Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 23/2014/1440/PF – COED CLOCAENOG, SARON, DINBYCH

Ystyried cais i godi is-orsaf drydan 132kV a gwaith cysylltiedig yng Nghoed Clocaenog, Saron, Dinbych (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Meirick Davies gysylltiad personol â’r eitem hon gan ei fod yn aelod o Grŵp ‘Pylon the Pressure’]

 

Cyflwynwyd cais i godi is-orsaf drydan 132kV a gwaith cysylltiedig yng Nghoedwig Clocaenog, Saron, Dinbych.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr. M. Barlow (Yn erbyn) – roedd yn amheus am yr angen am is-orsaf ar hyn o bryd a mynegodd bryderon dros y tirwedd a’r effaith weledol.

 

Ms. C. Duffy, SP Manweb (O Blaid) - eglurodd y maint yr ymgynghori a wnaed ynghyd â mesurau lliniaru i ymdrin â materion a godwyd.  Mae hi'n cytuno â chasgliadau'r adroddiad cynllunio ac yn derbyn yr amodau arfaethedig.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Roedd y Cynghorydd Joe Welch (Aelod Lleol) yn gwrthwynebu'r cais a mynegodd bryderon ynghylch -

 

·         ymagwedd dameidiog a gymerwyd ar gyfer Prosiect Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru ac effeithiau cronnol yr is-orsaf ynghyd ag elfennau eraill o'r prosiect

·         dadleuodd yn erbyn yr angen am is-orsaf yn ystod y cam yma o ystyried fod y cais ar gyfer y prosiect llinellau uwchben eto i'w cymeradwyo; y ffaith fod Fferm Wynt Clocaenog yn destun adolygiad barnwrol; a ffermydd gwynt eraill oedd heb gael eu hadeiladu – yn sgil hynny oll, ystyrir y cais yn gynamserol

·         diffyg ymgynghori cyhoeddus a dogfennau'n cael eu darparu yn Gymraeg a gwybodaeth gamarweiniol oedd yn tynnu oddi ar wir effaith yr is-orsaf

·         digonolrwydd yr Adroddiad Amgylcheddol a'r asesiad sŵn cronnus

·         effeithiau ar amwynder, twristiaeth, iechyd preswylwyr a sŵn.

 

Ymatebodd y Swyddog Cynllunio (DS) i'r materion a godwyd fel a ganlyn -

 

·         nid yw natur y broses cais cynllunio yng Nghymru yn caniatáu i bob elfen o’r prosiect fferm wynt gael ei thrin dan un cais

·         roedd yr ymgeisydd wedi dweud nad oedd yr is-orsaf yn ddibynnol ar ganlyniad naill ai her gyfreithiol Fferm Wynt Clocaenog, na phrosiect llinellau uwch ben arfaethedig, a byddai dal angen yr is-orsaf petai’r cysylltiad grid yn digwydd drwy geblau danddaear.

·         roedd Cymraeg yn cael ei annog i’w ddefnyddio mewn ymgynghoriadau, ond nid oedd yn ofyniad cyfreithiol

·         ystyriodd y swyddogion y cais yn dderbyniol mewn egwyddor ar ôl asesu effaith yr is-orsaf ar yr ardal leol ac ystyried fod y safle o fewn Ardal Chwilio Strategol Coedwig Clocaenog (SSA) [roedd y polisi cynllunio yn nodi bod newid tirwedd o ddatblygiad fferm wynt yn dderbyniol o dan Ardaloedd Chwilio Strategol]

·         ar y cyfan roedd swyddogion yn cytuno â chasgliadau’r adroddiad amgylcheddol gan greu y gallai’r materion gael eu lliniaru

·         er nad yw'r Swyddog Gwarchod y Cyhoedd wedi cytuno gyda'r holl gyfrifiadau yn yr asesiad sŵn cronnol nad oedd wedi herio ei gadernid ac wedi derbyn ei gasgliadau; gallai lefelau sŵn gael eu rheoli drwy amodau er mwyn diogelu amwynder trigolion lleol.

 

Yn ystod trafodaeth fanwl ystyriodd yr aelodau rinweddau'r cais a mynegi amheuon ynghylch dilysrwydd casgliadau'r asesiad sŵn cronnus o ystyried bod cwestiynau wedi codi ynghylch y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r lefelau sŵn.  Mynegwyd pryderon hefyd dros harddwch ac effaith ar y dirwedd, yn enwedig y gantri 9 metr o uchder arfaethedig a fyddai'n debygol o fod yn weladwy iawn, a'r effeithiau dilynol ar y gymuned a thwristiaeth.

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Joe Welch, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Williams, bod y cais yn cael ei wrthod, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail yr effaith sŵn cronnol posibl ac effaith weledol bosibl ar y dirwedd o'r is-orsaf.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 3

GWRTHOD - 20

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cynnig, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar sail yr effaith sŵn cronnol posibl ac effaith weledol bosibl ar y dirwedd o'r is-orsaf.

 

Ar y pwynt hwn (11.15 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: