Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CANLYNIADAU ARHOLIAD DROS DRO

Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon (Tudalennau 15-34)

Ystyried adroddiad gan Uwch Ymgynghorydd Herio GwE (copi ynghlwm) ar adolygu asesiadau athrawon ac arholiadau allanol.

 

Canlyniadau Safon Uwch Chweched Dosbarth y Rhyl (Tudalennau 35-42)

Ystyried adroddiad gan y Cyfarwyddwr, Coleg Llandrillo, y Rhyl (copi ynghlwm) sy’n darparu gwybodaeth i Aelodau am berfformiad Chweched Dosbarth y Rhyl.

9.35 a.m. – 10.15 a.m.

 

 

 

 

Cofnodion:

Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon

 

Cyflwynodd Aelod Arweiniol dros Addysg, y Cynghorydd Eryl Williams, adroddiad Arholiadau Allanol Dros Dro ac Asesiadau Athrawon (a ddosbarthwyd yn flaenorol).  Cyflwynwyd yr adroddiad hwn i roi gwybodaeth i Aelodau am berfformiad asesiadau athrawon ac arholiadau allanol ysgolion Sir Ddinbych yn seiliedig ar y data terfynol sydd wedi ei ddilysu ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2/3 ac arholiadau allanol Cyfnod Allweddol 4 ac Ôl-16.

 

Cyflwynwyd Dr Alwyn Jones, Pennaeth Safonau, GwE, a Marc Berw Hughes, Uwch Ymgynghorydd Her – Hwb Conwy/Sir Ddinbych, GwE i'r Pwyllgor, gan y Pennaeth Addysg, Karen Evans.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Addysg bod yr holl ganlyniadau yng Nghyfnod Allweddol 4 yn rhai dros dro ac y byddai canlyniadau wedi’u gwirio ar gael ym mis Tachwedd a data meincnodi ar gael ym mis Rhagfyr 2015.

 

Roedd yr Awdurdod Lleol wedi dewis gyda GwE bod datblygiad mathemategol yn y Cyfnod Sylfaen wedi bod yn faes oedd yn haeddu ffocws gyda'r bwriad o wella.

 

Er gwaethaf gwelliant yng nghanlyniadau Cyfnod Allweddol 2 (CA2) yn 2015 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, mae safle Sir Ddinbych wedi gostwng gan fod canlyniadau wedi gwella mewn Awdurdodau Lleol eraill.  Ar lefel CA2 daeth yn amlwg y byddai angen ymyrraeth yn gynt yn siwrnai addysg disgyblion, o bosibl yn y Cyfnod Sylfaen.  Byddai hyn yn rhoi cefnogaeth i'r disgyblion yn ystod rhan gyntaf eu haddysg ac yn eu helpu i gyflawni eu potensial yn CA2. 

 

Bu gwelliant yng nghanlyniadau Cyfnod Allweddol 3 (CA3) am y seithfed flwyddyn, a oedd yn galonogol iawn.

 

Roedd canlyniadau arholiadau allanol heb eu gwirio ar gyfer 2015 yn siomedig wrth i ganlyniadau lefelau 1 a 2 aros yr un fath, neu bu cwymp cyffredinol mewn perfformiad o gymharu â blynyddoedd blaenorol.

 

Roedd canlyniadau Cyfnod Allweddol 5 (CA5) yn debyg i'r graddau a gyflawnwyd yn y flwyddyn flaenorol.

 

 

Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd y Pennaeth Addysg a Swyddogion GwE:

 

·       Yn y Cyfnod Sylfaen, roedd Sir Ddinbych, yn debyg i Awdurdodau Lleol eraill, roeddynt wedi bod yn canolbwyntio ar lythrennedd, ac o ganlyniad, roedd sgiliau mathemategol wedi dioddef. Dyma oedd y rheswm dros ganolbwyntio ar ddatblygiad mathemategol yn y dyfodol ac i adnabod anghenion addysgol arbennig (AAA) yn fuan yn natblygiad disgybl er mwyn targedu'r ymyrraeth gywir a rhoi cefnogaeth iddynt.  Heb gymorth wedi'i dargedu yn gynnar, gallai'r disgyblion gael trafferth â phob pwnc Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemategol (STEM) yn y pendraw;

·       Roedd wedi bod yn siomedig nodi bod ysgolion uwchradd sy’n perfformio'n dda wedi llithro eleni yn erbyn perfformiad blaenorol, gan fod yr ysgolion hynny wedi derbyn cefnogaeth allanol dwys tan yn ddiweddar. Cafodd hyn ei briodoli i'r ffaith bod GwE, yn ystod ei gyfnod cychwynnol ers ei sefydlu, wedi canolbwyntio llawer o'i adnoddau a’i waith ar y sector cynradd, er anfantais i’r sector uwchradd.  Roedd canlyniadau Ysgol Uwchradd y Rhyl yn arbennig o siomedig gan fod ei ganlyniadau eleni wedi bod ar yr un lefel â'r canlyniadau a gyrhaeddwyd pan oedd dan fesurau arbennig.  Byddai hyn yn achos brys ar gyfer ymyrraeth a gwelliant.  Roedd Ysgol Uwchradd y Rhyl wedi gofyn i nifer o bapurau arholiad ei disgyblion gael eu hail-farcio.  Swyddogion y Cyngor a GwE wedi cwrdd â chynrychiolwyr Estyn, y Pennaeth a'r Llywodraethwyr i drafod y canlyniadau a'r pryderon cysylltiedig.  Cytunwyd y byddai Bwrdd Adfer bychan yn cael ei sefydlu, sy'n cynnwys yr Awdurdod Lleol, yr Ysgol a chynrychiolwyr Annibynnol, gyda'r bwriad o fynd i'r afael â'r problemau (rhai ohonynt wedi cael eu nodi gan Estyn ddwy flynedd yn gynharach) ac i wella deilliannau i ddisgyblion;

·       Mewn cyfarfod diweddar gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru (LlC), GwE a chynrychiolwyr yr  Awdurdod Lleol, cytunwyd bod angen rhoi gwybod i’r Adrannau Adnoddau Dynol am faterion gallu yn ymwneud ag athrawon unigol yn gynnar, gyda’r bwriad o’u cefnogi i gael y sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r canlyniadau gorau posibl ar gyfer disgyblion;

·       Hefyd, roedd angen i Benaethiaid dynnu sylw eu Corff Llywodraethu, at unrhyw feysydd o bryder a risg yn gynnar. Byddai hyn yn sicrhau bod y Corff Llywodraethu yn ymgymryd â’i rôl mewn modd cadarn a heriol i sicrhau cefnogaeth i ddisgyblion allu cyflawni eu llawn botensial;

·       Ni fu unrhyw arwydd ystod blwyddyn ysgol 2014/15 bod perfformiad disgyblion y Sir mewn arholiadau allanol yn debygol o ddirywio;

·       Mae ysgolion unigol yn gosod eu targedau eu hunain;

·       Yn ystod tymor yr hydref 2015, roedd GwE yn ceisio ymweld â Chorff Llywodraethu pob ysgol i herio a phrofi’r targedau a osodwyd ganddynt, ac i weithio gyda Llywodraethwyr i wella eu sgiliau i fod yn fwy cadarn a heriol;

·       Roedd GwE, fel sefydliad, wedi bod yn destun monitro a herio yn rheolaidd gan Lywodraeth Cymru.  Roedd dau o'r consortia effeithiolrwydd a gwelliant ysgolion eraill yng Nghymru wedi wynebu heriau enfawr, ac o ganlyniad maent wedi cael buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Er gwaethaf y buddsoddiad, nid oedd y naill gonsortia na'r llall wedi sylweddoli eu potensial disgwyliedig.  Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg y byddai'n trafod hyn gyda'r Gweinidog yn ystod eu cyfarfod ganol fis Hydref;

·       Cyflogodd yr Awdurdod Lleol "swyddogion cyswllt" i gefnogi disgyblion cyfnod sylfaen integreiddio i fywyd yr ysgol a nodi cefnogaeth sylfaenol neu anghenion arbennig. O dro i dro byddai gwahaniaethau sylweddol rhwng disgyblion oedd â theuluoedd oedd cael eu cefnogi gan gynlluniau "Dechrau'n Deg" a rhai nad oedd wedi cael y gefnogaeth;

·       Mae disgyblion unigol yn datblygu ar gyflymder gwahanol rhwng 7 ac 11 oed. Mae’n bwysig felly bod unrhyw anghenion arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu hadnabod yn fuan er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer y disgyblion sydd angen cymorth;

·       Mae GwE a'r Awdurdod Lleol yn ymdrechu'n barhaus i geisio cefnogi athrawon yn eu rôl.  Fe wnaethant dracio eu perfformiad a chynnig y gefnogaeth briodol pan roedd angen. Y Corff Llywodraethu sydd â’r pwerau i benodi neu ddiswyddo staff addysgu;

·       Er bod yr Awdurdod Lleol yn cymryd lles disgyblion o ddifri, ar ganlyniadau arholiadau allanol a chanlyniadau’r disgyblion yn y pen draw y byddant yn cael eu barnu.

 

Teimlai'r Aelodau Cyfetholedig y byddai'n bwysig bod GwE a'r Awdurdod lleol yn darparu hyfforddiant a datblygiad digonol i Lywodraethwyr Ysgol i'w cynorthwyo i adnabod y data pwysicaf a’i ddadansoddi’n gywir.

 

Ar ran y Pwyllgor, diolchodd y Cadeirydd i’r Pennaeth Addysg am ei holl waith caled ar y mater hwn.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y  Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn derbyn yr adroddiad ac i wahodd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i fod yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Perfformiad ym mis Ionawr 2016, lle byddai'r canlyniadau arholiadau wedi’u gwirio yn cael eu cyflwyno.

 

 

Canlyniadau Safon Uwch Chweched y Rhyl

 

Cyflwynodd Pennaeth Addysg Bennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo, Y Rhyl - Celia Jones, a Rheolwr Rhaglen Chweched Y Rhyl - Martin Evans.

 

Rhoddodd Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo, y Rhyl, drosolwg o'r cefndir i sefydlu Chweched y Rhyl a dywedodd wrth yr Aelodau bod canlyniadau Lefel A a Bagloriaeth Cymru a gyflawnwyd gan y myfyrwyr eleni yn gadarnhaol ar y cyfan.  Cyflwynwyd gwybodaeth ystadegol i’r Pwyllgor yn dangos cyfraddau a graddau pasio y Coleg o gymharu â Sir Ddinbych yn ei chyfanrwydd a Chymru a Lloegr. 

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo a Rheolwr Rhaglen ar gyfer Chweched Y Rhyl:

 

·       Maent wrthi’n gwneud darn o waith i ganfod nifer y myfyrwyr o'r Rhyl sy’n mynychu ysgol neu gampysau coleg eraill ar gyfer eu haddysg bellach, ond yn gyffredinol y gred oedd bod y mwyafrif o’r myfyrwyr presennol yn Chweched y Rhyl yn gyn-ddisgyblion naill ai yn Ysgol Uwchradd y Rhyl neu Ysgol y Bendigaid Edward Jones, ynghyd ag o ychydig o gyn ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd;

·       Roedd amrywiaeth o resymau am y nifer ymddangosiadol uchel o fyfyrwyr a oedd wedi rhoi'r gorau i’w cyrsiau rhwng blynyddoedd 12 a 13. Roedd y rhesymau yn cynnwys sylweddoliad ar ran y myfyrwyr nad llwybr Lefel A oedd orau iddyn nhw.  Roedd y myfyrwyr hyn yn dewis cyrsiau oedd yn fwy galwedigaethol fel rheol. Roedd eraill wedi rhoi’r gorau i’w cyrsiau Lefel A oherwydd diffyg cefnogaeth i’w hastudiaethau o gartref;

·       Mae canlyniadau addysgol i bob myfyriwr sydd wedi’u cofrestru yn y coleg yn cael tracio, ac er gwaethaf y canfyddiad bod nifer uchel o fyfyrwyr wedi rhoi’r gorau i’w cyrsiau Lefel A rhwng Blynyddoedd 12 a 13, roedd y canlyniadau addysg gwirioneddol i bob myfyriwr yn dda.  Mae pob un heblaw dau a fu drwy Chweched y Rhyl y llynedd wedi cyflawni canlyniadau llwyddiannus;

·       Roedd y Coleg yn cydnabod arwyddocâd pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) a'u pwysigrwydd i'r economi lleol a chyflogwyr.  Roedd y Coleg yn gweithio’n agos gyda diwydiant lleol i geisio diwallu eu hanghenion ac i fonitro cynnydd cyn-fyfyrwyr;

·       Yn debyg i chweched dosbarth ysgolion, byddai myfyrwyr coleg yn dechrau astudio 4 pwnc AS ym mlwyddyn 12, gan symud ymlaen i astudio 3 Lefel A ym mlwyddyn 13. Byddai myfyrwyr hefyd yn ymgymryd â Bagloriaeth Cymru.  Byddai myfyrwyr a oedd yn ei chael yn anodd yn ystod ac ar ddiwedd Blwyddyn 12 yn cael eu cefnogi i drosglwyddo i gyrsiau eraill mwy addas.  Ni fyddai disgwyl iddynt adael y Coleg.

·       Roedd myfyrwyr talentog a dawnus yn cael eu cefnogi i gyflawni eu llawn botensial, ac roedd cynyddu nifer y dysgwyr sy'n mynd i un o Brifysgolion  Grŵp Russell wedi ei adnabod fel un o’r meysydd yn y Coleg i’w ddatblygu yn y flwyddyn i ddod, fel yr oedd gwella cyfradd llwyddo cyffredinol y Coleg, ynghyd â’i broffil graddau.

 

Gan ymateb i bryderon yr aelodau am y nifer y sefydliadau addysg uwch, gan gynnwys prifysgolion mawr eu parch a oedd yn dal i fod yn amharod i gydnabod Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster mynediad ag enw da ar gyfer addysg uwch yn ei rinwedd ei hun, dywedodd y Pennaeth Addysg a Cydlynydd Rhwydwaith 14-19 fod hyn yn newid yn araf.  Roedd Prifysgol Caergrawnt wedi cyhoeddi’n ddiweddar y byddai yn cydnabod Bagloriaeth Cymru fel cymhwyster mynediad.  Roedd angen mwy o waith o bosibl gyda sefydliadau eraill i geisio eu perswadio am ddilysrwydd Bagloriaeth Cymru ac i'w haddysgu ar yr ymdrech a wnaed gan fyfyrwyr i ennill y cymhwyster.

 

Cyn i’r drafodaeth ddod i ben, cytunodd y Cydlynydd Rhwydwaith 14-16 y byddai’n rhoi adroddiad gwybodaeth i’r Aelodau am ddargadwad a datblygiad Dosbarthiadau Chweched yn Sir Ddinbych.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Swyddogion y Coleg am ddod i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth am ganlyniadau Lefel A Chweched Rhyl, yn amodol ar yr arsylwadau uchod.

 

 

Dogfennau ategol: