Eitem ar yr agenda
MATERION CYFREDOL YN EFFEITHIO AR WASANAETHAU IECHYD YN SIR DDINBYCH A SUT Y GELLIR MYND I'R AFAEL Â'R RHAIN
Derbyn adroddiadau ar lafar gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a'r Cyngor Iechyd Cymuned.
Cofnodion:
ADRAN 1 - BIPBC
Cwestiwn 1 - Y Cynghorydd Dewi Owens
“Pam mai
eich opsiwn dewisol yw gwneud newidiadau dros dro i wasanaethau dan arweiniad
Ymgynghorydd Obstetreg yn Ysbyty Glan Clwyd (YGC) pan rydych yn bwriadu agor a
recriwtio Ymgynghorwyr i'r Ganolfan Dwys Ofal newydd enedigol isranbarthol
newydd? Pam y bydd heriau recriwtio’n wahanol?”
Mynegodd Prif
Weithredwr Dros Dro BIPBC ei ddiolchgarwch o gael y cyfle i fynychu cyfarfod y
Cyngor.
Esboniodd y Prif
Weithredwr Dros Dro i’r Aelodau ei fod wedi bod yn ei swydd am gyfnod o bedwar
mis yn unig a’i fod wedi’i blesio gyda’r staff ar draws Gogledd Cymru, a oedd
yn darparu gofal rhagorol o ddydd i ddydd. Byddai
angen i'r sefydliad fod yn fwy allblyg ac roeddent yn edrych ymlaen at
weithio’n agored ac yn adeiladol gyda'r Cyngor.
Mewn ymateb i'r
cwestiwn a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens, cadarnhaodd y Prif
Weithredwr Dros Dro fod y cyfnod Ymgynghori Cyhoeddus wedi dod i ben yn
ddiweddar. Roedd angen dadansoddi’r ymatebion a byddai'r
adolygiad ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Roedd y
gwasanaethau mamolaeth wedi bod yn fater cymhleth, gyda phroblemau'n syth. Bu
cyfradd o tua 50% o swyddi gwag, a oedd yn peri risg, felly bu’n rhaid cyflogi
Meddygon byrdymor. Roedd trafodaethau wedi bod yn digwydd gyda staff
clinigol ym mhob un o'r gwasanaethau a oedd wedi rhoi gwybod i'r Bwrdd am
freuder y mwyafrif o wasanaethau.
Yr Opsiwn a
ffefrir oedd cael cyflenwadwyedd ar lefel ymarferol. Ni
fyddai'r newidiadau yn barhaol ond ar sail dros dro. Eglurodd
y Prif Weithredwr Dros Dro nad oedd yr ymgynghoriad wedi ei lywio gan reolaeth
nac arian.
Un o'r pwyntiau ffocws yn y gwaith cynllunio
yn y dyfodol fyddai cael gofal newydd enedigol ar safle Ysbyty Glan Clwyd, ac
roedd y broses recriwtio wedi dechrau ar gyfer y gwasanaeth. Byddai
hyn yn rhan o'r strategaeth i annog staff i ddilyn eu gyrfa yng Ngogledd Cymru.
Eglurodd
Cadeirydd BIPBC i Aelodau nad oedd y mater o recriwtio wedi bod yn benodol i
Ogledd Cymru, ond wedi bod yn broblem ledled y wlad.
Cwestiwn 2 - y Cynghorydd Raymond Bartley
“Pa sicrwydd allwch chi ei
roi i ni na fydd cam-drin pobl hŷn ddiamddiffyn â Dementia yn digwydd eto,
o ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn ‘Tawel Fan’. Pa
newidiadau ydych chi wedi’u gwneud o ganlyniad i'r adroddiad gan Donna
Ochenden? Beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf mewn
perthynas â phrosesau disgyblu mewnol?”
Cytunodd y Prif
Weithredwr Dros Dro bod y materion yn Tawel Fan wedi bod yn warthus. Roedd
mesurau arbennig bellach ar waith fel bod prosesau ansawdd yn sicrhau na
fyddai’r problemau’n codi eto yn y dyfodol. Byddai
angen llawer iawn o waith i ddatblygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl, gwaith a
fyddai hefyd yn cynnwys yr Awdurdod Lleol. Roedd
y newidiadau a oedd eisoes wedi digwydd a'r rhai a oedd i ddigwydd yn gysylltiedig
â'r adroddiad gan Donna Ochenden.
Roedd BIPBC wedi
comisiynu’r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS), a oedd
yn brofiadol dros ben wrth ymgymryd â materion o'r math hwn. Roedd
HASCAS wedi cael ei gomisiynu i gynnal ymchwiliad llawn ac i ddarparu ymatebion
manwl i bryderon a godwyd gan deuluoedd y cleifion hynny yr effeithir arnynt. Yr
ail dasg ar gyfer HASCAS fyddai, lle y bo'n briodol, paratoi achosion disgyblu
yn erbyn aelodau unigol o staff. Byddai HASCAS yn cyfweld teuluoedd eto
ynghyd â nifer o deuluoedd ychwanegol a oedd wedi dod ymlaen ers cwblhau
adroddiad Donna Ochenden. Cadarnhawyd bod nifer o staff wedi cael eu
hatal, tra'n aros am gamau disgyblu, a bod nifer o staff wedi cael eu hadrodd
i'r cyrff rheoleiddio. Byddai ymchwiliad HASCAS, gobeithio, yn
cael ei gwblhau erbyn dechrau 2016, ond ar hyn o bryd, ni ellid cadarnhau'r
union ddyddiad.
Roedd Donna
Ochenden wedi ei chomisiynu i gynnal adolygiad pellach i ymchwilio i "beth
oedd y sefydliad ehangach yn ei wybod am yr hyn a oedd wedi bod yn
digwydd"?
Roedd amser eto
i'w gytuno gyda Donna Ochenden. Byddai pryderon teuluoedd yn cael sylw cyn
gynted ag y bo modd. Roedd BIPBC yn sicrhau y byddai'r
adolygiad yn cael ei gwblhau’n drylwyr.
Cadarnhaodd
Cadeirydd BIPBC fod y digwyddiadau yn Tawel Fan yn annerbyniol ac roedd camau'n
cael eu cymryd i sicrhau na fyddai'n digwydd eto.
Cwestiwn 3 - Y Cynghorydd Bobby Feeley.
“Bydd Deddf Gofal
Cymdeithasol a Lles yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Bydd hyn yn gofyn i Awdurdodau
Lleol a Gofal Cymdeithasol weithio gyda'i gilydd. Beth
arall y gellir ei wneud i symud ymlaen gyda’r gwaith o integreiddio
gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol? Sut
ydych chi’n bwriadu sicrhau bod gan y Cyfarwyddwyr Ardal yr adnoddau angenrheidiol
i weithredu ar y cynlluniau hyn?”
Eglurodd y Prif
Weithredwr Dros Dro bwysigrwydd integreiddio’r Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau
Cymdeithasol fel cam mawr ymlaen.
Mae gan y Bwrdd Iechyd
gyfrifoldeb i wella iechyd pobl ac roedd cyfathrebu â chymunedau yn hanfodol. Byddai
rôl y Cyfarwyddwyr Ardal yn hanfodol i lywio'r gwasanaeth yn y dyfodol.
Byddai'n rhaid
ail-ymgysylltu â phobl yn y gymuned i ailadeiladu eu hyder yn y Gwasanaeth
Iechyd.
Roedd recriwtio
yn her i'r sefydliad a chadarnhaodd y Prif Weithredwr Dros Dro eu bod yn
cysylltu â'r holl staff, ynghyd ag ymgysylltu â'r cyhoedd. Byddai
cael consensws clinigol hefyd yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau'r canlyniadau
gorau ar gyfer y boblogaeth. Y prif bryder oedd recriwtio meddygon canol. Byddai
enw da Betsi Cadwaladr yn ystyriaeth i ddarpar feddygon, felly, roedd yn rhaid
gweithio i wella enw da'r Bwrdd ac i annog recriwtio staff, gan gynnwys nyrsys,
i'r ardal.
Ar y pwynt hwn,
cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Ardal fod sesiynau Cynllunio ar y Cyd gydag
Awdurdodau Lleol yn cael eu cynnal yn gynnar ym mis Rhagfyr 2015 i ganfod sut y
byddai'r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei ddelweddu mewn 3 i 5 mlynedd, a
chadarnhaodd y byddai gweledigaeth a chynllun ar waith ymhen chwe mis.
Eglurodd
Cadeirydd BIPBC nad yw cynllun tair blynedd y Bwrdd Iechyd wedi cael ei
gynhyrchu a gweledigaeth y Bwrdd fyddai datblygu ymdeimlad clir o gyfeiriad ar
gyfer pob gwasanaeth, ond y prif gyfrifoldeb fyddai iechyd y boblogaeth.
Cwestiwn 4 - Y Cynghorydd Ann Davies.
“Allwn ni gael y wybodaeth
ddiweddaraf am ailddatblygiad Ysbyty Brenhinol Alexandra yn y Rhyl? A
fydd yn cael ei gyflwyno ar amser ac o fewn y gyllideb?”
Eglurodd y
Cyfarwyddwr Ardal y byddai prosiect Ysbyty Brenhinol Alexandra bellach yn dod o
dan ei chylch gwaith hi. Ers i Lywodraeth Cymru gymeradwyo’r
amlinelliad strategol yn 2013, mae'r cynlluniau presennol yn fwy nag a
ragwelwyd yn wreiddiol. Roedd nifer o faterion a oedd yn effeithio
ar y cynlluniau, er enghraifft:
·
Byddai
rhywfaint o’r gofod adrannol angenrheidiol yn fwy na'r hyn a ragwelwyd yn
wreiddiol
·
Roedd
Ysbyty Brenhinol Alexandra yn adeilad rhestredig a datgelodd arolygon y byddai
angen mwy o waith i uwchraddio'r ysbyty i safon fodern.
O ystyried bod y
cyfalaf wedi cynyddu'n sylweddol, byddai adolygiad yn cael ei gynnal i ganfod
beth fyddai angen ei wneud. Gan fod darparu Gwasanaeth Iechyd digonol
yn hanfodol, byddai'r gwaith yn cael ei gynnal gyda'r Awdurdod Lleol i fynd i'r
afael â materion. Byddai gosod Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty
Brenhinol Alexandra hefyd yn cael ei archwilio.
Eglurodd y Prif
Weithredwr Dros Dro fod y prosiect yn Ysbyty Brenhinol Alexandra yn parhau i
fod yn flaenoriaeth gan y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru.
Cwestiwn 5 - Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.
“Gyda'r Cynllun 100 Diwrnod,
beth sy'n mynd ymlaen ac ar ba gyflymder? Beth
amdanom ni, fel Cynghorwyr, sut y gallwn ni helpu ein preswylwyr?
Rydym wedi clywed am y
cynlluniau 100 diwrnod, maent bellach wedi gorffen, beth sy'n digwydd
rŵan?"
Cadarnhaodd y
Prif Weithredwr Dros Dro nad 100 diwrnod oedd swm dyddiau’r cynlluniau a oedd
yn angenrheidiol i newid ac achub Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Pwrpas
y cynlluniau 100 diwrnod oedd annog pobl i wella ac ail-ennill hyder. Byddai’n
rhaid datblygu cynllun ar gyfer gweddill y flwyddyn ariannol. Byddai'n
hanfodol i ddod yn well wrth gynllunio, ymgysylltu â’r cyhoedd, staff,
rhanddeiliaid a sefydliadau partner, gan fod angen canlyniadau gwell a fyddai'n
gweithio o fewn y lleoliadau ariannol.
Byddai hefyd angen i fwy o
wasanaethau gael eu darparu'n lleol a byddai'r rhain yn cael eu darparu trwy
edrych ar gynigion gofal eraill.
Cwestiwn 6 - Y Cynghorydd Gareth Sandilands.
“Beth yw eich cynlluniau ar
gyfer gwasanaethau gofal sylfaenol ym Mhrestatyn o ystyried y cyhoeddiad
diweddar gan Feddygfa Pendyffryn?
Pa gamau ydych chi’n bwriadu
eu cymryd i atal hyn rhag digwydd mewn mannau eraill, yn enwedig gan fod meddyg
teulu Seabank bellach wedi ymddiswyddo o'r feddygfa?”
Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Ardal fod Grŵp Aelodau Ardal Prestatyn wedi cael gwybod am y
materion sy’n ymwneud â Meddygfa Pendyffryn yr wythnos flaenorol. Byddai
angen gofal sylfaenol amgen ar tua 22,500 o gleifion o fis Ebrill 2016.
Roedd angen
ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol ym Mhrestatyn gan fod yna faterion o ran
denu meddygon teulu i'r ardal, oherwydd y cyfrifoldeb o brynu i mewn i feddygfa
a’r mater o gydbwysedd gwaith/bywyd digonol, er enghraifft. Nid
oes unrhyw newidiadau i’w gwneud cyn 1 Ebrill 2016 ond ar ôl y dyddiad hwnnw,
byddai mesurau wrth gefn ar waith ar gyfer pobl Prestatyn i gael eu gwasanaethu
gan ofal sylfaenol.
Eglurodd y Prif Weithredwr Dros Dro i Aelodau
bod meddygfeydd ar draws y DU yn ei chael yn anodd denu meddygon teulu newydd i
recriwtio, ac nid oedd y broblem yn unigryw i Gymru.
Cwestiwn 7 - Y Cynghorydd Joan Butterfield.
“Pa gamau sy'n cael eu
cymryd i fynd i'r afael â sefyllfa ariannol BIPBC?”
Cadarnhaodd y
Prif Weithredwr Dros Dro fod y Bwrdd Iechyd yn wynebu her ariannol. Roedd symiau mawr o arian wedi ei wario yn
cyflogi staff meddygol locwm ond, y ddau ddewis oedd talu am staff locwm neu
ddod â’r gwasanaeth i ben. Roedd
y Bwrdd yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r broblem ariannol. Roedd
arbedion i'w gwneud ac roedd rhaid i’r rhain fod yn arbedion na fyddai’n
effeithio ar ofal cleifion. Byddai hyn yn her sylweddol ond roedd yn
rhaid sicrhau’r cydbwysedd rhwng darparu gofal o ansawdd uchel a bodloni’r
cyfrifoldebau ariannol.
Cafodd awgrym o
newid enw'r Bwrdd ei gyflwyno i liniaru materion enw da. Nid
oedd newid enw’r Bwrdd Iechyd yn benderfyniad i’w wneud gan y Bwrdd, ond gan y
Gweinidog.
Cwestiwn 8 - Y Cynghorydd Alice Jones.
“Mae eich trefniadau penodi
ar sail dros dro, pa gynlluniau sydd ar waith i recriwtio Prif Swyddog
Gweithredol parhaol?”
Cadarnhaodd
Cadeirydd BIPBC, o ran penodi Prif Weithredwr, y byddai'r mater yn cael ei
ddatrys cyn gynted â phosibl.
Cymerodd y Cynghorydd Jones
y cyfle i godi’r materion canlynol yn ogystal:
·
Byddai
cleifion a theuluoedd yn sefydlu enw da y Bwrdd, ond ar hyn o bryd, mae mwy o
wasanaeth drwg na gwasanaeth da;
·
Gofynnodd
y Prif Weithredwr Dros Dro am dystiolaeth o ddatganiad y Cynghorydd Jones o fwy
o gleifion yn cael gofal drwg na gofal da.
·
O
ran recriwtio meddygon teulu, pam ydych chi’n cynnig rhywbeth newydd? Mae'r
meddygon teulu yn y meddygon ym Mhrestatyn wedi bod yn rhybuddio y byddai hyn
yn digwydd;
·
Ni
allai'r Prif Weithredwr Dros Dro roi sylw ar yr hyn oedd wedi digwydd yn y
gorffennol. Fel y nodwyd yn flaenorol, cafwyd problemau o ran
recriwtio mewn amrywiaeth eang o arbenigeddau ar draws y DU gyfan, nid dim ond
yn benodol yng Ngogledd Cymru.
·
Mae'r
polisi byw'n iach yn dda ond tuag at ddiwedd oes, bydd angen gofal ar bawb.
·
Bu
farw 70% o bobl yn yr ysbyty ac nid oedd unrhyw bryderon ynghylch gofal
lliniarol.
Cwestiwn 9 - Y Cynghorydd Martyn Holland.
“Roedd gan Unedau Mân
Anafiadau sŵn traed isel am nad oedd pobl yn gwybod eu bod yno. Beth
mae BIPBC yn ei wneud ynghylch hyrwyddo gwasanaethau megis yr Unedau Mân Anafiadau,
ac a yw’r unedau hynny’n cael eu staffio'n ddigonol?”
Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Ardal fod yna dair Uned Mân Anafiadau sy'n cwmpasu ardal Conwy a
Sir Ddinbych. Mae un yn Nhreffynnon, sef Conwy a Sir Ddinbych at
ddibenion iechyd, un yn Ninbych a'r fwyaf yn Llandudno. Roedd
yr adeilad newydd yn Llandudno wedi ei gwblhau yn ddiweddar, a byddai'n agor ar
26 Hydref 2015. Nid oedd unrhyw faterion staffio yn yr Unedau gan eu bod i gyd
wedi’u staffio'n llawn ac yn weithredol.
Roedd defnydd o'r
Unedau Mân Anafiadau wedi cynyddu
ac roedd trafodaethau’n cael eu cynnal ynghylch a ddylai'r Unedau hefyd gynnwys
mân anhwylderau, gan fod amserau aros yn yr Uned Mân Anafiadau yn llawer llai na’r amserau aros yn yr
Adran Damweiniau ac Achosion Brys.
Holodd y
Cynghorydd Stuart Davies a fyddai'r Uned Mân Anafiadau yn Llangollen yn mynd yn
ei flaen a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Ardal y byddai'n edrych i mewn i'r mater.
Mynegodd y
Cadeirydd, y Cynghorydd Gwyneth Kensler, ddiolchgarwch y Cyngor i gynrychiolwyr
BIPBC am fynychu cyfarfod y Cyngor Arbennig gyda'u hesboniadau.
Ar y pwynt hwn (12.05pm) cafwyd egwyl o 20 munud.
Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.25 pm
ADRAN 2 - BIPBC
Cwestiwn 1 - y Cynghorydd Raymond Bartley
“Beth ydych chi'n ei wneud i
sicrhau bod aelodau o'r Cyngor Iechyd Cymuned yn parhau i feithrin
cydberthnasau cytûn gyda staff rheng flaen yn hytrach na chael eu gweld fel
arolygwyr ‘clipfwrdd’?”
Cadarnhaodd y
Prif Swyddog, Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, ei fod yn un o’r Prif
Swyddogion sydd wedi gwasanaethu hiraf mewn Cyngor Iechyd Cymuned.
Cadarnhaodd fod
newid yr enw i "Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru" (CICGC) wedi ei
roi ar waith i wahaniaethu eu hunain oddi wrth y Bwrdd Iechyd.
Yn ystod y 12 mis
blaenorol, cynhaliwyd 600 o ymweliadau, gan gynnwys nifer fwy o ymweliadau
dirybudd yn ogystal ag ymweliadau â wardiau Iechyd Meddwl. Croesawyd
gwirfoddolwyr CICGC gan staff i'r wardiau. Bu
CICGC yn ymweld â
wardiau’n rheolaidd ac roedd staff yn ymwybodol o hynny. Pe
bai problemau wedi codi, byddai CICGC yn sicrhau yr ymdriniwyd â’r materion.
“Bugwatch” oedd
yr arolwg rheoli heintiau. Roedd CICGC yn cydweithio gyda'r Tîm
Rheoli Heintiau i hyrwyddo'r Arolwg "Bugwatch". Roedd
safonau yn uchel ond, yn anffodus, nid oeddent yn gyson. Byddai
arolwg "Bugwatch" ar waith i annog cysondeb.
Ni chafodd staff
a gwirfoddolwyr a fynychodd wardiau seiciatrig hyfforddiant penodol, ar hyn o
bryd, ond cawsant hyfforddiant ar gyfer mynd i unedau diogel.
Eglurwyd nad oedd
gan CICGC yr awdurdod neu’r pŵer i gau wardiau pe gwelwyd eu bod yn
tanberfformio neu'n anniogel. Byddai CICGC yn atgyfeirio materion at y
Gweinidog, gan mai ef yn unig oedd â’r pŵer i gau ward.
Roedd CICGC yn
annog y defnydd o'r iaith Gymraeg.
Mae nifer fawr o CICGC yn
siarad Cymraeg. Roedd ap wedi’i ddatblygu i gael ei gwblhau yn
Gymraeg a gallai wedyn gael ei gyfieithu i’r Saesneg hefyd. Roedd
CICGC hefyd yn sicrhau bod gwasanaethau ac arwyddion yn yr uned babanod sâl yn
Arrowe Park yn Gymraeg ac yn Saesneg, a byddai staff sy'n siarad Cymraeg ar
gael hefyd.
Cwestiwn 2 - Y Cynghorydd Ann Davies.
“Hoffwn longyfarch aelodau'r
CIC am eu holl waith caled. Beth ydych chi'n ei wneud i ymgysylltu'n
rhagweithiol gydag Aelodau o BIPBC o ran y pwrpas cyffredin o wella gofal
iechyd yng Ngogledd Cymru?”
Eglurodd y Prif
Swyddog fod BIPBC a CICGC yn cyfarfod yn ffurfiol fel Byrddau 3-4 gwaith y
flwyddyn i drafod materion. Yn anffurfiol, cyfarfu aelodau CICGC ag
aelodau BIPBC yn rheolaidd. Bu Cadeirydd a Phrif Swyddog CICGC hefyd
yn siarad yn uniongyrchol â Phrif Weithredwr BIPBC yn ôl yr angen i ymdrin â materion. Byddai
llawer iawn o waith yn digwydd o ran y meddygfeydd ym Mhrestatyn gan fod gan
CICGC ddyletswydd i ysgrifennu at bob claf dan sylw.
Cwestiwn 3 - Y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.
“Mae Llywodraeth Cymru yn
ymgynghori ar ei Bapur Gwyrdd 'Ein Iechyd, Ein Gwasanaeth Iechyd' ar hyn o bryd
ac yn gofyn a yw'r model CIC presennol yn addas at y diben. Beth
yw eich barn?”
Cadarnhaodd y
Prif Swyddog fod gweithio ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd wedi mynd rhagddo i ddelio
â sefyllfaoedd penodol a gweithio er lles y cleifion.
Roedd y CIC yn
llais annibynnol o fewn y GIG, ac yn cynrychioli cleifion y GIG. Nid
oedd unrhyw gadarnhad wedi bod ar y gweill bod y model CIC wedi bod yn gwbl
addas at y diben.
Nid oedd gan y
CIC unrhyw bŵer dros benodi Aelodau. Awgrymodd
y Prif Swyddog mai’r ffordd well ymlaen fyddai i gysylltu â Chynghorwyr a mudiadau
gwirfoddol lleol.
Yn y fan hon,
mynegodd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol, Oedolion a Gwasanaethau
Plant, y Cynghorydd Bobby Feeley, ei diolch i'r holl drafodaethau
cynrychioladol gan BIPBC a CICGC.
Daeth y cyfarfod i ben am 1.10pm.