Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN COMISIYNU LLEOL CEFNOGI POBL

Cael adroddiad gan Reolwr Tîm Cefnogi Pobl (copi ynghlwm), sy’n rhoi manylion am y Cynllun Comisiynu Lleol tair blynedd ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yn Sir Ddinbych.

                                                                                             9.35 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Comisiynu a Thendro, oedd yn rhoi manylion y Cynllun Comisiynu tair blynedd ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yn Sir Ddinbych, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol yr adroddiad a dywedodd wrth y Pwyllgor fod y Cyngor yn cynllunio tuag at 10% o doriad yn y grant Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer 2016-17. Gan na fyddai swm gwirioneddol o arian grant yn cael ei gyhoeddi tan ddiwedd mis Tachwedd eleni roedd gan y Cyngor gynlluniau wrth gefn hefyd rhag ofn y byddai’r toriad cyllid gwirioneddol yn uwch na'r 10%.  Cadarnhaodd y Swyddog Comisiynu a Thendro y bydd y Cynllun Comisiynu Lleol yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Cydweithredol Rhanbarthol Cefnogi Pobl Gogledd Cymru ym mis Ionawr 2016, i ategu datblygiad Cynllun Comisiynu Rhanbarthol Gogledd Cymru. 

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa bresennol, cost ac effaith ar wasanaethau eraill, canfyddiadau'r Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb a gwblhawyd ar gyfer y Cynllun Comisiynu Lleol yn 2013, manylion yr ymgynghoriadau a gynhaliwyd a     risgiau a'r camau a gyflwynwyd i'w lleihau.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Atodiad 1 i'r adroddiad, a chytunwyd bod y cyfarfod yn symud at RAN II.

 

RHAN II

 

GWAHARDD Y WASG A'R CYHOEDD

 

PENDERFYNWYD - dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 14 ac 15 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Gan ymateb i gwestiynau'r aelodau ar y cynigion sy'n cael eu hystyried ar gyfer torri grantiau Cefnogi Pobl i sefydliadau unigol, a restrir yn Atodiad 1 i'r adroddiad, cadarnhaodd swyddogion:-

 

·                 bod y meini prawf ar gyfer cyllid grant Cefnogi Pobl yn rhagnodol iawn ac felly roedd gwaith manwl wedi ei wneud i sicrhau bod y cyllid a ddarperir yn cael ei ddefnyddio gan bob sefydliad at ei ddiben, a'i fod yn cydymffurfio â'r meini prawf Cefnogi Pobl;

·                 Fel rhan o'r ad-drefnu prosesau ariannu grant, dyblygu darpariaeth, cydymffurfio ag amodau grant ac a yw'r prosiectau’n gefnogol i'r agenda ymyrraeth gynnar bydd y cyfan yn cael eu harchwilio'n fanwl.  Mae'r prosesau monitro contractau a weinyddir gan CP yn sicrhau nad yw sefydliadau’n derbyn arian ar gyfer yr un prosiect o ffrydiau ariannu gwahanol;

·                 roedd cyrff cyhoeddus eraill, megis y Bwrdd Iechyd hefyd yn edrych ar resymoli eu prosesau a chronni eu ffrydiau ariannu;

·                 rhan o'r broses dendro ar gyfer gwneud cais i gyflwyno gwasanaethau ar ran y Cyngor yn cynnwys archwiliadau ariannol llym ar y sefydliadau a oedd yn gwneud cais;

·                  unwaith y byddai cytundeb yn cael ei ddyfarnu byddai’n cael ei fonitro'n rheolaidd i sicrhau ei fod yn cyflawni'r amcanion yn unol â manyleb y contract, rhan ohono oedd yn cynnwys dadansoddiad gwerth am arian er mwyn sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau sy'n ychwanegu gwerth i fywydau trigolion Sir Ddinbych;

·                 nid oedd y Grant Cefnogi Pobl fel arfer yr unig ffynhonnell ariannu sefydliad, gan fod arian grant Cefnogi Pobl yn cael ei ddyrannu at ddibenion penodol;

·                 roedd swyddogion yn gwasanaethu ar nifer o wahanol grwpiau o fewn y Cyngor a chyda sefydliadau partner h.y. Bwrdd Iechyd ac felly'n gallu ffurfio barn ar y cyd a phenderfyniadau ar geisiadau am gyllid;

·                 system gyfeirio llwybr sengl yn cael ei weithredu a oedd yn helpu’r Cyngor i benderfynu a yw unigolion a wnaeth gais i gael mynediad i’w wasanaethau yn cael cymorth tebyg gan sefydliadau eraill. Roedd cynlluniau yn eu lle i sicrhau bod hyn yn cael ei integreiddio'n llawn â'r Un Pwynt Mynediad Gwasanaethau Cymorth Cymunedol;

·                 Roedd Cefnogi Pobl wedi lleihau’r contractau y mae'n eu cynnal gyda sefydliadau unigol, tra yn y gorffennol, gall sefydliad fod wedi cael contractau lluosog gyda Chefnogi Pobl ar gyfer darparu gwasanaethau, nawr byddai ganddo un contract cyffredinol gyda phob elfen unigol o'r contract yn cael ei fonitro fel rhan o’r broses monitro contractau.

 

Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen cyffredinol i lywodraeth ganolog symleiddio'r system cyllid grant i'w gwneud yn haws i'w deall ac yn llai dryslyd a chymhleth ar gyfer Awdurdodau Lleol (ALl) a’r cyhoedd yn gyffredinol.  Byddai dull o'r fath yn helpu i adnoddau gwerthfawr gael eu defnyddio’n llawer mwy doeth ac felly’n gwneud y mwyaf o'u heffaith i’r trethdalwr. 

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at ddull yr Alban lle mai dim ond dau grant sydd bellach yn cael eu dosbarthu gan Lywodraeth yr Alban, a'r gweddill wedi cael ei ymgorffori yn y Grant Cynnal Refeniw a ddyfarnwyd i bob ALl.  Roedd y dull hwn yn cynorthwyo ALlau gyda'u trefniadau cynllunio ariannol gan y byddai ychydig iawn o elfennau o'u cyllidebau yn ddibynnol ar ddyfarnu grantiau annibynnol ar gyfer swyddogaethau penodol y Cyngor.  Roedd Cyfarwyddwr Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynychu cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio Cymunedau yn ddiweddar i drafod y dull hwn a'i fanteision i ALlau.  Awgrymodd y Prif Weithredwr efallai y byddai aelodau am drafod yr agwedd hon ymhellach mewn gweithdy Cyllideb yn y dyfodol.

 

Gofynnodd yr Aelodau fod yr adroddiad i'r Cabinet: -

 

- yn cynnwys colofn yn Atodiad 1 yn tynnu sylw at pa un a yw’r arian Grant CP yr unig ffynhonnell incwm gan sefydliad;

- gwybodaeth am yr effaith a ragwelir ar bob sefydliad o’r toriad posibl yn eu cyllid grant Cefnogi Pobl;

- nodi’r sefydliadau hynny a oedd wedi bod yn destun toriadau mewn blynyddoedd blaenorol.

 

Ar y pwynt hwn parhaodd y cyfarfod gyda RHAN I.

 

RHAN I

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:-

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar gynnwys y sylwadau a’r diwygiadau uchod, bod yr adroddiad yn cael ei gyfeirio at y Cabinet i’w ystyried yn y man.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: