Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD YMARFER PLANT
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, sy'n rhoi adroddiad
o’r Adolygiad Ymarfer Plant a gynhaliwyd gan y Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant
(copi’n amgaeedig).
Cofnodion:
Roedd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
wedi cael ei ddosbarthu’n flaenorol.
Roedd yr adroddiad gan yr Adolygiad Ymarfer Plant, a gynhaliwyd ar blentyn
yn Sir Ddinbych gan y Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant, wedi cael ei ddosbarthu
gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod. Eglurwyd bod canllawiau
Llywodraeth Cymru yn darparu'r fframwaith ar gyfer cynnal Adolygiadau Ymarfer
Plant pan fo plant yn marw ac roedd arwydd y gallai fod yn berthnasol i
gam-drin neu esgeulustod. Roedd y plentyn y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad yn
hysbys i'r adran ac roedd ar y gofrestr amddiffyn plant.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, cadarnhaodd yr HCFS nad oedd y broses
adolygu yn fecanwaith i roi bai, ond yn canolbwyntio ar yr hyn y gellid ei
ddysgu, a fyddai'n helpu i ymarfer a gwella’n gyffredinol, gan leihau risg yn y
dyfodol. Dechreuwyd y broses gan
Grŵp Adolygu Ymarfer Plant y Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant, a byddai'n
nodi a ddylid cynnal adolygiad, a pha fath o adolygiad oedd yn ofynnol o dan yr
amgylchiadau. Byddai'r Panel yn sefydlu natur yr adolygiad, y
cylch gorchwyl a'r agweddau i ganolbwyntio arnynt. Byddai hyn yn
cael ei lywio gan y llinell amser aml-asiantaeth a'r safbwyntiau proffesiynol,
a darparodd yr HCFS fanylion y dulliau ymchwilio newydd a hen.
Byddai'r teulu mewn profedigaeth yn ymgysylltu â'r hwyluswyr adolygu i
rannu eu persbectif, a gyda’r wybodaeth hon, byddai digwyddiad wedi'i hwyluso
yn cael ei gynnal a fyddai’n cynnwys cyfranogwyr allweddol yn yr achos. Cafodd y broses
a fabwysiadwyd ei hamlinellu yn yr adroddiad ac, ar y diwedd, y nod oedd nodi
meysydd i’w gweithredu o ganlyniad i'r dadansoddiad a’r safbwyntiau. Byddai
adroddiad a Chynllun Gweithredu yn cael eu paratoi, ei adrodd i'r Bwrdd
Rhanbarthol Diogelu Plant a'i gyhoeddi wedi hynny.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Aelodau ynghylch yr amgylchiadau trasig
yn ymwneud â'r achos dan sylw, darparodd yr HCFS grynodeb manwl o'r achos ac
amlinellu’r gwahanol ddulliau a fabwysiadwyd i ymgymryd ag ymchwiliad a'r
ymagweddau gwahanol a fabwysiadwyd yng Nghymru a Lloegr. Eglurodd y
HLHRDS mai’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol oedd y fforwm mwyaf priodol i
dderbyn yr adroddiad, ac i roi sicrwydd i’r Aelodau bod yr adolygiad wedi
arwain at Gynllun Gweithredu a fyddai'n cael ei fonitro gan y Bwrdd Rhanbarthol
Diogelu Plant.
Darparodd y swyddogion yr
ymatebion canlynol i gwestiynau a materion a godwyd gan Aelodau o’r Pwyllgor:-
·
Cadarnhaodd
yr HCFS bod diogelu plant wedi ei gynnwys ar y Gofrestr Risg fel rhan o'r
broses rheoli risg.
·
Eglurwyd gan
yr HCFS y byddai'n bwysig dysgu o'r adolygiadau a bod canlyniadau yn cael eu
rhannu gydag Awdurdodau, sefydliadau a phartïon eraill sydd â diddordeb.
·
Amlygodd y
WAOR bwysigrwydd cynnwys y gwersi a ddysgwyd o ran oedolion yn ogystal â phlant
diamddiffyn. Darparwyd amlinelliad o'r broses a’r ffocws ar gyfer darparu cefnogaeth a
chymorth i oedolion yn yr amgylchiadau hyn gan yr HCFS.
·
Amlygwyd yr
angen i wireddu natur a’r effeithiau a’r goblygiadau difrifol sy’n codi o
iselder ôl-enedigol.
·
Y
posibilrwydd o gynhyrchu rhestr wirio ar gyfer ei ddefnyddio yn ystod y broses
drosglwyddo.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd,
nododd y Pwyllgor: -
-
y ffeithiau trasig yn ymwneud â'r achos dan sylw.
-
y prosesau a'r systemau a gychwynnwyd gan Grŵp
Adolygu Ymarfer Plant y Bwrdd Rhanbarthol Diogelu Plant.
-
bod nifer o feysydd ar gyfer gwella yn cael eu nodi fel
rhan o'r Adolygiad.
-
bod yr adolygiad a gynhaliwyd wedi bod yn drylwyr, a’i
fod wedi rhagweld y byddai’r gwersi a ddysgwyd yn cael eu hymgorffori ar gyfer
ymarfer gorau yn y dyfodol.
Amlygodd y Cadeirydd y tair prif
elfen a nodwyd yn yr adroddiad a oedd yn cynnwys materion yn ymwneud â
chyfathrebu, trosglwyddo gwybodaeth a lefel y gefnogaeth a gynigir. Eglurodd y
WAOR y byddai'n bwysig i'r Pwyllgor gael sicrwydd bod y Cynllun Gweithredu wedi
cael ei gweithredu'n llawn, a chytunwyd y byddai adroddiad cynnydd yn cael ei
gyflwyno i'r Pwyllgor yn dilyn cyfnod o ddeuddeg mis.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol: -
(a)
yn cael yr adroddiad.
(b)
yn nodi
canlyniad yr adolygiad a’r hyn a ddysgwyd a'r camau arfaethedig i fynd i'r
afael â’r diffygion a nodir.
(c)
yn gofyn am
adroddiad cynnydd ar weithrediad y Cynllun Gweithredu ymhen 12 mis.
(LR, GW i Weithredu)
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 14./1 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 14./2 yn gyfyngedig
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 14./3 yn gyfyngedig