Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR BROSIECT RHEOLEIDDIO MEYSYDD CARAFANAU YN WELL

Ystyried adroddiad gan yr Hyfforddai Graddedig, Gwella Busnes a Moderneiddio (copi ynghlwm) i roi gwybodaeth am y gwaith a wnaed hyd yn hyn a’r camau nesaf a drefnwyd ar gyfer y Prosiect.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith, adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â chynnydd y prosiect hwn ers adroddiad blaenorol y Pwyllgor Archwilio.            

 

Roedd y Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad a chytunwyd y dylai’r cyfarfod symud i Ran II

 

RHAN II

 

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd

PENDERFYNWYD- dan ddarpariaethau Adran 100a(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn, ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym mharagraff 13 Rhan 4 Atodlen 12a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Tynnodd y Swyddogion sylw'r Aelodau at yr ystadegau oedd yn dangos yr amrywiaeth o wasanaethau a ddefnyddir gan bobl sy'n byw ar safleoedd carafanau "gwyliau" a phwysleisiodd bod:

 

·       Llawer o waith cefndirol manwl wedi ei wneud gyda’r nod o ganfod maint y broblem o ran pobl sy'n byw mewn carafanau “gwyliau” yn barhaol ac yn cael mynediad at wasanaethau’r cyngor er nad ydynt wedi cyfrannu tuag at y gwasanaethau hynny drwy’r system Treth y Cyngor

·       Mae’n bosibl hefyd bod pobl eraill sy'n byw mewn carafanau "gwyliau" na fyddai'r Awdurdod Lleol yn ymwybodol ohonynt gan nad oeddent wedi'u cofrestru ar y gofrestr etholiadol neu wedi ceisio cael mynediad i wasanaethau.  Gallai rhai hyd yn oed fod mewn swyddi llawn-amser

·       O'r ymchwil a wnaed hyd yma, amcangyfrifwyd y byddai'r Cyngor yn colli lleiafswm o tua £300,000 y flwyddyn mewn arian Treth y Cyngor a thaliadau Grant Cynnal Refeniw (RSG) gan fod tua 175 o unigolion yn y sir yn byw drwy gydol y flwyddyn mewn carafanau "gwyliau"

·       Roedd y rhan fwyaf o'r unigolion yn byw yn safleoedd carafanau mawr y sir, ac roedd gan y safleoedd hyn eu gwasanaethau eu hunain fel siopau a golchdai ar y safle

·       Roedd gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda Chymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain (BH&HPA) gyda'r bwriad o ddefnyddio aelodaeth y Gymdeithas fel modd o hyrwyddo arfer da a rheoli a chanfod camymddwyn a chamreoli

·       Mae gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu Llawlyfr Gweithdrefnau Rheoleiddio a rhagwelwyd y byddai’r llawlyfr hwn yn cael ei lansio yn ystod gwanwyn 2016 mewn cynhadledd ar y cyd gan Gyngor Sir Ddinbych a'r BH&HPA.

 

Yn ystod y drafodaeth, cododd yr Aelodau bryderon mewn perthynas â:

 

·       Ceisiadau diweddar i Bwyllgor Cynllunio'r Cyngor yn gofyn i ymestyn amodau trwydded gweithredwr o 10 mis i 12 mis.

·       Mae cost y "boblogaeth cudd" sy'n byw yn safleoedd carafanau’r sir i’r Cyngor, yn enwedig y rhai nad oedd ganddynt "gartrefi" mewn mannau eraill ac yn aros yn eu carafanau am 10 mis, yn mynd dramor am y 2 mis sy'n weddill cyn dychwelyd i’w carafanau "gwyliau" yn Sir Ddinbych.  Roedd nifer o’r bobl hyn yn oedrannus a byddent, ar ryw adeg, yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal.

·       Roedd posibilrwydd y gallai rhai o'r rhai a oedd â chartrefi mewn mannau eraill hefyd fod ar y gofrestr etholiadol mewn dwy ardal wahanol.

 

Cafodd Aelodau a swyddogion drafodaeth eithaf trylwyr am fanteision a chyfyngiadau cyflwyno "treth carafán" fel ffordd o sicrhau rhywfaint o incwm gan berchnogion y carafanau am y gwasanaethau y maent yn eu derbyn.  Cododd yr Aelodau bryderon mewn perthynas â'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer tai cyngor a godwyd yn Atodiad 5 yr adroddiad (tudalen 56), a oedd yn amlinellu mynediad i dai cyngor a sut y gallai preswylydd gyda phroblemau meddygol mewn carafán ennill pwyntiau ychwanegol o gymharu â phreswylydd tŷ wrth wneud cais am dŷ cyngor.  Gofynnwyd i’r Swyddog Arweiniol - Cartrefi Cymunedol ymchwilio i'r mater hwn yn fanwl.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl, ymatebodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus a swyddogion i gwestiynau'r Aelodau a gan ddweud:

 

·       Gellid priodoli’r nifer isel o ymatebion hyd yma mewn perthynas â'r ymarfer mapio safleoedd carafanau yn rhannol i amseriad yr ymarferiad, a gynhaliwyd ar ddiwedd y tymor gwyliau.  Fodd bynnag, ni ddylai hyn achosi oedi cyn cychwyn y gwaith i lenwi’r Rhestr Tir ac Eiddo Lleol gyda'r wybodaeth a gafwyd hyd yma.

·       Nid yw pob gweithredwr safleoedd carafanau yn aelodau o BH&HPA, roedd tua 75% o weithredwyr safleoedd carafanau’r sir yn aelodau.  Yn anffodus, y safleoedd mwy oedd y rhai a oedd yn tueddu i beidio â bod yn aelodau o'r Gymdeithas.

·       Nid oedd rhai safleoedd carafanau yn caniatáu blychau post unigol ar y safle, roedd yn rhaid dosbarthu’r holl bost i'r swyddfa safle.  Roedd hyn yn cynorthwyo perchnogion safleoedd i blismona'r anheddau’n well.  Ni fyddai rhai perchnogion safleoedd yn gwerthu carafán i rywun heb brawf dilys o gyfeiriad yn rhywle arall.

·       Roedd cofrestrau GIG hefyd yn ffynhonnell ddefnyddiol o ddata ar bobl a oedd yn byw ar safleoedd carafanau.

·       Er bod y cyngor yn cefnogi'r cysyniad o fasnach ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn, nid oedd hyn yn golygu cael yr un unigolion yn byw mewn carafanau am 12 mis.  Nid yw pobl sy’n byw yn barhaol yn eu carafanau yn cyfrannu cymaint at yr economi leol ag y rhai sy’n ymweld am gyfnod byr, gan y bydden nhw’n ymweld â gwahanol leoliadau ac yn gwario arian yn y lleoedd hynny.  Mae'r preswylwyr parhaol yn fwy tebygol o wneud mwy o ddefnydd o'r cyfleusterau ar y safle fel siopau, bariau a bwytai.

·       Roedd bythynnod gwyliau hefyd yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth i osgoi iddynt gael eu hystyried yn anheddau parhaol.  Byddai'r drwydded ar gyfer bythynnod gwyliau yn nodi'r amodau a osodwyd arnynt.

·       Er nad oedd unrhyw gymhellion ar gyfer safleoedd a "reolwyd yn wael" i gadw at y rheolau, y gobaith oedd y byddai cael “enw drwg" yn newid eu hymagwedd.  Os na fyddai hyn yn gweithio, byddai angen i'r cyngor ddilyn y trywydd gorfodi.

·       Pe bai unigolyn wedi prynu carafán ar safle 10 mis, gan feddwl ei fod yn holl safle drwy gydol y flwyddyn, gallai ef/hi gysylltu â'r Adran Safonau Masnach am ganllawiau yn ymwneud â chael cynnyrch wedi’i gam-werthu.  Hefyd, aeth Swyddogion ati i godi'r mater hwn gyda'r BH&HPA.

·       Ni fyddai'n ddefnyddiol i chwilio trwy ddata hanesyddol ar feddiannaeth safleoedd carafanau, byddai’n canolbwyntio ein hymdrechion ar ddata o’r deuddeg mis diwethaf ac yn y dyfodol yn ddefnydd llawer mwy defnyddiol o adnoddau.

 

Apeliodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus i gynghorwyr roi gwybod i’r swyddogion os oedd ganddynt unrhyw garafanau o fewn eu wardiau y maent yn amau sy’n cael eu meddiannu’n barhaol heb y caniatâd preswylio gofynnol.

 

Cytunodd yr Aelodau na allai'r Cyngor fforddio colli tua £300,000 y flwyddyn. Roedd yna, felly, angen i sefydlu faint o gamau gorfodi y gallai fforddio eu cymryd yn y dyfodol.  Dylai polisi rheoleiddio safonol a chyson wedi’i gyfuno â gwaith partneriaeth gyda chymdeithas y BH&HPA a gweithredwyr meysydd carafanau lleol wireddu manteision i bawb dan sylw yn y tymor hir a helpu'r cyngor i ddarparu nifer o'i flaenoriaethau corfforaethol.  Ar ddiwedd y drafodaeth, mynegodd yr Aelodau eu gwerthfawrogiad i'r swyddogion am eu gwaith a:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor i gytuno yn amodol ar yr uchod:

 

(i)              Bod y gronfa ddata gyfeiriadau corfforaethol a'r drefn fonitro newydd yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â’r posibilrwydd fod carafanau gwyliau yn cael eu meddiannu’n breswyl heb awdurdod yn y dyfodol trwy reolaeth cynllunio a thrwyddedu ar y cyd

(ii)             Datblygu gweithdrefnau a dogfennau ar y cyd ar gyfer monitro, ymchwilio a gorfodi safleoedd

(iii)            Datblygu strategaeth ragweithiol ar gyfer mynd i'r afael â safleoedd "problemus" mwy o faint yn y sir lle mae tystiolaeth o feddiannaeth breswyl heb awdurdod yn fwyaf cyffredin, ac y bydd angen i’r strategaeth hon sefydlu cyfnodau amser priodol lle na ellir ystyried bod camau gweithredu yn briodol wedi’r cyfnod hwnnw.

(iv)           Sefydlu cysylltiadau pellach gyda Chymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain (BH&HPA) i greu gweithdrefnau rheoli parciau ar gyfer pob safle, a

(v)            Bod llawlyfr y Weithdrefn Rheoleiddio drafft yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn ystod gwanwyn 2016 (Mawrth o bosibl) i gael sylwadau'r aelodau.

 

 

Dogfennau ategol: