Eitem ar yr agenda
Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cael cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Mai, 2015 (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y
Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Mai
2015.
Y Cadeirydd Gwnaed sylwadau ynglŷn
â safon uchel y cofnodion a gynhyrchwyd.
Cywirdeb:-
5. Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol – Newid dyddiad y cyfarfod
nesaf o’r “16 Medi 2015" i'r "18 Medi 2015”
11. Hyfforddiant ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned – newid enw “Julie” i “Julia”.
Materion yn codi:-
5. Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol – Mewn ymateb i gwestiwn gan y
Cadeirydd ynglŷn â chynnydd y canllawiau a thempled fframwaith ar gyfer
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned, eglurodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod yr
wybodaeth y cyfeiriwyd ati wedi’i chynnwys yn Llyfr Achos Cod Ymddygiad
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a bod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai
hyn yn ddigonol gan y byddai cynhyrchu canllawiau pellach yn golygu dyblygu
gwybodaeth. Cadarnhaodd y gwnaed gwaith ar y Protocol
Hunanreoleiddio, ar gyfer Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned a bod eitem wedi’i
chynnwys ar y rhaglen i’w hystyried.
8. Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Canllaw Cod
Ymddygiad Diwygiedig – Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd ynglŷn â
dosbarthu papur briffio i wella cysylltiadau cyfathrebu a negeseuon allweddol
gyda Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned, cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at
gynhyrchiad Crynodeb Gweithredol neu nodyn briffio byr am y materion allweddol.
Eglurodd y Dirprwy
Swyddog Monitro y cynhelir cyfarfodydd clwstwr gyda Chlercod Cynghorau Dinas,
Tref a Chymuned ac y gellir trafod gwella cysylltiadau cyfathrebu ar gyfer
dosbarthu gwybodaeth, gan gynnwys mwy o ddefnydd o ddulliau Technoleg
Gwybodaeth.
Amlygodd y Dirprwy Swyddog
Monitro buddion dosbarthu gwybodaeth a ffeithiau pwysig o Lyfr Achos Cod
Ymddygiad Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r Cynghorau Dinas, Tref a
Chymuned. Cytunodd i gysylltu â’r Tîm Cyfathrebu ynglŷn â
dulliau o ddosbarthu gwybodaeth i’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned, a gyda’r
Swyddog Monitro ynglŷn â’r wybodaeth sydd i’w dosbarthu.
Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod y Swyddog
Monitro wedi cysylltu â’r Ombwdsmon fel y cytunwyd i gadarnhau sut y cofnodir
cwynion ac am ba hyd y cânt eu cadw. Eglurwyd bod copi papur o gwynion yn cael ei gadw gan
Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru am gyfnod o ddwy flynedd, a bod copi
electronig yn cael ei gadw am ddeng mlynedd. Hysbyswyd
yr aelodau y byddai cwynion blaenorol yn cael eu gwirio a’u hystyried wrth
benderfynu a ddylid archwilio cwyn newydd ai peidio.
10. Adborth o Hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gyfer Clercod
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned- Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog Monitro
oherwydd cyfyngiadau amser y byddai’r sesiynau hyfforddi nesaf ar gyfer Clercod
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn cael eu cynnal ym mis Ionawr 2016, ac y
byddant yn cael eu trefnu fel sesiynau’r prynhawn gan ddechrau tua 3.00pm.
Cadarnhaodd y Dirprwy Swyddog
Monitro bod y sesiwn hyfforddi a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2015 wedi’i chynnal,
ac y byddai hyfforddwr gyda gwell gwybodaeth o ganllawiau, deddfwriaeth a
materion Cymru yn cael ei geisio ar gyfer 2016.
Hysbysodd y Cyng. M.Ll. Davies y pwyllgor bod llenyddiaeth ynglŷn
â sgiliau cadeirio ar gael a gellir eu defnyddio.
Unrhyw Fater Arall:- Cyfeiriodd
yr Aelod Annibynnol Julia Hughes (JH) at y drafodaeth ynglŷn â chyhoeddiad
electronig gwybodaeth gan Gynghorau Dinas, Tref a Chymuned, a chadarnhad gan y
Swyddog Monitro ei fod yn ofyniad newydd a oedd yn awr yn ofynnol. Amlygodd bod angen
mynediad hawdd i wybodaeth ac eglurodd ei bod wedi cynnal archwiliad gwirfoddol
o ddeg Cyngor mewn perthynas â’r mater hwn. Cytunodd JH y byddai’n darparu manylion pellach ynglŷn
â’r gwaith a wnaed.
Cynhadledd Safonau Cymru 2015:-
Cyfeiriodd y Dirprwy Swyddog Monitro at Gynhadledd Safonau a drefnwyd i’w chynnal
yng Nghaerdydd ar 20 Hydref 2015, a gofyn bod unrhyw Aelod sy’n dymuno
mynychu’r gynhadledd yn cysylltu â Chymhorthydd Personol Pennaeth y Gyfraith,
AD a’r Gwasanaethau Democrataidd cyn 29 Medi 2015. Cadarnhaodd y Cadeirydd ei
fod yn bwriadu mynychu’r Gynhadledd.
PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo’r
cofnodion fel cofnod cywir.
(LJ i Weithredu)
Dogfennau ategol: