Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYMUNEDAU YN GYNTAF GOGLEDD SIR DDINBYCH

Ystyried Adroddiad gan yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Llyfrgelloedd (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth am y cynnydd o fewn Cymunedau yn Gyntaf.

10.15 a.m. – 10.50 a.m.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol ar gyfer Cwsmeriaid a Llyfrgelloedd, y Cynghorydd Hugh Irving yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r cynnydd a wnaed gyda Chymunedau yn Gyntaf – gan gynnwys y gwaith sydd ar y gweill gyda'r Grant Amddifadedd Disgyblion sydd wedi’i gadarnhau ar gyfer 2015/16 hefyd. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu cais pellach a wnaed gan Lywodraeth Cymru i’r Co-operative i gymryd rhan ym mhrosiect ‘Cymunedau Dros Waith’ oedd wedi derbyn Cyllid Ewropeaidd yn ddiweddar.

 

Roedd Rhys Burton, Rheolwr Rhaglen y Grŵp Co-operative, y Corff Cyflenwi Arweiniol, yn manylu ar y tair thema cyflenwi o dan y rhaglen bresennol, amlinellodd brosiectau sydd ar waith neu ar y gweill yn yr ardal a dywedodd fod:

·       Gwaith Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei ddarparu i nifer llai o glystyrau ar draws Cymru.  Roedd yna bellach tua 52 i gyd, o'r 52 o ardaloedd hyn, roedd y rhan fwyaf yn ne Cymru.

·       Byddai'r rhesymeg ar gyfer y gwaith yn llawer cliriach ac yn canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau.

·       Fel y Corff Cyflenwi Arweiniol, byddai'n ofynnol i'r Grŵp Co-operative adrodd ar y cynnydd a wnaed i Lywodraeth Cymru (LlC) yn chwarterol.

·       Gan fod y rhaglen waith yn canolbwyntio ar weithio gyda grwpiau anodd eu cyrraedd, rhagwelwyd y byddai'n cymryd peth amser cyn y byddai canlyniadau’n cael eu gwireddu.  Byddai yna gyfnod maith o waith datblygu perthynas dwys er mwyn ennill ymddiriedaeth a pharch y bobl y maent yn ceisio eu cyrraedd.

·       Tra bod gwaith Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn mynd ymlaen ers nifer o flynyddoedd, nid oedd y sefydliad wedi bod yn effeithiol iawn wrth dynnu sylw at y gwaith da a'r canlyniadau yr oedd wedi eu cyflawni yn y gorffennol.

·       Ychwanegir at y fframwaith canlyniadau, sydd wedi’i gynnwys fel atodiad i'r adroddiad, wrth i ffrydiau cyllid a grantiau ychwanegol ddod ar gael.

 

Cafwyd trafodaeth, a rhoddwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau Aelodau gan Mr Burton, Angela Watt a Gavin Roberts o’r Grŵp Co-operative, ynghyd â Swyddogion y Cyngor:

·       Manylwyd yr amrywiol ffrydiau cyllid Llywodraeth ganolog ac Ewropeaidd y gallai’r Corff Cyflenwi Arweiniol a'r Cyngor wneud cais iddynt am gyllid ar gyfer prosiectau cysylltiedig Cymunedau yn Gyntaf.

·       Dywedodd fod y byr rybudd neu hysbysiad hwyr gan Lywodraeth ganolog/Llywodraeth Ewropeaidd o arian sydd ar gael a’i duedd i fod am gyfnod o 12 mis yn creu problemau iddynt o ran cynllunio prosiect tymor canolig i dymor hir.

·       Amlinellwyd prosiectau penodol yn y Rhyl, a oedd ar y gweill ar hyn o bryd o ran y tair ffrwd cyflenwi.

·       Rhoddwyd enghreifftiau o waith ieuenctid ar y gweill gyda'r bwriad o fynd i'r afael â phroblemau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.

·       Rhoddwyd cadarnhad i’r Aelodau y byddai'r cyllid Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael ei ddefnyddio i gefnogi saith ysgol drwy ddau Swyddog Gwydnwch Emosiynol y Cyngor.

·        Mae cynigion y Cyngor i sefydlu Gweithgor Gwrthdlodi gyda'r bwriad o fynd i'r afael â phob agwedd ar dlodi ar draws y Sir, wedi cael ei amlinellu ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf trefol a gwledig ac ardaloedd nad ydynt yn rhai Cymunedau yn Gyntaf.

 

Dywedodd Rhys Burton, Rheolwr y Rhaglen wrth yr Aelodau bod y swyddfeydd Cymunedau yn Gyntaf wedi'u lleoli ar Marsh Road yn y Rhyl a gwahoddodd yr Aelodau i ymweld â nhw.

 

Cynigiodd y Cadeirydd i gynorthwyo'r Grŵp Co-operative i gael mynediad i gyfleusterau ac adnoddau yn y Ganolfan Gymunedol ar Ystâd Parc Bruton yn y Rhyl.

 

Er bod Aelodau'n dymuno’n dda i swyddogion ar gyfer eu gwaith yn yr ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ac yn cefnogi eu hymdrechion i ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd, roedd rhai Aelodau yn mynegi pryderon.  Roedd y pryderon er gwaethaf arian o amrywiol sefydliadau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol ac Ewropeaidd wedi ei fuddsoddi yn yr un cymunedau dros gyfnod estynedig o amser, roedd yn ymddangos mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi cael ei wneud wrth gyflwyno gwell canlyniadau ar gyfer y trigolion na'r cymunedau.

 

Yn dilyn y drafodaeth fanwl:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor yn amodol ar y sylwadau uchod:

(a)  I dderbyn yr adroddiad, ac

(b)  Yn y dyfodol dylai aelodau ddarparu cefnogaeth i’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a phrosiect Cymunedau Dros Waith i nodi cysylltiadau pellach gyda rhaglenni’r Cyngor lle efallai y bydd llwybrau i gyflogaeth yn cael eu darparu ar gyfer preswylwyr nad ydynt mewn cyflogaeth ar hyn o bryd.

 

Dogfennau ategol: