Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU 2014/15
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Monitro (copi ynghlwm) am Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (yr Ombwdsmon) ar gyfer 2014/15.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Swyddog Monitro, am
Adroddiad Blynyddol 2014/15 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, wedi’i
ddosbarthu’n flaenorol.
Eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod yr Ombwdsmon yn cyhoeddi adroddiad
blynyddol ar weithgareddau ei swyddfa wrth ymdrin â chwynion yn erbyn cyrff
cyhoeddus yng Nghymru. Roedd prif rolau swyddfa’r Ombwdsmon yn cynnwys
archwilio i gwynion o gamweinyddu gan gyrff cyhoeddus a chwynion yn ymwneud â
honiadau o fynd yn groes i God Ymddygiad gan aelodau etholedig y Cynghorau
Unedol, Dinas, Tref a Chymuned. Roedd Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon a elwir yn
“Gwneud i gwynion wasanaethu Cymru” yn Atodiad 1.
Roedd manylion llwythi gwaith ac ystadegau Swyddfa’r Ombwdsmon a'r
newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu’r pwerau, wedi’u
nodi yn yr adroddiad. Roedd yr Ombwdsmon yn categoreiddio cwynion Cod
Ymddygiad ac roedd dadansoddiad o’r cwynion fesul categori wedi’i ddarparu. Roedd nifer yr achosion a atgyfeiriwyd naill ai i Bwyllgor Safonau neu
Banel Dyfarnu Cymru wedi cynyddu ychydig yn 2013/14, ond roedd gryn dipyn yn is
na’r achosion a atgyfeiriwyd yn 2012/13. Cyfeiriodd y Dirprwy
Swyddog Monitro at Dudalen 43 yr adroddiad, ac amlinellodd y canrannau sy’n
ymwneud â Natur Cwynion Cod Ymddygiad yn 2014/15.
O ystyried y lefel isel o gwynion a dderbyniwyd gan Gynghorwyr ynglŷn
â’u cydweithwyr, roedd swyddfa’r Ombwdsmon wedi adolygu eu harferion a byddent
yn gweithredu’n fwy llym ar faterion yn y dyfodol gan eu hatgyfeirio yn ôl i’r
Swyddogion Monitro i gael datrysiad lleol.
Roedd Atodiad C adroddiad yr Ombwdsmon yn cynnwys dadansoddiad o’r achosion
a ddaeth a gaewyd yn 2014/15 fesul Awdurdod Lleol. O’r 132 o
achosion a gaewyd mewn perthynas ag Awdurdodau unedol roedd 2 yn ymwneud â
Chynghorwyr Sir Ddinbych, caewyd y ddau
ar ôl ystyriaeth gychwynnol heb orfod cynnal ymchwiliad. Roedd hyn yn
cynrychioli gostyngiad o’r 4 cwyn a gaewyd
yn y flwyddyn flaenorol ac roedd pob un wedi’u tynnu’n ôl neu eu dirwyn
i ben ar ôl ystyriaeth gychwynnol. Roedd dadansoddiad o’r
105 o achosion a gaewyd mewn perthynas â Chynghorau Dinas, Tref neu Gymuned, yn
dangos bod tri chwyn ynglŷn ag aelodau Cynghorau o’r fath yn Sir Ddinbych.
Roedd yr Ombwdsmon wedi adrodd ar berfformiad
swyddfa’r ombwdsmon o ran yr amser a gymerwyd i ystyried cwynion Cod Ymddygiad.
Darparwyd manylion y ddau darged a osodwyd gan yr
Ombwdsmon mewn perthynas â’r terfynau amser yn yr adroddiad.
Roedd yr Ombwdsmon wedi cyhoeddi y byddai llyfr achos Cod Ymddygiad a
gyflwynir ddwywaith y flwyddyn yn cael ei gynhyrchu’n chwarterol yn 2015/16,
fodd bynnag, oherwydd nifer isel yr achosion sydd ar gael mewn rhifynnau
chwarterol, byddai sylwadau ynglŷn â’r gwersi a ddysgwyd yn cael ei
gynhyrchu ar ddiwedd y flwyddyn yn unig. Cyfeiriodd yr Ombwdsmon
at y canllawiau diwygiedig a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn a’r prawf lles y
cyhoedd newydd, roedd y ddau ohonynt wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor yn flaenorol.
Yn dilyn trafodaeth amlygodd y Cadeirydd y materion
canlynol:-
·
Mynegodd ei ddiolch a phriodoli’r gostyngiad yn nifer y
cwynion a gofnodwyd, a oedd wedi arwain at archwiliad gan y Pwyllgor Safonau, i
waith caled a chadarnhaol y Swyddog Monitro a’r Dirprwy Swyddog Monitro wrth
drefnu digwyddiadau hyfforddi.
·
Mynegodd bryder ynglŷn ag adnoddau cyfyngedig a
chyfyngiadau ariannol Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a oedd wedi
arwain at benderfyniad ymwybodol i beidio ag ymchwilio i faterion lefel isel. Cyfeiriwyd at y
Prawf Lles y Cyhoedd llym a gymhwyswyd, y dull y datryswyd dadleuon mân a
chymhwyso gwybodaeth a ganfyddir o ragesiamplau astudiaethau achos.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn a nodi Adroddiad
Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2014/15.
Dogfennau ategol: