Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNIG I GAU YSGOL LLANFAIR DYFFRYN CLWYD AC YSGOL PENTRECELYN O 31 AWST 2017, A BOD ESGOBAETH LLANELWY YN AGOR YSGOL GYNRADD WIRFODDOL A REOLIR NEWYDD FFRWD DDEUOL CATEGORI 2, YR EGLWYS YNG NGHYMRU O 1 MEDI, 2017

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi ynghlwm) yn cyflwyno'r adroddiad gwrthwynebiad i'w ystyried a gofyn i’r Cabinet gymeradwyo gweithredu’r cynnig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:-

 

(a)       nodi canfyddiadau'r adroddiad gwrthwynebiad;

 

(b)       yn dilyn ystyried yr uchod, mae'r Cabinet yn cymeradwyo gweithrediad y cynnig a'r diwygiad arfaethedig i gau Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2017, a bod Esgobaeth Llanelwy yn agor Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir newydd ffrwd ddeuol Categori 2 yr Eglwys yng Nghymru o 1 Medi 2017;

 

(c)        bod ceisiadau am gludiant dewisol i'r ysgol categori 1 agosaf, yn cael eu hystyried fesul achos, gan ddisgyblion presennol Ysgol Pentrecelyn a’u brodyr a’u chwiorydd am weddill eu haddysg gynradd yn dilyn cau'r ysgol (ar 1 Medi 2017), a

 

(d)       bod yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i fonitro safonau a chanlyniadau’r Ysgol Ardal newydd a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd yn y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion, Archwilio a chan y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn manylu ar y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig, ynghyd â'r diwygiad arfaethedig i oedi'r dyddiad gweithredu gan ddeuddeg mis o 2016 i 2017. Cyfeiriodd at argymhellion yr adroddiad ac ychwanegodd argymhelliad i adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor, fel y nodir ym mharagraff 5.2 o'r adroddiad, i fonitro safonau a chanlyniadau yn barhaus.

 

Gwnaed y cynnig yng nghyd-destun adolygiad ehangach o ardal Rhuthun. Roedd y ddwy ysgol gymunedol yn gefnogol o’r buddsoddiad mewn ysgol ardal newydd, ac nid oedd y penderfyniad i’w ddynodi’n ysgol Eglwys yng Nghymru yn un cynhennus. Y brif gynnen oedd y categoreiddio iaith, a derbyniwyd 30 gwrthwynebiad gan y gymuned leol yn ymwneud â'r dynodiad arfaethedig i ysgol Categori 2.

 

Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau a nodwyd yn yr adroddiad, ynghyd â'r dadleuon dros y cynnig a'r ffactorau a nodwyd yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.  Canolbwyntiodd trafodaeth y Cabinet ar y materion canlynol -

 

·        cydnabuwyd bod y mwyafrif llethol o ddisgyblion oedd yn mynychu’r ddwy ysgol yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai ysgol dwy ffrwd yn caniatáu i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gael eu cynnal ar gyfer disgyblion o'r ddwy ysgol ond byddai hefyd yn caniatáu i bobl ddi-Gymraeg gael mynediad i ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy ddechrau yn y ffrwd Saesneg ac yna trosglwyddo i'r ffrwd Gymraeg. Yn 2015, addysgodd Ysgol Llanfair 80 o ddisgyblion drwy gyfrwng y Gymraeg a 23 drwy gyfrwng y Saesneg. O blith yr 80 disgybl yma, roedd 14 (13%) wedi trosglwyddo o gyfrwng Saesneg i Gymraeg, a byddai dynodi’r ysgol yn Gategori 2 yn helpu i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg a disgyblion a fyddai’n gadael yr ysgol yn rhugl yn y ddwy iaith

·        cyfeiriwyd at y buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen er mwyn datblygu a symud yr iaith Gymraeg yn ei blaen mewn ysgol Categori 2, a p'un a fyddai'n gynaliadwy yn y tymor hir o ystyried y sefyllfa ariannol - dywedodd y swyddogion bod 23% o leoedd dros ben yn ardal Rhuthun ar hyn o bryd, a phetai’r holl gynigion yn yr adolygiad yn cael eu rhoi ar waith, byddai'r lleoedd gwag yn gostwng i 9%, ac felly’n golygu y gellir ailddosbarthu adnoddau i  ddiwallu anghenion ysgolion

·        cafodd pwysigrwydd cadw ethos a diwylliant Cymreig bresennol ei bwysleisio a cheisiwyd sicrwydd ynghylch hynny petai’r cynnig yn cael ei weithredu. Cafodd y Cabinet wybod am gyfrifoldeb ar y cyd sy'n cynnwys y Corff Llywodraethu, GwE (Gwasanaeth Gwella Ysgolion) a'r Cyngor. Byddai'r Corff Llywodraethu yn sylfaenol o ran sicrhau bod ethos Cymreig cryf yn cael ei gynnal yn yr ysgol newydd, a byddai modd i hyn gael ei adlewyrchu yn eu polisïau rheoli a recriwtio.  Fe eglurwyd rôl y Cyngor a'i ymrwymiad i fonitro safonau a chanlyniadau trwy'r Grŵp Monitro Safonau Ysgolion, Pwyllgorau Archwilio a Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg, a fyddai’n diogelu’r ethos Cymreig ymhellach ac yn cynnal parhad

·        adroddodd y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol dros yr Iaith Gymraeg ar y cynnydd a wnaed i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg yn y sir, gan dynnu sylw at y cynnydd yn nifer y plant sy'n siarad Cymraeg yn ysgolion y sir ers 2011. Roedd yn falch o nodi bod y categorïau ieithyddol wedi cael eu hegluro’n eglur yn yr adroddiad, ynghyd â data cymharol ynglŷn â rhuglder y disgyblion yn y ddwy ysgol

·        eglurwyd y byddai ceisiadau am gludiant dewisol i'r ysgol Categori 1 agosaf yn cael eu hystyried gan ddisgyblion a brodyr a chwiorydd presennol Ysgol Pentrecelyn petai’r ysgol yn cau.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi cwrdd ag ymgyrchwyr o Ysgol Pentrecelyn i glywed eu pryderon o lygad y ffynnon. Roedd ymgyrchwyr yn gefnogol o ysgol Eglwys yng Nghymru newydd, ond roedd ganddynt wrthwynebiad cryf i’r ffaith ei fod yn cael ei ddynodi’n ysgol Categori 2.  Roedd wedi ceisio ymatebion i nifer o faterion a godwyd gan y rhai oedd yn gwrthwynebu, gan gynnwys, a roddwyd digon o ystyriaeth i ddisgyblion Ysgol Pentrecelyn, y ffaith na fu unrhyw gyfarfod rhwng rhieni'r ddwy ysgol, pryderon ynghylch yr iaith a siaredir ar iard yr ysgol a'r effaith ar ddiwylliant. Ymatebodd y Swyddogion fel a ganlyn -

 

·        roedd angen ystyried cynigion yng nghyd-destun adolygiad ehangach ardal Rhuthun, er mwyn darparu cymysgedd briodol o ddarpariaeth er mwyn gwasanaethu anghenion disgyblion yn yr ardal wrth symud ymlaen – yn seiliedig ar ffigurau presenoldeb cyfredol, nid oedd digon o alw am ysgol Categori 1, ond roedd ysgolion Categori 1 a 2 yn cyflwyno addysg cyfrwng Cymraeg gyda’r un canlyniadau yn yr ysgol cyfrwng Cymraeg.

·        cylch gwaith a chyfrifoldeb y Cyrff Llywodraethu yw trefnu cyfarfod rhwng rhieni’r ddwy ysgol

·        yn ystod ymweliadau â’r ysgolion, gellid clywed Saesneg yn cael ei siarad yn iard yr ysgolion Categori 1 a Chymraeg yn iard yr ysgolion Categori 2 – er nad oedd modd amodi’r iaith yn yr iard ysgol, gallai Cymraeg gael ei annog a’i hyrwyddo gan y Corff Llywodraethu

·        fe ymgynghorwyd ag Estyn ynghylch cynigion adolygu ardal Rhuthun, a chafodd eu hymateb ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Fe ymbiliodd y Cynghorydd Arwel Roberts ar y Cabinet i ddewis ysgol ardal newydd Categori 1 er mwyn gwarchod a chryfhau’r iaith Gymraeg yn yr ardal. Cyfeiriodd at strategaethau cadarnhaol i symud ysgolion ar hyd y continwwm iaith, gan ddadlau y byddai'n groes i'r polisïau hynny ac yn gam yn ôl i ddewis ysgol Categori 2 yn yr achos hwn, yn enwedig mewn ardal wledig lle roedd yr iaith Gymraeg ar ei chryfaf. Cyfeiriodd at y nifer o wrthwynebiadau a dderbyniwyd, gan ddadlau na fyddai ysgol Categori 2 yn gwarantu addysg cyfrwng Cymraeg at y dyfodol, ac na fyddai Ysgol Pen Barras yn gallu cynnwys yr holl ddisgyblion sy'n dymuno trosglwyddo.

 

Darparwyd yr ymatebion canlynol i’r a materion a godwyd gan -

 

·        fe dynnwyd sylw at y model yn Ysgol Llanfair fel arfer gorau ac roedd yr ysgol yn denu disgyblion o deuluoedd Cymraeg a di-Gymraeg, ac felly'n cynyddu’r nifer o ddysgwyr/siaradwyr Cymraeg - credir y byddai ysgol ardal Categori 2 newydd yn gwella ac yn cynyddu’r ddarpariaeth iaith Gymraeg, a byddai rhagor o ddisgyblion o'r ardal yn cael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg

·        cafodd lefelau chyrhaeddiad uchel cyson gan Ysgol Llanfair eu canmol hefyd, a chyflawnodd dros 90% Lefel 4+ yng Nghyfnod Allweddol 2 yn 2014

·        cydnabuwyd y byddai newid mewn arweinyddiaeth bob amser yn golygu risg a byddai gan y Corff Llywodraethu rôl hanfodol i’w chwarae i sicrhau bod yr ethos Cymreig cryf yn cael ei chynnal

·        roedd y dadleuon o blaid ac yn erbyn y categoreiddio iaith wedi cael ei ystyried yn ofalus cyn gwneud yr argymhelliad ac roedd yr awydd i gynyddu nifer y dysgwyr/siaradwyr Cymraeg wedi bod yn ffactor pwysig

·        cafwyd adroddiad am rôl y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg o ran rhoi cymorth i ysgolion i symud ar hyd y continwwm iaith, a'r gobaith oedd y byddai’r model a ddefnyddir gan Ysgol Llanfair yn cael ei ailadrodd mewn ysgolion eraill.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am sicrwydd ynghylch safonau a chanlyniadau, ynghyd â mesurau diogelu i sicrhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y dyfodol, a dywedodd fod y Gymraeg yn cael ei siarad yn iard yr ysgol yn Ysgol Pen Barras (Categori 1) a oedd hefyd yn addysgu disgyblion o deuluoedd â chefndir di-Gymraeg.  Fe dynnodd sylw hefyd at y pwysau posibl a fyddai ar Ysgol Llanfair gan bod Ysgol Rhewl yn cau.

 

Cafwyd yr ymatebion canlynol i’r sylwadau hynny a  chwestiynau pellach -

 

·        cydnabuwyd mai ychydig iawn o ddisgyblion oedd wedi cael eu hasesu drwy’r ffrwd cyfrwng Cymraeg o ran telerau canlyniadau yn Ysgol Rhewl dros y blynyddoedd diwethaf, a cheisiwyd sicrwydd bod yr adolygu a monitro safonau a chategoreiddio iaith mewn ysgolion  wedi bod yn llawer mwy cadarn yn ddiweddar

·        cadarnhawyd y gallai disgyblion o Ysgol Rhewl wneud cais am leoedd yn yr ysgol arfaethedig newydd petaent yn dymuno parhau mewn ysgol Categori 2, a byddai eu ceisiadau yn cael eu hystyried yn unol â'r polisi derbyn

·        roedd y model a ddefnyddiwyd gan Ysgol Llanfair yn cael ei ystyried yn arfer gorau o ran cynwysoldeb a chanlyniadau gyda chanran uchel o ddisgyblion mewn ffrydiau Cymraeg a Saesneg yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig a thu hwnt

·        roedd y costau o ddarparu cludiant ysgol i ddisgyblion a brodyr a chwiorydd sy'n dymuno trosglwyddo o Ysgol Pentrecelyn i ysgol Categori 1 yn fach iawn, a byddai am gyfnod dros dro yn unig

·        nod y cynnig oedd diogelu cynaliadwyedd darpariaeth  cyfrwng Cymraeg yn y tymor hir ar gyfer yr ardal

·        nid oedd y bygythiad o adolygiad barnwrol yn ystyriaeth berthnasol wrth wneud penderfyniad ar y cynnig.

 

Roedd yr Arweinydd yn cydnabod y sefyllfa anodd gyda dwy farn gref iawn, a phwysleisiodd mai’r ystyriaeth bwysicaf oedd i sicrhau'r ddarpariaeth addysgol, darpariaeth ddiwylliannol ac ieithyddol orau wrth symud ymlaen. Cyfeiriodd at y buddsoddiad sylweddol mewn addysg ac roedd yn hyderus bod y mesurau diogelu angenrheidiol ar waith i ddiogelu a gwella darpariaeth addysgol, ddiwylliannol ac ieithyddol yn yr ardal. Petai’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, roedd yn gobeithio y byddai’r ddwy gymuned yn cydweithio er lles yr ysgol ardal newydd.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Eryl Williams argymhellion yr adroddiad ynghyd â'r argymhelliad ychwanegol a nodwyd ym mharagraff 5.2 yr adroddiad. Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y  Cabinet yn fodlon bod y cynnig yn cynrychioli'r opsiwn gorau er mwyn cyflwyno addysg yn yr ardal at y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi canfyddiadau'r adroddiad gwrthwynebiad;

 

 (b)      yn dilyn ystyried yr uchod, mae'r Cabinet yn cymeradwyo gweithrediad y cynnig a'r diwygiad arfaethedig i gau Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2017, a bod Esgobaeth Llanelwy yn agor Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir newydd ffrwd ddeuol Categori 2 yr Eglwys yng Nghymru o 1 Medi 2017;

 

 (c)       bod ceisiadau am gludiant dewisol i'r ysgol categori 1 agosaf, yn cael eu hystyried fesul achos, gan ddisgyblion presennol a'u brodyr neu chwiorydd yn Ysgol Pentrecelyn am weddill eu haddysg gynradd ar ôl i’r ysgol gau (o 1 Medi 2017), a

 

 (d)      bod yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i fonitro safonau a chanlyniadau’r Ysgol Ardal newydd a fydd yn cael eu hadolygu'n rheolaidd yn y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion, Archwilio a chan y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg.

 

Ar y pwynt hwn (11.10am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: