Eitem ar yr agenda
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD
Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a
derbyn eu hadroddiadau.
Cofnodion:
Gwahoddwyd
aelodau'r Pwyllgor i roi adborth o gyfarfodydd Cyngor Dinas, Tref a Chymuned yr
oeddent wedi’u mynychu yn ddiweddar a
chymerodd yr Aelodau'r cyfle i gynnig crynodeb o sut roedd y Cynghorau
perthnasol wedi gweithredu.
Mynychodd yr Aelod
Annibynnol Julia Hughes (JH) y cyfarfodydd canlynol ac amlygwyd y pwyntiau a’r
materion canlynol:-
Cyngor Cymuned Henllan,
7 Gorffennaf 2015:-
-
Holodd y Clerc pam fod Aelod y
Pwyllgor Safonau wedi mynychu cyfarfodydd y Cyngor ar bedwar achlysur gwahanol.
Darparodd JH sicrwydd bod y
cyfarfodydd a fynychwyd wedi’u dewis ar hap, ac nad oedd unrhyw bryderon
penodol yn ymwneud â’r Cyngor. Eglurodd
hefyd bod y broses ddethol yn cael ei hadolygu.
-
Gofynnodd Gadeirydd y Cyngor
cymuned am adborth gan JH ynglŷn â’r gweithrediadau. Cadarnhaodd bod y cyfarfod
wedi’i drefnu’n dda yn dilyn ffurf rhaglen safonol, roedd y Cadeirydd yn
broffesiynol ac yn derbyn cefnogaeth dda gan y Clerc.
-
Ni cheisiwyd Datganiadau
Cysylltiad ar ddechrau’r cyfarfod ond fe’u darparwyd yn ystod y gweithrediadau.
-
Cafwyd cyfraniadau da gan
aelodau’r Cyngor, ac roeddent wedi gweithio gyda’i gilydd i ddatrys materion.
-
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
-
Dosbarthwyd rhestr o
bortffolios Aelodau Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych yn y cyfarfod.
-
Cafwyd cadarnhad y byddai Aelod
Cynulliad Llywodraeth Cymru yn ymweld â’r Cyngor ym mis Tachwedd.
-
Codwyd pryder ynglŷn â
diffyg cyfathrebu rhwng meysydd y Cyngor Sir a’r Cyngor Cymuned ynglŷn â
rhai materion.
-
Roedd pob Aelod o’r Cyngor wedi
cael cyfle i siarad.
-
Roedd rhaglen gwaith i’r dyfodol
ar waith, a darparwyd pecyn gwybodaeth i’r Aelodau.
Hyfforddiant Cod
Aelodau:-
-
Roedd rhai Aelodau dan yr
argraff mai dim ond ar gyfer Cynghorau Cymuned yr oedd y Cod yn
berthnasol.
-
Nid oedd unrhyw un o’r Aelodau
a oedd yn bresennol wedi derbyn copi o’r Cod gan eu Clercod.
-
Roedd yr hyfforddiant a
ddarparwyd yn rhyngweithiol, cadarnhaol ac ymgysylltiol.
-
Gofynnwyd am ragor o gefnogaeth
i ddatblygu Fframwaith Protocol Hunanreoleiddio i ddiwallu’r terfynau amser.
-
Gofynnwyd am ganllawiau mewn perthynas
â gweithgareddau cyfryngau cymdeithasol, a defnyddio Ffurflenni Datgan
Cysylltiad.
Pwyllgor Cynllunio, 16
Medi 2015:-
-
Cynhaliwyd y cyfarfod yn dda ac
roedd yr Aelodau’n barchus. Roedd y
cyflwyniadau’n glir a chydymffurfiwyd â’r rheolau a’r rheoliadau.
Mynychodd yr Aelod
Annibynnol Anne Mellor (AM) gyfarfod Cyngor Dinas Llanelwy ar 10 Mehefin 2015
ac amlygwyd y pwyntiau canlynol: -
-
Roedd y Rhaglen wedi’i
strwythuro’n dda.
-
Roedd y Clerc newydd wedi bod
yn gwbl gymwys ac wedi cefnogi’r cyfarfod yn dda.
-
Cyflwynwyd adroddiad gan
swyddog Heddlu lleol.
-
Roedd y cyfarfod wedi’i gynnal
mewn dull proffesiynol iawn.
-
Roedd y Clerc wedi gofyn am
ragor o ddarpariaeth hyfforddiant i Aelodau’r Cyngor.
Adroddodd AM ynglŷn
â’r hyfforddiant a oedd yn rhagorol yn ei barn hi, a derbyniwyd adborth
cadarnhaol gan y rhai a oedd yn bresennol.
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Safonau yn derbyn ac yn nodi'r
adborth a gyflwynir o gyfarfodydd diweddar a fynychwyd gan Aelodau'r Pwyllgor.