Eitem ar yr agenda
Cynllun Tair Blynedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr 2015-2018
Ystyried
adroddiad llafar ar y cynnydd hyd yma o ran gweithredu a darparu cynllun tair
blynedd y Bwrdd Iechyd.
9.35 am – 10.05 am
Cofnodion:
Cyflwynodd Mr
Geoff Lang, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr, Cynllun Tair Blynedd 2015-18.
Eglurodd y
Cyfarwyddwr i’r aelodau y cafwyd trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru (LlC) cyn
gosod y Bwrdd Iechyd mewn Mesurau Arbennig. Yn
ystod y trafodaethau cytunwyd na fyddai’r Bwrdd yn llunio cynllun tair blynedd
i ddechrau o 2015. Byddai’r cynllun tair blynedd yn dechrau o flwyddyn ariannol
2016/17. Ar gyfer y flwyddyn gyfredol, byddai’r Bwrdd, fel
rhan o’i gynllun gwella, yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
·
Ailgysylltu
â’r cyhoedd, staff a chyfathrebu
·
Gwella
Iechyd Meddwl
·
Obstetreg
a Gynaecoleg
·
Llywodraethu
Corfforaethol, a
·
Gwasanaethau
Meddyg Teulu y tu hwnt i oriau arferol.
Er mwyn gwella
cyfathrebu ac ailgysylltu â staff a budd-ddeiliaid, mae'r Bwrdd wedi mynychu
nifer o ddigwyddiadau, yn ystod misoedd yr haf. Roedd
y digwyddiadau yn cynnwys y rhai a drefnwyd gan y Bwrdd a’r sioeau a ffeiriau
eraill y mae’r cyhoedd yn ymweld â nhw yn rheolaidd. Pwrpas
mynychu digwyddiadau oedd ceisio ailgysylltu â phobl a chasglu eu safbwyntiau
ynglŷn â’r Gwasanaeth Iechyd yng ngogledd Cymru o ran yr hyn sydd wedi bod
yn gweithio’n dda a pha feysydd sydd angen eu gwella. Byddai’r
adborth o’r digwyddiadau’n cael ei ddadansoddi a byddai’r prif gasgliadau a
chanfyddiadau’n cael eu darparu mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn y dyfodol i
benderfynu â ydynt yn cyd-fynd â safbwynt y cyhoedd yn gyffredinol, cyn eu
defnyddio i gynllunio newidiadau i’r gwasanaeth yn y dyfodol.
Roedd yr
ymgynghoriad ynglŷn â newidiadau dros dro i’r gwasanaethau obstetreg a
gynaecoleg yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Byddai
ymgynghoriadau pellach ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl a’r Gwasanaeth
Meddyg Teulu y tu hwnt i oriau arferol hefyd yn cael eu cynnal yn fuan.
Hysbysodd cynrychiolwyr
BIPBC yr aelodau o’r canlynol:
·
Roedd
y Bwrdd yn awr yn y broses o ddatblygu ei gynllun ariannol a blaenoriaethau ar
gyfer 2016/17.
·
Roedd
rhan o’r gwaith cynllunio yn cynnwys gweithio gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fapio
heriau iechyd a sut i wella iechyd yn gyffredinol, gan gynnwys y gwaith sydd ei
angen yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y rhanbarth. Byddai gwaith hefyd yn cael ei gyflawni
gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol i gydymffurfio â gofynion Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.
·
Roedd
cyfarfod y Bwrdd wedi’i drefnu ar gyfer yr ail wythnos ym mis Hydref i drafod
sut i gydbwyso eu blaenoriaethau nhw a blaenoriaethau’r gymuned.
·
Roedd
yn rhaid i’r Bwrdd gwblhau a chytuno ar ei Gynllun erbyn mis Ionawr 2016 er
mwyn ei alluogi i ddechrau trafodaethau ynglŷn â blaenoriaethau gyda LlC
rhwng mis Ionawr a Mawrth 2016.
·
Ar
lefel leol yng Nghonwy a Sir Ddinbych, roeddent yn awyddus i ailgysylltu â
chymunedau yn y ddwy sir i drafod blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol y
Bwrdd a’r gymuned ar lefel leol. Er
mwyn hwyluso hyn, roedd nifer o weithdai i'w trefnu ar gyfer mis Hydref 2015.
·
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr ei bod yn hanfodol llunio deialog dwy ffordd rhwng y Gwasanaethau
Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau bod anghenion y gymuned yn cael eu
diwallu.
Cadwyd trafodaeth
ac ymatebodd Swyddogion BIPBC i gwestiynau’r Aelodau fel a ganlyn:
·
Cadarnhaodd
y byddai ailddatblygu Ysbyty Glan Clwyd yn brosiect mawr a chymhleth a oedd
wedi achosi anghyfleustra i gleifion,
staff ac ymwelwyr. Er mai’r nod wreiddiol oedd gwaredu
asbestos o’r adeilad, roedd y Bwrdd wedi defnyddio'r prosiect fel cyfle i
uwchraddio deunydd yr ysbyty a’i arfogi â’r cyfleusterau meddygol diweddaraf,
h.y. wardiau o’r radd flaenaf, theatrau, Adran Argyfwng a Gofal Brys, Uned
Gofal Critigol ac ati. Byddai buddion y rhaglen ailddatblygu yn
haws eu gweld wrth agor y brif fynedfa newydd ym mis Hydref a phan agorwyd rhai
o’r wardiau newydd ym mis Tachwedd. Roedd
staff sy’n gweithio yn yr ardaloedd newydd wedi darparu adborth hynod o
gadarnhaol ynglŷn â’r newidiadau.
·
Cytunodd
bod achosion o Glostridium Difficile (C-diff) wedi bod yn brofiad anodd iawn ar
gyfer y Bwrdd a’i staff. Nid oedd gwaith ailddatblygu yn Ysbyty
Glan Clwyd wedi cynorthwyo i reoli sefyllfa’r haint. Roedd
llawer iawn o waith wedi’i gyflawni ers yr achosion o’r haint o ran rheoli’r
haint a chroeshalogi, ond byddai angen mwy o waith er mwyn iddo fod cystal â
gweddill Cymru. Byddai agor y wardiau newydd, pob un ohonynt ag wyth ystafell sengl i
gynorthwyo i wahanu’r cleifion, yn fuddiol, fodd bynnag, y nod pennaf fyddai
bod cystal, os nad yn well, na'r gorau yn Lloegr. Gyda’r
nod o gyflawni hyn, byddai’r Athro Duerden o Ganolfan Genedlaethol Rheoli ac
Atal Haint yn dychwelyd i Ysbyty Glan Clwyd o fewn y 3 i 6 mis nesaf i fonitro
cynnydd a chynhyrchu ail adroddiad gwerthuso.
·
Cadarnhaodd
bod safonau cenedlaethol ar gyfer glanhau ysbytai a bod yn rhaid diwallu’r
safonau hyn.
·
Cynghorodd
bod anawsterau o ran recriwtio staff â chymwysterau addas wedi bod yn achos
pryder ar draws y GIG cyfan ac nid yw’n sefyllfa unigryw yng Ngogledd Cymru. Serch
hynny, bu anawsterau ychwanegol i recriwtio staff i ddisgyblaethau meddygol
penodol, neu i raddfeydd penodol, yn enwedig y rhai lle bo’r Ddeoniaeth wedi
tynnu statws “hyfforddiant” yr ysbyty yn ei ôl. Roedd
polisïau Llywodraeth y DU mewn perthynas â rheoliadau mewnfudo a theithebau
wedi cymhlethu problemau ymhellach. Roedd
y Bwrdd, fodd bynnag, yn gweithio’n rhagweithiol gydag Ysgolion Meddygol Lerpwl
a Manceinion gyda’r nod o’u cael i leoli myfyrwyr mewn ysbytai yng Ngogledd
Cymru yn ystod eu cyfnod hyfforddi. Roedd
hyn o ganlyniad i’r ffaith y cydnabyddir yn eang bod myfyrwyr meddygol yn aml
yn dewis aros yn eu hysbytai hyfforddi ar ôl cwblhau eu hyfforddiant.
·
Bu
prinder nyrsys mewn nifer o ardaloedd yn y DU oherwydd bod nifer annigonol o
nyrsys wedi’u hyfforddi yn y blynyddoedd diweddar. Er
bod nifer y lleoedd ar gyfer myfyrwyr nyrsio mewn prifysgolion wedi cynyddu,
byddai’n cymryd cwpl o flynyddoedd i’r nyrsys gwblhau eu hyfforddiant a bod yn
barod i weithio yn yr ysbytai. Yn ddiweddar, roedd nifer o nyrsys wedi’u
recriwtio o du allan i’r DU, yn bennaf Iwerddon a Sbaen. Er
bod safonau clir yn debyg rhwng cymwysterau nyrsio mewn gwledydd gwahanol,
roedd y gweithdrefnau a’r arferion nyrsio yn y gwledydd yn amrywio. Felly, byddai’r nyrsys o’r
gwledydd hynny’n dechrau hyfforddiant cyflwyno chwe mis i ddysgu am arferion a
gweithdrefnau'r GIG.
·
Eglurodd
rôl y Ddeoniaeth a’i safbwynt ar nifer yr ysbytai hyfforddi yng Ngogledd Cymru.
·
Cytunodd
bod angen codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a’i ddefnydd ar draws y Deoniaethau,
gan gynnwys Lerpwl a Manceinion. Roedd
cyfle hefyd i ddefnyddio’r galw am staff meddygol sy’n siarad Cymraeg fel modd
o ddenu myfyrwyr meddygol o Ogledd Cymru yn ôl i’r ardal i ymarfer
·
Roedd
gwaith ar y gweill i adolygu’r math o lety ac argaeledd llety ar gyfer staff
meddygol iau a oedd yn symud i’r ysbytai cyffredinol i weithio, gan fod y llety
sy’n cael ei gynnig hefyd yn ffactor a fyddai’n effeithio ar ddewis ysbyty y
myfyrwyr meddygol.
·
Roedd
trafodaethau’n parhau gyda’r bwriad o gael Ysgol Feddygaeth yng Ngogledd Cymru
yn y dyfodol. Roedd myfyrwyr yn awr yn gallu astudio ar gyfer
Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth Feddygol ym Mangor, y gellir ei ddefnyddio i
gael mynediad i gwrs hyfforddiant meddygol .
·
Cadarnhaodd
bod Gwasanaeth Ymgynghorol Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi bod yn gweithio
gyda'r Bwrdd i ystyried yr holl achosion honedig o gam-drin ar Ward Tawelfan. Roedd
nifer o aelodau o staff wedi’u gwahardd ar hyn o bryd nes ceir canlyniadau’r
archwiliadau ac, os yn briodol, byddai camau disgyblu priodol yn cael eu
cymryd.
·
Yn y
gorffennol roedd y Gwasanaeth iechyd wedi gweithredu ar fodel
“salwch/ymyrraeth”, y dyhead ar gyfer y dyfodol yw gweithio ar fodel
“rhagweithiol/lles”. Byddai hyn yn golygu bod Iechyd yn
gweithio gyda sefydliadau partner i fynd i’r afael â materion megis
amddifadedd, adfywio a’r rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu
hyfforddiant (NEET) gyda’r diben o wella canlyniadau iechyd a lles trwy gydol
oes unigolyn. Byddai'r gwaith hwn yn cael ei ddatblygu drwy'r
prosiect TRAC
·
Hysbysodd
yr Aelodau bod gwaith ar y gweill trwy Grŵp LlC ac Arweinwyr y Cynllun
Datblygu Lleol (CDLl) ynglŷn â sut y gallai’r Gwasanaeth Iechyd wella’r
dulliau o gynllunio gwasanaeth i ddelio â newidiadau mewn poblogaeth a’r galw
ar ôl mabwysiadu CDLlau Awdurdod Lleol ar draws Gogledd Cymru. Er
bod twf y boblogaeth yn her ar draws holl sectorau’r gwasanaeth iechyd,
disgwylir mai’r her fwyaf fyddai i’r sector gofal sylfaenol gan nad oedd
ganddynt gapasiti dros ben i ddelio â thwf mawr yn y boblogaeth.
Ar ddiwedd y
drafodaeth dechreuodd Swyddogion BIPBC archwilio’r materion a ganlyn ac adrodd
yn ôl i’r aelodau:
·
Pryderon
a godwyd ynglŷn â niferoedd staffio yn yr Uned Gofal Critigol newydd ac a
oedd digon o staff cymwys ar gael yn yr uned trwy gydol yr amser
·
Nifer
y wardiau a’r mannau cymysg yn Ysbyty Glan Clwyd a pholisi’r Bwrdd ar wardiau a
mannau cymysg (ar wahân i’r Unedau Gofal Dwys a Gofal Critigol ac ar y wardiau
Meddygol Difrifol)
·
Polisi’r
Bwrdd ynglŷn â gwisgo’r wisg pan nad ar ddyletswydd (a nifer y staff a
ddisgyblwyd am beidio â chydymffurfio â’r Polisi). Cynghorwyd
aelodau’r pwyllgor fod gan aelodau’r cyhoedd hawl i roi gwybod am staff sy’n
cael eu gweld yn gwisgo eu gwisgoedd pan nad ydynt ar ddyletswydd.
·
Gwaith
ICC ynglŷn ag anghydraddoldebau iechyd
·
Pryderon
a godwyd ynghylch rhai meddygon ymgynghorol nad ydynt yn dechrau eu clinigau ar
amser ac, o ganlyniad, nid yw eu cleifion yn derbyn y dyraniad amser llawn ar
gyfer eu hapwyntiad, ac
·
Adrodd
y pryderon a godwyd gan y Pwyllgor i’r Bwrdd Iechyd maes o law.
Mynegodd y
Pwyllgor eu gwerthfawrogiad i Gyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth am fod yn
bresennol a:
PENDERFYNWYD, yn
amodol ar ddarparu’r wybodaeth uchod, bod y Pwyllgor Archwilio Partneriaethau’n
derbyn yr adroddiad cynnydd.