Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 1 – 2015/16
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Cynllun
Corfforaethol a Pherfformiad (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar
ddarparu Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 1 2015/16.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 1 2015/16.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 –
17 fel ag y mae ar ddiwedd chwarter 1 o 2015/16.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys tair prif elfen -
·
Cynllun
Corfforaethol 2012-17 - tynnwyd sylw yr aelodau at y dadansoddiad o eithriadau
allweddol ac esboniad y tu ôl i'r 'statws Coch' o bob dangosydd wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad ac ymhelaethwyd ar hynny ymhellach yn y cyfarfod
·
Dangosyddion
Strategol Cenedlaethol 2014/15 - dadansoddiad wedi cael ei ddarparu am
berfformiad rhagorol Sir Ddinbych yn erbyn dangosyddion cenedlaethol gyda 20 yn
yr hanner uchaf a 14 yn y chwartel uchaf, Sir Ddinbych hefyd gyda’r nifer
lleiaf yn yr hanner isaf. 8 o ddangosyddion cenedlaethol wedi dirywio mewn perfformiad ac eglurhad y
tu ôl i'r dirywiad hefyd wedi'i ddarparu
·
Cofrestr
Prosiectau Corfforaethol - nid oedd unrhyw brosiectau gyda statws 'Coch' a dim
ond dau brosiect gyda statws 'Oren' gyda phob prosiect ar y trywydd iawn.
Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion
canlynol -
·
Canlyniad
8: Trigolion ac ymwelwyr â Sir Ddinbych gyda mynediad i rwydwaith ffyrdd diogel
a reolir yn dda – byddai’r dangosydd yn gysylltiedig â chyllid cytundeb
canlyniadau yn cael ei ddileu yn y dyfodol pan fydd y cyllid yn cael ei gynnwys
yn y Grant Cynnal Refeniw. Rhagwelwyd y byddai gostyngiadau cyllideb yn cael effaith andwyol a
phwysleiswyd bod angen cadw golwg agos ar y flaenoriaeth hon
·
Dangosydd
Strategol Cenedlaethol: SCC/002: Plant sy'n derbyn gofal yn newid
ysgol - sicrhawyd bod y dangosydd hwn yn parhau i gael ei fonitro'n agos. O ystyried y garfan fechan o blant a
rhesymau dilys am symud ysgol ym mhob achos ni chafodd ei ystyried yn
flaenoriaeth ar gyfer gwella
·
Allyriadau
Carbon - Eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill nad oedd modd cynhyrchu gwybodaeth
ar hyn o bryd o ganlyniad i broblem fawr gyda system filio newydd Nwy Prydain a
oeddent yn gweithio i'w datrys. Ystyriwyd ei bod yn briodol i aros am y data llawn yn hytrach nag adrodd ar
ddata rhannol ac anghywir
·
Diffyg
Lleoedd Ysgolion - eglurwyd bod y ffigurau yn ymwneud â nifer yr ysgolion nad
oedd ganddynt ddigon o leoedd ac roedd anghydbwysedd cyffredinol yn bodoli a
bod ysgolion yng ngogledd y sir yn tueddu i fod wedi gordanysgrifio gydag
ysgolion yn y De gyda lleoedd dros ben
·
Canran
y staff sy'n derbyn arfarniad perfformiad - y ffigur hwn wedi gostwng 17% i 67%
o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd ac roedd hynny’n peri pryder. Eglurodd y swyddogion bod y gostyngiad o
ganlyniad i ad-drefnu staff, ond roedd disgwyl i'r ffigwr gynyddu. Byddai perfformiad ar gyfer y dangosydd
hwn yn cael ei herio fel rhan o'r broses herio gwasanaeth.
Croesawodd y Cabinet berfformiad rhagorol Sir
Ddinbych yn y Dangosyddion Strategol Cenedlaethol a'u hanes yn hynny o beth. Tra'n cydnabod ei bod hi dal yn gynnar yn
y broses, roedd yr aelodau hefyd yn falch o nodi'r cynnydd da ar y cyfan wrth
gyflwyno'r Cynllun Corfforaethol. Fodd bynnag, nodwyd bod rhagdybiaethau yn dal i gael eu gwneud ar hyn o
bryd ac roedd yn rhy gynnar i asesu effaith pwysau ar y gyllideb ar wasanaethau. Byddai darlun cliriach yn ymddangos yn nes
ymlaen yn y flwyddyn.
Wrth symud yr argymhellion roedd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill hefyd yn
cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr aelodau ac y byddai’n eu gweithredu.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 1 2015/16.
Dogfennau ategol: