Eitem ar yr agenda
CYNLLUN LLES
Cael adroddiad
gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol (copi ynghlwm) sy'n rhoi diweddariad ar
ganfyddiadau gwerthusiad o chwe mis cyntaf prosiect 20 Uchaf Sir Ddinbych.
10.10 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Reolwr y Tîm Cynllunio
Strategol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am ganfyddiadau gwerthusiad o
chwe mis cyntaf 20 prosiect uchaf Sir Ddinbych a gwybodaeth am y prosiect a gychwynnwyd gan Gynllun
Lles Sir Ddinbych a oedd wedi ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr, 2014, wedi ei ddosbarthu gyda'r
papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y RhTCS yr adroddiad a chyfeiriodd at y
broses a ddilynir gan Fwrdd Partneriaeth Strategol y Sir wrth ddatblygu Cynllun
Lles Sir Ddinbych, sy’n canolbwyntio ar Annibyniaeth a Gwydnwch: Dywedodd wrth
yr Aelodau ei bod yn rhy gynnar ar hyn o bryd i roi adroddiad cynnydd ar y
cynllun cyfan, serch hynny roedd swyddogion yn awyddus i geisio cefnogaeth y
pwyllgor archwilio ar gyfer prosiect yr oeddent yn ei dreialu fel rhan o'r
Cynllun. O dan Gynllun
Lles Prosiect 20 Uchaf Sir Ddinbych roedd partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd
i gefnogi unigolion hynod ddiamddiffyn gyda golwg ar eu hatal rhag gorfod gofyn
am gymorth diangen gan y gwasanaethau argyfwng/ dwys yn ddiweddarach, yn y
mwyafrif o achosion mae'r galw ar y gwasanaethau drud hyn yn amhriodol.
Fel rhan o'r prosiect byddai’r ugain o unigolion mwyaf diamddiffyn sy’n
hysbys i bob sefydliad partner, nad oedd yn ymddangos bod gwasanaethau o ddydd
i ddydd partneriaid yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir neu nad oedd yn
bodloni'r meini prawf ar gyfer y gwasanaethau sydd ar gael er eu bod angen
cefnogaeth yn y Sir, yn cael ei nodi ar y cyd. Roedd y prosiect hefyd yn anelu at osgoi dyblygu
gwasanaethau drwy weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd.
Cytunodd y Pwyllgor wrth ystyried Atodiad 2
"Gwerthuso Adroddiad Crynodeb 20 Uchaf Sir Ddinbych" bod y cyfarfod
yn symud i RAN II.
RHAN II
GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD
PENDERFYNWYD - dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o
gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972:
Roedd cymhlethdod
y gwaith ymyrryd gyda’r unigolion hyn wedi’i ddangos drwy nifer o astudiaethau
achos, yn ogystal â’r ymdrech a'r amser sydd ei angen i adeiladu perthynas gyda
rhai o'r unigolion. Roedd
nifer o rwystrau hefyd angen cael eu trafod rhwng partneriaid wrth geisio
cefnogi'r unigolion hyn, roedd y rhain yn cynnwys:-
·
amharodrwydd
i rannu data personol, er ei fod er lles yr unigolyn;
·
y
math o wybodaeth a gedwir gan wahanol bartneriaid yn amrywio'n sylweddol, gyda
rhai yn cadw gwybodaeth ar yr unigolion tra bod eraill yn cadw gwybodaeth am
gyfeiriadau ac nid yr unigolion yn y cyfeiriadau hynny;
Ar ôl ystyried Atodiad 2 aeth y cyfarfod yn ei flaen
yn RHAN I.
Pwysleisiodd
swyddogion mai nod tymor hir y prosiect oedd arbed adnoddau ariannol gwerthfawr
ac adnoddau eraill i bob partner. I wneud hyn roedd yn rhaid iddynt fod yn arloesol ac yn ymyrryd ar y cyfle
cyntaf sydd ar gael. Wrth
wneud hyn roedd yn rhaid i bartneriaid edrych y tu hwnt i'w protocolau a bod yn
greadigol, fel arall byddai adnoddau gwerthfawr yn cael eu draenio.
Mewn ymateb i
gwestiynau gan yr Aelodau, dywedodd y swyddogion:-
·
Mae
angen cael gwared ar y rhwystrau er mwyn adeiladu’r lefel uchel o gyd-ymddiriedaeth
sydd ei angen rhwng yr holl bartneriaid i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei
rhannu’n hyderus ac yn briodol i hwyluso ymyrraeth gynnar;
·
amcan
y prosiect hwn oedd i beidio â chreu strwythur arall, ond i hwyluso gweithio ar
y cyd ac yn effeithiol ar gyfer y diben o gefnogi unigolion dan sylw, ac i
arbed costau diangen i'r pwrs cyhoeddus yn y tymor hir;
·
roedd
y ffaith bod Heddlu Gogledd Cymru yn arwain ar y prosiect yn helpu i hwyluso'r
broses o rannu gwybodaeth a sicrhau, os nad yw un partner yn fodlon rhannu
gwybodaeth ar unigolyn ei bod yn ofynnol iddynt roi rheswm dilys dros ei ddal
yn ôl;
·
Gallai’r
lefel uchel o gyd-ymddiriedaeth a adeiladwyd trwy'r prosiect hwn ond bod o fudd
i'r holl bartneriaid yn y tymor hir a byddai'n gwella perthnasau gwaith ar
gyfer y dyfodol;
·
roedd
y prosiect ar hyn o bryd ond yn cael ei dreialu yn Sir Ddinbych, ond roedd y
Prif Gwnstabl yn awyddus i’w gyflwyno i ardaloedd eraill gan ei fod yn gweld y
manteision o fabwysiadu'r dull ymyrryd yn gynnar; ac
·
roedd
Swyddfa Archwilio Cymru, a oedd newydd archwilio’r Bartneriaeth Diogelwch
Cymunedol (PDC) yn meddwl am gynnwys y prosiect fel astudiaeth achos yn ei
adroddiad archwilio ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Cyn cloi'r
drafodaeth dywedodd yr aelodau sut y mae'r 'diwylliant iawndal' ac unigolion yn
ofnus o gael eu cyhuddo ar gam o drosedd nawr wedi gwneud pobl yn hynod o
betrusgar o gynnig help llaw i bobl ddiamddiffyn, neu i blant, fel y byddai
wedi digwydd flynyddoedd yn ôl. Roedd yn ymddangos fel pe bai gwead cymdeithas gyfan yn ymddatod, gyda'r
cysyniad o fod yn gymdogol a chefnogi pobl o fewn cymunedau’n erydu.
Mae pobl y dyddiau hyn yn disgwyl i
sefydliadau ddarparu gwasanaethau a ddarparwyd o fewn cymunedau yn y
gorffennol, gwasanaethau sy'n lliniaru yn erbyn y risg o ynysu cymdeithasol ac
unigrwydd.
Yn dilyn
trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD - yn
amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith a wnaed hyd yn
hyn a'r cynnig i barhau â'r gwaith hwn, ac yn argymell bod y prosiect yn:-
(i)
ailedrych ar ei aelodaeth a’i amcanion i sicrhau
bod dealltwriaeth ac ymrwymiad cyffredin gan bob partner i roi cynnig ar
ddulliau creadigol a newydd a thrafod beth y gall ac na all pob asiantaeth ei
wneud ac ati;
(ii)
ystyried cost peidio â gweithredu yn erbyn cost
adfer y sefyllfa wrth benderfynu pa gamau gweithredu i'w cymryd;
(iii)
sicrhau bod eglurder ynghylch sut y gellir
gweithredu ymyriad aml-asiantaeth i ychwanegu gwerth at achos ac os na fydd yn
gweithio, pryd i roi'r gorau;
(iv)
ail-sefydlu matrics manwl, cofnodi camau
gweithredu mwy disgrifiadol, gofyn yn rhagweithiol am enwebiadau, darparu enwau
unigolion a enwebir cyn cyfarfodydd a sicrhau bod 20 o bobl wedi eu nodi a'u
cytuno ar gyfer cefnogaeth;
(v)
ystyried cael cyllideb ar y cyd;
(vi)
yn sefydlu Protocol Rhannu Gwybodaeth sy’n
cydymffurfio â Chytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru i ddatrys rhwystrau
rhannu gwybodaeth a datblygu ffurflen ganiatâd i'w defnyddio gydag unigolion;
(vii)
oherwydd ei broffil uchel yn deall sut y bydd yn
rheoli ei negeseuon;
(viii)
gwerthuso’r dysgu o bob achos hyd yn hyn;
(ix)
gofyn i bob sefydliad roi caniatâd i’w
cynrychiolwyr wneud penderfyniadau, defnyddio adnoddau a gwyro o'r polisi a’r
arfer traddodiadol;
(x)
deall sut y gall yr hyn a ddysgir lywio ymyrraeth
ac ataliad cynnar (mae’r themâu cyffredin yn cynnwys: unigrwydd ac ynysu
cymdeithasol; camddefnyddio alcohol; rhwydweithiau cymunedol gwael; galw mawr
gyda’r nos ac ar benwythnosau); ac
(xi)
mae angen i lywodraethu fod yn fwy cadarn.
Dogfennau ategol:
- Wellbeing Report, Eitem 6. PDF 107 KB
- Wellbeing App 1, Eitem 6. PDF 204 KB
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 6./3 yn gyfyngedig