Eitem ar yr agenda
GWASANAETH MEDDYG TEULU TU ALLAN I ORIAU
- Meeting of Pwyllgor Craffu Cymunedau, Dydd Iau, 17 Rhagfyr 2015 9.30 am (Item 6.)
- View the declarations of interest for item 6.
Cael cyflwyniad
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
10.10 a.m.
Cofnodion:
Dosbarthwyd
adroddiad gan swyddogion BIPBC yn y cyfarfod ar y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau
Meddygon Teulu yn ardal Ganolog y Bwrdd, a oedd yn cynnwys ardaloedd awdurdod
lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych. Gwnaethant nodi bod:-
·
Roedd
y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon Teulu wedi’i nodi o dan Fesurau Arbennig
y Bwrdd fel maes oedd angen ei wella;
·
Ar gyfer
Ardal Canol y sir roedd y prif Wasanaeth y Tu Allan i Oriau’n cael ei weithredu
ar safle Ysbyty Glan Clwyd. Ers agor yr Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys newydd (D ac A) yn Ysbyty
Glan Clwyd, roedd y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau wedi'i leoli drws nesaf i'r
Adran Ddamweiniau newydd ac o ganlyniad roedd yr un cyfleuster brysbennu yn
cael ei ddefnyddio ar gyfer y ddau wasanaeth. Roedd hyn yn helpu i leddfu'r pwysau ar D&A
gan y gallai’r cleifion hynny nad oedd angen ymyriad mewn argyfwng gael eu
dargyfeirio i'r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau. Roedd parafeddygon Ymddiriedolaeth Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru (WAST) yn defnyddio dull tebyg ar yr ambiwlansys sy’n cyrraedd
yn Ysbyty Glan Clwyd, ac felly roedd rhai cleifion oedd wedi cyrraedd mewn
ambiwlans hefyd yn cael eu cyfeirio at y Gwasanaeth Tu Allan i Oriau;
·
Mae'r
Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yn yr Ardal Ganolog hefyd yn cynnal ymweliadau
â’r cartref pan fo angen. Cofnododd Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yr Ardal Ganolog y trydydd nifer
uchaf o ymweliadau cartref yng Ngogledd Cymru, ar ôl Gwynedd ac Ynys Môn, roedd
hyn oherwydd natur wledig yr ardal. Yn ogystal, roedd y Gwasanaeth yn gweld rhai
cleifion y Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Rhuthun, gan ei fod yn defnyddio’r
cyfleuster fel allbost ar gyfer y gwasanaeth;
·
Y
Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau yn Ysbyty Glan Clwyd oedd y gwasanaeth mwyaf
llwyddiannus yng Ngogledd Cymru. Roedd wedi recriwtio 10 o feddygon teulu yn
ychwanegol yn ddiweddar ac roedd yn cynnig goruchwyliaeth 100% fel gwasanaeth. Dim ond ychydig yn brin o gyflawni
mwyafswm goruchwyliaeth ar gyfer gwyliau banc ac ati. Mae ei lwyddiant yn erbyn
safonau cenedlaethol bron yn 100%;
·
Yr unig faes lle mae'n methu â chyflawni yw’r
dangosydd sy'n ymwneud ag ymgymryd ag ymweliad cartref i'r rheini sydd angen un
o fewn 60 munud - roedd natur wledig yr ardal yn gwneud y targed hwn yn un
anodd ei gyflawni;
·
Roedd
y Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau hefyd wedi buddsoddi mewn Ymarferwyr Nyrsio
Uwch, gallai’r aelodau hyn o staff ymweld â phobl yn eu cartrefi i gynnig gofal
lliniarol;
·
Oriau
ymarferwyr nyrsio hefyd wedi cynyddu;
·
Mae'r
holl sifftiau yn yr Ardal Ganolog wedi eu gorchuddio gan feddygon teulu a oedd
yn derbyn tâl cyfradd sesiynol. Roedd dwy sifft yn cael eu gweithredu: 6pm-11pm,
adeg y galw mwyaf - 2 neu weithiau 3 o feddygon ar gael yn ystod y cyfnod hwn.
Mae'r ail
sifft yn gweithredu dros nos o 11pm ymlaen - 1 meddyg a 2 o ymarferwyr nyrsio
ar gael ar y sifft hon.
·
Nid
oedd problemau yn Ardal y Dwyrain wrth recriwtio nifer digonol o feddygon teulu
ar gyfer pob sifft oherwydd diffyg diddordeb, ond oherwydd rheolau Llywodraeth
Cymru nad ydynt yn caniatáu i feddygon teulu sy'n gweithio yn Lloegr i weithio
yng Nghymru hefyd. Roedd
yr anghysondeb bellach yn cael ei gywiro ac yn y man dylai hyn leddfu'r pwysau
yn Ardal y Dwyrain;
·
Roedd
Bwrdd Iechyd PBC yn fodlon ar gyflawniadau’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau hyd
yma, ond nid oedd yn hunanfodlon gan ei fod yn ymwybodol fod yna heriau o'n
blaenau a'r angen i fod yn fwy arloesol i ateb y galw
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, cadarnhaodd swyddogion BIPBC:-
·
Bu
rhai problemau gyda'r llinellau ffôn i'r gwasanaeth Tu Allan i Oriau Meddygon
Teulu, fodd bynnag, mae'r rhain wedi'u datrys a system ffôn newydd gyda
llinellau ffôn ychwanegol wedi eu gosod. Mae'r system newydd yn cofnodi nifer y cleifion yn
y 'ciw galwad' a oedd yn galluogi'r Gwasanaeth i alw ar fwy o staff i ateb
galwadau a brysbennu’r ymholiadau;
·
Bod cyfanswm o 29 o feddygon teulu wedi
ymrwymo i ddarparu gwasanaethau i'r Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i
Oriau ar gyfer ardal Conwy a Sir Ddinbych. Nid oedd yn ofynnol i’r meddyg teulu gynnig
goruchwyliaeth, roedd y rhai oedd yn gwneud felly yn gwneud hynny ar sail
wirfoddol ac yn cynnig maint amrywiol o oruchwyliaeth yn dibynnu ar eu
hymrwymiadau personol;
·
Gan
fod yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys newydd yn Ysbyty Glan Clwyd a
Gwasanaeth y Tu Allan i Oriau Conwy a Sir Ddinbych wedi’u cydleoli roedd hyn yn
hwyluso amgylchedd gwaith agos ac yn galluogi cleifion i gael eu cyfeirio at y
gwasanaeth mwyaf priodol i ddiwallu eu hanghenion unigol. Roedd staff Ymddiriedolaeth Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru (WAST) oedd yn gweithredu'r model Llwybrau Parafeddyg hefyd yn
gallu cyfeirio cleifion i naill ai D ac A neu’r gwasanaeth tu allan i oriau
meddygon teulu, pa un bynnag oedd y mwyaf priodol pan oeddent yn cyrraedd yn
Ysbyty Glan Clwyd. Roedd
cyd-leoli’r ddau wasanaeth, felly yn lleddfu’r pwysau ar yr Adran Damweiniau ac
Argyfwng;
·
Roedd
cleifion o Ddyffryn Dyfrdwy fel arfer yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth Tu
Allan i Oriau Meddyg Teulu a Damwain ac Achosion Brys yn Ysbyty Maelor.
Fodd bynnag, roedd rheolau
Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â meddygon teulu sy'n gweithio yn Lloegr ddim yn
gallu darparu gwasanaethau tu allan i oriau yng Nghymru wedi achosi problemau o
ran recriwtio digon o feddygon teulu i ddarparu'r gwasanaethau tu allan i oriau
yn Ardal y Dwyrain. Er
bod y dyfarniad hwn wedi cael ei lacio yn ddiweddar, a byddai'n helpu'r
sefyllfa maes o law, yn y cyfamser mae rhai cleifion wedi cael eu cyfeirio at y
gwasanaeth tu allan i oriau yn yr Ardal Ganolog ac eraill at y gwasanaeth
wedi'i leoli yn Nolgellau, a oedd yn cwmpasu de Gwynedd.
Ar ddiwedd y
drafodaeth dywedodd yr aelodau y byddai cael meddygfeydd ar agor ar fore
Sadwrn, fel oedd yn cael ei gynnig yn Lloegr, yn helpu i leihau’r pwysau ar
adrannau damweiniau ac argyfwng a'r gwasanaeth tu allan i oriau meddygon teulu.
Roeddent yn cydnabod yr heriau a
wynebir yn Ardal y Dwyrain oherwydd rheolau Llywodraeth Cymru ac roeddent yn
falch o ddeall bod y rheolau hyn nawr yn mynd i gael eu llacio i ganiatáu i
feddygon teulu sydd wedi eu lleoli yn Lloegr i weithio i’r gwasanaeth tu allan
i oriau yng Nghymru.
Ar ddiwedd y
drafodaeth roedd y Pwyllgor wedi:-
PENDERFYNU -
derbyn yr adroddiad a, gan gydnabod yr heriau mewn ardaloedd penodol, i
longyfarch y Bwrdd Iechyd ar y gwelliannau a wnaed hyd yn hyn, yn enwedig yr
arferion gwaith effeithiol gyda'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty
Glan Clwyd ac anogwyd y Bwrdd i sicrhau gwelliant parhaus yn y maes hwn.