Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH TAI DRAFFT

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cynllunio a Thai Strategol (copi ynghlwm) i Aelodau'r Pwyllgor Craffu Cymunedau adolygu'r Strategaeth Tai a darparu mewnbwn cyn iddo gael ei adrodd i'r Cyngor llawn yn Rhagfyr 2015.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai, y Cynghorydd Barbara Smith, yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i gyflwyno Strategaeth Tai Drafft y Cyngor a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig i gael sylwadau’r aelodau, cyn ei gyflwyno i Grŵp Llywio’r Aelodau Arweiniol yr wythnos ganlynol.

 

Byddai'r Strategaeth, a fyddai'n cefnogi'r gwaith o gyflawni nifer o Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor, yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir ym mis Rhagfyr, 2015 i’w cymeradwyo a’u mabwysiadu.  Byddai'r cynnydd o ran cyflawni nifer o gamau gweithredu'r Strategaeth hefyd yn debyg o fod yn nodwedd o Asesiad Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru ar Gyngor Sir Ddinbych, a fyddai'n digwydd yn hydref 2016.

 

Yn ystod y drafodaeth ar y Strategaeth a'r Cynllun Cyflenwi, cododd yr aelodau'r pwyntiau canlynol:

 

·       Gallai gorfodi amodau cynllunio a thrwyddedu yn fwy llym mewn perthynas â safleoedd carafanau gwyliau yn y sir, fel y cynigiwyd yn yr adroddiad cynharach ar raglen fusnes y Pwyllgor ar y "Prosiect Gwell Rheoleiddio Safleoedd Carafanau", gael effaith bosibl ar gynllun cyflenwi arfaethedig y Strategaeth Dai

·       Gan fod y Cyngor wedi tynnu'n ôl yn wirfoddol oddi wrth drefniadau Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Llywodraeth Cymru, byddai disgwyl iddo ddefnyddio o leiaf rhan o'r hen arian CRT at ddiben adeiladu tai.  Er y byddai pwysau eraill ar gyllideb y Cyfrif Refeniw Tai, roedd y trefniadau newydd yn darparu cyfleoedd i’r Cyngor wneud y mwyaf o'r buddion o ddefnyddio arian yr hen HRA

·       Tynnwyd sylw at gyfyngiadau’r Polisi Pentrefannau presennol h.y. y ffaith nad yw rhai pentrefannau eisiau tai fforddiadwy gan nad oedd unrhyw ragolygon cyflogaeth neu wasanaethau lleol ar gael i ddenu pobl oedd angen tai fforddiadwy yn yr ardaloedd hynny - dim ysgolion lleol na gwasanaethau bysiau.  Tanlinellwyd hyn ymhellach gan y ffaith bod tair cymdeithas tai lleol yr oedd tirfeddiannwr wedi cysylltu â nhw gyda'r bwriad o ddatblygu ar dir mewn ardal a oedd o fewn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) wedi gwrthod y cynnig ar y sail na fyddent yn gallu darparu unrhyw ddatblygiad arno oherwydd cyfyngiadau'r Polisi Pentrefannau

·       Roedd angen cynnwys argaeledd a'r defnydd o dir y Cyngor yng nghynllun cyflenwi’r Strategaeth

·       Yr angen i sicrhau bod y rhestr aros am dai Cyngor yn gyfredol, a bod y nifer a oedd yn aros am dai cyngor yn cael ei wirio yn rheolaidd.  Roedd hefyd angen sicrhau bod cofrestr Tai Fforddiadwy'r Cyngor yn gyfredol a'i hyrwyddo ar draws y sir

·       Gofynnwyd i’r Swyddog Arweiniol – Cartrefi Cymunedol ystyried cadw'r 'teithiau cerdded' tai lle’r oedd aelodau lleol yn ymweld ag ystadau tai ynghyd â swyddogion tai, gan fod cynghorwyr yn teimlo bod y rhain yn fuddiol ac yn ddefnyddiol.

 

Wrth ymateb i bwyntiau'r aelodau amlinellodd yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai a swyddogion amcanion pob un o bum thema’r Strategaeth ac eglurodd y modd yr oedd pob thema’n ategu ei gilydd.  Gwnaethant nodi bod:

 

·       Cyfyngiadau'r Polisi Pentrefannau wedi cael eu trafod gan y Grŵp Llywio a nodi gweithred 1.5 Cynllun Cyflenwi’r Strategaeth ar gyfer 2015 - 2020 oedd mynd i'r afael â'r anawsterau a achoswyd gan y Polisi Pentrefannau

·       Byddai tir a oedd yn eiddo i’r Cyngor yn cael ei drafod fel rhan o'r camau gweithredu i gyflawni'r Cynllun Cyflawni unwaith y byddai’r Strategaeth wedi cael ei chymeradwyo a'i mabwysiadu gan y Cyngor Sir.  Byddai camau gweithredu’r Cynllun Cyflenwi'n cael eu hymgorffori yng nghynlluniau busnes pob Gwasanaeth

·       O ran y rhestr Tai Cyngor, roedd tua 3,000 o ymgeiswyr ar y rhestr ar hyn o bryd, gwiriwyd dilysrwydd presennol y ffigurau hyn yn rheolaidd, ond roedd yn broses feichus a oedd yn cymryd llawer o amser gan fod yn rhaid ei gwneud â llaw

·       Roedd yna hefyd bobl eraill yn y cymunedau na fyddent yn cofrestru ar gyfer tai cyngor gan nad oedd unrhyw dai o'r fath ar gael iddynt yn yr ardaloedd yr oeddent eisiau byw ynddynt.  Roedd yr un peth yn wir am y rhestr Tai Fforddiadwy.  Cyfeiriwyd at y gwaith a oedd ar y gweill gyda Chyngor Cymuned Llandyrnog gyda'r bwriad o hyrwyddo rhestr Tai Fforddiadwy yn yr ardal benodol honno.  Roedd hyn hefyd yn broses â llaw a oedd yn cymryd llawer o amser.  Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol fod gan aelodau etholedig lleol ran i'w chwarae wrth hyrwyddo argaeledd y rhestr hon yn eu hardaloedd a'r manteision hyrwyddo bodolaeth y rhestr i bawb dan sylw

·       Amlinellwyd y synergedd rhwng y pum thema wahanol yn y Strategaeth Dai yn yr un modd â’r angen am waith traws-wasanaeth a thraws-sector effeithiol er mwyn gwireddu canlyniadau’r Strategaeth

·       Roedd angen gwaith mewn ymgais i ddeall pam fod datblygwyr yn dal yn amharod i ddod ymlaen i ddatblygu safleoedd sydd eisoes wedi'u nodi o dan y Cynllun Datblygu Lleol - a oedd unrhyw ffactorau gwaelodol economaidd neu ffactorau eraill yn cyfrannu at yr amharodrwydd hwn

·       Roedd SAC yn awyddus i wybod a oedd y Cyngor yn rhoi digon o bwysau ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu tai fforddiadwy.  Mae hefyd yn holi ynghylch bwriadau'r Cyngor ar gyfer ei arian CRT

·       Roedd angen sicrhau bod tai priodol yn cael eu datblygu ar gyfer trigolion, er mwyn diwallu anghenion pob unigolyn diamddiffyn

·       Roedd y Fforwm Tenantiaid hen sefydledig yn dal i weithredu ac roedd lefel dda o ymgysylltu rhwng y tenantiaid a'r Cyngor.  Fodd bynnag, roedd bob amser lle i wella.  Yn gyffredinol, roedd yn ymddangos fod anfodlonrwydd tenantiaid yn deillio o faterion lleol iawn

·       Efallai y bydd angen adolygu Thema 5 y Strategaeth, ‘Cymunedau Cynaliadwy’, gyda'r bwriad o’i gryfhau o ran ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol

·       Roedd Tîm Gweithredol Corfforaethol y Cyngor ar hyn o bryd yn edrych ar opsiynau llywodraethu ar gyfer cyflwyno’r Strategaeth.  Y dewis a ffafriwyd oedd peidio â chael Bwrdd i’w oruchwylio.  Yn sicr, byddai swyddogaeth i archwilio o ran monitro darpariaeth y Strategaeth, yn arbennig o ran y gwaith o gyflawni'r canlyniadau disgwyliedig.

 

Cydnabu'r Aelodau bod pob cynghorydd wedi cael digon o gyfle i gyfrannu at y strategaeth ddrafft.  Byddai hefyd ganddynt swyddogaeth bwysig o ran sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno.  Gyda’r bwriad o gychwyn monitro canlyniadau'r Strategaeth unwaith y byddai wedi’i fabwysiadu, cytunodd yr aelodau i ofyn am gyngor gan y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio ar yr amser mwyaf priodol ar gyfer cychwyn y swyddogaeth fonitro, gan ystyried yr Asesiad Corfforaethol sydd i ddod.

 

Byddai'r Strategaeth yn rhoi cyfle i ddatblygu ystod lawn o gyfleoedd tai sy'n addas ar gyfer anghenion trigolion o'r crud i'r bedd a gwella ansawdd bywyd ar draws y sir y Cyngor. 

 

PENDERFYNODD y pwyllgor, yn amodol ar y sylwadau uchod, a chwblhau camau gweithredu a restrir, i

 

(i)    argymell bod y Cyngor Sir, yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr 2015, yn cymeradwyo a mabwysiadu'r Strategaeth Dai Ddrafft a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig ar gyfer y cyfnod 2015-2020; ac

(ii)   y dylai Archwilio fonitro cyflawniad canlyniadau’r Strategaeth o dro i dro.

 

Dogfennau ategol: