Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD RHEOLI TRYSORLYS 2014/15 - DIWEDDARIAD

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi ynghlwm) ar y gweithgareddau Rheoli Trysorlys (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Roedd adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid ar Reoli Trysorlys wedi cael ei ddosbarthu’n flaenorol.

 

Roedd yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli Trysorlys, Atodiad 1, fel yr eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, yn sôn am weithgarwch buddsoddi a benthyca'r Cyngor yn ystod 2013/14. Roedd hefyd yn rhoi manylion am y sefyllfa ariannol ar yr adeg honno ac yn dangos sut roedd y Cyngor yn cydymffurfio â'i Ddangosyddion Darbodus.   Roedd yr Adroddiad Diweddaru ar Reoli Trysorlys, Atodiad 2, yn rhoi manylion am weithgarwch Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2015/16. 

 

Roedd y term ‘rheoli trysorlys’ yn cynnwys rheoli benthyca, buddsoddiadau a llif arian y Cyngor.  Mae tua £0.5bn yn mynd drwy gyfrifon banc y Cyngor bob blwyddyn.  Swm benthyca’r cyngor heb ei dalu ar 31 Mawrth 2015 oedd £144.77m ar gyfradd gyfartalog o 5.40% ac roedd gan y Cyngor fuddsoddiadau o £28.6m ar gyfradd gyfartalog o 0.62%.

         

Roedd y Cyngor wedi cytuno y dylai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol graffu ar y gwaith o lywodraethu Rheoli Trysorlys.  Rhan o'r swyddogaeth oedd derbyn diweddariad am weithgarwch Rheoli Trysorlys ddwywaith y flwyddyn ac adolygu'r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2014/15.

 

Byddai’r tîm rheoli trysorlys yn darparu adroddiadau a hyfforddiant i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol mewn cydweithrediad â’r amserlen oedd wedi’i hymgorffori yn yr adroddiad.   Eglurwyd bod Rheoli Trysorlys yn faes cymhleth sy'n cymryd amser i'w ddeall yn llwyr a darperir diweddariadau rheolaidd. Felly, ystyriwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn fwy priodol na’r Cyngor i gael y diweddariadau hyn fel y gellid neilltuo cyfanswm yr amser a’r ymrwymiad i’r maes hwn.

 

Roedd yn ofynnol i’r Pwyllgor gael lefel benodol o ddealltwriaeth yn y maes hwn a chaiff hyn ei gyflawni drwy ddiweddariadau a sesiynau hyfforddi rheolaidd.

 

Roedd swyddogaeth y Pwyllgor yn y broses Rheoli Trysorlys yn cynnwys: -

 

·                 Deall y Dangosyddion Darbodus

·                 Deall effaith benthyca ar y sefyllfa refeniw

·                 Deall y cymhellion ehangach sy’n cael effaith ar weithgarwch Rheolwyr Trysorlys y Cyngor

·                       Sicrhau bod y Cyngor bob amser yn gweithredu mewn modd darbodus mewn perthynas â'i weithgareddau Rheoli Trysorlys

 

Pwrpas yr Adroddiad Blynyddol Rheoli Trysorlys wedi eu cynnwys yn Atodiad 1, a'r adroddiad diweddaru Rheoli Trysorlys, Atodiad 2, yn rhoi manylion yn ymwneud â: -

 

·                           Amgylchedd economaidd allanol

·                           Risgiau

·                           Gweithgarwch

·                           Rheolaethau

·                           Gweithgarwch yn y Dyfodol

 

Roedd Rheoli Trysorlys yn rhan hanfodol o waith y Cyngor a oedd yn cynnwys gofalu am symiau sylweddol o arian.  Roedd angen strategaeth gadarn a rheolaethau priodol i ddiogelu arian y Cyngor er mwyn sicrhau enillion rhesymol ar fuddsoddiadau a bod dyled yn cael ei reoli’n effeithiol ac yn ddoeth.  Roedd y Cyngor wedi mabwysiadu Cod Ymarfer diwygiedig CIPFA ac roedd yn un o ofynion y Cod hwnnw bod y Pwyllgor yn cael diweddariad ar weithgareddau Rheoli Trysorlys ddwywaith y flwyddyn ac adolygu’r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Cyllid at y goblygiadau a oedd yn codi o Ddeddf Diwygio Bancio 2014, a gyflwynwyd ym mis Ionawr, 2015, ac eglurodd nad oedd banciau bellach yn gallu dibynnu ar gael eu hachub gan y llywodraeth pe baent yn mynd i drafferthion.  Cyfeiriodd hefyd at y Gofyniad Cyllido Cyfalaf a'r trafodiad PFI yn ymwneud â Neuadd y Sir, Rhuthun, a rhoddodd fanylion yr arbedion a ragwelir sydd i'w cyflawni.  Cytunodd yr Aelodau y dylid cyflwyno adroddiad diweddaru ar y trafodiad PFI i gyfarfod y Pwyllgor ym mis Tachwedd, 2015.

 

Yn dilyn trafodaeth bellach,

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-

 

(a)             yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.

(b)             yn nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2014/15 a’i fod yn cydymffurfio â’r Dangosyddion Darbodus fel y nodir yn yr Adroddiad Blynyddol ar Reoli Trysorlys 2014/15, Atodiad 1.

(c)            nodi’r adroddiad diweddaru ar y gwaith o Reoli Trysorlys, Atodiad 2, a

(d)             yn gofyn i adroddiad diweddaru ar y trafodiad PFI gael ei gyflwyno i’w gyfarfod ym mis Tachwedd, 2015.

         (RW i Weithredu)

 

 

Dogfennau ategol: