Eitem ar yr agenda
CAIS RHIF 05/2015/0353/PF - PEN Y GRAIG (DE-ORLLEWIN I BLAS TIRION) GLYNDYFRDWY, CORWEN
I ystyried cais i
ailddechrau defnydd preswyl o annedd ar gyfer deiliadaeth anghenion lleol a
chodi estyniad ym Mhen y Graig (de-orllewin Plas Tirion) Glyndyfrdwy, Corwen
(amgaeir copi).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cais i ailddechrau defnydd preswyl o
annedd ar gyfer deiliadaeth anghenion lleol a chodi estyniad ym Mhen y Graig
(de-orllewin Plas Tirion) Glyndyfrdwy, Corwen.
Siaradwyr Cyhoeddus -
Mr. B. Dewey (o
blaid) – Esboniodd gysylltiadau’r teulu gyda’r ardal, eu cymhwysedd ar
gyfer tai fforddiadwy, diffyg tai fforddiadwy yn yr ardal a manylion am yr
adeilad arfaethedig i’w adfer. Cyfeiriodd at ymdrechion i farchnata’r eiddo yn unol â pholisi a thynnodd
sylw at ei anaddasrwydd ar gyfer defnydd masnachol.
Trafodaeth gyffredinol – Crynhodd y swyddog cynllunio (PM) yr adroddiad
a materion polisi perthnasol a arweiniodd at yr argymhelliad i wrthod y cais. Roedd swyddogion wedi ystyried bod defnydd
preswyl o’r eiddo wedi cael ei roi o’r neilltu ac yn groes i brofion polisi HEG
4 o'r Cynllun Datblygu Lleol, ni fu unrhyw dystiolaeth bod yr eiddo wedi cael
ei farchnata ar gyfer defnydd masnachol ac nad oedd unrhyw wybodaeth ariannol
wedi cael ei ddarparu i asesu a fyddai’r annedd yn fforddiadwy ar gyfer angen
lleol. Roedd Aelodau wedi clywed gan y siaradwr cyhoeddus bod rhyw ymgais wedi’i
wneud i farchnata'r eiddo ac o ystyried ei leoliad derbyniwyd y byddai'n anodd
ailddefnyddio’r adeilad at ddibenion masnachol. Fodd bynnag, y brif sail dros wrthod oedd y mater
o angen lleol am dai fforddiadwy. Pe bai Aelodau o blaid rhoi caniatâd i’r cais dylid ystyried sut y gellid rheoli’r eiddo yn y dyfodol ar
gyfer angen lleol am dai fforddiadwy yn hytrach na’i werthu ar y farchnad
agored i rywun o du allan i'r ardal. Cadarnhaodd swyddogion na chodwyd unrhyw bryderon penodol ynghylch yr
estyniad a’r elfennau dylunio.
Siaradodd y Cynghorydd Huw Jones (Aelod lleol) o
blaid y cais a darparodd sicrwydd bod yr ymgeisydd yn fodlon derbyn amod i
sicrhau dyfodol fforddiadwy yr eiddo ar gyfer angen lleol. Cyfeiriodd at amgylchiadau’r teulu a’u
cysylltiadau â'r ardal, gan dynnu sylw at y diffyg tai fforddiadwy presennol a
rhinweddau adfer yr adeilad adfeiliedig ar gyfer defnydd preswyl.
Yn ystod y ddadl roedd yr Aelodau'n cydymdeimlo
â'r cais yn amlygu pwysigrwydd tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol. Tynnwyd sylw hefyd at y manteision o adfer
yr eiddo o ran estheteg ac effaith weledol ac ar gyfer defnydd gwerth chweil yn
hytrach na gadael iddo ddirywio ymhellach. Cyfeiriwyd at geisiadau blaenorol wrth ystyried materion cynllunio tebyg
a'r angen i ddefnyddio ymagwedd gyson a synnwyr cyffredin. Roedd llawer o drafodaeth yn canolbwyntio
ar yr elfen tai fforddiadwy a rhoddodd y swyddogion eglurhad ar faterion
penodol fel a ganlyn –
·
Roedd
y cais ar gyfer meddiannaeth anghenion lleol ac ni ellid rhoi caniatâd
cynllunio drwy ddileu’r elfen honno
·
Cyfeiriwyd
at gymhwysedd â’r broses asesu ar gyfer tai fforddiadwy lleol ynghyd â pholisi
a chanllawiau cysylltiad lleol
·
Cadarnhawyd
yn absenoldeb amod i sicrhau dyfodol yr eiddo i ddiwallu angen lleol am dai
fforddiadwy, gellid gwerthu’r eiddo ar y farchnad agored i brynwr o du allan
i'r ardal
·
Pe
bai’r cais yn cael ei ganiatáu gyda chymal tai fforddiadwy, ni fyddai’n atal yr
ymgeisydd rhag gwneud cais i gael yr amod honno wedi’i dileu yn y dyfodol pe
dangoswyd nad oedd bellach angen lleol am dai fforddiadwy.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Meirick Davies at y sylwadau hwyr a dderbyniwyd oddi wrth y Cydbwyllgor
AHNE a chynigwyd, pe bai’n cael ei ganiatáu, bod amod yn cael ei rhoi yn unol
â’r argymhellion ynglŷn â’r grisiau y credai a fyddai’n cyd-fynd yn well
â’r amgylchoedd. Nid oedd dim eilydd ar gyfer y cynnig hwnnw.
Cynnig – Cynigodd y Cynghorydd Cefyn Williams, bod y cais yn cael ei ganiatáu gydag amod i
sicrhau dyfodol yr eiddo ar gyfer angen lleol am dai fforddiadwy, eiliwyd hyn
gan y Cynghorydd Arwel Roberts.
PLEIDLAIS:
CYMERADWYO - 18
GWRTHOD - 0
YMATAL - 1
PENDERFYNWYD y dylid CYMERADWYO’R cais, yn
groes i argymhelliad y swyddog, gydag amod i sicrhau dyfodol yr eiddo ar gyfer
angen lleol am dai fforddiadwy am y rheswm y bydd yn diwallu angen lleol am dai
fforddiadwy.
Dogfennau ategol:
- ITEM 5 - PEN Y GRAIG, GLYNDYFRDWY, Eitem 5. PDF 6 KB
- ITEM 5 - PEN Y GRAIG, GLYNDYFRDWY - APPENDIX, Eitem 5. PDF 760 KB