Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DYFODOL GWASANAETHAU GOFAL MEWNOL

I ystyried adroddiad ar y cyd gan Gadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen Gofal Cymdeithasol Mewnol a Phennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi'n amgaeëdig) yn rhoi manylion canfyddiadau’r ymarfer casglu gwybodaeth a gofyn am gymeradwyaeth ar gamau gweithredu yn y dyfodol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cytuno i ymgynghori'n gyhoeddus ynglŷn â’r awgrymiadau fel y manylir arnynt yn yr adroddiad ac fel y cânt eu hamlinellu isod -

 

·         Hafan Deg - ymuno mewn partneriaeth â sefydliad allanol a throsglwyddo’r adeilad iddynt, gan gomisiynu gwasanaeth gofal dydd yn yr adeilad ac, yn ogystal, galluogi asiantaethau’r trydydd sector i ddarparu gweithgareddau ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl hŷn a fydd yn lleihau unigedd cymdeithasol, yn cefnogi annibyniaeth ac yn hybu gwytnwch.

 

·         Dolwen - ymuno mewn partneriaeth â sefydliad allanol a throsglwyddo’r gwasanaeth cyfan iddynt (gofal preswyl a gofal dydd), gsn gofrestru ar gyfer gofal Henoed Eiddil eu Meddwl.

 

·         Awelon - atal derbyniadau newydd a gweithio gyda’r unigolion a'u teuluoedd, yn eu pwysau, i archwilio,  lle bo’n briodol, ddewisiadau amgen addas ar gyfer ymuno mewn partneriaeth â pherchennog Llys Awelon i ddatblygu rhagor o fflatiau Gofal Ychwanegol ar y safle.

 

·         Cysgod y Gaer - ymuno mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid perthnasol (gan gynnwys Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r 3ydd sector) i ddatblygu'r safle yn 'ganolfan cymorth' gan gynnig cyfleusterau preswyl a gofal ychwanegol, yn ogystal â gofal cartref allgymorth a gwasanaeth cymorth i denantiaid Cynlluniau Tai Gwarchod lleol ac i boblogaeth ehangach Corwen a'r ardal gyfagos.

 

(b)       cytuno i ymrwymo i dendr ar gyfer darparu gofal yn y cartref yng Nghynlluniau Gofal Ychwanegol Llys Awelon, Nant y Môr a Gorwel Newydd fel y nodir ym mharagraff 4.5.5 yr adroddiad;

 

(c)        nodi y bydd yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol gydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau gofal drwy gyfrwng y Gymraeg, ar gyfer y bobl hŷn hynny y mae arnynt ei angen, a chynnal y gallu i wneud hynny, a

 

(d)       bod y Cyngor yn ymgysylltu â Gweinidogion a Swyddogion Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn annog rhagor o gydweithio a gwaith partneriaethol rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o ran darparu gwasanaethau sy'n ymwneud â gofal i bobl hŷn.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad Grŵp Tasg a Gorffen Gofal Cymdeithasol Mewnol yn nodi canfyddiadau’r ymarfer casglu gwybodaeth o adolygiadau unigolion a theuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaethau gofal mewnol a cheisio cymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar awgrymiadau ar gyfer Awelon, Cysgod y Gaer, Dolwen a Hafan Deg a dechrau tendro ar gyfer darpariaeth gofal yn y cartref mewn cynlluniau gofal ychwanegol.

 

Darparodd y Cynghorydd Feeley rywfaint o gyd-destun yr adroddiad gan amlygu gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) a’r galw i foderneiddio gwasanaethau mewn ymateb i newidiadau demograffig ac anghenion y cyhoedd, gan ystyried effaith toriadau cyllidebol sylweddol a sicrhau gwasanaethau cynaliadwy yn y dyfodol.   Cymerodd y cyfle i ddiolch i’r Grŵp Tasg a Gorffen a’r swyddogion am eu gwaith caled yn archwilio’r opsiynau ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd uchel gan ystyried anghenion lleol ac egluro’r awgrymiadau a gyflwynwyd ar gyfer gwasanaethau gofal mewnol yn y dyfodol.   Dengys ymchwil fod y galw am ofal preswyl yn lleihau a bod pobl yn ffafrio byw’n annibynnol gyda chefnogaeth a bod galw am ofal Iechyd Meddwl i’r Henoed a gwelyau nyrsio.   Credwyd y byddai’r cynigion cyfredol yn darparu gwasanaeth da i breswylwyr Sir Ddinbych yn y dyfodol.

 

Nododd y Cabinet y gwahaniaeth rhwng y cynigion gwreiddiol a chyfredol a oedd yn arddangos bod safbwyntiau defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd wedi’u hystyried.   Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol-

 

·         Cafwyd eglurhad o rôl y Sefydliad Ymgynghori fel arbenigwyr mewn ymarferion ymgynghori cyhoeddus a cheisiwyd eu cyngor er mwyn diogelu yn erbyn her a sicrhau bod y canlyniad terfynol yn gyraeddadwy.

·         byddai natur a’r math o bartneriaethau a awgrymwyd yn amrywio gan ddibynnu ar yr anghenion mewn gwahanol ardaloedd a byddai’n debygol o gynnwys partneriaethau yn y sectorau preifat a gwirfoddol – pe bai’r awgrymiadau’n cael eu cytuno byddai’n ofynnol ceisio datganiadau diddordeb er mwyn darparu’r canlyniadau a allai gynnwys eraill yn darparu gwasanaethau ar ran y Cyngor.

·         Amlygwyd pwysigrwydd gweithio ar y cyd, yn enwedig gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ddarparu gwasanaethau gofal lleol ar gyfer pobl hŷn, a theimlwyd y dylid rhoi mwy o bwyslais ar ddatblygu’r elfen hon o waith partneriaeth yn y dyfodol - cytunwyd y dylid cyfeirio at hyn yn y penderfyniad.

·         Nodwyd nad oedd yn gost effeithiol i Sir Ddinbych dderbyn preswylwyr i gartrefi gofal o’r tu allan i’r Sir ar hyn o bryd, ond gallai hyn newid yn y dyfodol o ganlyniad i waith partneriaeth gydag awdurdodau lleol eraill.

·         Er y darparwyd sicrwydd o ran darparu gwasanaethau gofal trwy gyfrwng y Gymraeg nid oedd cyfeiriad penodol at hyn yn yr adroddiad – cytunwyd y dylid adlewyrchu hyn yn y penderfyniad pe bai’r Cabinet yn cymeradwyo’r cynigion, ac y dylid egluro yn y broses ymgynghori bod y Gymraeg yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaethau yn y dyfodol.

·         o ran Awelon cydnabuwyd na fyddai’n briodol symud rhai o’r preswylwyr, felly roedd gweledigaeth hirach ar gyfer y safle hwnnw – cytunwyd y dylid aralleirio’r argymhelliad i adlewyrchu hyn.

·         darparwyd rhai terfynau amser dangosol pe bai’r awgrymiadau yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a gwireddu arbedion yn y dyfodol.

 

Darparodd y Cynghorydd David Simmons, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio Perfformiad, drosolwg o drafodaeth y Pwyllgor Archwilio a’r sylwadau a oedd wedi’u crynhoi yn yr adroddiad.   Roedd proses asesu gofal dydd hefyd wedi’i godi fel mater ac o ran gwasanaethau gofal dydd, roedd y pwyllgor Archwilio wedi awgrymu y dylid sicrhau darpariaeth ar gyfer unigolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain ac fel seibiant ar gyfer gofalwyr.   Cadarnhaodd y Swyddogion y bwriad o gomisiynu gwasanaeth gofal dydd yn Hafan Deg a Dolwen, a fyddai’n berthnasol i unrhyw unigolyn, waeth beth fo'u sefyllfa deuluol.   Cytunwyd y dylid addasu geiriad yr argymhelliad ar gyfer Dolwen i egluro bod y gwasanaeth yn cynnwys darpariaeth gofal preswyl a gofal dydd.   Ychwanegodd y Cynghorydd Ray Bartley bod y swyddogion wedi cytuno i ymgynghori a ddylid cynyddu’r ddarpariaeth chwe wythnos cyfredol i ddeg / deuddeg wythnos, o ran yr asesiadau gofal dydd.   Adroddodd hefyd ar y canlyniad cadarnhaol yn dilyn cyfarfod gyda staff Dolwen i egluro’r broses.

 

[Ail-adroddodd y Cynghorydd Eryl Williams bod angen gwerthusiad llawn o drafodaethau’r pwyllgor archwilio ar faterion a gyflwynir i’r Cabinet i geisio penderfyniad].

 

Mynegodd y Cynghorydd Jason McLellan bryderon o ran diffyg manylion ynglŷn â darparwyr gwasanaeth posibl a sut y byddai’r gwasanaethau’n cael eu darparu yn y dyfodol.   Eglurodd y Swyddogion bod angen ymgynghori’n eang ar yr opsiynau a ffefrir ar hyn o bryd a bod yn agored i awgrymiadau eraill – roedd yn bwysig peidio â cheisio dyfalu canlyniad yr ymgynghoriad gan y gallai hyn arwain at y risg o her.   Byddai adroddiad yn ôl i’r Cabinet ym mis Ionawr / Chwefror yn cynnwys canlyniadau’r ymgynghoriad a chynigion manylach hefyd.   Penderfynwyd bod angen proses gaffael i benderfynu pa ddarparwyr gwasanaeth penodol y dylid eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori.

 

Argymhellodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ddull sy’n fwy seiliedig ar dystiolaeth i ddiwallu anghenion gofal preswylwyr y sir ac y dylid egluro hynny’n eglur yn yr ymgynghoriad.   Adroddodd y swyddogion ar y dystiolaeth a ystyriwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen a oedd yn cynnwys data ac ystadegau o ddefnydd yn y gorffennol, defnydd cyfredol a'r rhagamcanion ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar boblogaeth leol Sir Ddinbych ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani.   Roedd y dadansoddiad wedi nodi bod angen darpariaeth marchnad gymysg a oedd wedi’i adlewyrchu yn y cynigion.   Nododd y Cabinet waith y Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn y broses ac roedd yn fodlon y gellir gwneud penderfyniad ar y dystiolaeth a ddarparwyd.   Derbyniwyd y byddai angen sicrhau bod y dystiolaeth yn cael ei egluro’n ddigonol yn y ddogfen ymgynghori.   Cytunwyd hefyd y dylid darparu dogfen ymgynghori drafft i’r aelodau cyn yr ymgynghoriad ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)       cytuno i ymgynghori’n gyhoeddus ar yr awgrymiadau fel y nodwyd yn yr adroddiad ac a amlinellir isod-

 

·         Hafan Deg - ymuno mewn partneriaeth â sefydliad allanol a throsglwyddo’r adeilad iddyn nhw, gan gomisiynu gwasanaeth gofal dydd yn yr adeilad ac, yn ogystal, galluogi i asiantaethau trydydd sector ddarparu gweithgareddau ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl hŷn, a fyddai'n lleihau arwahanrwydd cymdeithasol, yn cefnogi annibyniaeth ac yn hybu gwydnwch;

 

·         Dolwen - ymrwymo i bartneriaeth gyda sefydliad allanol a throsglwyddo’r gwasanaeth cyfan iddynt (gofal preswyl a gofal dydd), a chofrestru ar gyfer gofal Iechyd Meddwl i’r Henoed.

 

·         Awelon - atal derbyniadau newydd a gweithio gyda’r unigolion a'u teuluoedd ar gyflymder sy’n addas ar eu cyfer nhw i archwilio dewisiadau amgen addas fel y bo'n briodol ac i ymuno mewn partneriaeth â pherchennog Llys Awelon i ddatblygu mwy o fflatiau Gofal Ychwanegol ar y safle.

 

·         Cysgod y Gaer - ymuno mewn partneriaeth â budd-ddeiliaid perthnasol (gan gynnwys Prifysgol Betsi Cadwaladr a'r 3ydd sector) i ddatblygu'r safle yn 'ganolfan gymorth' gan gynnig cyfleusterau preswyl a gofal ychwanegol, yn ogystal â gofal cartref allgymorth a gwasanaeth cymorth i denantiaid Cynlluniau Tai Gwarchod lleol a phoblogaeth ehangach ardal Edeirnion.

 

(b)       Cytuno i ddechrau tendro ar gyfer darpariaeth gofal yn y cartref yng Nghynlluniau Gofal Ychwanegol Llys Awelon, Nant y Môr a Gorwel Newydd fel y nodwyd ym mharagraff 4.5.5 yr adroddiad;

 

(c)        bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth yn y dyfodol gydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau gofal trwy gyfrwng y Gymraeg, ar gyfer y bobl hŷn sydd ei angen, a chynnal y gallu i wneud hynny, a

 

(d)       Bod y Cyngor yn ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Swyddogion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr er mwyn annog gwell cydweithrediad a gwaith partneriaeth rhwng y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu gwasanaethau gofal i bobl hŷn.

 

Ar y pwynt hwn (11.25 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: