Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

EFFEITHIOLRWYDD Y CYMORTH PRESENNOL A GYNIGIR I YSGOLION O FEWN Y SIR SYDD ANGEN MEWNBWN YCHWANEGOL

Ystyried adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Herio GwE (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth am y gefnogaeth a'r her a gyflwynir i ysgolion sydd angen mwy o gymorth ac ymyrraeth er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer dysgwyr.

10.55 a.m. – 11.30 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg, Pennaeth Safonau ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE, i gyflwyno eu hadroddiad ar effeithiolrwydd y gefnogaeth bresennol sy’n cael ei chynnig i ysgolion yn Sir Ddinbych a nodwyd rhai sydd angen cefnogaeth ac ymyrraeth ychwanegol.

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod GwE, yn ystod y cyfnod cychwynnol ers ei sefydlu, yn unol â'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG), wedi canolbwyntio ar y sector cynradd yn Sir Ddinbych, oherwydd ar y pryd, roedd mwy o ysgolion yn y categori oren neu goch yn y sector cynradd yn y sir. Roedd hyn wedi talu ar ei ganfed, oherwydd erbyn hyn, nid oedd unrhyw ysgol gynradd yn y categori coch, ac roedd llai yn y categori oren ar gyfer y Sir. Fodd bynnag, roedd mwy o ysgolion cynradd yn awr yn y categori melyn a dwy ysgol yn uchel yn y categori coch, ac roedd hyn yn achos pryder. O ganlyniad, byddai ffocws y Cytundeb Lefel Gwasanaeth newydd ar ddarparu ymyrraeth a chefnogaeth i'r sector addysg uwchradd.  Mewn ymateb i gwestiynau aelodau, dyma swyddogion GwE yn-

·       Cadarnhau y rhagwelwyd y byddai un ysgol uwchradd, yn symud o'r categori coch i'r categori oren yn y dyfodol agos, wrth i weithrediad y camau yng Nghynllun Gweithredu Estyn symud ymlaen;

·       Dywedasant er gwaetha’r ffaith y byddai ffocws GwE yn y dyfodol ar y sector uwchradd, ni ddylai’r sector cynradd ddioddef, gan y byddai ymgynghorwyr her y sector cynradd yn parhau i weithio gydag ysgolion cynradd;

·       Cafodd y Pwyllgor wybod, yn rhan o gynllunio gwasanaeth GwE, roeddynt yn bwriadu adeiladu gallu a gwytnwch o fewn y sefydliad i gwrdd â’r galw yn y dyfodol, er enghraifft roeddynt wedi comisiynu athrawon a phrifathrawon o du allan i Sir Ddinbych ac athrawon/penaethiaid oedd wedi ymddeol yn ddiweddar, oedd ag enw da, i ddod mewn a herio ysgolion ar agweddau amrywiol o’u gwaith;

·       Cafodd yr aelodau wybod y byddai GwE yn llunio rhaglen gwella sgiliau gyda’r bwriad o gefnogi a datblygu prifathrawon a rheolwyr y dyfodol;

·       Cadarnhawyd, er mwyn i'r uchod fod yn llwyddiannus, roedd angen adeiladu lefel uchel o gyd-ymddiriedaeth rhwng y sefydliad, athrawon a staff yr ysgol, a chyrff llywodraethu;

·       Cawsant wybod y bydd modd defnyddio meddalwedd system tracio newydd yr wythnos nesaf a fyddai'n helpu’r awdurdod lleol a GwE i adnabod unrhyw lithriadau’n ddigon buan er mwyn gallu cymryd camau ymyrraeth a lliniaru’r risg o ganlyniadau gwael a chanlyniadau anfoddhaol ar gyfer dysgwyr;

·       Wedi rhoi sicrwydd i'r Pwyllgor nad oedd GwE yn hunanfodlon ac ni allai fforddio gadael i’r ysgolion sydd yn y categorïau melyn a gwyrdd i lithro;

·       Er mwyn i ysgol fod yn llwyddiannus, roedd angen dod o hyd i’r cydbwysedd priodol rhwng cefnogaeth ac atebolrwydd i’r staff a’r corff llywodraethu.

·       Pwysleisiodd bod disgwyl i GwE gael ei herio'n drwyadl gan Aelod Arweiniol pob awdurdod lleol ar gyfer Addysg a LlC am elfen gwerth am arian ar ei waith.

 

O ran y lefel uchel o absenoldeb, dywedodd y Pennaeth Addysg bod y Cyngor wedi cynnal llawer o waith yn y maes hwn.  Byddai ailstrwythuro'r Tîm Gwaith Cymdeithasol Addysg (GCA) hefyd yn cefnogi gwaith ar leihau absenoldeb.  Fodd bynnag, roedd caniatâd y rhieni yn cyd-fynd â'r mwyafrif o achosion absenoldeb hy, tynnu disgyblion allan o’r ysgol i fynd ar wyliau.  Roedd Sir Ddinbych wedi cyhoeddi ei Rhybudd Cosb Benodedig cyntaf (HCB) ar gyfer absenoldeb yn ddiweddar.

 

Mynegodd Aelodau eu pryderon ynghylch:

·       Nifer yr athrawon oedd yn gwneud cais am hyfforddiant prifathro a swyddi prifathrawon;

·       Nifer o athrawon da iawn a oedd yn gadael y proffesiwn addysgu i fynd i weithio i GwE a sefydliadau addysg eraill;

·       Mae'r potensial i ysgol fod yn llwyddiannus neu'n aflwyddiannus yn dibynnu ar ei brifathro a thîm arweinyddiaeth yr ysgol a'r risg potensial a achosir i lwyddiant yr ysgol petai ei brifathro/athro llwyddiannus yn cael mynd ar secondiad i GwE i herio/cefnogi "ysgolion sy'n methu". Roedd staff o dan ddigon o straen fel yr oedd hi heb osod disgwyliadau ychwanegol arnynt;

·       Y gefnogaeth sydd ar gael i gyrff llywodraethu wrth benodi staff, yn enwedig prifathrawon; a’r

·       Cymorth sydd ar gael i benaethiaid i gael rhywun i gyflenwi pan fyddant yn mynychu hyfforddiant;

·       Faint o adnoddau ariannol a dynol sydd ar gael i GwE er mwyn gallu ymgymryd â'i waith yn effeithiol; ac

·       Ar y rhagolygon tymor hir ar gyfer Ysgol Uwchradd y Rhyl yn seiliedig ar ei ganlyniadau siomedig yn 2015.

 

Dywedodd swyddogion y Cyngor:

·       Nad yw rhai o'r ysgolion sy'n perfformio orau yn Lloegr yn derbyn unrhyw gefnogaeth gan awdurdodau lleol, dylai ysgolion yn Sir Ddinbych hefyd ddyheu am ddiwylliant o beidio â bod yn ddibynnol;

·       Bod angen penodi'r bobl iawn i arwain ysgolion, trwy edrych ymhellach i ddenu'r ymgeiswyr elitaidd, byddai pennaeth da gyda dyheadau uchel a fyddai’n arwain at ganlyniadau gwell i bawb a diwylliant o beidio â bod yn ddibynnol;

·       Mae ganddynt bryderon gwirioneddol am y canlyniadau hirdymor ar gyfer un ysgol uwchradd; ac

·       Atebolrwydd y cyrff llywodraethu i benodi staff ac am berfformiad ysgolion.

 

Yn dilyn y drafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar sylwadau'r Pwyllgor -

 

(i)              Derbyn gwybodaeth a ddarperir ar y gefnogaeth a'r her a roddir i ysgolion a nodwyd, a chydnabod bod y cymorth a ddarparwyd i'r sector cynradd wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol;

(ii)             Argymell yr angen i daro cydbwysedd priodol rhwng cefnogi, herio ac atebolrwydd i ysgolion a chyrff llywodraethu ysgolion;

(iii)            Argymhellwyd bod hyfforddiant priodol yn cael ei ddarparu i lywodraethwyr ysgol i'w galluogi i gyflawni a chynnal eu rôl herio;

(iv)           Cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Ionawr 2016 yn ymwneud â rolau a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu ysgolion;

(v)            Bod yr adroddiad ar "Gwirio Arholiadau Allanol ac Asesiadau Athrawon" a drefnwyd i'w gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2016 yn cynnwys y canlyniadau cyd-ddadansoddiad GwE/Sir Ddinbych o dangyflawniad disgyblion y sir yn 2015; ac

(vi)           Gwahodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i’r cyfarfod ym mis Ionawr 2016.