Eitem ar yr agenda
DIOGELU CORFFORAETHOL
I ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi'n amgaeedig) ar adroddiad
Archwiliad Mewnol diweddar ar Ddiogelu Corfforaethol a gafodd sgôr sicrwydd
'Isel'.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol wedi’i ddosbarthu’n
flaenorol.
Eglurodd y Pennaeth Archwilio Mewnol fod yr adroddiad yn rhoi manylion am
yr Adroddiad Archwilio Mewnol diweddar ar Ddiogelu Corfforaethol a gafodd sgôr
sicrwydd 'Isel'. Y neges allweddol sy'n codi o'r Adroddiad Archwilio
Mewnol, Atodiad 1 yw, er nad oedd gan y Cyngor fesurau ar waith i reoli
diogelu, nid yw'r rhain yn gadarn ac nid ydynt wedi'u hymgorffori ar draws holl
swyddogaethau'r Cyngor.
Roedd angen ystyried Diogelu yn faes ‘corfforaethol’, yn hytrach na dim ond
maes ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol neu Addysg. Felly, roedd
angen i'r Cyngor godi ymwybyddiaeth drwy ail-lansio'r Polisi Diogelu Corfforaethol,
a sicrhau fod ei Aelodau Etholedig a’i swyddogion wedi cael eu hyfforddi yn
ddigonol.
Roedd yr Adroddiad Archwilio Mewnol yn cynnwys Cynllun Gweithredu a oedd yn
codi 12 maes i'w gwella. Roedd y Panel Diogelu Corfforaethol wedi cymryd
perchnogaeth dros y cynllun gweithredu drwy'r Cyfarwyddwr Corfforaethol:
Cymunedau, a chytunwyd ar gamau gweithredu, cyfrifoldebau ac amserlenni i fynd
i'r afael â'r holl faterion.
Mynegodd y Cadeirydd bryder nad oedd y mesurau sydd ar waith i reoli
diogelu wedi cael eu hymgorffori yn gorfforaethol ar draws holl swyddogaethau'r
Cyngor.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, teimlwyd, gan fod risgiau wedi
cael eu nodi ar lefel gorfforaethol, a gyda golwg ar greu ymwybyddiaeth
gorfforaethol, dylai fod cofnod yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol mewn
perthynas â'r mater hwn. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau
(CDC) at y risg yn ymwneud â diogelu a dealltwriaeth o'r gwahaniaeth rhwng
diogelu a dyletswyddau statudol yn ymwneud ag amddiffyn oedolion a phlant
diamddiffyn. Eglurwyd nad oedd y mater o Ddiogelu Corfforaethol
yn ymwneud â'r ddyletswydd statudol sy'n llywodraethu Gwasanaethau Cymdeithasol
ac Addysg ond yn ymwneud â risg cyffredinol. Pwysleisiodd y byddai
angen i'r Pwyllgor benderfynu a yw'r bwrdd yn cyflawni cyfrifoldebau Diogelu,
a'r rheolaethau ac roedd y mesurau lliniaru sy'n cyfeirio at y Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol, y Cynllun Gweithredu a chyfrifoldebau o wella ymwybyddiaeth
a pherchnogaeth, wedi eu cynnwys yn y camau gweithredu.
Dywedodd y Pennaeth Archwilio Mewnol, ers cynnal yr archwiliad, a
chyflwyno’r Cynllun Gweithredu, bod y Gofrestr Risg Gorfforaethol wedi cael ei
newid ac y byddai'n amodol ar y camau gweithredu priodol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd H.H. Evans,
Aelod Arweiniol dros Ddiogelu Corfforaethol, at bwysigrwydd cadw'r Dyletswyddau
Statudol yn ymwneud â’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ar wahân, a
phwysleisiodd yr angen i gymryd cyfrifoldeb corfforaethol am ddiogelu er nad
oedd yr agwedd hon yn cael ei hystyried yn Gyfrifoldeb Statudol. Eglurwyd ei fod
wedi cymryd cyfrifoldeb a pherchnogaeth dros Ddiogelu Corfforaethol, a’n bod
eisoes wedi mynd i’r afael â rhai o'r materion sy'n peri pryder a amlygwyd gan
yr Archwiliad Mewnol. Rhoddwyd sicrwydd i’r Pwyllgor y byddai proffil
Diogelu Corfforaethol yn cael ei ddyrchafu, a chadarnhaodd y Cynghorydd Evans y
byddai'n arwain ar gyfuno Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Plant ac Addysg. Awgrymodd hefyd
y byddai'n fuddiol pe bai’n aelod o'r Panel Diogelu, gyda'r bwriad o fonitro
ymateb yr Awdurdod i gymryd perchnogaeth dros Ddiogelu Corfforaethol ac ymateb
i ddisgwyliadau.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, tynnwyd sylw at y materion canlynol a
rhoddwyd ymatebion gan y swyddogion:-
-
rheoli Diogelu ym mhob Adran, a mabwysiadu arferion gorau
ac ymagwedd unffurf o fewn yr Awdurdod.
-
cyflwyno archwiliad gan y Panel Diogelu Corfforaethol
gyda’r bwriad o greu cysondeb o fewn Adrannau unigol.
-
cyfeiriwyd at y farn a fynegwyd yn Adolygiad Swyddfa
Archwilio Cymru o drefniadau Diogelu Corfforaethol yng Nghynghorau Cymru, a
chydnabuwyd y daith rydym arni. Cytunodd y CDC y gellid rhannu dolen i Adolygiad
Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Diogelu Corfforaethol yng Nghynghorau
Cymru gydag Aelodau'r Pwyllgor.
-
manylion darpariaeth hyfforddiant Diogelu i Aelodau
Etholedig a swyddogion.
-
amlinelliad o effaith y newidiadau a brofwyd, a
natur gadarn y gwasanaethau statudol a ddarperir gan yr Awdurdod.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru (GB) at yr Adroddiad
Cenedlaethol a chadarnhaodd bod y polisïau’r Awdurdodau yn eu lle ac yn addas
at y diben. Cyfeiriodd hefyd at y Cynllun Gweithredu a'r angen
a phwysigrwydd symud ymlaen i'w weithredu.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd cytunodd yr Aelodau i gynnwys adroddiad
cynnydd yn rhaglen gwaith i’r dyfodol gychwynnol y Pwyllgor ar gyfer mis
Ionawr, 2016, gyda'r bwriad o asesu effaith rhoi’r Cynllun Gweithredu ar waith.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cyfeiriodd y CDC at y rhaglen
hyfforddiant orfodol, a'r ddarpariaeth hyfforddiant a drefnwyd ar gyfer tair
sesiwn Briffio nesaf y Cyngor. Mae'r meysydd i'w cwmpasu’n cynnwys: -
·
Cyflwyniad i Ddiogelu a Gwarchod.
·
Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant
·
Gwersi a ddysgwyd oddi wrth Awdurdodau eraill.
Eglurwyd y byddai Grŵp Tasg a
Gorffen yn cael ei sefydlu yn dilyn y sesiwn briffio derfynol a fyddai’n
cynnwys Aelodau a swyddogion i archwilio gwersi a ddysgwyd oddi wrth awdurdodau
lleol eraill lle y bu problemau diogelu a'r gwahanol becynnau hunan asesu /
llinell sylfaen sydd ar gael. Yna gellid
defnyddio’r wybodaeth hon i gynnal hunanasesiad yn erbyn y canfyddiadau unigol. Pwysleisiodd y
Cadeirydd bwysigrwydd dysgu gwersi o brofiadau Awdurdodau eraill.
PENDERFYNWYD bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn:-
(a)
derbyn yr
adroddiad Archwilio Mewnol.
(b)
nodi'r sicrwydd
bod y Cynllun Gweithredu yn yr adroddiad yn cael ei roi ar waith yn effeithiol
ac o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnynt.
(c)
gofyn i gael rhannu dolen
i Adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o Drefniadau Diogelu Corfforaethol yng
Nghynghorau Cymru gydag Aelodau'r Pwyllgor, a
(d)
cytuno i gynnwys
adroddiad cynnydd yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer mis Ionawr,
2016, gyda'r bwriad o asesu effaith rhoi’r Cynllun Gweithredu ar waith.
(NS, IB i Weithredu)
Dogfennau ategol: