Eitem ar yr agenda
CYMERADWYO'R DATGANIAD CYFRIFON 2014/15
Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi ynghlwm) ar y Datganiad o Gyfrifon
2014/15.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid wedi cael
ei ddosbarthu yn flaenorol.
Cyflwynodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill a'r Prif
Swyddog Tân yr adroddiad. Eglurwyd bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i
baratoi datganiad cyfrifon sy’n cydymffurfio â safonau cyfrifo cymeradwy. Roedd yn rhaid i aelodau etholedig
gymeradwyo'r cyfrifon a archwiliwyd yn ffurfiol ar ran y Cyngor.
Rhoddodd y Rheolwr Sicrwydd Cyllid fanylion cefndir
yn ymwneud â'r broses a chadarnhaodd fod y datganiadau ariannol ar gyfer
2014/15 wedi cael eu cymeradwyo, yn amodol ar archwiliad, gan y Prif Swyddog
Cyllid ar 25 Mehefin, 2015. Roedd y cyfrifon drafft wedi eu cyflwyno i'r
Pwyllgor ar 23 Gorffennaf, 2015 fel y cytunwyd yn ei gyfarfod ym mis Mai.
Mae’r Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio yn gofyn i’r
Cyngor gymeradwyo’r cyfrifon a archwiliwyd, gan gynnwys barn yr archwilydd
allanol, yn ffurfiol erbyn diwedd mis Medi.
Roedd y Datganiad Cyfrifon wedi’i gynhyrchu’n unol
â'r Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol. Cynhyrchodd Sefydliad
Siartredig Cyllid a Chyfrifeg Cyhoeddus y Cod Ymarfer ar Gyfrifeg Awdurdodau
Lleol, yn seiliedig ar Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol ac roedd y Cyngor
wedi paratoi Cyfrifon 2014/15 yn unol â'r Cod hwnnw. Roedd y
cyfrifon yn cynnwys barn gyfrifo a thystysgrif archwilio diamod.
Roedd manylion y Safonau Adrodd Ariannol
Rhyngwladol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Byddai’r cyfrifon ar
gael i’w harchwilio yn ôl y gofyn ac roeddent wedi bod ar gael i’r cyhoedd eu
harchwilio. Roeddynt wedi cael eu harchwilio gan Swyddfa
Archwilio Cymru a oedd wedi cyflwyno trosolwg o’u canfyddiadau ac asesiad o’r
broses mewn adroddiad i’r Pwyllgor.
Arweiniodd y broses archwilio at rai newidiadau
technegol ac at gywiriadau a newidiadau eraill, ac roedd manylion wedi eu
cyflwyno adroddiad yr Archwilydd.
Darparodd Rheolwr Sicrwydd Ariannol grynodeb o’r
Datganiad Cyfrifon ac amlygwyd y meysydd canlynol: -
· Tudalen 21 -
Trosglwyddo yn ôl ac ymlaen o Gronfeydd Wrth Gefn.
· Page 80 -
Lwfansau Aelodau.
· Page 83 -
Rhagair Esboniadol.
· Tudalen 84 - Canlyniad Refeniw Terfynol a
thanwariant o £1.3 miliwn.
· Tudalen 85 -
Crynodeb Cyfalaf.
· Tudalennau 94,
95 - Symud Refeniw.
· Tudalen 97 -
Cyfrif Incwm a Gwariant
· Tudalen 99, 100
- Mantolen.
· Tudalen 143 -
Cronfeydd Wrth Gefn y Gellir eu Defnyddio
· Tudalen -
·
Tudalen 155 - Cysoni Incwm a Gwariant Bloc y Gwasanaeth a
Gwaith a wnaed gyda Llywodraeth Cymru.
· Tudalen 160 - Lwfansau
Aelodau.
· Tudalen 161,
164 – Cydnabyddiaeth Ariannol a Phecynnau Ymadael Swyddogion.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru (AV) at Atodiad 2,
"Archwilio Ddatganiadau Ariannol, Cyngor Sir Ddinbych 2014/15" a
thynnodd sylw Aelodau at y tabl Cynnwys ar Dudalen 239 yr adroddiad, a oedd yn
cynnwys rhai o'r materion i'w hadrodd ymlaen llaw at eu cymeradwyaeth,
cyfeiriwyd yn benodol at: -
-
Bwriad yr Archwilydd Cyffredinol i gyhoeddi adroddiad
archwilio diamod ar Ddatganiadau Ariannol y Cyngor.
-
y farn bod y datganiadau cyfrifo a nodiadau cysylltiedig
yn rhoi trosolwg gwirioneddol a theg o sefyllfa ariannol Cyngor Sir Ddinbych ar
31 Mawrth 2015 a’i incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben.
Eu bod wedi’u paratoi’n gywir yn unol â’r Cod Ymarfer ar
gyfer Cyfrifo Awdurdod Lleol yn y Deyrnas Unedig 2014-15.
-
Statws yr Archwiliad a manylion yn ymwneud â meysydd
gwaith a oedd yn dal heb eu gwneud, ond sydd wedi eu cwblhau bellach.
-
manylion yr Adroddiad Archwilio arfaethedig, fel yr amlinellir
yn Atodiad 2.
-
materion sylweddol yn codi o'r archwiliad a darparu
sicrwydd bod y broses wedi bod yn agored a thryloyw.
-
mae'r datganiadau ariannol drafft wedi'u paratoi i safon
dda.
-
cadarnhad bod pob camddatganiad a nodwyd wedi cael eu
haddasu a'u gywiro.
-
mynegwyd gwerthfawrogiad i'r staff a oedd wedi bod yn
barod i gydweithredu a chynorthwyo.
-
manylion am y pedwar argymhelliad, a chyfeiriwyd yn
arbennig at y broses o brisio asedau sefydlog yr Awdurdod, a maint yr arian
wrth gefn a darpariaethau.
-
cadarnhad o annibyniaeth tîm Archwilio Swyddfa Archwilio
Cymru.
Mynegodd y Cadeirydd ei werthfawrogiad o'r gwaith a wnaed gan y Prif
Swyddog Cyllid a'i swyddogion, a Swyddfa Archwilio Cymru.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, darparodd Cynrychiolydd Swyddfa
Archwilio Cymru fanylion amserlenni posibl yn y dyfodol mewn perthynas â'r
cyfeiriad a wnaed at gau cyfrifon Awdurdodau Lleol yn gynharach yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD - bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn cymeradwyo Datganiad
Cyfrifon 2014/15, sef Atodiad 1 yr adroddiad
(b)
yn gofyn i’r
Cadeirydd ac i’r Prif Swyddog Cyllid lofnodi’r Cyfrifon a’r Llythyr Sylwadau.
(RW, SG i Weithredu)
Dogfennau ategol:
- State Accounts Report, Eitem 8. PDF 81 KB
- State Accounts App 1, Eitem 8. PDF 2 MB
- State Accounts App 2, Eitem 8. PDF 258 KB