Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 23/2015/0463/PFT-TIR YN CEFN YFED, CYFFYLLIOG, RHUTHUN

Ystyried cais i osod un tyrbin gwynt 500 kw gyda both uchder o 48m a diamedr rotor o 45m a gwaith cysylltiedig ar Dir yn Cefn Yfed, Cyffylliog, Rhuthun (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i osod un tyrbin gwynt 500 kw gyda both uchder o 48m a diamedr rotor o 45m a gwaith cysylltiedig ar Dir yn Cern Yfed, Cyffylliog, Rhuthun.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mrs. J. Williamson (Yn erbyn) – Roedd yn gwrthwynebu'r cais ar sail mwynderau gweledol ac effaith sŵn ac yn siarad ar ran nifer o drigolion lleol yn y cyffiniau a fyddai'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y datblygiad, gan amlinellu eu pryderon.

 

Mr. M. Jones (o blaid) – manylodd am gysylltiadau ei deulu i'r fferm a phwysleisiodd bwysigrwydd y datblygiad ar gyfer cynaliadwyedd y busnes fferm yn y dyfodol sydd hefyd yn darparu cyflogaeth yn lleol.  Dadleuodd na fyddai'r tyrbin yn amharu ar y gorwel; roedd yn sylweddol dawelach na thyrbinau eraill, ac o ran effaith gronnus, cwestiynodd ​​a fyddai cynlluniau eraill yn cael eu caniatáu i’w hadeiladu.

 

Trafodaeth Gyffredinol - Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio bod y cais yn un o saith o geisiadau heb eu penderfynu ar hyn o bryd yn ymwneud â datblygiadau tyrbinau sengl ac roedd yn bwysig ystyried pob un yn ôl ei rinweddau ei hun.  Roedd y rhesymau tu ôl i argymhelliad y swyddogion i wrthod y cais yn yr achos hwn wedi cael eu nodi yn yr adroddiad yn seiliedig ar effeithiau ar y dirwedd/ gweledol a sŵn.

 

Roedd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) wedi ystyried manteision prosiect arallgyfeirio’r fferm ac effaith andwyol ar y dirwedd a sŵn.  Ar ôl ystyried maint a lleoliad y datblygiad, barn  Ymgynghorydd Tirwedd y Cyngor, ac o ystyried pryderon y Swyddog Rheoli Llygredd bod y lefelau sŵn yn rhy uchel ac ni ellid eu rheoli'n briodol, cynigiodd y Cynghorydd Welch bod y cais yn cael ei wrthod yn unol ag argymhellion y swyddogion ar sail effaith ar y dirwedd/ amwynder gweledol ac effaith sŵn.

 

Yn ystod y drafodaeth roedd rhywfaint o gydymdeimlad â'r cais ac ystyriodd yr aelodau a oedd y manteision o arallgyfeirio’r fferm yn gorbwyso'r pryderon o ran effaith gweledol a sŵn.  Roedd yr Aelodau yn arbennig o bryderus ynghylch yr effaith sŵn posibl a gofynnwyd am eglurhad a thystiolaeth bellach i gefnogi rhesymau’r swyddogion y byddai lefelau sŵn yn rhy uchel ac ni ellid eu rheoli'n ddigonol.  Cyfeiriwyd hefyd at y sylwadau hwyr a gyflwynwyd gan y Cyd-bwyllgor AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (fel y manylwyd yn y taflenni glas) a chwestiynodd yr aelodau eu rôl o fewn y broses ac ailadroddodd pryderon blaenorol eu bod yn gweithredu y tu allan i'w cylch gorchwyl.  Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y swyddogion yn rhoi sylw i hyn ac eglurodd y Prif Swyddog Cynllunio fod yr argymhelliad yn yr achos hwn wedi cael ei wneud cyn derbyn sylwadau’r Cyd-bwyllgor AHNE.

 

Ymatebodd y Swyddog Rheoli Llygredd i gwestiynau ynghylch effaith sŵn a dywedodd, ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, na allai gefnogi'r cais.  Esboniodd y prosesau a ddefnyddiwyd wrth asesu lefelau sŵn gan roi gwybod bod y lefelau sŵn wedi cael eu tanamcangyfrif yn yr achos hwn, heb unrhyw lwfans ar gyfer ansicrwydd, ac felly roedd yn debygol o dorri'r terfyn 35dB ar gyfer tyrbinau sengl.  Roedd y tanamcangyfrif hwnnw hefyd wedi cael ei ddwyn ymlaen fel rhan o'r asesiad sŵn cronnus nad oedd wedi cymryd i ystyriaeth lefelau a ganiateir, a thrwy hynny’n cynyddu’r tanamcangyfrif.  Roedd cwynion am sŵn sy'n deillio o dyrbinau yn brin yn gyffredinol oherwydd ei fod yn arferol i swyddogion fod yn fodlon ynghylch lefelau sŵn yn ystod y broses sgrinio gychwynnol ar gyfer ceisiadau.  Fodd bynnag, roedd y cais hwn wedi methu â dangos y gellid cyflawni neu reoli lefelau sŵn derbyniol.  Ystyriodd y Swyddogion ei bod yn amhriodol i roi caniatâd heb allu gosod amod lefel sŵn rhesymol a gorfodadwy a oedd â chael cyfle amlwg o gael eu cyflawni.

 

Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Joe Welch, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Win Mullen-James, i gymeradwyo’r cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 5

GWRTHOD - 15

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: