Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM HYSBYSIAD O DDIGWYDDIAD DROS DRO - DENBIGH KEBAB AND BURGER HOUSE, 2 STRYD Y BONT, DINBYCH
Ystyried cais am
Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro yn unol â Deddf Trwyddedu 2003 mewn perthynas
â Denbigh Kebab and Burger House, 2 Stryd y Bont, Dinbych (mae amlinelliad o'r
cais a’r papurau cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen
hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod Gwrth Hysbysiad yn cael ei gyhoeddi i
wahardd Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro rhag digwydd.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn
flaenorol) ar -
(i)
Rybudd Digwyddiad Dros Dro a ddaeth i law gan Mr Kuddusi
Demir mewn perthynas ag ymestyn oriau'r Drwydded Eiddo bresennol (darparu
lluniaeth yn hwyr y nos) ar 19 a 20 Medi, 2015 yn Denbigh Kebab and Burger
House, 2 Stryd y Bont, Dinbych;
(ii)
mae gan y safle Drwydded Eiddo ar hyn o bryd er mwyn
darparu lluniaeth hwyr y nos ar gyfer yr amseroedd canlynol -
Dydd Llun i ddydd Iau |
Rhwng 23:00 a 01:00 |
Dydd Gwener a dydd Sadwrn |
Rhwng 23:00 a 01:30 |
Dydd Sul |
Rhwng 23:00 a 00:00 |
(iii)
lluniaeth hwyr y nos yn troi’n weithgaredd trwyddedadwy
rhwng 23:00pm 05:00am o'r gloch heb fod angen trwydded y tu allan i’r oriau
hyn;
(iv)
roedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno Rhybudd Digwyddiad Dros
Dro i ymestyn yr oriau y gallai lluniaeth hwyr y nos gael ei ddarparu o 01:30am
i 02:30am ar 19 a 20 Medi, 2015;
(v)
roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno Hysbysiad o
Wrthwynebiad dan Adran 104 (2) Deddf Trwyddedu 2003 (Atodiad 1 i'r adroddiad)
ar y sail y byddai caniatáu i'r eiddo gael ei ddefnyddio yn unol â'r Rhybudd
Digwyddiad Dros Dro yn tanseilio'r amcanion trwyddedu, yn benodol (1) Atal
Trosedd ac Anhrefn; (2) Diogelwch y Cyhoedd a (3) Atal Niwsans Cyhoeddus –
roedd yr Heddlu o’r farn nad oedd gan y safle ddigon o fesurau rheoli ar waith
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu a’u bod yn gwybod eu bod wedi torri eu horiau
trwyddedig;
(vi)
mae angen ystyried Canllaw a Pholisi Datganiad
Trwyddedu’r Cyngor wrth ystyried cyflwyniadau, ac
(vii)
yr opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth ystyried y
Rhybudd.
Cafwyd crynodeb o’r
adroddiad gan y Swyddog Trwyddedu ac amlinellodd ffeithiau’r achos.
SYLWADAU DEFNYDDIWR YR ADEILAD
Roedd Mr. Kuddusi Demir
yn bresennol ynghyd â'i fab Mr. Osman Demir a fu hefyd yn cyfieithu ar ei ran. Anerchodd Mr. Demir yr
Is-bwyllgor i gefnogi'r Rhybudd Digwyddiad Dros Dro a chadarnhaodd ei fod
eisiau ymestyn yr oriau fel y nodwyd yn y Rhybudd.
SYLWADAU HEDDLU GOGLEDD CYMRU
Roedd Mr Aaron Haggis,
Swyddog Trwyddedu yr Heddlu yn cynrychioli Heddlu Gogledd Cymru. Cyfeiriodd at
wrthwynebiad ysgrifenedig yr Heddlu a oedd wedi ei seilio i raddau helaeth ar
ddigwyddiadau 31 Awst 2015 pan fynychodd y Rhingyll Heddlu lleol y safle. Roedd
Rhingyll yr Heddlu yn dyst i ymddygiad gwrth-gymdeithasol gan dyrfa fawr o bobl
oedd wedi ymgynnull yn yr adeilad lle roeddynt yn parhau i weini bwyd i’r
cwsmeriaid ar ôl yr oriau a ganiateir. Y ddadl oedd, petai’r eiddo wedi cau am
1.30am, yn unol â'r oriau a ganiateir, ni fyddai pobl wedi bod yn ymgynnull yn
yr ardal. Cafwyd crynodeb o'r ymddygiad gwrthgymdeithasol a manylodd Mr. Haggis
am bryderon yr Heddlu ynghylch diffyg mesurau rheoli i ddelio â chwsmeriaid
sy’n cyrraedd a gadael yr adeilad a'r prosesau annigonol sydd yn eu lle i
leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Codwyd amheuaeth ynghylch agwedd
Mr Demir pan ddaeth yr Heddlu ato yn ystod y digwyddiad. Yn dilyn y digwyddiad
roedd yr Heddlu wedi gofyn i Adran Drwyddedu’r Cyngor ymchwilio i’r ffaith eu
bod wedi torri’r rheolau a ganiateir a chanfod a oedd modd rhoi rheolau
ychwanegol ar waith. I gloi, soniodd Mr. Haggis am ymrwymiad yr Heddlu i gefnogi
pob eiddo trwyddedig i wneud y mwyaf o gynhyrchu busnes pan fydd Rhybudd
Digwyddiadau Dros Dro yn cael eu cyhoeddi. Serch hynny, yn yr achos hwn,
teimlai’r Heddlu y byddai Digwyddiad Dros dro yn achosi anrhefn ar raddfa fawr
mewn eiddo trwyddedig.
Cafodd Mr. Demir gyfle i
ymateb i'r materion a godwyd gan yr Heddlu a thrwy ei gyfieithydd cadarnhaodd
ei fod yn derbyn fersiwn yr Heddlu o’r digwyddiadau. Fodd bynnag, i liniaru
eglurodd ei fod wedi dychwelyd o dramor y diwrnod cyn y digwyddiad, ac felly
nid oedd wedi gallu cyflwyno Rhybudd Digwyddiad Dros Dro i ymestyn yr oriau
trwyddedu ar 31 Awst 2015 unol â'r hyn yr arferai ei wneud. Fe eglurodd mai ei
fwriad oedd cau am 1.30am ond roedd grŵp mawr wedi dod mewn i'r eiddo. Penderfynodd aros ar agor
oherwydd ei fod yn awyddus i osgoi unrhyw ymladd neu wrthdaro, ac roedd yn
credu y byddai cau bryd hynny wedi achosi mwy o broblemau. Mewn ymateb i bryderon a
fynegwyd ynghylch sbwriel, eglurodd Mr. Demir bod staff wedi mynd allan a chlirio
unrhyw sbwriel ar ôl amser cau. Ei ddadl hefyd oedd, os yw’r eiddo ar agor neu
beidio, byddai pobl yn ymgynnull y tu allan, ac nid ei gyfrifoldeb o oedd delio
â nhw.
Ymatebodd yr Ymgeisydd i
gwestiynau’r aelodau fel a ganlyn -
·
roedd ei gais i 6mestyn ei oriau agor dros dro yn
cyd-daro â Gŵyl Gwrw Dinbych ar 19 Medi
·
roedd wedi rhedeg busnes am dri deg dau o flynyddoedd ac
felly roedd yn gwybod sut i ddelio â chwsmeriaid meddw a sut i weithredu i
dawelu sefyllfa
·
roedd wedi bod yn rhedeg ei fusnes yn Ninbych ers mis
Chwefror 1995
·
roedd wedi delio rhywfaint â’r Heddlu yn y gorffennol,
ond dim byd penodol am dros ddeng mlynedd
·
esboniodd yr hyn oedd yn ei feddwl tra’n ymateb i’r
Heddlu ar y noson dan sylw – dywedodd mai penderfyniad yr Heddlu oedd riportio’r
mater neu beidio, a’i fod y tu hwnt i’w reolaeth.
Mewn ymateb i gwestiynau,
gan gynnwys disgwyliadau'r Heddlu, dywedodd Mr. Haggis -
·
bod yr Heddlu ddim yn mynychu’r eiddo yn rheolaidd
·
er eu bod yn deall y goblygiadau o ran cost, byddai
defnyddio goruchwylwyr drws yn cynorthwyo wrth i gwsmeriaid gyrraedd a gadael
·
dylai Mr. Demir fod yn ymwybodol o nifer y bobl oedd yn
mynychu’r eiddo tuag at amser cau a dylai allu rheoli’r sefyllfa
·
os oes anhawster, ac er mwyn sicrhau eu bod yn
cydymffurfio â’r oriau a ganiateir, dylid ffonio’r Heddlu yn gofyn am gymorth
er mwyn gwasgaru cwsmeriaid
·
roedd y safle wedi parhau i weithredu am gryn dipyn o
amser cyn cau, oddeutu 50 munud.
·
pan roeddynt wedi cael cyfarwyddyd i wneud, roedd yr eiddo
wedi cau yn syth heb unrhyw ddigwyddiad
·
cyfrifoldeb Mr. Demir yw rheoli archebion bwyd a
chwsmeriaid er mwyn gallu cau’r eiddo ar amser yn unol â’r oriau agor a
ganiateir.
SYLWADAU TERFYNOL DEFNYDDIWR Y SAFLE
Wrth wneud datganiad
terfynol dywedodd Mr. Demir ei fod wedi cau’r eiddo cyn gynted ag yr oedd wedi
cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan Sarsiant yr Heddlu a chyda’i gymorth. Drwy
barhau i weini ar ôl oriau, dywedodd eto ei fod yn credu ei fod yn tawelu
sefyllfa a allai fod yn un beryglus ond roedd modd cau’r siop heb unrhyw
ddigwyddiad gyda chymorth yr Heddlu.
GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS
Ar y pwynt hwn (1.30pm)
gohiriwyd yr Is-bwyllgor Trwyddedu i ystyried y cais.
Y PENDERFYNIAD A'R RHESYMAU DROS WNEUD Y PENDERFYNIAD
PENDERFYNWYD cyhoeddi Gwrth-hysbysiad i Mr. Kuddusi Demir i wahardd y
digwyddiad, fel y nodir yn Rhybudd Digwyddiad Dros Dro, rhag cael ei gynnal.
Rhoddodd Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd wybod i bawb oedd yn bresennol beth
oedd penderfyniad yr Is-bwyllgor a’r rhesymau dros y penderfyniad -
Ystyriodd yr
Is-bwyllgor Trwyddedu yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd ger eu bron gan yr
Heddlu’n ofalus, ynghyd â sylwadau Mr Demir a'i eglurhad o'r digwyddiadau.
Daeth aelodau i’r casgliad bod digon o wybodaeth yn Rhybudd Gwrthwynebiad yr
Heddlu y byddai caniatáu i'r digwyddiad gael ei gynnal yn tanseilio amcanion
trwyddedig Atal Trosedd ac Anhrefn, Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Niwsans
Cyhoeddus.
Roedd yr
Is-bwyllgor yn bryderus bod Mr.Demir
wedi cymryd 50 munud dros yr amser a ganiateir i gau yn yr achos y cyfeiriodd
yr heddlu ato, ac er bod Mr. Demir wedi dweud y byddai wedi gwneud cais am
Rybudd Digwyddiad Dros dro petai wedi bod nôl yn y wlad mewn pryd, ni wnaeth, a
chan fod ganddo gymaint o brofiad yn rhedeg busnes, dylai fod wedi gallu cau ar
amser neu o fewn cyfnod byrrach o amser.
Ar ran yr Is-bwyllgor
Trwyddedu diolchodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a
Democrataidd i Mr. Demir a'i fab am ymddangos ger eu bron ac ateb cwestiynau yn
agored ac yn onest. Dywedodd hefyd nad oedd y penderfyniad yn atal Mr. Demir
rhag gwneud cais am Rybudd Digwyddiad Dros Dro yn y dyfodol.
Daeth y
cyfarfod i ben am 1.45pm.
Dogfennau ategol: