Eitem ar yr agenda
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD
Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau.
Cofnodion:
Gwahoddwyd
Aelodau'r Pwyllgor i roi adborth o gyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
y gwnaethant eu mynychu’n ddiweddar, ac fe gymerodd Aelodau’r cyfle i gynnig
crynodeb o sut roedd y Cynghorau perthnasol wedi gweithredu.
Roedd y
Cynghorydd W.L. Cowie wedi mynychu cyfarfod Cyngor Dinas Llanelwy. Cadarnhaodd nad oedd wedi dod
ar draws unrhyw broblemau ac yn fodlon ar y modd y cynhaliwyd y cyfarfod.
Mynychodd
yr Aelodau Annibynnol Anne Mellor (AM) a Julia Hughes (JH) gyfarfod Cyngor
Cymuned Aberchwiler 7 Hydref, 2015 ac fe dynnwyd sylw at y materion canlynol:-
-
Nid oedd unrhyw feysydd o
bryder wedi cael eu nodi, a chadarnhaodd y ddau Aelod Annibynnol eu bod yn
fodlon ar y modd y cynhaliwyd y cyfarfod.
-
Roedd cynrychiolydd y Cyngor Sir
lleol wedi mynychu'r cyfarfod ac wedi bod yn hynod ddefnyddiol ac yn llawn
gwybodaeth.
Mynychodd
yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) gyfarfod y Cyngor Sir Arbennig ar 7
Hydref, 2015, a oedd a nifer dda yn bresennol, ac ni chodwyd unrhyw faterion o
bryder.
Mynychodd
yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) y cyfarfodydd canlynol ac amlygwyd y
pwyntiau a'r materion canlynol:-
Cyngor
Tref Bodelwyddan:-
-
Ni fu unrhyw wybodaeth ar gael
ar y wefan, a oedd angen ei diweddaru. Fodd bynnag, roedd y Clerc wedi bod yn ymatebol iawn, yn gadarnhaol ac yn
ddefnyddiol.
-
Rhoddwyd cefnogaeth gan y Clerc
i’r Cadeirydd a'r Aelodau yn ystod y cyfarfod.
Cafwyd
trosolwg gan JH a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol o bryder:-
·
Nid oedd y cyfarfod wedi’i reoli
yn y modd mwyaf effeithiol
·
Nid oedd yr aelodau’n parchu
Cadeirydd y cyd Gynghorwyr yn ystod achosion. Cafodd hyn effaith andwyol ar reolaeth y cyfarfod, ac nid oedd Aelodau wedi
cymhwyso protocol a oedd yn briodol i gyfrifoldeb eu swyddi fel Cynghorwyr Tref
a chynrychiolwyr preswylwyr lleol.
·
Cydnabuwyd yr anhawster wrth
recriwtio pobl i'r swyddi gwirfoddol, gyda dim ond un cais wedi dod i law ar
gyfer dwy swydd wag yn y Cyngor Tref.
Yn
dilyn trafodaeth fer, gofynnodd y Pwyllgor bod y Swyddog Monitro’n ysgrifennu
at Glerc Cyngor Cymuned Bodelwyddan yn tynnu sylw at y materion a godwyd gan yr
Aelod Annibynnol J. Hughes, a'r pryderon dilynol a fynegwyd gan y Pwyllgor
Safonau ar ôl ystyried ei hadroddiad.
Cyngor
Cymuned Nantglyn - 6 Hydref, 2015:-
-
Rhoddwyd enghraifft dda o sut y
dylai cyfarfod redeg.
-
Roedd gan y Cyngor wefan dda,
yn llawn gwybodaeth ac wedi’i dylunio’n dda.
-
Anfonwyd e-bost at y Clerc er
mwyn cael manylion y lleoliad, y rhaglen a chofnodion y cyfarfod nesaf.
-
Roedd Clerc y Cyngor wedi bod
yn ddefnyddiol iawn.
-
Ni wiriodd y Clerc Aelod o'r
Cyngor a gyrhaeddodd yn hwyr, mewn perthynas â Datganiadau o Gysylltiad.
-
Cymerodd Aelodau'r Cyngor ran yn holl eitemau'r rhaglen
mewn modd cefnogol ac adeiladol.
-
Rheolodd y Cadeirydd y cyfarfod yn dda ac fe
gafodd ei gefnogi gan y Clerc, a chynhaliwyd busnes mewn modd trefnus a chywir.
-
Roedd Ceisiadau Cynllunio wedi
cael sylw yn ofalus ac wedi’u trin yn briodol.
-
Cyflwynodd y Cadeirydd JH i Aelodau’r
Cyngor a dywedodd ei fod yn synnu nad oedd wedi cael gwybod am fwriad y
Pwyllgor Safonau. Amlinellodd JH ddiben yr
ymweliadau i ddarparu cefnogaeth i'r Cynghorau perthnasol, a chodi proffil y
Pwyllgor Safonau i osgoi bod yn gorff o bell.
-
Rhoddwyd adborth am drafodion y
cyfarfod gan JH.
Hysbyswyd
y Pwyllgor bod Aelod o'r Cyngor Cymuned wedi mynegi'r farn nad oedd wedi cael
gwybod am fwriadau’r Pwyllgor Safonau, ac yn dilyn trafodaethau gyda'r Swyddog
Monitro, ei ddealltwriaeth ef oedd bod rôl y Pwyllgor Safonau’n gysylltiedig â
materion sy'n ymwneud â'r Cod Ymddygiad ac nid materion Llywodraethu. Mewn ymateb i bryderon a
fynegwyd ynghylch cwestiynau yn ymwneud â'r wefan, cyfeiriodd JH at gyflwyniad
y ddeddfwriaeth ddiweddar.
Hysbyswyd
yr Aelodau, yn dilyn y cyfarfod, bod JH wedi anfon e-bost at Glerc y Cyngor
Cymuned, a ddarllenwyd yn y cyfarfod, yn crynhoi rôl, cylch gorchwyl a phrif
ddyletswyddau’r Pwyllgor Safonau.
Mewn
ymateb i bryderon a godwyd gan Aelodau'r Pwyllgor Safonau ynghylch Cynghorau
Dinas, Tref a Chymuned yn dod yn ymwybodol o rôl y Pwyllgor Safonau, cytunodd y
Swyddog Monitro i ysgrifennu at Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn amgáu
manylion rôl a chylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau. Rhoddodd y Swyddog Monitro
gadarnhad nad oedd yn orfodol i Aelodau'r Pwyllgor Safonau ymweld neu fynychu
cyfarfodydd Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned.
Hysbysodd
y Cadeirydd y Pwyllgor ei fod ef a'r Swyddog Monitro wedi mynychu cyfarfod
Clercod a Chynghorwyr Cymuned 25 Tachwedd, 2015. Rhoddwyd manylion ynghylch yr
eitemau a drafodwyd, a’r gweithrediadau, gan y Cadeirydd. Cafwyd cadarnhad bod y cyfarfod
wedi ei gadeirio’n dda ac ni chodwyd unrhyw faterion o bryder.
Hysbysodd
y Swyddog Monitro’r Pwyllgor fod cwestiynau am ddarparu hyfforddiant, a
darparwyr hyfforddiant, wedi cael eu codi o ran y posibilrwydd o ddyblygu
darpariaeth. Eglurodd fod y Prif Weithredwr
wedi gofyn am gael archwilio’r rhaglen gyfannol o hyfforddiant, ar y cyd â
darparwyr eraill. Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at
ei gyfrifoldeb o ran lefel, amlder a safon y ddarpariaeth o hyfforddiant mewn
perthynas â'r Cod Ymddygiad. Mynegodd
y Cadeirydd y farn bod y lefel o hyfforddiant a ddarperir gan Sir Ddinbych wedi
bod yn ardderchog.
Yn
dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi adborth a gyflwynwyd o gyfarfodydd
diweddar a fynychwyd gan Aelodau'r Pwyllgor.
(b)
yn
gofyn i'r Swyddog Monitro ysgrifennu at Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn
amgáu manylion rôl a chylch gorchwyl y Pwyllgor Safonau, a
(c)
chytuno
bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at Glerc Cyngor Tref Bodelwyddan yn tynnu
sylw at y materion a godwyd gan yr Aelod Annibynnol J. Hughes, a'r pryderon
dilynol a fynegwyd gan y Pwyllgor Safonau.
(GW i Weithredu)