Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

BIPBC YNG NGHONWY A SIR DDINBYCH

Ystyried cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Ardal Ganol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y cynnydd a wnaed ar ddatblygu strwythur ardal ar gyfer y Bwrdd Iechyd yn ardaloedd Conwy a Sir Ddinbych.

11.00 am – 11:30 am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Gyfarwyddwr Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych, Bethan Jones, gyflwyniad BIPBC yng Nghonwy a Sir Ddinbych.  

 

Croesawyd y Cyfarwyddwr Ardal i'r cyfarfod ac aeth ymlaen i roi cyflwyniad ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn i ddatblygu strwythur ardal is-ranbarthol ar gyfer gwaith y Bwrdd Iechyd yng Nghonwy a Sir Ddinbych.   Eglurodd y Cyfarwyddwr Ardal sut y byddai'r strwythur newydd yn ymgysylltu a rhyngweithio gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid.  Yn ystod ei chyflwyniad rhoddodd y Cyfarwyddwr Ardal drosolwg o'r Tîm Arweinyddiaeth a’r Strwythur Ardal a oedd yn gweithredu oddi tano.  Amlinellodd y Gwasanaethau Cymorth Corfforaethol sydd ar gael iddynt, egwyddorion gweithredu'r Strwythur Ardal a'u blaenoriaethau allweddol ar gyfer y tair blynedd nesaf. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau:

 

·       Cadarnhaodd bod y Bwrdd Iechyd wedi sefydlu tri strwythur “ardal newydd” ar gyfer Gogledd Cymru, yn seiliedig yn ardaloedd awdurdodau lleol:

Ø   Ynys Môn a Gwynedd

Ø  Conwy a Sir Ddinbych, a

Ø   Sir y Fflint a Wrecsam

Y safle ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych oedd Ysbyty Llandudno.

·       Cytunodd bod cyfathrebu effeithiol ac amserol yn allweddol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd ac i ddatblygu ymddiriedaeth a hyder ar lefel uchel ymhlith y trigolion.   Roedd angen gwella’r diffygion o ran cyfathrebu effeithiol ac amserol rhwng personél y gwasanaeth iechyd gan ei fod yn peri risg i’r Bwrdd, yn achosi oedi gormodol yn nhriniaethau cleifion ar adegau ac yn achosi costau ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd.

·       Cadarnhaodd y byddai cryn dipyn o waith yn cael ei gyflawni mewn perthynas â Gwasanaeth y Tu Hwnt i Oriau Arferol ar draws Gogledd Cymru.   Roedd pryderon bod cleifion sy’n methu â chael apwyntiadau gyda’u Meddygon Teulu eu hunain yn defnyddio’r Gwasanaeth y Tu Hwnt i Oriau Arferol ar y penwythnosau.

·       Cadarnhaodd bod cytundebau Meddygon Teulu yn nodi nad oedd yn ofynnol iddynt weithio ar benwythnosau ar hyn o bryd.

·       Hysbysodd y Pwyllgor bod angen hyrwyddo argaeledd Unedau Mân Anafiadau yn yr ysbytai cymunedol i breswylwyr, ynghyd â’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig er mwyn lleihau’r pwysau ar Adrannau Argyfwng a Damweiniau yr ysbytai cyffredinol.   Awgrymodd yr Aelodau y gallai fod yn fanteisiol pe bai enw’r Unedau Mân Anafiadau’n newid i Adrannau Mân Anafiadau ac Anhwylderau

·       Cadarnhaodd bod angen cynorthwyo pobl i ddychwelyd i’w cartrefi yn gynt ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, yn enwedig pan mai dim ond mân addasiadau sydd eu hangen e.e. gosod rheiliau ac ati. Byddai’r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu trwy’r prosiect “Beth sy’n bwysig”.

·       Cadarnhaodd bod enghreifftiau o ymarfer da a drwg o ran cynlluniau gadael yr ysbyty ynghyd â darparu offer arbenigol.

·       Cadarnhaodd yn y blynyddoedd diwethaf, bod gofal sylfaenol wedi’i drefnu fesul clwstwr gyda’r nod o gynyddu gwydnwch, yn enwedig mewn meysydd megis TG a chefnogaeth ar gyfer meddygfeydd ag un meddyg teulu.

·       Cydnabod nad oedd materion iechyd meddwl lefel isel wedi cael sylw gan Feddygon Teulu yn flaenorol, roedd hyn wedi arwain at ymyrraeth lefel uwch wedi hynny.

·       Cynghorodd bod materion iechyd meddwl yn rhan o’r sector gofal iechyd eilaidd ar hyn o bryd.   Fodd bynnag, roedd y Cyfarwyddwr Ardal o’r farn y dylai ffurfio rhan o’r gwaith “ardal” yn y dyfodol, yn enwedig o ystyried y dystiolaeth y byddai dementia yn ffurfio cyfran fawr o waith y gwasanaeth iechyd lleol yn y dyfodol.

·       Agwedd arall a oedd angen ei wella oedd gofal lliniarol a’r angen i wella sgiliau’r sector gofal i ddarparu gofal lliniarol yn hytrach nag achosi gofid diangen i’r claf a’u teulu trwy eu symud i amgylchedd ysbyty cyffredinol i dderbyn gofal diwedd oes.

 

Cytunodd yr Aelodau â’r mater o ran gofal lliniarol a gofyn i’r Bwrdd ystyried cyflogi ymgynghorydd cymunedol a fferyllydd gyda’r nod o gefnogi teuluoedd ac ati, gyda gofal lliniarol.   Gofynnwyd hefyd bod arferion gweithio’n hyblyg yn cael eu harchwilio yn y gwasanaeth iechyd i nodi a oedd rhai ohonynt yn peri risg i gleifion.

 

Cadarnhaodd Gyfarwyddwr Corfforaethol  Cymunedau rôl bwysig y Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl o ran darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd cydlynol i bobl sydd angen cymorth i dderbyn y gwasanaethau cywir ar yr adeg gywir.

 

Cytunodd Cyfarwyddwr Ardal BIPBC ar gyfer Conwy a Sir Ddinbych y byddai’n ymchwilio'r ymholiadau canlynol ac yn adrodd yn ôl i’r aelodau maes o law:

 

·       A oedd unrhyw gynlluniau ar waith i ddefnyddio’r hen glinig plant ger meddygfa Rhuddlan at ddefnydd iechyd, gofal cymdeithasol neu ddefnydd cymunedol.

·       Pam nad oedd cleifion sy’n mynychu gwasanaethau Tu Hwnt i Oriau Arferol Morfa Doc yn cael hawl i gasglu presgripsiynau o'r Fferyllfa yn Ysbyty Glan Clwyd ac yn cael eu cynghori i fynychu’r fferyllfa ddyletswydd agosaf i gasglu presgripsiynau.

·       A oes modd darparu gwasanaethau fflebotomi o feddygfa meddyg teulu a

·       Trefnu dynodi aelod o staff o strwythur Ardal Conwy a Sir Ddinbych i bob Grŵp Ardal Aelodau Cyngor Sir Ddinbych fel pwynt cyswllt ar gyfer aelodau ar faterion y Bwrdd Iechyd ac i fynychu cyfarfodydd y GAA o bryd i’w gilydd i ddarparu manylion ar ddatblygiadau ardal a gwrando ar safbwyntiau aelodau lleol ar faterion.

 

Mynegodd y Pwyllgor eu diolch i Gyfarwyddwr Ardal Conwy a Sir Ddinbych am fynychu’r cyfarfod Pwyllgor a’u briffio’n briodol.   Felly:

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar ddarparu’r wybodaeth uchod, ac archwilio’r pwyntiau a godwyd, i dderbyn yr adroddiad.