasanaeth
da, gwerthfawr a oedd o fudd i breswylwyr. Roedd y gwasanaeth yn cydymffurfio â
gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 newydd. Roedd
perthnasoedd gwaith da eisoes yn bodoli rhwng staff gofal cymdeithasol a nyrsys
ardal ac roedd gwaith ar y gweill ar hyn o bryd gyda'r bwriad o feithrin
perthynas debyg gyda staff a therapyddion trydydd sector. Byddai hyn
yn helpu i nodi unrhyw fylchau gwasanaeth;
Cynhaliwyd trafodaeth ar werth ‘galwadau gwirio’
15 munud i ddefnyddwyr gwasanaeth yn eu cartrefi eu hunain. Pwysleisiwyd nad oedd disgwyl i'r rhai
sy'n gwneud y galwadau hyn weinyddu gofal. Fodd bynnag, wrth gomisiynu pecynnau gofal roedd
rhaid i’r Cyngor roi sylw i farn defnyddwyr gwasanaeth unigol ar y math o ofal
y maent ei angen. Byddai’r
astudiaeth genedlaethol o ofal cartref a oedd ar y gweill yn edrych ar bob
agwedd ar ofal cartref e.e. hyd y galwadau, amser teithio rhwng galwadau,
parhad gofal/gofalwyr ac ati. Wrth benderfynu ar y contractau gofal cartref yn y dyfodol a monitro’r
contractau hynny byddai angen i'r Cyngor roi sylw i ganfyddiadau'r astudiaeth
genedlaethol.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Pwyllgor Archwilio
Partneriaethau eisoes wedi rhoi adroddiad yn edrych ar faterion Diogelu
Oedolion Diamddiffyn ac adroddiad ar ‘Annibyniaeth Pobl Hŷn’ yn ei raglen
gwaith i'r dyfodol ar gyfer mis Chwefror 2016. Felly:
PENDERFYNWYD - yn amodol ar y sylwadau uchod, a'r
ffaith fod y Pwyllgor
Archwilio Partneriaethau eisoes wedi
trefnu bod adroddiadau ar agweddau ar y meysydd a nodwyd ar gyfer gwella ar ei
raglen gwaith i'r dyfodol, derbyn Gwerthusiad ac Adolygiad Blynyddol AGGCC o
Wasanaethau Cymdeithasol Sir Ddinbych ar gyfer 2014/15 a Chynllun Gweithredu
cysylltiedig y Cyngor.
Dogfennau ategol: