Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNNIG CAU YSGOL RHEWL O 31 AWST 2017 A THROSGLWYDDO'R DISGYBLION PRESENNOL I YSGOL PEN BARRAS, RHUTHUN NEU YSGOL STRYD Y RHOS, RHUTHUN, YN DIBYNNU AR DDEWIS Y RHIENI.

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n amgaeedig) yn cyflwyno'r  adroddiad gwrthwynebiad i'w ystyried a gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      nodi canfyddiadau'r adroddiad gwrthwynebiad;

 

 (b)      ar ôl ystyried yr uchod, bod y Cabinet yn cymeradwyo'r penderfyniad i weithredu’r cynnig i gau Ysgol Rhewl ar 31 Awst 2017 a throsglwyddo'r disgyblion i adeilad newydd Ysgol Pen Barras, Rhuthun, neu Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun yn dibynnu ar ddewis y rhieni, a

 

 (c)       bod ceisiadau am gludiant dewisol i'r ysgol categori 2 agosaf yn cael eu hystyried ar sail achos wrth achos, gan ddisgyblion presennol Ysgol Rhewl a'u brodyr a'u chwiorydd am weddill eu haddysg gynradd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn manylu ar y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi'r Rhybudd Statudol i gau Ysgol Rhewl gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras neu Ysgol Stryd y Rhos yn amodol ar ddewis y rhieni, ynghyd â ffactorau i'w hystyried cyn penderfynu ar y cynnig.

 

Mae'r cynnig ar gyfer Ysgol Rhewl wedi cael ei wneud yng nghyd-destun yr adolygiad o ardal ehangach Rhuthun gan ystyried addasrwydd a chyflwr safleoedd ysgolion a lleoedd dros ben a'r effaith ar gynaliadwyedd tymor hir yr ysgol.  Atgoffwyd y Cabinet bod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad wedi argymell i ragor o waith i gael ei wneud yn ystod y broses ymgynghori i ymdrin â phryderon a godwyd yn ymwneud â'r safle Glasdir newydd a chynnig yr Iaith Gymraeg.  Mae canfyddiadau'r gwaith hwnnw wedi ei gynnwys yn Atodiad D ac E o'r adroddiad.  Cododd y Cynghorydd Merfyn Parry (aelod lleol) bryderon ynghylch pa mor ddigonol yw’r gwaith atodol o ran ymgynghori gan dynnu sylw at y diffyg gwybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion er mwyn llywio trafodaeth ystyrlon mewn cyfarfodydd a'r anawsterau wrth alw cyfarfodydd oherwydd argaeledd unigolion allweddol.  Teimlai nad oedd ymgynghori priodol wedi'i gynnal, gan ychwanegu na fu unrhyw drafodaeth o gwbl ar y cynnig diweddaraf i ddarparu cludiant yn ôl disgresiwn i'r ysgol categori 2 agosaf.  O ganlyniad, gofynnodd y Cynghorydd Parry y dylid gohirio'r mater hyd nes ymgynghori pellach â rhanddeiliaid.  Gofynnodd y Cabinet am sicrwydd ynglŷn â'r gwaith atodol yn ôl cyfarwyddyd archwilio ac adroddodd y swyddogion ar amserlen o gyfathrebu a arweiniodd at y canfyddiadau fel y manylir yn Atodiad D ac E i'r adroddiad.  Ystyriodd y Cabinet y broses o ymgysylltu i fod yn gadarn a bod digon o wybodaeth wedi cael ei ddarparu er mwyn galluogi penderfyniad gwbl wybodus.

 

Tynnodd y Cynghorydd Williams sylw'r aelodau at yr adroddiad a'r prosesau statudol i'w dilyn.  Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau a nodwyd yn yr adroddiad ynghyd â'r dadleuon dros y cynnig a'r ffactorau a nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion.  Talodd yr aelodau sylw arbennig i faterion a godwyd yn ymwneud â'r safle Glasdir newydd a’r effaith ar y Iaith Gymraeg fel y prif achosion o bryder -

 

(1)  Pryderon yn ymwneud â'r safle newydd yn Glasdir

 

Mynegwyd pryderon ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd a dichonoldeb y datblygiad.

 

Mae dau asesiad diogelwch ar y ffyrdd wedi'u cynnal ar 14/08/15 (gwyliau ysgol) a 15/09/15 (tymor ysgol) a ganfu nad oedd y llwybr presennol ar gyfer disgyblion yn cerdded o Rhewl i Glasdir yn beryglus.  Nid oedd yr asesiad yn cymryd i ystyriaeth unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol a gofynnodd y Cabinet am sicrwydd o ran diogelwch y llwybr yn y dyfodol a sicrhau bod mesurau rheoli traffig priodol yn eu lle cyn agor yr ysgolion newydd.  Hefyd, codwyd yr angen i egluro y terfyn cyflymder 30 mya ar gyfer modurwyr sy'n teithio i Ruthun.  Darparodd Swyddogion sicrwydd bod diogelwch y llwybr yn brif flaenoriaeth a fyddai'n cael eu cadw dan arolwg agos.  Byddai asesiadau traffig a chludiant yn parhau drwy gydol datblygiad y safle wrth i amgylchiadau newid er mwyn sicrhau fod unrhyw faterion diogelwch yn cael eu nodi.

 

O ran dichonoldeb y datblygiad i ddarparu ar gyfer disgyblion, darparwyd sicrwydd y byddai capasiti arfaethedig y ddwy ysgol newydd yn caniatáu digon o le ar gyfer twf.  Mae'r cynnig yn gysylltiedig â'r trosglwyddo disgyblion o Ysgol Rhewl i'r ysgolion newydd yn Glasdir ac  ni fyddai disgwyl i ddisgyblion i symud ddwywaith mewn achos o unrhyw oedi yn y broses datblygu safle.  Cytunodd y Cabinet fod y bwriad i drosglwyddo disgyblion i'r ysgolion newydd yn cael ei wneud yn glir yn y penderfyniad.

 

(2)  Cynnig yn achosi pryderon yn ymwneud â’r effaith ar yr Iaith Gymraeg

 

Mynegwyd pryderon na allai'r cynnig Iaith Gymraeg presennol gael ei ailadrodd os yw disgyblion yn symud i un o'r ysgolion newydd.  Ailadroddodd y Cynghorydd Merfyn Parry y pryderon hynny ac tra'n nodi y cynnig diweddaraf i ddarparu opsiwn i drosglwyddo disgyblion i'r ysgol categori 2 agosaf roedd yn parhau i fod yn bryderus am y diffyg ymgynghori a manylder a ddarperir i brofi a oedd yn ddewis cadarn ac fe gododd gwestiynau ynglŷn â hynny.  Ceisiodd y Cabinet gael sicrwydd bod y tri cwricwlwm yn cynnig ar gyfer disgyblion y ffrwd cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg a dwyieithog sydd o leiaf yn gyfwerth safonau a chyfleoedd ar gyfer dilyniant yn eu cyfrwng iaith ar hyn o bryd.

 

Ymatebodd y swyddogion i'r materion hynny fel a ganlyn -

 

·        darparwyd cyd-destun pellach i'r cynnig iaith presennol yn yr ardal a faint o Gymraeg a gyflwynir mewn ystod o leoliadau sy'n dangos darpariaeth arall addas.  Mae'r bwriad presennol yn caniatáu i rieni ddewis tri math o sefydliad er mwyn i'r disgyblion gynnal eu cyfrwng iaith ar hyn o bryd - drwy gyfrwng y Gymraeg (Pen Barras), cyfrwng Saesneg (Stryd y Rhos) a dwyieithog (Llanfair Dyffryn Clwyd).  O ganlyniad, ni fyddai disgyblion dan anfantais o ran safonau a chyfleoedd ar gyfer dilyniant yn eu cyfrwng iaith presennol pe bai'r cynnig yn cael ei weithredu

·        pe bai Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion byddai'r swyddogion yn trafod yr ysgolion o ddewis gyda rhieni a byddai capasiti yn cael ei adeiladu i mewn i'r ysgolion newydd ar safle Glasdir a'r cynigion ar gyfer yr ysgol ardal categori 2 newydd.  Roedd swyddogion yn hyderus bod gan y dair ysgol y capasiti i ddarparu ar gyfer dewisiadau rhieni i ddisgyblion sy'n trosglwyddo o Ysgol Rhewl

·        o ran yr elfen trafnidiaeth ar gyfer categori 2 fe eglurodd swyddogion ysgolion bod y Polisi Cludiant Cartref i'r Ysgol wedi’i ganiatáu ar gyfer darparu cludiant dewisol mewn achosion o gau ysgolion.  Dywedwyd wrth y Cabinet y byddai'r Pennaeth Addysg yn edrych yn ffafriol ar geisiadau a wnaed o ganlyniad i gau Ysgol Rhewl a chadarnhaodd y byddai’r disgresiwn hwn yn cael ei ymestyn i frodyr a chwiorydd y disgyblion presennol - cytunodd yr aelodau bod yr elfen hon yn cael ei egluro ymhellach fel y bo'n briodol o fewn eu datrysiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Williams yr argymhelliad gyda newidiadau er mwyn egluro y byddai trosglwyddo disgyblion yn cyd-fynd ag agor yr adeiladau ysgol newydd ac y byddai ceisiadau am gludiant dewisol i'r ysgol categori 2 agosaf yn cael ei ystyried hefyd ar gyfer brodyr a chwiorydd i’r disgyblion presennol.  Roedd Cabinet yn fodlon bod y cynnig yn cyflwyno’r opsiwn gorau er mwyn sicrhau safon uchel o ddarpariaeth yr ysgol ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn nodi canfyddiadau'r adroddiad gwrthwynebiad;

 

(b)       ar ôl ystyried yr uchod, yn cymeradwyo'r penderfyniad i weithredu’r cynnig i gau Ysgol Rhewl ar 31 Awst 2017 a throsglwyddo'r disgyblion i adeilad newydd Ysgol Pen Barras, Rhuthun, neu Ysgol Stryd y Rhos, Rhuthun yn dibynnu ar ddewis y rhieni, a

 

(c)        bod ceisiadau am gludiant dewisol i'r ysgol categori 2 agosaf yn cael eu hystyried ar sail achos wrth achos, i ddisgyblion presennol Ysgol Rhewl a'u brodyr a'u chwiorydd am weddill eu haddysg gynradd.

 

Ar y pwynt hwn (10.55 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: