Eitem ar yr agenda
NEWIDIADAU DROS DRO I WASANAETHAU MERCHED A MAMOLAETH YNG NGOGLEDD CYMRU
- Meeting of Pwyllgor Craffu Partneriaethau, Dydd Iau, 17 Medi 2015 9.30 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried cynigion
y Bwrdd Iechyd ar gyfer newidiadau dros dro i wasanaethau merched a mamolaeth
yng ngogledd Cymru (adroddiad ynghlwm) a darparu barn y Pwyllgor i'r Bwrdd
Iechyd ar y cynigion fel rhan o'r ymgynghoriad 'Dweud eich Dweud'.
10.05 am – 10.45 am
Cofnodion:
Cyflwynodd
Gyfarwyddwr Cynorthwyol, Strategaeth ac Ymgysylltu, Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr (BIPBC), Sally Baxter, y newidiadau dros dro i Wasanaethau
Merched a Mamolaeth yng Ngogledd Cymru.
‘Dweud eich Dweud’
Roedd copi o’r
fersiwn gryno wedi’i ddosbarthu i’r aelodau gyda phapurau’r pwyllgor. Yn
ei chyflwyniad, pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol bod y newidiadau
arfaethedig yn fesur dros dro nes y gellir sefydlogi’r sefyllfa staffio. Roedd
y cynigion yn ymwneud â newidiadau dros dro i leoliad gwasanaethau obstetreg,
gynaecoleg a llawfeddygaeth y fron dan arweiniad meddyg ymgynghorol. Byddai
gwasanaethau bydwragedd a newydd-anedig yn parhau ar y tri safle. Cydnabu’r
Bwrdd bod y cynigion yn achosi pryder mawr i breswylwyr ar draws y rhanbarth,
ond yn teimlo bod yn rhaid gwneud rhywbeth dros dro i leihau’r risg i famau
beichiog a’u babanod. Yr opsiwn a ffefrir gan y Bwrdd oedd
Opsiwn 4, newidiadau dros dro i wasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd, gan
eu bod yn credu mai dyma’r opsiwn â’r effaith lleiaf sylweddol ar deithio ac y
gellir rhoi gwasanaethau eraill ar waith yn gyflym. Roedd y Bwrdd yn agored i
awgrymiadau, ac roedd y 4 opsiwn yn destun ymgynghoriad tan 5 Hydref 2015.
Cynghorwyd yr Aelodau y gallant ymateb fel unigolion ac fel Pwyllgor i’r
ymgynghoriad. Gofynnwyd i'r Aelodau hefyd i annog trigolion yn
eu wardiau i ymateb.
Cafwyd trafodaeth
ynglŷn â’r holl opsiynau ac ymatebodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol i
ymholiadau’r Aelodau fel a ganlyn:
·
Hysbysu’r
Aelodau bod digwyddiad ymgynghori cyhoeddus wedi’i drefnu ar gyfer 2 Hydref yn
Ninbych, gyda sesiynau’n cael eu cynnal am 2.00pm a 5.30pm. Gofynnodd
y Cyfarwyddwr Cynorthwyol bod yr Aelodau’n tynnu sylw’r preswylwyr at hyn.
·
Roedd
datblygiadau meddygol a thechnolegol wedi symud ymlaen yn sylweddol ers pan
adeiladwyd y tri ysbyty cyffredinol rhanbarthol, ynghyd â disgwyliadau’r
Ddeoniaeth a disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Roedd mwy o bwyslais ar
ganolfannau meddygol arbenigol â rhagoriaeth a symud cleifion o amgylchedd yr
ysbyty cyn gynted â'i bod yn ddiogel gwneud hynny.
·
Darparodd
sicrwydd i’r Aelodau y byddai gan y Bwrdd fesurau ar waith i symud mamau a oedd
angen gofal dan arweiniad meddyg ymgynghorol i’r safle priodol cyn gynted â
phosibl – os oedd yn enedigaeth a gynlluniwyd ymlaen llaw dan arweiniad meddyg
ymgynghorol, yna bydd trefniadau’n cael eu llunio ymlaen llaw iddynt allu mynd
i’w safle a ffefrir. Pe bai yn sefyllfa brys, byddai tîm
meddygol cyffredinol wrth law i sefydlogi’r claf tra gwneir trefniadau gyda’r
Gwasanaeth Ambiwlans i'w symud i’r safle agosaf sydd dan arweiniad meddyg
ymgynghorol.
·
Nifer y genedigaethau cesaraidd
brys yng Ngogledd Cymru bob blwyddyn oedd tua 1% o gyfanswm yr holl
enedigaethau.
·
Ail- gadarnhaodd bod y cynigion
yn fesur dros dro ac yn gysylltiedig â datblygu Canolfan Ofal Dwys
Newydd-anedig Isranbarthol yn Ysbyty Glan Clwyd fel canolfan ragoriaeth ar
gyfer babanod gydag anghenion sy’n fwy cymhleth - byddai’r uned hon dan
arweiniad meddyg ymgynghorol.
·
Pe
bai’n dod i’r amlwg nad oes modd datrys y problemau staffio a bod angen ymestyn
cyfnod y newidiadau dros dro, byddai’n rhaid i’r Bwrdd ail-ymgynghori ar y
cynigion gan nad oes modd eu hymestyn am gyfnod amhenodol.
·
Nododd
bod marwolaethau o bryd i’w gilydd hyd yn oed mewn unedau mamolaeth dan
arweiniad meddyg ymgynghorol.
·
Cadarnhaodd
nad oedd prinder bydwragedd yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd, a bod 27 o
fydwragedd wedi’u recriwtio’n ddiweddar.
·
Cadarnhaodd
i’r aelodau nad oedd y newidiadau dros dro yn ymarfer arbed costau. Roeddent
yn cael eu cynnig fel mesur i fynd i'r afael â phroblemau o ran lefelau staffio
a allai beri risg i fenywod ac i'r Bwrdd. Ar
ddiwedd yr ymarfer ymgynghori, byddai gweithredu unrhyw un o’r opsiynau yn
golygu goblygiadau o ran costau.
·
Roedd
y gwasanaeth presennol yn ddibynnol iawn ar feddygon ymgynghorol locwm, roedd
hyn yn anfoddhaol ac yn ddrud iawn.
·
Er y
cadarnhaodd nad oedd gan Ysbyty Gwynedd na Wrecsam Maelor lety i rieni tebyg i
Dŷ Croeso Dawn Elizabeth House ar y safle, byddai trefniadau’n cael eu
gweithredu i ddarparu llety i’r rhieni ger safle’r ysbyty os bydd angen.
·
Cadarnhaodd
y byddai crynodeb o'r ymatebion i’r ymgynghoriad ar gael ar wefan y Bwrdd maes
o law, a
·
Byddai’r
pwyntiau a godwyd yn y cyfarfod presennol yn cael eu hadrodd yn ôl fel rhan o’r
dystiolaeth a gasglwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Cyn dod â’r
drafodaeth i ben, cytunodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol y byddai’n darparu’r
wybodaeth ganlynol i’r Aelodau:
·
Dolen
i’r ddogfen ymgynghori lawn
·
Nifer
y genedigaethau problematig / cymhleth ym mhob ysbyty cyffredinol rhanbarthol
yn ystod y 3 blynedd diwethaf.
·
Nifer
y bydwragedd a adawodd gyflogaeth y Bwrdd yn ystod y tair blynedd diwethaf
ynghyd â nifer y bydwragedd a recriwtiwyd yn ystod y cyfnod hwnnw (gan gynnwys
cyfanswm y bydwragedd yn eu swyddi yn ystod y blynyddoedd dan sylw).
Anogwyd yr
aelodau i anfon unrhyw gwestiynau neu sylwadau ychwanegol y maent yn dymuno eu
cyflwyno fel rhan o'r ymarfer ymgynghori at y Cydlynydd Archwilio a fyddai wedyn
yn eu hanfon at y Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Strategaeth ac Ymgysylltu.
Mynegodd y
Pwyllgor eu diolch i Gyfarwyddwr Cynorthwyol Strategaeth ac Ymgysylltu am ddod
i'r cyfarfod, a:
PENDERFYNWYD, yn
amodol ar ddarparu’r wybodaeth uchod, nodi’r cynigion a gyflwynwyd a gofyn bod
preswylwyr Sir Ddinbych yn derbyn gwasanaeth obstetreg a gynaecoleg dan
arweiniad diogel meddyg ymgynghorol ar
safle mor agos â phosibl at eu cartrefi yn yr hirdymor, o fewn ffin y sir os
oes modd, oni bai eu bod yn agosach at uned sydd tu allan i'r sir.
Dogfennau ategol: