Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CYNNYDD PROFFILIO GRWPIAU CYMUNEDOL
I ystyried
adroddiad gan y Swyddog Arweiniol: Pobl Ifanc, Diogelu a Datblygu
Gweithlu (copi ynghlwm) ar y ar
y cynnydd o ran mapio a phroffilio grwpiau cymunedol, y themâu sy'n dod i’r
amlwg a'r camau nesaf
10.55 am – 11.30 am
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Swyddog Arweiniol: Pobl Ifanc, Diogelu a Datblygu'r
Gweithlu, oedd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am fapio a phroffilio grwpiau
cymunedol a themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg, wedi ei ddosbarthu gyda'r
papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol ar gyfer Datblygu Cymunedol yr adroddiad ac amlinellodd y
themâu a oedd yn dod i’r amlwg o'r gwaith mapio. Dywedodd y Pennaeth Cyfathrebu a Hamdden Dros Dro
a'r Swyddog Arweiniol: Pobl Ifanc, Diogelu a Datblygu'r Gweithlu, o’r tua 1000
o grwpiau cymunedol sy'n bodoli yn Sir Ddinbych fod tua 300 wedi eu proffilio
hyd yn hyn.
Byddai'r gwaith
proffilio yn helpu'r Cyngor i gynllunio ar gyfer anghenion plant a phobl ifanc
yn y dyfodol, yn enwedig gweithgareddau y tu allan i oriau ysgol. Roedd y camau nesaf yn y prosiect wedi eu
nodi yn yr adroddiad. Gan
ymateb i gwestiynau a phryderon yr Aelodau, dywedodd y swyddogion: -
·
Roedd
y gwaith proffilio ym mhob ardal yn cynnwys cydraddoldeb ac amrywiaeth
sefydliadau/grwpiau, a oedd yn cwmpasu pob math o anableddau boed yn gorfforol
neu’n anableddau dysgu. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Adran Gwasanaethau
Cymdeithasol ar faterion megis cynhwysiad, cynlluniau gwyliau ac ynghylch a
ellid defnyddio’r Pecyn Gwaith Anabledd ar gyfer gwaith ehangach y Gwasanaeth
Ieuenctid;
·
Er
bod rhai themâu cychwynnol yn dod i'r amlwg yn y cyfnod hwn, yn enwedig o ran
hygyrchedd i unigolion anabl i grwpiau cymunedol, gyda dim ond tua 30% o'r
gwaith proffilio wedi’i gwblhau rhagwelwyd unwaith yr oedd oddeutu 80% o’r
proffilio wedi’i gwblhau, gellid tynnu rhai casgliadau pendant ar nifer y
grwpiau sy’n hygyrch i'r anabl. Ar y pwynt hwn rhagwelwyd y gellid gofyn i'r sector gwirfoddol helpu i
gefnogi'r maes hwn yn y dyfodol;
·
Cadarnhawyd
y dylai'r broses fapio fwy neu lai fod wedi’i chwblhau erbyn diwedd y flwyddyn
ariannol gyfredol;
·
Gyda
golwg ar annog pobl ifanc i ymgysylltu â grwpiau cymunedol/gweithgaredd, a gyda
grwpiau oedran gwahanol, roedd sefydlu ‘gwasanaeth ieuenctid rhithwir’ yn cael
ei gynnig, fel ffordd o rannu gwybodaeth a chyfathrebu gwybodaeth am y grwpiau
amrywiol sydd ar gael yn y Sir;
·
Roeddent
yn ymwybodol o brinder darpariaeth benodol ar gyfer rhai 12 i 25 oed yn ardal
Prestatyn. Fodd bynnag,
roedd angen gwaith pellach i benderfynu a oedd pobl ifanc yn y grŵp oedran
hwn yn ymgysylltu â grwpiau cymunedol eraill ag ystod oedran ehangach yn yr
ardal honno, ac a oeddent yn cymryd rhan mewn mwy nag un o'r grwpiau hyn.
Roedd y Bartneriaeth Plant a Phobl
Ifanc wedi amlygu yn ddiweddar materion iechyd meddwl lefel isel o fewn y
grŵp oedran penodol hwn;
·
Cadarnhawyd
eu bod yn gweithio'n agos gyda Menter Iaith a’r Urdd gyda'r bwriad o gynyddu
argaeledd lleoliadau cymdeithasol lle gallai disgyblion ddefnyddio'r Gymraeg tu
allan i leoliad addysgol ffurfiol. Roedd Clybiau Ieuenctid y Sir ei hun yn annog y defnydd o'r Gymraeg yn eu
sesiynau ac roedd Grŵp Strategol y Gymraeg mewn Addysg (WESG) hefyd yn
edrych ar gyfleoedd posibl ar gyfer gwneud hyn. Dywedodd
yr Aelod Arweiniol ei fod wedi cysylltu â Chomisiynydd y Gymraeg yn ddiweddar
mewn perthynas â'r mater hwn.
Cytunodd y
Swyddog Arweiniol i hyrwyddo'r angen i bob grŵp fod mor gynhwysol â
phosibl ac yn hygyrch i bobl ag anableddau. Gan fod y rhan fwyaf o'r grwpiau yn grwpiau
cymunedol a gaiff eu rhedeg gan wirfoddolwyr byddai angen iddynt gael eu
perswadio a’u dylanwadu i fod yn gynhwysol i bawb. Teimlai'r Aelodau ei bod yn bwysig bod angen i
grwpiau cymunedol gydweithio'n agos i ategu ei gilydd ac i sicrhau nad oes
unrhyw grŵp oedran penodol neu elfen o'r gymuned yn teimlo wedi’u
hymddieithrio neu’n ynysig.
Llongyfarchodd yr
Aelodau y swyddogion am eu cynnydd gyda'r gwaith proffilio ar draws y Sir, yn
enwedig gyda throseddwyr ifanc wrth eu hadsefydlu a'u troi oddi wrth fywyd o
droseddu. Byddai'r gwaith hwn yn ddi-os yn talu ar ei ganfed
yn y dyfodol.
Yn dilyn
trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – fod y Pwyllgor, yn amodol ar y sylwadau uchod yn:-
(a)
derbyn y wybodaeth a ddarparwyd; a
(b) chefnogi parhau â'r gwaith i fapio a
phroffilio'r grwpiau cymunedol ar draws y sir.
Holodd y
Cynghorydd M Ll Davies pam fod dogfennau’r Cyngor yn ymddangos yn ddiweddar i
fod wedi dychwelyd i ddefnyddio'r wyddor Saesneg ar gyfer is-baragraffau ac nid
y wyddor Gymraeg. Roedd
o’r farn bod hyn yn groes i Bolisi Iaith y Cyngor. Dywedodd y Cydlynydd Archwilio y byddai’n edrych i
mewn i'r mater ac yn adrodd yn ôl i'r Pwyllgor maes o law.
Dogfennau ategol:
- Youth Services Report, Eitem 7. PDF 93 KB
- Youth Services App 1, Eitem 7. PDF 2 MB
- Youth Services App 2, Eitem 7. PDF 98 KB