Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD GWELLA BLYNYDDOL SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Cynllunio a Pherfformiad Strategol (copi ynghlwm) i roi gwybod i’r Cyngor am gasgliad a chynigion gwelliant y Swyddfa Archwilio, a sicrhau bod y Cyngor yn cymeradwyo’r ymateb i'r Adroddiad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Adroddiad Gwella Blynyddol Swyddfa Archwilio Cymru ( a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu’r Cyngor o gasgliad Swyddfa Archwilio Cymru a’r cynigion ar gyfer gwella, a sicrhau cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer ymateb i’r Adroddiad.

 

O dan y Mesur Llywodraeth Leol, mae Swyddfa Archwilio Cymru yn adolygu cynnydd y Cyngor yn flynyddol tuag at gyflawni ei amcanion a'i ragolygon er mwyn parhau i wella yn ystod y flwyddyn i ddod.

 

Yn gyffredinol, roedd yn adroddiad cadarnhaol iawn.   Roedd yr adroddiad wedi amlygu dau faes i’w gwella ond nid oedd unrhyw argymhellion pellach yn yr adroddiad.   Y ddau faes i’w gwella a gynigwyd oedd:

 

(a)  Sicrhau bod swyddogaethau a chyfrifoldebau yn glir ar gyfer cyflawni’r amcan tai fforddiadwy newydd.

(b)  Adolygu ei arferion gwaith yn erbyn yr argymhellion yn Adroddiadau Cenedlaethol Llywodraeth Leol 2014-2015 yr Archwilydd Cyffredinol, a gweithredu gwelliannau yn ôl yr angen.  Roedd Adroddiadau Cenedlaethol Llywodraeth Leol yn cwmpasu meysydd megis Archwilio, pobl ifanc sy’n NEET, a'r Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd.

 

Cadarnhaodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru, Gwilym Bury, nad oedd unrhyw argymhellion wedi’u cyflwyno yn yr adroddiad dim ond dau gynnig ar gyfer gwella.   

 

Y canfyddiadau oedd:

·       bod y defnydd o safonau perfformiad yn parhau i hyrwyddo diwylliant cyson o uchelgais ar draws gwasanaethau’r Cyngor.

·       Ar y cyfan, roedd perfformiad yr adran gofal cymdeithasol yn gryf ond byddai angen gwerthuso cyflwyniad modelau newydd o weithio ar gyfer gwasanaethau plant ac oedolion yn fanwl trwy gydol y flwyddyn sydd i ddod.

·       gwnaed cynnydd cyfyngedig i ddelio â thanberfformiad o ran darparu tai fforddiadwy, ond roedd y Cyngor wedi cynorthwyo i atal nifer o bobl rhag bod yn ddigartref.

·       roedd y Cyngor wedi gwella perfformiad ei wasanaeth Adnoddau Dynol.

·       roedd cynnydd mentrau i gefnogi economi Sir Ddinbych wedi bod yn anghyson, ond roedd trefniadau gwell yn debygol o gefnogi nodau’r Cyngor.

·       Roedd y Cyngor wedi cyflawni cynnydd o ran ymrwymo ei Daliadau Tai Dewisol a byddai gwelliannau o ran monitro ers Ebrill 2015 yn cynorthwyo i egluro eu heffaith.

·       Gwnaed cynnydd pellach i wella gallu staff y Cyngor i siarad Cymraeg.

 

Roedd gan y Cyngor drefniadau rheolaeth ariannol da heb unrhyw ddiffygion presennol.   Hefyd, roedd trefniadau rheoli risg y Cyngor yn gadarn ac yn addas i bwrpas ac yn cynhyrchu gwerthusiadau cytbwys a llawn gwybodaeth o’i berfformiad.

 

Cafwyd trafodaeth bellach a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·       Gofynnodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies am gopi o Adroddiad Gwella Blynyddol 2014/15 yn Gymraeg, a darparwyd hyn gydag ymddiheuriad nad oedd yr adroddiad wedi’i gyhoeddi gyda phecyn  adroddiadau’r Cyngor.

·       Cododd nifer o aelodau’r mater o ran Tai Fforddiadwy.   Eglurodd Gwilym Bury o Swyddfa Archwilio Cymru nad oedd prisiau tai yn Sir Ddinbych wedi cynyddu o 10% i alluogi ail-ystyried nifer y tai fforddiadwy.  Roedd nifer y tai newydd a adeiladwyd yn y sir wedi bod yn isel o gymharu â gweddill Cymru.   Felly, byddai’n heriol yn y dyfodol ond byddai potensial i’r Cymdeithasau Tai adeiladu mwy o dai ac i'r Awdurdod Lleol gymryd mantais o gymhorthdal diwygio tai. 

·       Nid oedd y broses o ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd wedi’i chynnwys yn y ffigyrau Tai Fforddiadwy.   Er bod Sir Ddinbych wedi gweithio’n dda ar y prosiect dim ond tai newydd yr oedd ffigyrau’r tai fforddiadwy’n eu cynnwys.

·       Roedd cynnig i wella pobl ifanc nad oeddent mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) wedi’i gwestiynu gan y Cynghorwyr.   Eglurwyd bod y cynnig wedi’i gyflwyno i’r holl Awdurdodau Lleol fel gwelliant.    Byddai strwythur ffurfiol i ymateb i’r cynigion gwella.   Roedd ymarfer wedi’i gynnal i asesu adroddiadau blaenorol ac i gasglu gwybodaeth o heriau gwasanaeth.   Eglurodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg y byddai Ann Jones A. C yn anfon ymateb ynglŷn â’r mater.

·       Diolchodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, i gynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru am yr adroddiad cadarnhaol.   Er bod Sir Ddinbych yn edrych fel Cyngor sy’n perfformio’n dda, pwysleisiwyd na ddylid bod yn hunanfodlon.   Byddai’n anodd yn yr hinsawdd gyfredol ond y disgwyliad gan Lywodraeth Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru fyddai'r un fath gyda llai o adnoddau.   Gofynnwyd am ystyriaeth i hyn yn y dyfodol.   

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, eiliwyd gan y Cynghorydd Barbara Smith.

 

Cafwyd pleidlais trwy godi dwylo – cefnogwyd yr argymhelliad yn unfrydol.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, bod y Cyngor yn nodi ac yn derbyn yr Adroddiad Gwella Blynyddol gan Swyddog Swyddfa Archwilio Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: