Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2014-15
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Perfformiad a Chynllunio Strategol (copi ynghlwm) ar
fersiwn drafft Adolygiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2014-15.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr
Adroddiad Perfformiad Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r aelodau
gymeradwyo fersiwn drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2014/15, yn amodol
ar newidiadau y cytunwyd arnynt, er mwyn iddo gael ei gyfieithu a’i gyhoeddi
cyn 31 Hydref 2015.
Eglurodd y
Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio fod Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2012-2017
wedi gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y Cyngor a'i flaenoriaethau ar gyfer
y cyfnod o bum mlynedd. Mae manylion bwriad y Cyngor i gyflawni’r
blaenoriaethau wedi eu nodi yn y Cynlluniau Gwasanaeth Blynyddol ac yn Nogfen
Darparu Blynyddol y Cynllun Corfforaethol, ac mae cyfres o Gytundebau Canlyniad
wedi eu cytuno arnynt gyda Llywodraeth Cymru.
Roedd yr Adolygiad Perfformiad
Blynyddol yn darparu gwerthusiad ôl-syllol o lwyddiant y Cyngor wrth gyflawni
yn erbyn y cynlluniau yma yn ystod 2014-15, a p’un ai yw’r Cyngor wedi llwyddo
i gyflawni ei rwymedigaeth gogyfer â gwneud trefniadau i sicrhau gwelliannau
parhaus yn llwyddiannus ai peidio.
Roedd yr
adroddiad wedi cael ei ddatblygu gan y Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad,
mewn ymgynghoriad â gwasanaethau eraill y Cyngor. Roedd
yr wybodaeth ynglŷn â pherfformiad a oedd wedi ei chynnwys yn y ddogfen
wedi cael ei darparu gan y gwasanaethau, ac wedi cael eu dwyn ynghyd yn
defnyddio system rheoli perfformiad Verto. Ymgynghorwyd
â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth cyn cyflwyno’r adroddiad ger bron y Cyngor Sir i’w
gymeradwyo.
Dyma oedd y
cynllun mwyaf uchelgeisiol hyd yma a dyma oedd trydedd flwyddyn y cynllun. Roedd
cynnydd da wedi ei wneud ond roedd llawer o waith i'w wneud o hyd. Roedd
yr ystadegau yn yr adroddiad wedi’u diweddaru ar ddiwedd mis Mawrth 2015.
Aeth y Pennaeth
Gwella Busnes a Moderneiddio ymlaen gyda chyflwyniad PowerPoint ar gyfer
Aelodau, a oedd yn cynnwys astudiaethau achos i roi enghreifftiau cliriach o'r
gwaith yn mynd rhagddo.
Roedd angen camau
allweddol ar saith maes blaenoriaeth, a’r blaenoriaethau hynny oedd:
·
Datblygu
Economaidd
·
Addysg
·
Ffyrdd
·
Pobl
Ddiamddiffyn
·
Strydoedd
Glân a Thaclus
·
Tai,
a
·
Moderneiddio'r
Cyngor
Eglurodd y Tîm Datblygu Economaidd a
Busnes a’r Rheolwr Rhaglen y mentrau sy'n datblygu Rhaglen Gymuned Economaidd. Pwysigrwydd
band eang derbyniol a thelathrebu a chanolbwyntio ar fusnesau yn y defnydd o
dechnoleg. O fewn Gwefan CSDd, roedd tudalen i’w sefydlu a
fyddai'n cynnwys gwybodaeth i fusnesau, a byddai'r dudalen yn cynnwys clipiau
fideo byr, sydyn o fusnesau yn esbonio sut maent yn defnyddio technoleg i wella
eu busnes. Roedd cynlluniau i gael tua chwe chlip fideo
gwahanol yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Dangosodd y Tîm Datblygu Economaidd
a Busnes a’r Rheolwr Rhaglen enghraifft o fersiwn drafft o fideo gan gwmni
wedi'i leoli yn Ninbych.
Yn dilyn y fideo,
codwyd yr eitemau canlynol yn ystod trafodaeth:
·
Roedd
cyflymder band eang mewn rhai ardaloedd gwledig yn fater parhaus. Cadarnhawyd
bod BT a band eang cyflym iawn yn araf ond cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru oedd
cysylltu â BT i wella'r gwasanaeth.
Gofynnwyd i Gynghorwyr lobïo
Llywodraeth Cymru ar y mater. Awgrymodd
y Prif Weithredwr y dylai'r mater o gyflwyno band eang cyflym iawn gael ei alw
i'r Pwyllgor Craffu. Byddai'r pryderon hefyd yn cael eu codi
gydag Aelodau'r Cynulliad.
·
Roedd
clipiau fideo Cymraeg yn dasg anoddach gan fod prinder perchnogion busnes
Cymraeg a oedd yn fodlon cymryd rhan i ffilmio fideo.
·
Yn dilyn
ailstrwythuro'r Adran, cafwyd mwy o ryngweithio gydag Adrannau eraill. Roedd
Rheolwr Prosiect bellach ar waith, a'i dasg oedd rhoi’r holl wybodaeth at ei
gilydd. Roedd 16 o brosiectau ar hyn o bryd, a chynhaliwyd
cyfarfodydd rheolaidd er mwyn sicrhau bod amserlenni ar gyfer prosiectau yn
parhau ar y trywydd cywir.
·
Atgoffodd
yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, yr Aelodau fod y ffigyrau a ddangosir
hyd at ac yn cynnwys mis Mawrth 2015. Roedd y gwaith wedi ei gwblhau gyda thîm
llai ynghyd ag integreiddio Adrannau eraill. Roedd
cwmnïau y tu allan i'r Awdurdod Lleol bellach yn cael eu cysylltu, ac roedd
dulliau cyfathrebu gyda hwy yn tyfu.
Roedd hyn wedi creu adnodd
gyda'r Awdurdod Lleol ar dîm llai.
·
Y
Cynllun fyddai cadw busnesau presennol.
Roedd gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a
Chymunedol, ynghyd â'r Arweinydd, amserlen i gyfarfod â'r 10 neu’r 15 o
fusnesau gorau yn Sir Ddinbych er mwyn annog twf ac i gefnogi busnesau i dyfu a
chyflogi nifer fwy o bobl. Roedd trydaneiddio’r rheilffordd hefyd yn
fater trafod ar hyn o bryd.
·
Cytunodd
yr Aelodau fod gan Aelodau'r Cynulliad hefyd ran i'w chwarae, oherwydd dylent
fod yn atebol a chefnogi eu Hawdurdodau Lleol.
·
Cwestiynwyd
materion o gyfraddau gostyngol ar gyfer busnesau llai, yn enwedig ar Strydoedd
Fawr Tref Sir Ddinbych a hefyd ym Mharc Busnes Llanelwy. Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol, y byddai'n
coladu nodyn briffio o ba gynlluniau a gynigiodd cymorth gyda chyfraddau a’i
ddosbarthu i Aelodau.
Gwella
Blaenoriaeth mewn Addysg ac Ansawdd Adeiladau Ysgolion Roedd
y myfyrwyr sy’n cyflawni eu potensial – roedd hyn yn "dderbyniol". Bu
gwelliant yn yr holl ddangosyddion cyrhaeddiad addysgol a nodwyd ar gyfer y
canlyniad hwn yn y flwyddyn academaidd 2013/2014. Y
gwelliant lleiaf oedd ymysg disgyblion sy'n cyrraedd y dangosydd Pwnc Craidd
yng Nghyfnod Allweddol 2. Dywedodd y Cynghorydd Carys Guy y gellid gwella
addysg. Roedd angen mwy o athrawon a chynorthwywyr
addysgu. Mynegodd y Prif Weithredwr bryder a nododd y
gellid gwneud mwy o welliannau.
Gwella ein Ffyrdd
– roedd hyn yn "Dda". Cafodd dangosyddion cyflwr y ffyrdd eu
cymharu gyda grŵp o ardaloedd awdurdod lleol gwledig tebyg yng Nghymru. Er
gwaethaf gwelliant, ystyriwyd bod y prif ffyrdd (B) yn parhau i fod yn
flaenoriaeth ar gyfer gwella. Mae'r prif ffyrdd (A) a'r ffyrdd nad ydynt
yn brif ffyrdd (C) wedi gwella.
Gall pobl
ddiamddiffyn fyw mor annibynnol â phosibl – roedd hyn yn "Dda".
O fewn y canlyniad hwn, addawodd yr
Awdurdod Lleol i leihau nifer yr oedolion a oedd angen
gofal preswyl o 200 (yn gyffredinol), o 815 yn 2012 i 615 erbyn 2017. Y
cyfanswm ar gyfer 2014/15 oedd 697 a ddangosodd bod cynnydd da yn cael ei wneud
tuag at yr uchelgais.
Caiff pobl
ddiamddiffyn eu diogelu – roedd hyn yn "Rhagorol".
Strydoedd Glân a
Thaclus – creu amgylchedd deniadol i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd –
roedd hyn yn "Rhagorol”
Yn y fan hon,
cyflwynodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd astudiaeth achos
ynglŷn â safleoedd hyll.
Effaith safleoedd
hyll oedd:
·
Lles
economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol y gymuned
·
Amwynder
gweledol
·
Targedau ar gyfer ymddygiad gwrthgymdeithasol
·
Graffiti
·
Tipio
anghyfreithlon
·
Fermin
·
Diogelwch,
a
·
Gwerthoedd
eiddo lleol.
Roedd cronfa
ddata wedi cael ei sefydlu o tua 100 o safleoedd hyll oedd yn amrywio o
safleoedd â phroblem fawr i
anheddau blêr unigol. Dyfeisiwyd matrics sgorio i helpu i
flaenoriaethu’r safleoedd gwaethaf.
Roedd y 20 uchaf yn
canolbwyntio ar ymdrech a’r tu allan i'r 20 uchaf yn rhan o weithgareddau
rheoleiddio o ddydd i ddydd.
Roedd strwythur
prosiect ac roedd Tîm y Prosiect yn cyfarfod bob yn ail fis:
·
Ystyried
opsiynau gorfodaeth/ rheoliadol
·
Beth
oedd y canlyniadau posibl ar gyfer pob safle, a
·
Defnyddio
pwerau gorfodi i hwyluso canlyniad.
Cafodd
diweddariadau rheolaidd eu darparu i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais
Economaidd a Chymunedol, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, a Grwpiau Ardal yr
Aelodau. Cafodd diweddariadau cyfnodol eu darparu i Aelodau Lleol.
Ategodd y
Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod yr enghreifftiau a ddangosir yn yr
astudiaeth achos o 2014. Gofynnodd aelodau i restr gyfoes gael ei dosbarthu
iddynt er gwybodaeth. Awgrymodd y Cadeirydd bod dolen i’r gronfa
ddata yn cael ei dosbarthu i'r Aelodau a chytunwyd o blaid y weithred hon.
Manteisiodd yr
aelodau ar y cyfle i ddiolch i'r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a'i
Dîm am eu holl waith.
Ar y pwynt hwn (11.35 am) cafwyd egwyl o 20 munud.
Ailddechreuodd y cyfarfod am 11.55 a.m.
Parhaodd y
Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio gyda'r cyflwyniad.
Sicrhau mynediad
at dai o ansawdd da. Byddai’r farchnad dai yn Sir Ddinbych yn cynnig
amrywiaeth o fathau o dai a digon ohonynt i ddiwallu anghenion unigolion a
theuluoedd – roedd hyn yn “Rhagorol”.
Roedd y
Strategaeth Dai ddiwygiedig ar y gweill.
Sefydlwyd Grŵp Llywio yr
Aelod Arweiniol gyda chyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal i roi mewnbwn i'r
Strategaeth sydd i ddod.
Yn dilyn
trafodaeth ddwys, codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Mae'r
mater arian a oedd wedi ei dynnu i lawr gan Landlordiaid Cymdeithasol dros y 9
mlynedd diwethaf yn cael ei gwestiynu, oherwydd roedd y mwyafrif o lety a
ddarparwyd wedi bod yn fflatiau a/neu dai amlfeddiannaeth. Nid oedd y problemau
hyn yn cael sylw a chytunodd y Cynghorwyr bod angen gofyn cwestiynau am nad
oedd y landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi bod yn perfformio'n arbennig
o dda.
·
A
oedd Aelodau’n cymryd rhan gyda'r Grŵp Llywio Aelod Arweiniol? Cadarnhawyd
bod yr Aelodau'n gallu cynnig unrhyw sylwadau/cwestiynau i'r Grŵp Llywio
Aelod Arweiniol ond ni allent fod yn bresennol fel aelodau o'r Grŵp. Eglurwyd
i'r Aelodau fod y Strategaeth Tai ar gyfer mynd i'r afael â strategaeth ar gyfer y sir gyfan ac nid dim ond
landlordiaid cymdeithasol a thai fforddiadwy. Byddai'r
Strategaeth yn cael ei chyflwyno yn y Pwyllgor Craffu Cymunedau ac yna i'r
Cyngor Llawn.
·
Roedd
y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) wedi eu tynnu oddi ar Raglen Briffo Gwaith i’r
Dyfodol y Cyngor ar 2 Tachwedd, ond ystyriwyd barn y consensws a chytunwyd i
adfer y Cyfrif Refeniw Tai i'r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar y dyddiad hwnnw.
Moderneiddio’r
Cyngor i fod yn effeithlon a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid Bydd
gwasanaethau’n parhau i ddatblygu a gwella – roedd hyn yn “Dda”. Gweithlu
mwy hyblyg ac effeithiol a gaiff ei gefnogi gan isadeiledd cost-effeithiol –
roedd hyn yn “Dderbyniol”.
Roedd y Cyngor yn
gweithio i ddefnyddio technoleg i wella effeithlonrwydd a lleihau costau. Cafwyd
buddsoddiad mewn caledwedd a meddalwedd a fyddai'n galluogi i staff weithio
mewn ffyrdd newydd er mwyn gwella profiad y cwsmer. Un
peth oedd gweithio hyblyg er mwyn galluogi gwaith o unrhyw leoliad. Byddai
hyn yn gwella manteision cydbwysedd gwaith/bywyd ac yn fwy economaidd o ran
gofod swyddfa yn y pen draw.
Eglurodd Rheolwr
Gwasanaeth y Tîm
Diogelu ac Adolygu, Colin Tucker, i Aelodau lwyddiant gweithio hyblyg yn ei
Dîm. Roedd modd i staff weithio ar ffurf "desg
boeth" a oedd yn golygu llai o amser teithio. Roedd
modd i staff weithio ar eu cyfarpar wrth fynd i apwyntiadau ac roedd amseroedd
apwyntiadau yn fwy ffafriol ar gyfer y plant a theuluoedd oherwydd gellid eu
gweld ar ôl oriau ysgol.
Byddai ansawdd
ansoddol yn cael ei gyflwyno a byddai monitro perfformiad staff yn cael ei
gynnal. Yna byddai'r gudd-wybodaeth yn cael
ei defnyddio i gynorthwyo gyda hyfforddiant, datblygu sgiliau newydd ac i ddod
yn aelod mwy cymwys o staff.
Diolchodd y
Cadeirydd a'r Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau
Plant, y Cynghorydd Bobby Feeley, i’r Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio a'i
Dîm am eu holl waith ar yr adroddiad a’r astudiaethau achos ardderchog.
Cynigiwyd gan y
Cynghorydd Julian Thompson-Hill, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Barbara Smith.
Cynhaliwyd
pleidlais drwy godi dwylo – roedd pleidlais unfrydol o blaid yr argymhelliad.
PENDERFYNWYD yn
amodol ar unrhyw newidiadau cytûn, bod Aelodau yn cymeradwyo Adolygiad
Perfformiad Blynyddol drafft 2014-15 er mwyn ei gyfieithu a’i gyhoeddi cyn 31
Hydref 2015.
Dogfennau ategol:
- Annual Performance ReportW, Eitem 6. PDF 84 KB
- Appendix 1 APR Analysis, Eitem 6. PDF 2 MB
- Appendix 2 APR technical document, Eitem 6. PDF 4 MB