Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

BWRIAD I GAU YSGOL LLANBEDR DYFFRYN CLWYD

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg, yn cyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol a gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2016 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i gyhoeddi  rhybudd statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ar 31 Awst 2016 a throsglwyddo'r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad a oedd yn manylu ar ganfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr DC ar 31 Awst, 2016 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig.

 

Mae'r cynnig wedi cael ei wneud fel rhan o'r adolygiad ehangach ardal Rhuthun, ac er bod rhywfaint o wybodaeth gefndirol wedi cael ei ddarparu yn flaenorol, roedd yn ofynnol i'r Cabinet ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad o'r newydd. Mae’r achos dros newid wedi ei nodi yn yr adroddiad yn seiliedig ar amcanion y Cyngor i leihau lleoedd dros ben, sicrhau dosbarthiad tecach a mwy cyfartal o gyllid ysgolion a rhoi mwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar gyfer ystâd ysgolion. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cynnwys opsiwn arall a gyflwynwyd gan Esgobaeth Llanelwy i ffederaleiddio Ysgol Llanbedr DC gydag Ysgol Trefnant VA, a newid statws cyfreithiol o Ysgol Wirfoddol a Reolir i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir. Gofynnwyd i'r Cabinet ystyried hyfywedd y dewis ffederaleiddio cyn penderfynu a ddylid cymeradwyo'r rhybudd statudol i gau.

 

Ystyriodd y Cabinet yr achos dros ffederaleiddio gan ofyn a fyddai'n cyflawni amcanion y Cyngor i fynd i'r afael â lleoedd dros ben yn ardal Rhuthun, darparu canlyniadau addysgol gwell, lleihau'r gost fesul disgybl a darparu ysgol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Cafodd manteision a'r risgiau eu hystyried hefyd ynghyd â'r goblygiadau i'r partneriaid ffederaleiddio arfaethedig.  Yn ystod y drafodaeth, nododd y Cabinet -

 

·         y byddai ffederaleiddio yn golygu bod y ddwy ysgol yn parhau ac yn rhannu Corff Llywodraethu - ni fyddai'n mynd i'r afael â'r mater o leoedd dros ben

·         ni fyddai unrhyw arbedion yn cael eu gwneud o ran y gost fesul disgybl o ganlyniad i ffederaleiddio, ac ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol, roedd angen gostwng costau refeniw a chyfalaf

·         Yn gyffredinol roedd canlyniadau addysgol yn ardal Rhuthun yn dda ac roedd disgwyl i ysgolion gynnal neu wella canlyniadau - ni ellid ffurfio barn ar hyn o bryd ynghylch a fyddai ffederaleiddio yn golygu canlyniadau gwell

·         roedd Awdurdod yr Esgobaeth a Chorff Llywodraethu yn angerddol am gadw Ysgol Llanbedr ar agor ac wedi gwneud achos dros ffederaleiddio fel opsiwn arall yn lle cau - fodd bynnag gallai fod risg posibl ar gyfer y partner ffederaleiddio, a oedd yn ysgol gynaliadwy yn ei rinwedd ei hun ar hyn o bryd

·         roedd manteision yr opsiwn ffederaleiddio wedi cael eu nodi gan y Cyrff Llywodraethu yn yr adroddiad ac roedd yn cynnwys arfer gorau a phrofiadau dysgu – gallai llawer o'r buddion hynny gael eu gwireddu gan ysgolion sy'n gweithio’n fwy cydweithredol ac nid oeddynt yn achos cryf dros ffederaleiddio ar eu pen eu hunain

·         ni ddarparwyd manylion y model ffederaleiddio ar hyn o bryd, ac er bod pellter o 10 milltir rhwng yr ysgolion yn arwyddocaol, roedd y cynnig yn nodi na fyddai disgyblion yn cael eu trosglwyddo rhwng safleoedd, dim ond yr athrawon,  a gofynnwyd cwestiynau ynghylch ymarferoldeb trefniant o’r fath heb unrhyw arbedion maint yn cael eu gwireddu

·         byddai rhywfaint o gyfrifoldeb ariannol yn cael ei dynnu oddi ar y Cyngor yn sgil newid yn y statws cyfreithiol i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir a oedd yn ymwneud â chlustnodi'r eiddo ar gyfer cynnal a chadw.

 

Ymatebodd y Cynghorydd Huw Williams i’r ddadl am ffederaleiddio a dywedodd -

 

·         nad oedd unrhyw ymgynghori wedi cael ei gynnal ar hyn o bryd ac roedd yn anodd ateb cwestiynau penodol hyd nes yr ymgynghorwyd yn llawn ar y cynnig

·         roedd arbedion syth yn cynnwys £26,000 yn sgil peidio â gorfod cludo disgyblion i Ysgol Borthyn a £12,000 ar staffio ac nid oedd unrhyw ddiffygion cyllidebol yn y naill ysgol na’r llall

·         bu ffederaleiddio llwyddiannus yn ardal Wrecsam rhwng ysgolion oedd fwy na 10 milltir ar wahân, a

·         pharhaodd niferoedd disgyblion Ysgol Llanbedr a’r rhagamcanion i gynyddu.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Williams hefyd gwestiynau ynghylch y cynnydd mewn arbedion a gynigiwyd o ganlyniad i gau ysgol; a oedd y Cabinet wedi bod yn gyfrin i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Esgobaeth, a cheisiodd farn y Cynghorydd Eryl Williams, fel Aelod Arweiniol dros Addysg, am adroddiad Hill.  Mewn ymateb bu’r swyddogion -

 

·         yn esbonio’r y gwahaniaeth yn y cyfrifiad arbedion o £68,000 i £126,000 o ganlyniad i newidiadau a wnaed trwy'r Fforwm Cyllideb Ysgolion yn nhermau cyllid nad oedd yn cael ei arwain gan ddisgyblion - ni fyddai’r awdurdod lleol yn gwneud arbedion o ffederaleiddio

·         dywedodd petai’r Cabinet o blaid dilyn y dewis ffederaleiddio byddai angen i’r Cyrff Llywodraethu symud ymlaen ag o, a

·         rhoddodd sicrwydd bod yr holl ddogfennaeth a gyflwynwyd wedi bod ar gael i aelodau'r Cabinet.

