Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COFRESTR RISG CORFFORAETHOL

I ystyried adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor, a oedd eisoes wedi'i dosbarthu.

                                                                                                          10.55 a.m.

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol a oedd yn nodi'r adolygiad ffurfiol o fis Hydref, 2015 o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol, wedi'i ddosbarthu gyda'r rhaglen. 

 

Roedd fersiwn wedi’i diweddaru'n ffurfiol o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol wedi'i gytuno yn sesiwn Briffio’r Cabinet ym mis Hydref, a'i gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 18 Tachwedd.  Roedd yr adroddiad presennol yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad roi sylwadau ar yr adolygiad ffurfiol.

 

Wrth gyflwyno'r adroddiad gwnaeth yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad gyfeirio'n benodol at y diwygiadau a ganlyn i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol:-

 

·                     DCC007 - y risg bod gwybodaeth hanfodol neu gyfrinachol yn cael ei cholli neu ei datgelu:  oherwydd cyflwyno nifer o gamau gweithredu lleihau risg, cyflwyno'r polisi diogelwch gwybodaeth a’r pecyn e-ddysgu, teimlwyd bellach y gallai’r risg hwn gael ei reoli ar lefel gwasanaeth.  Felly, byddai'n cael ei dileu o'r Gofrestr Risg Gorfforaethol;

·                     DCC013 – roedd y geiriad ar gyfer y risg hon wedi ei newid i ‘y risg o rwymedigaethau sylweddol yn deillio o fodelau cyflwyno allanol’ i gwmpasu’r amrywiaeth o fodelau darparu gwasanaeth sydd naill ai ar waith neu sy'n cael eu harchwilio.  Hyd nes bydd y Fframwaith ar gyfer Trefniadau Llywodraethu wedi ei weithredu'n llawn ac yn rhan annatod byddai'r sgôr risg weddilliol yn aros yr un fath;

·                     DCC021 – roedd y sgôr risg weddilliol ar gyfer ‘y risg na fydd partneriaethau a rhyngwynebau effeithiol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Chyngor Sir Ddinbych (CSDd) yn datblygu, gan arwain at gamaliniad sylweddol rhwng cyfeiriad strategol a gweithredol BIPBC a CSDd’ wedi ei chynyddu i adlewyrchu'r pryderon difrifol oedd gan y Cyngor ar gyfer y maes penodol hwn, er gwaethaf y ffaith fod nifer o fesurau rheoli wedi eu rhoi ar waith;

·                     Roedd risg newydd wedi ei chofnodi ar y gofrestr - DCC030 ‘y risg nad yw’r gallu a'r sgiliau priodol i gynnal gwasanaethau a pherfformiad corfforaethol ar gael’.  Roedd y risg hon yn gysylltiedig â gwaith cynllunio ar gyfer olyniaeth a oedd yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.   Roedd rhai mesurau rheoli eisoes ar waith ac roedd eraill yn cael eu cynllunio gyda golwg ar reoli’r risg hon; ac

·                     Roedd yna hefyd risg arall sy'n dod i'r amlwg, roedd hyn yn ymwneud â threfniadau Diogelu Oedolion Diamddiffyn a godwyd gan AGGCC.  Roedd gwaith cwmpasu ar y gweill ar hyn o bryd ar y risg hon ac felly byddai gwybodaeth fanylach amdani a'r mesurau i’w rheoli yn ymddangos yn fersiwn nesaf y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r Aelodau gwnaeth yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:-

 

·                      Nodi, o ran risg DCC016 ‘y risg bod effaith diwygiadau lles yn fwy sylweddol na'r hyn a ragwelwyd gan y cyngor’ ac yn enwedig y risg sy'n gysylltiedig â chau'r Uned Hawliau Lles a throsglwyddo ei waith i'r darparwr allanol, roedd y Grŵp Tasg a Gorffen Torri’r Brethyn wedi adolygu’r toriad hwn yn ddiweddar a daeth i'r casgliad bod y gwasanaeth newydd a ddarperir gan y Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) yn gweithio'n dda ac yn cyflawni yn ôl y disgwyl.  Rhoddwyd sicrwydd hefyd gan y Cydlynydd Archwilio y byddai'r Grŵp Tasg a Gorffen yn parhau i fonitro'r sefyllfa a’i fod i fod i edrych ar y ddarpariaeth gwasanaeth yn erbyn y cytundeb lefel gwasanaeth (CLG) unwaith eto yn ystod haf 2016. 

·                     Gofyn gan fod rhai aelodau wedi mynegi pryderon yn y cyfarfod mewn perthynas â gallu'r CAB i ddarparu'r gwasanaeth cyngor lles ar hyn o bryd oherwydd pwysau, byddai'n ddefnyddiol pe gallai'r aelodau hynny fanylu ar eu pryderon i uwch swyddogion yn y Cyngor er mwyn eu galluogi i ymchwilio, oherwydd nad oedd y Grŵp Tasg a Gorffen wedi canfod unrhyw dystiolaeth o unrhyw effaith andwyol ar breswylwyr yn dilyn trosglwyddo'r gwasanaeth i ddarparwr allanol;

·                     Egluro fod y cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru (LlC) i Fyrddau Iechyd yng Nghymru yn benodol ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol.   Ar draws Cymru byddai £30m ychwanegol, i lenwi’r gronfa hyd at £50m, yn cael ei sianelu drwy'r Byrddau Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol rhanbarthol o fis Ebrill 2016 at y diben o ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig.  Roedd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol pob awdurdod lleol yn gwasanaethu ar Fwrdd Partneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu hardal; a

·                     Rhoi eglurhad manwl o ddyfarniad y Goruchaf Lys ar Drefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS) a'i oblygiadau ar gyfer y Cyngor.

 

Gwnaeth y Pwyllgor:-

 

 BENDERFYNU - yn amodol ar y sylwadau uchod nodi'r newidiadau a wnaed i'r Gofrestr Risg Gorfforaethol, y rhesymau dros y newidiadau, a derbyn y Gofrestr ddiwygiedig.

 

 

Dogfennau ategol: