Eitem ar yr agenda
CYNLLUNIO ARIANNOL
I ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllind (copi yn atodedig) sy’n tynnu
sylw at rai o'r penderfyniadau ariannu a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn y
flwyddyn ddiwethaf a’u heffaith ar gynllunio ariannol y cyngor.
9.35 am
– 10.10 am
Cofnodion:
Roedd adroddiad ar y cyd gan y Prif Swyddog Cyllid, a oedd yn tynnu sylw at
rai o'r penderfyniadau ariannu a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn
ddiwethaf ac yn amlinellu'r effaith ar gynllunio ariannol y Cyngor, wedi’i
ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Amlygodd yr Aelod
Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, rai o
benderfyniadau cyllido Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf a'u heffaith
ar gynllunio ariannol y Cyngor. Croesawodd y Cadeirydd Gyfarwyddwr Adnoddau Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru (CLlLC), Mr Jon Rae, i'r cyfarfod ar gyfer y drafodaeth ar yr adroddiad.
Eglurodd fod gwahoddiad wedi'i estyn
i Weinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru i fynychu'r cyfarfod ar
gyfer y drafodaeth hon, fodd bynnag, roedd wedi gwrthod ac awgrymodd fod
cynrychiolydd o CLlLC yn cael ei wahodd i fod yn bresennol. Roedd
enghreifftiau o newidiadau heb eu cynllunio, boed hynny’n gadarnhaol neu'n
negyddol, sy’n effeithio ar y gweithgaredd a ariennir gan grant wedi’u cynnwys
yn Atodiad 1.
Eglurwyd, yn
ystod adegau caled, roedd yr anawsterau cynllunio ariannol a wynebwyd gan Sir
Ddinbych wedi deillio o lefel yr ansicrwydd sydd ynghlwm wrth amcangyfrifon
Grant Cynnal Refeniw dangosol Llywodraeth Cymru (LlC) ac roedd pa mor hwyr oedd
rhai hysbysiadau cyllid grant wedi effeithio'n ddifrifol ar eu gallu i
gynllunio a rheoli eu cyllideb mor effeithiol ag y byddent yn dymuno.
Nid oedd y broblem yn unigryw i Sir
Ddinbych, roedd pryderon tebyg wedi eu codi gan holl Awdurdodau Lleol Cymru.
Gallai rhoi gwybod yn hwyr
am ddyraniadau grant fod â goblygiadau pellgyrhaeddol ar Awdurdodau Lleol, yn
dibynnu ar ddiben y grant, y gofynion archwilio / monitro sydd ynghlwm wrtho,
neu a oedd cyflogi aelodau staff yn dibynnu ar wybod a fyddai’r ffrwd ariannu
hwnnw yn parhau h.y. y Grant Cofnodi Symud Trwyddedu Anifeiliaid a restrir yn
yr Atodiad i'r adroddiad. Roedd nifer o grantiau yn y blynyddoedd diwethaf wedi eu dyfarnu o fewn
wythnosau i ddiwedd y flwyddyn ariannol gyda gofyniad bod yr arian yn cael ei
wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, nid oedd amserlen mor fyr ar gyfer
tendro a chaffael gwaith ac ati yn cyfateb i ddefnydd effeithiol ac effeithlon
o adnoddau gwerthfawr.
Roedd
anghysonderau’r drefn archwilio sy’n llywodraethu grantiau amrywiol hefyd yn
bryder gan nad oedd gwerth rhai o'r grantiau yn gydlynol â'r gofynion archwilio
a nodir ar eu cyfer. Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar
sawl achlysur wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru, drwy’r Cyngor
Partneriaeth ar gyfer Is-grŵp Cyllid Cymru, ar y sefyllfa anodd sy'n
wynebu Awdurdodau Lleol yng Nghymru o ganlyniad i roi gwybod yn hwyr am y Grant
Cynnal Refeniw ac arian grant. Amcangyfrifwyd y gallai gweinyddiaeth y
cyllid grant i gyd gyfateb i tua 10% o'i werth gwirioneddol a oedd i bob pwrpas
yn golygu bod un rhan o ddeg o'r arian grant yn cael ei wario ar gostau
gweinyddu.
Roedd yr
Is-grŵp Cyllid, ar 9 Gorffennaf, 2015, wedi ailadroddodd ei bryderon i
Lywodraeth Cymru. Roedd
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru ar y sail
bod trefnau grant mewn rhannau eraill o'r DU wedi eu llacio’n sylweddol tra yng
Nghymru roedd dros 50 o gynlluniau grant yn parhau i fod yn rhan o system
ganolog, e.e. roedd yr Alban wedi diddymu pob un ond dau o'i grantiau a ddyrannwyd
yn flynyddol, ac yn Lloegr roedd dwsin neu fwy o grantiau yn parhau i fodoli.
Yn ddiweddar
roedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi dangos parodrwydd i gydgrynhoi nifer
y grantiau a ddyfarnwyd ganddynt.
Er bod hwn yn gam cadarnhaol
roedd yn cario risg fod cyfuno yn dod law yn llaw â gostyngiadau llym mewn
gwerth ariannol grantiau yn y dyfodol.
O ran amseriad y
setliad nesaf, roedd y rhagolygon ar gyfer 2016/17 yn ymddangos i fod yn dynn
iawn gan ei fod yn awr yn ymddangos yn debygol na fyddai Canghellor y DU yn
gwneud ei ddatganiad Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant tan 25 Tachwedd.
Byddai hyn yn achosi oedi o ran
cyhoeddiad LlC ar ei gyllideb tan o leiaf y Nadolig neu'r flwyddyn newydd
gyda'r cyhoeddiad Grant Cynnal Refeniw terfynol yn debygol o fod yn gynnar yn
2016, tua thri mis yn hwyrach nag arfer.
Byddai hyn yn effeithio ar
osod y gyllideb ALl ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ymhellach.
Eglurwyd y byddai'n ddefnyddiol i wahanol
lefelau o lywodraethau weithio'n agos gyda'i gilydd i adeiladu lefel uchel o
ymddiriedaeth a pharch gyda golwg ar ddad-bridiannu nifer o'r grantiau, a'u
cynnwys yn setliad cyffredinol y Grant Cynnal Refeniw gyda sicrwydd
disgwyliedig y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer eu dibenion a
fwriadwyd. Byddai hefyd yn ddefnyddiol iawn pe gallai Cymru
fabwysiadu model fframwaith canlyniadau cenedlaethol, yn debyg i'r un a
ddefnyddir yn yr Alban, lle roedd y llywodraeth genedlaethol yn caniatáu i
ALlau osod eu blaenoriaethau eu hunain a defnyddio'r Grant Cynnal Refeniw ar
gyfer y diben o’u cyflawni cyn belled â'u bod yn cyfrannu tuag at y gwaith o
gyflawni'r canlyniadau cenedlaethol maes o law.
Roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar hyn o
bryd yn gweithio ar ddylanwadu ar faniffesto'r pleidiau gwleidyddol cyn
etholiadau Cynulliad Cymru'r flwyddyn nesaf ar y sail nad yw datganoli yn dod i
ben gyda datganoli pŵer gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru, ond ei fod
hefyd yn cynnwys ‘datganoli dwbl’ pwerau a hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol ac i
Gynghorau Tref a Chymuned.
Roedd yr
Aelodau'n awyddus bod sylwadau yn cael eu gwneud i bob Aelod Cynulliad lleol ar
y gost o weinyddu grantiau unigol o gymharu â'r canlyniadau gwirioneddol a
gyflawnwyd o’u dyfarnu, a'r ffaith y gallai gwell gwerth am arian gael ei
gyflawni pe gallai gwerth y grantiau hyn gael ei gynnwys yn y Grant Cynnal
Refeniw.
Yn dilyn
trafodaeth fanwl gwnaeth y Pwyllgor:-
BENDERFYNU:-
(a) bod Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru yn cyfleu sylwadau'r Pwyllgor uchod i Lywodraeth Cymru
drwy’r Cyngor Partneriaeth ar gyfer Is-grŵp Cyllid Cymru; a
(b) bod llythyr yn cael ei
anfon at bob Aelod Cynulliad lleol yn cofrestru pryderon y Pwyllgor fel a
amlinellir uchod.
Dogfennau ategol: