Eitem ar yr agenda
DARPARIAETH GOFAL SYLFAENOL YN ARDAL PRESTATYN
- Meeting of Pwyllgor Craffu Cymunedau, Dydd Iau, 17 Rhagfyr 2015 9.30 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Cael cyflwyniad
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
9.35 a.m.
Cofnodion:
Rhoddodd
cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) gyflwyniad yn
amlinellu cefndir y newidiadau arfaethedig yn narpariaeth gofal iechyd
sylfaenol ym Mhrestatyn. Roedd y prif feysydd a nodwyd yn y
cyflwyniad PowerPoint yn cynnwys:-
Ø
Cefndir,
yn cynnwys trosolwg o ofal sylfaenol traddodiadol
Ø
manylion
y darparwyr meddygon teulu presennol
Ø
Trosolwg
ar y model gofal sylfaenol cyfoes:
·
Canolfan
Gofal Sylfaenol Heb ei Drefnu
·
Gofal
wedi'i gynllunio
·
Cymorth
Cartref Gofal Cartref
·
Yr
academi
Ø
Cynnydd
hyd yma
Dywedodd y
cynrychiolwyr BIPBC fod:-
·
Y
ffaith bod dwy Feddygfa yn ardal Prestatyn wedi rhoi hysbysiad o'u bwriad i
derfynu eu contract â'r Bwrdd Iechyd o’r 31 Mawrth 2016 wedi golygu bod angen
i'r Bwrdd ystyried yr ateb mwyaf priodol ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd
sylfaenol i boblogaeth o tua 21,000 o gleifion;
·
Er bod
y meddygon teulu yn y ddwy feddygfa yn rhoi’r gorau i’w contract Gwasanaethau
Meddygol Cyffredinol (GMC), sef y math traddodiadol o gontract y mae’r rhan
fwyaf o wasanaethau meddygon teulu yn eu darparu ar draws Gogledd Cymru, roedd
y rhan fwyaf o feddygon teulu yn y meddygfeydd dan sylw yn dal â diddordeb mewn
darparu gwasanaethau meddygon teulu os byddai eu rolau yn fwy hylaw;
·
Mae
ymchwil ac astudiaethau cenedlaethol diweddar wedi nodi bod darparu gofal
sylfaenol angen newid i gynnwys amrywiaeth o weithwyr proffesiynol gofal iechyd
h.y. nyrsys, ffisiotherapyddion, fferyllwyr, awdiolegwyr, y sector gwirfoddol
ac ati
·
Oherwydd
y nifer o gleifion yn ardal Prestatyn roedd y Bwrdd Iechyd o'r farn mai’r ateb gorau
ar gyfer darparu gwasanaethau i boblogaeth yr ardal fyddai datblygu Cyfleuster
Gofal Sylfaenol Cyfoes, a fyddai'n cynnwys:-
Ø
Canolfan
gofal sylfaenol heb ei drefnu (lle gallai cleifion gael apwyntiad yr un diwrnod
gyda'r ymarferydd iechyd perthnasol)
Ø
Canolfan
Gofal Wedi’i Gynllunio (lle gallai cleifion gael gofal rheolaidd ar gyfer
cyflyrau cronig a ddarperir gan yr un ymarferydd)
Ø
Cefnogaeth
Cartref a Gofal Cartref (darpariaeth gofal iechyd arbenigol pwrpasol ar gyfer
cleifion diamddiffyn/bregus naill ai yn eu cartrefi eu hunain neu mewn cartrefi
preswyl/nyrsio); ac
Ø
Academi (lle gallai gweithwyr proffesiynol
presennol barhau i ddatblygu a rhannu sgiliau, lle gallai cleifion gael eu
dysgu i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain neu eu cyflyrau eu hunain, a lle
gellid ceisio adborth rheolaidd i gleifion a'i ddadansoddi er mwyn gwella
gwasanaethau)
·
Gyda
golwg ar symud y prosiect yn ei flaen a bod â’r gofynion sylfaenol ar waith i’r
gwasanaeth newydd arfaethedig fod yn weithredol ar 1 Ebrill 2016, roedd bwrdd
prosiect a thîm wedi cael ei sefydlu. Roedd y tîm wedi’i leoli ar safle Ysbyty Brenhinol
Alexandra yn y Rhyl ac roedd ar hyn o bryd yn delio â TUPE y staff presennol
i'r gwasanaeth newydd, recriwtio staff newydd a chyfathrebu am y newidiadau i'r
trigolion a budd-ddeiliaid; ac
·
Roeddent
hefyd o fewn y dyddiau diwethaf wedi mynegi diddordeb mewn sicrhau cyn adeilad
swyddfa’r cyngor a'r safle yn Nhŷ Nant, Prestatyn fel canolfan ar gyfer y
cyfleuster Gofal Sylfaenol Cyfoes newydd.
Dywedodd rhai
Aelodau, er eu bod wedi bod braidd yn amheus ynghylch y model gofal iechyd
cyfoes i ddechrau, nawr eu bod yn cael mwy o fanylion am sut y byddai'n
gweithio roeddent mwy o’i blaid. Gofynnwyd a oedd crynodeb cryno ar gael i drigolion ar yr hyn a gynigir,
gan y byddai hyn yn rhoi sicrwydd iddynt ynglŷn â’r datblygiadau.
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd swyddogion BIPBC:-
·
Gyda
golwg ar gael sianelau cyfathrebu effeithiol gyda'r holl fudd-ddeiliaid roedd y
Bwrdd Iechyd yn defnyddio cefnogaeth cyfathrebu allanol, yn ogystal roeddent
hefyd yn ystyried sefydlu gwefan ryngweithiol at y diben hwn;
·
Roedd
tîm cyfathrebu’r Cyngor ei hun hefyd yn cynorthwyo BIPBC i rannu gwybodaeth ar
y prosiect hwn;
·
Roedd
nifer y galwadau i'r llinell gymorth cyhoeddus penodedig ar newidiadau i ofal
iechyd sylfaenol ym Mhrestatyn wedi gostwng yn ddiweddar, ond roedd disgwyl
iddo gynyddu eto yn nes at ddyddiad y newid ym mis Ebrill 2016;
·
Er
gwaethaf pryderon cychwynnol, wedi derbyn sicrwydd gan y Bwrdd Iechyd y byddai
gofal sylfaenol ar gael i drigolion, nid oedd cleifion presennol yn y ddwy
feddygfa wedi trosglwyddo eu cofrestriad i feddygfeydd eraill;
·
Roeddent
yn cytuno gydag Aelodau Etholedig bod angen adolygu llwyth gwaith meddygon
teulu, fodd bynnag, byddai angen i'r arweiniad ar hyn ddod gan Lywodraeth Cymru
(LlC);
·
Roedd
4 clwstwr meddygon teulu yn gweithredu yng Nghonwy a Sir Ddinbych. Gall
y 'clystyrau' hyn godi unrhyw bryderon a oedd ganddynt gyda'r Bwrdd Iechyd, ac
os nad oedd gan y Bwrdd y pwerau i ddatrys y materion hynny gallai eu codi gyda
Llywodraeth Cymru. Gan
fod BIPBC o fewn 'mesurau arbennig' roedd ganddo 'glust' Llywodraeth Cymru ar
faterion o bryder mawr
·
Ni
fyddai'r model gofal iechyd cyfoes arfaethedig a gynigiwyd ar gyfer Prestatyn yn
addas neu’n ymarferol ar gyfer pob ardal ar draws y rhanbarth, ond roedd maint
y boblogaeth yn ardal Prestatyn yn golygu y dylai'r model arfaethedig weithio'n
dda. Roedd y math hwn o
fodel yn debygol o apelio at feddygon teulu sydd newydd gymhwyso sydd, ar ôl
hyfforddi am nifer o flynyddoedd, â ffioedd addysgol i’w talu, felly, byddent
yn annhebygol o fod eisiau prynu i mewn i feddygfa breifat. Fodd bynnag, mae'r model hwn yn
annhebygol o fod yn hyfyw i feddygfeydd un meddyg teulu llai, ac felly yn y dyfodol,
byddai’n debygol o fod yna gymysgedd o GMC ac arferion model gofal iechyd
cyfoes ar draws Gogledd Cymru;
·
Pe
byddai’n bosibl caffael safle Tŷ Nant, byddai'n rhoi cyfle i BIPBC ddod
â'r model gofal iechyd cyfoes cyfan i fodolaeth yn ei gyfanrwydd, er mai yn
raddol, gyda'r gofal sylfaenol heb ei drefnu yn cael blaenoriaeth.
Byddai'n cymryd lle'r Grŵp
Meddygol Pendyffryn presennol a Meddygfeydd Seabank a'r Clinig, fodd bynnag,
byddai'r ddwy feddygfa gangen yng Ngallt Melyd a Ffynnongroyw yn parhau ar agor;
·
Os na
allai'r Bwrdd Iechyd sicrhau safle Tŷ Nant byddai'r model arfaethedig yn
mynd yn ei flaen, ond ni fyddai’n gwbl weithredol am beth amser gan y byddai
angen i'r Bwrdd sicrhau safle arall, neu wneud cais am ganiatâd cynllunio i
ymestyn y safle a chlinig Grŵp Meddygol Pendyffryn presennol;
·
Roedd
swyddogion y Bwrdd Iechyd i fod i gwrdd â swyddogion o'r Cyngor yr wythnos
ganlynol i drafod eu diddordeb yn safle Tŷ Nant, ac roeddent yn cadarnhau
eu bod yn edrych ar sicrhau’r adeilad a'r maes parcio ar gyfer y prosiect;
·
Ar
wahân i fethu â sicrhau lleoliad addas ar gyfer y ganolfan gofal iechyd cyfoes
roedd risgiau eraill i'r prosiect ddwyn ffrwyth yn cynnwys recriwtio tîm llawn
(nid oedd recriwtio'r tîm craidd yn broblem). Roedd
angen hefyd i weithio gyda chleifion i'w sicrhau y byddai'r model newydd o ofal
sylfaenol mewn gwirionedd yn diwallu eu hanghenion penodol yn well na’r model
presennol;
·
roedd
cyfrifiadau staffio a chapasiti’r ganolfan arfaethedig i ymdrin â'r mewnlifiad
o boblogaeth twristiaid yn ystod misoedd yr haf eisoes wedi ei gynnwys yn y
model a gyflwynir. Yn
yr un modd, byddai cynigion cynllun datblygu lleol (CDLl) hefyd yn cael eu
cynnwys fel rhan o'r broses cynllunio i'r dyfodol ar gyfer y ganolfan;
·
Roeddent
wedi derbyn hysbysiad yn ddiweddar y byddai meddygfa yn Rhuddlan yn terfynu ei
gontract gyda'r Bwrdd Iechyd o 31 Mawrth 2016. Mae hyn yn effeithio ar tua
2,000 o gleifion ac mae trafodaethau ar y gweill i geisio’r ateb mwyaf priodol
ar gyfer darparu gofal iechyd sylfaenol i'r cleifion hynny. Byddai mwy o wybodaeth ar gael ar ddechrau
2016 ar sut y byddai’r Bwrdd yn bwriadu sicrhau gwasanaethau ar gyfer y
cleifion hyn;
·
wrth
i’r model gofal sylfaenol cyfoes gael ei sefydlu byddai gwasanaethau eraill,
fel cwnselwyr a gwasanaethau rheoli dyled, neu unrhyw wasanaeth neu sefydliad
arall sy'n cefnogi'r agenda iechyd a lles yn gallu cael eu lleoli ar yr un
safle; ac
·
ymgymerwyd
i barhau â'r drafodaeth gyda'r Grwpiau Ardal Aelodau Prestatyn (MAG) ar y mater
hwn ac i gysylltu â phob MAG yn rheolaidd mewn perthynas â datblygiadau yn eu
hardal, gan eu bod yn ystyried MAGs i fod yn fforymau gwerthfawr i drafod a
lledaenu gwybodaeth.
Ar ddiwedd y
drafodaeth croesawodd yr Aelodau’r cynigion sy'n cael eu cyflwyno ar gyfer
Gofal Iechyd Sylfaenol ym Mhrestatyn, gyda'r bwriad o chwalu'r rhwystrau rhwng
ymarferwyr gofal iechyd gwahanol er budd y claf unigol. Roeddent hefyd yn falch bod y cyfathrebu
gyda'r holl fudd-ddeiliaid yn gwella, ond roedd pryderon fod rheolau penodol
Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn gosod cyfyngiadau ar ymarferwyr gofal iechyd
penodol a oedd yn barod i weithio ar y naill ochr i'r ffin rhwng Lloegr/Cymru
ac roeddent yn teimlo y dylai hyn gael ei godi gyda Llywodraeth Cymru. Roeddent
hefyd yn cefnogi'n llawn y cais gan y Bwrdd Iechyd i sicrhau cyn adeilad a maes
parcio Tŷ Nant at y diben o ddatblygu a gweithredu cyfleuster gofal iechyd
sylfaenol cyfoes ar gyfer ardal Prestatyn, ac roeddent yn gofyn i’w safbwyntiau
gael eu tynnu i sylw'r swyddogion perthnasol sy'n gysylltiedig â'r trafodaethau
hynny. Felly:
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau yn cytuno:-
(a) yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn a
chefnogi cynigion y Bwrdd Iechyd ar gyfer darparu gwasanaethau gofal iechyd
sylfaenol yn ardal Prestatyn yn y dyfodol o Ebrill 2016; a
(b) Aelodau Arweiniol perthnasol a Swyddogion Cyngor Sir Ddinbych i fod
yn ymwybodol o farn y Pwyllgor cyn eu cyfarfod gyda swyddogion Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr i drafod eu datganiad o ddiddordeb yn hen safle
swyddfeydd a maes parcio Tŷ Nant.