·         Ymatebodd y Cynghorydd Eryl Williams gan ddweud nad oedd llawer o argymhellion adroddiad Hill wedi cael eu gweithredu, ac roeddent yn fater i Lywodraeth Cymru ynghyd ag adolygiadau dilynol, megis adroddiad Donaldson.

 

Trafododd y Cabinet yr adroddiad a chasgliadau ymgynghori eraill, a gofyn a fyddai’r cynnig yn cyflwyno amcanion y Cyngor o ran llefydd gwag, canlyniadau addysgol a chynaliadwyedd. Cadarnhaodd swyddogion na fyddent yn mynd i’r afael â’r mater o leoedd dros ben drwy gadw’r ysgol. Mae nifer y disgyblion yn Ysgol Llanbedr wedi cynyddu, ond ystyriwyd bod yr ysgol yn parhau yn anghynaladwy o ystyried bod yna gapasiti addas arall yn yr ardal – gallai cynnydd yn niferoedd disgyblion yn Ysgol Llanbedr hefyd arwain at leoedd dros ben mewn ysgolion eraill. Byddai arbedion cyfalaf a refeniw hefyd yn cael eu cyflawni petai’r cynnig yn cael ei weithredu drwy ddarparu rhagor o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar gyfer ystâd ysgolion.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Williams gwestiynau ynghylch lleoedd dros ben a chapasiti / addasrwydd Ysgol Borthyn i dderbyn disgyblion ychwanegol. Tynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts sylw at y newidiadau i gynigion gwreiddiol adolygu ardal Rhuthun a cheisiodd sicrwydd bod gan bob ysgol gapasiti priodol i ddiwallu anghenion lleol. Ymatebodd y Swyddogion i’r materion a godwyd fel a ganlyn -

 

·         rhoddwyd sicrwydd ynghylch gallu Ysgol Borthyn i dderbyn disgyblion sydd wedi’u hadleoli ac mae'r asesiad risg tân wedi ei gynnwys yn y Cynllun Cyfalaf ar gyfer ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2015. Roedd yr asesiad ffordd ac asesiad risg traffig yn foddhaol

·         petai holl gynigion adolygiad ardal Rhuthun yn cael eu gweithredu, byddai lleoedd gwag yn lleihau o 23% i 9% - roedd cyfrifiadau ar gyfer lleoedd mewn ysgolion wedi eu gwneud o ran y cymysgedd o ysgolion a darpariaeth yn yr ardal, a’r wybodaeth sydd ar gael. Er nad oedd unrhyw sicrwydd absoliwt, mae ffigurau diweddar wedi cael eu priodoli gyda lefel uchel o gywirdeb. Roedd capasiti yn cael ei reoli ymhellach gan yr awdurdod drwy broses derbyn yr ysgol.

 

Tynnodd y Cynghorydd Huw Williams sylw at yr angen am ddatrysiad i fodloni'r gymuned leol gyda 539 o ymatebwyr yn cefnogi’r ysgol o gymharu â 6 ar gyfer cau.  Ychwanegodd fod gan Ysgol Llanbedr gefnogaeth lawn y gymuned ac y byddai ganddi ddyfodol petai’n cael ffynnu drwy ffederaleiddio.

 

Fe soniodd y Prif Weithredwr am benderfyniadau anodd ond angenrheidiol y byddai angen eu gwneud er mwyn  mynd i'r afael â lleoedd dros ben, buddsoddi mewn moderneiddio addysg a sicrhau bod ysgolion yn gynaliadwy i'r dyfodol. Roedd yn credu bod ffederaleiddio yn ddatrysiad mewn sefyllfaoedd penodol, ond nid felly yn yr achos hwn.  Fe soniodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Democratiaeth am ofynion y Cod Trefniadaeth Ysgolion a'r ystyriaeth y dylai'r Cabinet ei roi i ymatebion yr ymgynghoriad. Atgoffodd y Cabinet mai’r cynnig dan ystyriaeth oedd y cynnig i gau'r ysgol a bod y mater o ffederaleiddio wedi cael ei godi fel rhan o'r ymgynghori ar y cynnig hwnnw. Ar ôl ystyried y cyfan roeddynt wedi ei glywed a’i ddarllen i ymateb i’r ymgynghoriad, dylai aelodau'r Cabinet benderfynu pa unai i gyhoeddi rhybudd statudol neu beidio o ran y cynnig i gau’r ysgol. Petai aelodau’r Cabinet o’r farn y dylid dilyn y dewis ffederaleiddio a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad, byddai’n rhaid iddynt bleidleisio yn erbyn yr argymhelliad a chychwyn ymarfer ymgynghori newydd o ran cynnig i ffederaleiddio.

 

Ar ôl adolygu’r adroddiad ac ymatebion yr ymgynghoriad a dderbyniwyd yn ofalus -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i gyhoeddi  rhybudd statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ar 31 Awst 2016 a throsglwyddo'r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

Ar y pwynt hwn (12.30pm) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: