Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL 2014 - 2015

Ystyried adroddiad gan yr Aelod Arweiniol Parth Cyhoeddus (copi ynghlwm) i roi gwybod i'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau o weithgaredd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y Cyd yn 2014-2015.

11.00 a.m. – 11.30 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i hysbysu’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau am berfformiad a gweithgarwch y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar y Cyd yn 2014/15.

 

Manylodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol gynnwys yr adroddiad a thynnodd sylw'r Aelodau at y prif uchafbwyntiau, a nodwyd yn yr adroddiad a'i atodiadau, o dan bob un o'r pedwar maes blaenoriaeth a oedd wedi eu dewis ar gyfer 2014/15. Y blaenoriaethau oedd:

·       Lleihau trosedd ac effaith trosedd

·       Lleihau aildroseddu

·       Mynd i'r afael yn effeithiol ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a

·       Mynd i'r afael â cham-drin domestig yn effeithiol.

 

Dywedodd y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol:

·       Er y bu cynnydd mewn troseddau treisgar, roedd y niferoedd yn eithaf isel. 

·       Roedd y cynnydd mewn troseddau rhywiol a gofrestrwyd yn ystod y flwyddyn yn droseddau "newydd" yn hytrach na throseddau hanesyddol.  Roedd nifer o'r troseddau yn ymwneud â materion a oedd wedi eu cynnwys ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol a honiadau o dreisio.  O ganlyniad, roedd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru wedi nodi hyn fel un o'i feysydd blaenoriaeth.  Roedd Prosiect Theatr The Cat’s Paw hefyd wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth amlygu ymddygiad amhriodol i blant a phobl ifanc.

·       Roedd atal troseddau ieuenctid wedi bod yn faes hynod gadarnhaol yn ystod 2014/15, yn enwedig y fenter Rhwystro ac Atal (PAD).

·       Maes arall oedd yn talu ar ei ganfed oedd adsefydlu troseddwyr trwy waith, yn enwedig lle roedd troseddwyr ifanc yn cael eu defnyddio i wneud gwaith adferol lle roeddent wedi cyflawni eu trosedd(au).  Roedd y math hwn o adsefydlu angen un goruchwylydd i oruchwylio dau droseddwr ar y tro.  Roedd yna bellach weithdrefnau llym ar waith i sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw delerau ac amodau unrhyw orchmynion ailsefydlu/cymunedol.

 

Cafwyd trafodaeth a rhoddwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau Aelodau gan y Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol:

·       Roedd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Gogledd Cymru newydd ddechrau mesur achosion o sgamiau ffôn ac ati, ac roedd Heddlu Gogledd Cymru wedi sefydlu tîm i ymdrin â'r math hwn o drosedd.

·       Roedd troseddau amgylcheddol, a oedd o fewn rheolaeth y Cyngor trwy gyhoeddi Rhybuddion Cosb Benodedig hefyd wedi bod yn faes llwyddiannus yn y flwyddyn ddiwethaf.

·       Roedd achosion o ddifrod troseddol cysylltiedig ag alcohol wedi gostwng.   Credwyd bod y ffaith bod nifer o safleoedd trwyddedig bellach wedi gosod eu system teledu cylch caeedig eu hunain wedi cyfrannu at y gostyngiad hwn.  Hefyd roedd y cynllun gwarchod tafarndai a'r ffaith bod llai o dafarndai a bod mwy o bobl bellach yn yfed alcohol gartref hefyd wedi cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y digwyddiadau.  Fodd bynnag, roedd peth pryder o ran y nifer o gardiau melyn ac alcohol wedi’i gymryd ymaith yn y Sir.

·       Roedd penderfyniad wedi'i wneud yn ddiweddar i benodi Cadeirydd Pwyllgor Trwyddedu’r Cyngor ar Grŵp Llywio Strategol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Conwy a Sir Ddinbych gan y teimlwyd bod gwaith a chylch gwaith y Pwyllgor Trwyddedu yn cysylltu’n agos iawn ag un y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

·       Byddai clybiau nos yn Sir Ddinbych cyn bo hir yn mabwysiadu'r dull gweithredu a gymerwyd yng Nghonwy ers peth amser, o roi anadlennydd i bobl ar eu ffordd i mewn i glybiau nos a gwrthod mynediad i unigolion yr oeddent o'r farn eu bod wedi meddwi.

·       Roeddent yn ymwybodol o'r problemau cynyddol a achoswyd gan y defnydd anghyfreithlon o gyffuriau mewn safleoedd trwyddedig ac mewn ardaloedd gwledig.

·       Roedd nifer y tanau bwriadol a gofnodwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi gostwng, er bod nifer y digwyddiadau llosgi bwriadol a gofnodwyd gan Heddlu Gogledd Cymru wedi cynyddu.  Roedd hyn yn ôl pob tebyg o ganlyniad i gydgyfeirio cofnodi a gefnogwyd gan weithio mewn partneriaeth.

·       O ran cam-drin domestig, er bod nifer y digwyddiadau a gofnodwyd wedi gostwng, roedd nifer y digwyddiadau gwirioneddol yn isel, ac

·       Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd nifer yr achosion trais domestig a oedd wedi derbyn sylw gan yr Ymgynghorydd Trais Domestig annibynnol (IDVA) wedi cael eu heffeithio oherwydd prinder staff neu absenoldebau.  Yn 2014/15, roedd cyllid y Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi ei sicrhau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw doriadau mewn gwasanaeth oherwydd problemau staffio gan fod gan y Comisiynydd bryderon mewn perthynas ag achosion o drais domestig ar draws rhanbarth Gogledd Cymru.

 

Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor eu gwerthfawrogiad i'r Rheolwr Partneriaeth Diogelwch Cymunedol am ei gwaith diwyd a chanmolwyd ei brwdfrydedd dros waith y Bartneriaeth.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2014/15 a'i berfformiad a gweithgareddau cysylltiedig.

 

Dogfennau ategol: