Eitem ar yr agenda
PROTOCOL HUNANREOLEIDDIO AR GYFER CYNGHORAU DINAS, TREF A CHYMUNED
Ystyried
adroddiad gan y Dirprwy Swyddog Monitro (copi ynghlwm) ar y protocol drafft.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan y Swyddog Monitro, ar ddrafft protocol tebyg i fersiwn y
Cyngor Sir a addaswyd i ystyried maint, cyfansoddiad ac adnoddau Cynghorau
Cymuned, wedi'i ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.
Roedd y Pwyllgor wedi bod yn rhan o ddatblygiad y
Protocol Hunanreoleiddio ar lefel y Cyngor Sir. Roedd Ombwdsman
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi argymell bod Protocol Hunanreoleiddio yn cael
ei ddatblygu ar lefel gymunedol maes o law. Ni nodwyd unrhyw derfyn
amser penodol a’r opsiwn o fabwysiadu oedd un ar gyfer pob Cyngor Dinas, Tref a
Chymuned.
Roedd
drafft y protocol wedi’i gynnwys fel Atodiad 1, ynghyd ag egwyddorion
amlinellol. Ni awgrymwyd y dylai’r
protocol fod yn llawer mwy manwl na hyn gan y dyluniwyd y broses i fod yn
ysgafn o ran papurau, gan bwysleisio trafodaethau wyneb yn wyneb, cyflafareddu
a datrys dadleuon neu faterion mewn dull cymodol.
Eglurwyd
y gall y Pwyllgor Safonau ystyried y dylai bod eu rôl yn fwy, neu’n llai, a
cheisiwyd cyfeiriadaeth ar y mater hwn. Byddai mewnbwn yr Ombwdsmon yn isel gan mai’r mater oedd datrys y dadleuon
lefel isel y dylid gallu eu datrys yn lleol ar lefel gymunedol, neu gyda
chymorth dull adolygu cyfoedion gyda chefnogaeth gan Gyngor Cymuned cyfagos;
atgyfeirio at y Pwyllgor Safonau llawn yw’r cam olaf. Cyfeiriodd
y Dirprwy Swyddog Monitro at dudalen 131 y rhaglen a darparu crynodeb o Atodiad
1 o ddrafft Protocol Hunanreoleiddio Aelodau.
Eglurodd
y Cyng. W.L. Cowie ei fod yn falch gyda’r adroddiad a allai gynorthwyo Clercod
ac Aelodau Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned gyda’r broses gyflwyno. Awgrymodd y Cadeirydd y gall y
Pwyllgor Safonau argymell bod proses gyflwyno yn cael ei chyflwyno ar gyfer pob
Cynghorydd newydd. Awgrymodd
yr Aelod Annibynnol Anne Mellor (AM) y dylid ystyried bod Cynghorwyr newydd yn
ymweld â Chyngorau eraill i weld y gweithrediadau.
Teimla’r
Cadeirydd mai’r dewis olaf yw atgyfeirio at Aelodau o'r Pwyllgor Safonau yn
unig, gyda’r nod o beidio â gwaethygu materion. Eglurodd y gallai cyfranogiad o’r fath ragfarnu Aelod, a’u heithrio rhag
gwneud penderfyniad ar weithrediadau Pwyllgor Safonau ar gam hwyrach yn y
broses.
Mewn
ymateb i awgrymiadau a wnaed gan Aelodau’r Pwyllgor, cytunwyd ar y diwygiadau
canlynol i Egwyddorion Cyffredinol Protocol Hunanreoleiddio Aelodau.
·
Aralleirio Pwynt Bwled 1.
·
Pwynt Bwled 2, newid “nid ar
gyfer cwynion” i “ac nid yw’n berthnasol i gwynion”.
·
Pwynt Bwled 7, dileu’r gair
“bydd”.
Awgrymodd
yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) y dylid cynnwys eglurhad yn y Siart Llif
fod y Cod yn berthnasol i Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned ac nid Cynghorau
Cymuned yn unig. Awgrymodd y Cyng. M.Ll.
Davies bod y gair Cynghorau’n cael ei ddefnyddio wrth
gyfeirio at Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, ac y defnyddir Cyngor Sir wrth
gyfeirio at y Cyngor Sir yn unig.
Yn
ystod y drafodaeth cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro, yn dilyn cynnwys y
diwygiadau a awgrymwyd, bod drafft Protocol Hunanreoleiddio Aelodau’n cael ei
gyflwyno i gyfarfod Clwstwr Clercod i dderbyn eu safbwyntiau, cyn ei
ailgyflwyno i’r Pwyllgor Safonau i’w ystyried.
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau: -
(a)
yn derbyn drafft Protocol Hunanreoleiddio Aelodau.
(b)
Yn cytuno bod y diwygiadau uchod yn cael eu cynnwys, cyn cyflwyno drafft
Protocol Hunanreoleiddio Aelodau i gyfarfod Clwstwr Clercod, a
(c)
Gofyn bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau.
(LJ i Weithredu)
Dogfennau ategol: