Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Adroddiad Arbedion Teledu Cylch Caeëdig

I ystyried adroddiad gan y Pennaeth Rheolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd / Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i roi diweddariad i'r Aelodau ar strategaeth gwblhau Teledu Cylch Caeëdig y Cyngor gan gynnwys gweithio gyda Phartneriaid i geisio sicrhau model darparu Teledu Cylch Caeëdig amgen ar gyfer y dyfodol.

9.40 a.m. – 10.15 a.m.

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am strategaeth ymadael Teledu Cylch Caeëdig (TCC) y Cyngor, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaid i geisio sicrhau model darparu TCC amgen ar gyfer y dyfodol.

 

Penderfynodd yr Aelodau, fel rhan o broses Rhyddid a Hyblygrwydd y Cyngor, na ddylai’r Cyngor fod yn ariannu na'n rheoli'r gwasanaeth TCC o 1 Ebrill 2016. Bydd hyn yn darparu £200k o arbedion ar gyfer 2016/17.   

 

Tra bod y cynnig i roi'r gorau i ddarparu'r gwasanaeth wedi cael ei gymeradwyo, roedd yr Aelodau wedi cydnabod manteision y gwasanaeth anstatudol ac felly, wedi gofyn i Weithgor gael ei sefydlu. Byddai'r Gweithgor yn gweithio gyda phartneriaid i archwilio a sicrhau model arall posibl ar gyfer cyflenwi gwasanaeth TCC ar gyfer y dyfodol. 

 

Hysbysodd yr Aelod Arweiniol a'r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd y Pwyllgor fod:

·       Cytundeb cyffredinol wedi ei gyrraedd gyda'r partneriaid a restrwyd yn yr adroddiad ar fodel fyddai'n darparu lefel dderbyniol o TCC o Ebrill 2016 ymlaen.  Nid oedd cytundeb cyfreithiol wedi'i lofnodi eto.  Roedd y Gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r sefydliadau partner i fod i gynnal cyfarfod arall ar 17 Awst, 2015 gyda golwg ar ffurfioli cytundeb yn y cyfarfod hwnnw.

·       Byddai angen cytundeb yn y dyfodol agos er mwyn galluogi'r broses diswyddo statudol ar gyfer rhoi'r gorau i’r gwasanaeth presennol i ddechrau yn ystod mis Hydref 2015.

·       Roedd manylion cyfraniad ariannol arfaethedig pob sefydliad partner tuag at wasanaeth newydd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.  Os cytunir, byddai hyn yn darparu bron digon o incwm i wrthbwyso costau’r model gwasanaeth newydd yn darparu gwasanaeth TCC wedi’i gofnodi.

 

Cafwyd trafodaeth a rhoddwyd y cyngor canlynol gan swyddogion a'r Aelod Arweiniol:

·       Cyfrannodd Heddlu Gogledd Cymru £16.5k tuag at ddarparu gwasanaeth TCC i bob Awdurdod Lleol ar draws Gogledd Cymru.  Roedd y swm hwn yn gytundeb hanesyddol yn seiliedig ar gyflog gweithredwr TCC rai blynyddoedd yn ôl.  Nid oedd gwasanaeth yr heddlu yn barod i gynyddu ei gyfraniad ar hyn o bryd oherwydd y toriadau a wynebir yn ei gyllideb, yn debyg i'r rhai a wynebir gan Awdurdodau Lleol.  Nid oedd cyfraniad gwasanaeth yr Heddlu yn adlewyrchu lefel y troseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unrhyw un o'r ardaloedd awdurdod lleol.

·       Roedd cyfraniadau arfaethedig yn y dyfodol gan y tri chyngor tref, a oedd yn elwa o system TCC y sir ar hyn o bryd, wedi cael ei gyfrifo gan y Gweithgor ar fwyafswm cynnal a chadw a chost gweithredol o £850 fesul camera, yn amodol ar fodd ariannol pob Cyngor Tref.

·        Gellir ond defnyddio arian grant Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, ar gyfer offer TCC a adleolir/symudol yn unig, nid camerâu statig.

·       Os, yn y dyfodol, y byddai unrhyw Gynghorau Tref angen gosod camerâu ychwanegol yn eu hardaloedd, byddai angen iddynt sicrhau arian i brynu, gweithredu a chynnal unrhyw offer ychwanegol.  Byddai'r materion hyn yn cael eu cynnwys yn y pen draw yn y cytundeb cyfreithiol.

·       Byddai'r contract cychwynnol am 12 mis, ar ôl hynny, byddai'n cael ei adolygu’n flynyddol gan Fwrdd TCC.  Rhagwelwyd y byddai'r Gweithgor presennol yn cael ei ail-sefydlu fel Bwrdd i oruchwylio a monitro darpariaeth y gwasanaeth newydd unwaith y bydd y cytundeb cyfreithiol wedi'i gwblhau a'i lofnodi gan bob parti.

·        Hysbyswyd y Pwyllgor am fanylion cytundeb a oedd wedi bod ar waith rhwng y Cyngor a busnesau ar Ystâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych, o ran gweithredu system TCC a osodwyd yno rai blynyddoedd yn ôl.   Nid oedd yna gytundeb bellach o ganlyniad i newidiadau i fusnes ar yr ystâd a oedd wedi cynnal y derbynnydd.

·       Roedd Cyngor Tref y Rhyl wedi trafod y posibilrwydd o leihau’r ddarpariaeth TCC yn y dref.  Byddai'r cynnig yn cael ei fwydo yn ôl i'r Gweithgor, a chynnig o ddefnyddio offer diangen i gymryd lle offer sydd wedi torri neu i'w defnyddio fel camerâu ychwanegol.

·       Roedd trafodaethau ar y gweill gydag wyth o aelodau staff y gwasanaeth presennol (llawn amser a rhan amser) a'u cynrychiolwyr undeb llafur mewn perthynas â diswyddiadau posibl.

·       Roedd nifer o opsiynau amgen wedi cael eu trafod gan y Gweithgor cyn i'r cynnig yn yr adroddiad gael ei gyflwyno fel y ffordd orau ymlaen.

·       Byddai’r model arfaethedig sy'n cael ei ystyried yn darparu gwasanaeth hylaw, boed yn wasanaeth llai, a oedd â'r potensial i esblygu a thyfu yn y dyfodol h.y. drwy weithio gyda busnesau preifat i sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaeth ac o bosibl defnyddio recordiad TCC busnesau ac unigolion preifat eu hunain er budd y gymuned gyfan.

 

Yn dilyn y drafodaeth, cytunodd y swyddogion i ddarparu’r canlynol i'r Aelodau:

·       Manylion yr yswiriant ar gyfer camerâu TCC (pa gostau sy’n cael ac nid yn cael eu cynnwys yn yr yswiriant).

·       Yr union fformiwla ar gyfer cyfrifo cyfraniad y cynghorau tref ar gyfer y model gwasanaeth newydd arfaethedig.

·       Gofyn i'r Bwrdd TCC maes o law i archwilio opsiynau ar gyfer datblygu’r gwasanaeth gan ddefnyddio arian preifat a chydlynu'r defnydd o'r system TCC cyhoeddus gyda systemau TCC sy'n eiddo preifat er lles trigolion y sir er mwyn cadw pawb yn ddiogel a gyda’r bwriad o leihau trosedd.

·       Copïau o gofnodion cyfarfod y Gweithgor gafodd ei gynnal ar 17 Awst i gael eu dosbarthu i Aelodau'r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau a phob Grŵp Ardal Aelodau (MAG) er gwybodaeth, a

·       Bod gwybodaeth am Wasanaeth y Tu Allan i Oriau amgen y Cyngor, yn dilyn rhoi'r gorau i'r gwasanaeth TCC yn cael ei darparu i Aelodau.

 

Pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd cadw nodiadau/cofnodion o bob cyfarfod, gan gynnwys Byrddau a MAG, er mwyn darparu trywydd archwilio manwl a digon o wybodaeth i alluogi'r Aelodau i wneud penderfyniadau gwybodus.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod a darparu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani:

(a)  Cefnogi’r gwaith a wnaed gan Swyddogion hyd yma o ran symud ymlaen gyda’r penderfyniad i gau swyddogaeth TCC y Cyngor, wrth archwilio modelau darparu amgen posibl, a

(b)  Bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Ionawr 2016, yn amlinellu'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â gadael y gwasanaeth TCC presennol, gorffen gwaith a wnaed gan y Gweithgor TCC i ddatblygu model TCC minimal newydd (a ariennir gan bartneriaid) o Ebrill 2016, ac os yn llwyddiannus, cynigion y Bwrdd mewn perthynas â datblygu'r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Dogfennau ategol: