Eitem ar yr agenda
CYLLIDEB 2016/17
Ystyried
adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid (copi ynghlwm) i roi gwybod am y sefyllfa
ddiweddaraf a nodi'r cynigion yn Nhabl 1, cymeradwyo'r cynigion yn Nhabl 2 a
chynnig pellach a gyflwynwyd gan aelodau etholedig.
Cofnodion:
Cyflwynodd Aelod
Arweiniol Cyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson Hill, yr Adroddiad
Cyllideb (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu diweddariad ar y broses i ddarparu’r
gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 ac i nodi cyfnod nesaf y cynigion ar gyfer y
gyllideb.
Roedd yr aelodau
yn ymwybodol o'r broses gyllideb barhaus. Roedd
3 gweithdy cyllideb ychwanegol wedi digwydd. Roedd
y ddau weithdy cyntaf wedi ymdrin ag eitemau a oedd wedi'u gohirio neu wedi eu
cadw am wybodaeth ychwanegol. Yn y gweithdy a gynhaliwyd ar 5 Mehefin
2015, hysbyswyd yr aelodau o'r tybiaethau allweddol o fewn cynlluniau tymor
canolig y cyngor - yn benodol, roeddent yn amlinellu'r ansicrwydd ynghylch
lefel setliadau Grant Cynnal Refeniw y dyfodol.
Roedd gweithdai
eraill ynglŷn â’r gyllideb wedi’u trefnu ar gyfer 26 Hydref a 14 Rhagfyr
2015. Wrth i’r broses ar gyfer 2016/17
gael ei datblygu, mae'n debygol y bydd yn angenrheidiol i drefnu mwy o weithdai
yn ystod yr hydref.
Roedd lefel
sylweddol o ansicrwydd yn dal i bodoli o ran y Setliad Llywodraeth Leol tebygol
ar gyfer 2016/17 ac roedd hyn yn debygol o barhau dros y misoedd nesaf. Tan
fis Mai 2013, roedd gwerth y Setliadau yn gymharol gyson â'r arwyddion
blaengynllunio a gyhoeddwyd yn genedlaethol yn 2011. Ers
hynny ni fu unrhyw setliad aml-flwyddyn ac roedd arwyddion wedi newid yn gyson
rhwng ac o fewn blynyddoedd ariannol.
Yn absenoldeb gwybodaeth fwy
dibynadwy am y Setliad, roedd angen i gynlluniau’r gyllideb barhau i ddatblygu
cynigion i gwmpasu amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd. Byddai'r
Setliad Drafft ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi
ddechrau mis Hydref.
Roedd aelodau
wedi cael cais i gyflwyno eu cynigion eu hunain fel rhan o'r broses ac roedd
ffurflen wedi’i rhagnodi wedi ei chyhoeddi ar gyfer y diben hwn. Nod
cynnig a gyflwynwyd gan yr aelodau yn y gweithdy ar 5 Mehefin fyddai rhoi'r
gorau i dalu costau teithio i aelodau a oedd yn mynychu cyfarfodydd fel
sylwedyddion. Amcangyfrifwyd y gallai’r cynnig hwn arbed hyd at
£900 y flwyddyn.
Nod y broses
gyllidebol oedd sicrhau bod y cyngor yn cyflwyno cyllideb gytbwys. Roedd
yn parhau’n broses anodd gyda rhai penderfyniadau anodd i'w gwneud ar hyd y
ffordd. Roedd ymrwymiad a chefnogaeth aelodau etholedig yn
y broses o wneud penderfyniadau ac archwilio’r broses yn hanfodol.
Cynhaliwyd
trafodaeth fanwl a thrafodwyd y pwyntiau canlynol:
·
Mynegodd y Cynghorydd Colin Hughes bryder ynghylch darpar
doriadau. Cododd y broses o gau Aberchwiler fel enghraifft. Eglurodd
y Prif Weithredwr nad oedd wedi bod yn ymwybodol o unrhyw ddefnyddiwr
gwasanaeth unigol nad oedd wedi cael lleoliad yn dilyn cau Aberchwiler. Roedd
yr holl bobl ddiamddiffyn wedi eu gosod o fewn amgylcheddau gwaith newydd. Eglurodd
y Cynghorydd Richard Davies fod trafodaeth fanwl a oedd wedi para dros 2 ½ awr
wedi digwydd yn y pwyllgor Archwilio Perfformiad Arbennig a gynhaliwyd ar 22
Mehefin 2015.
·
Cadarnhaodd
y Prif Weithredwr fod cyllidebau cytbwys wedi eu gosod. Roedd
72% o doriadau a gytunwyd ar gyfer y flwyddyn hon eisoes wedi eu rhoi ar waith.
·
Gofynnodd
yr Aelodau fod cynrychiolydd o'r Cyngor Iechyd Cymuned yn bresennol yn y
cyfarfod ynghyd â Swyddog Cyfrifol Dros Dro BIPBC i alluogi cwestiynau a godwyd
gan yr aelodau i gael ymateb manwl, gan y cynrychiolwyr Iechyd a oedd yn
bresennol.
Yn y fan hon
(11.00 a.m.) roedd munud o dawelwch i gofio dioddefwyr y bomiau yn Llundain 10
mlynedd yn ôl.
Parhaodd y drafodaeth
a thrafodwyd y pwyntiau canlynol:
·
Cadarnhaodd
y Cynghorydd Colin Hughes i'r aelodau nad oedd yn bwriadu hawlio treuliau ar
gyfer unrhyw gyfarfodydd y byddai’n eu mynychu yn y dyfodol.
·
Gofynnodd
yr aelodau fod cofnodion gweithdai’r gyllideb i gofnodi canlyniadau
trafodaethau ar gael. Cadarnhawyd y byddai Pwyntiau Gweithredu
Symud Ymlaen yn cael eu dosbarthu i'r aelodau yn dilyn Gweithdai’r Gyllideb.
·
Roedd
Grŵp Tasg a Gorffen Archwilio wedi ei sefydlu'n ddiweddar i asesu effaith
y toriadau yn y gyllideb y cytunwyd arnynt eisoes. Gofynnodd
nifer o aelodau i breswylwyr gysylltu â nhw i ddangos tystiolaeth o effaith y
toriadau yn y gyllideb. Byddai Aelodau, ar ôl derbyn y dystiolaeth, yn
cyflwyno'r wybodaeth i'r Grŵp Tasg a Gorffen ar gyfer asesiad.
·
Gofynnwyd bod rheoli gwastraff, newidiadau i arferion
gwaith yn cael eu hegluro hefyd. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd
ac Amgylcheddol fod newidiadau gweithredol a oedd o ganlyniad i'r gwastraff
gwyrdd. Gallai olygu y gallai canran fach o gartrefi weld
dyddiau casglu eu gwastraff gwyrdd yn newid. Roedd diswyddiadau gorfodol wedi
eu hosgoi ac roedd gweithredwyr gwastraff yn cael eu recriwtio. Byddai
hyn yn stori newyddion dda.
·
Eglurodd
yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans pe na bai cyllideb gytbwys wedi ei
chyflwyno gan y Cyngor, yna byddai wedi ei chyflwyno gan Swyddfa Archwilio
Cymru ar ran y Cyngor. Roedd angen sicrhau preswylwyr bod y
cyngor yn cymryd golwg difrifol o sefyllfa’r gyllideb ac y byddai'n cymryd eu
pryderon i ystyriaeth. Er
gwaethaf yr holl doriadau a safbwyntiau negyddol, mae'r cyngor ar y trywydd
iawn i gyflawni'r Cynllun Corfforaethol.
Cytunwyd i fuddsoddi £800
miliwn yn y cymunedau ac i ddangos cefnogaeth i'r cymunedau.
Cynigiodd y
Cynghorydd Stuart Davies yr argymhelliad, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Martyn
Holland.
Pleidleisiodd yr
Aelodau ar argymhellion yr adroddiad - nodi'r cynigion arbedion Cam 4 a restrir
yn Nhabl 1 a chymeradwyo'r cynigion a restrir yn Nhabl 2:
23 pleidlais o
blaid, 9 yn erbyn a 2 yn ymatal.
Pleidleisiodd yr
Aelodau hefyd ar argymhellion yr adroddiad - cymeradwyo'r cynnig a gyflwynwyd
gan yr aelodau i beidio â thalu treuliau i aelodau sy'n mynychu cyfarfodydd fel
sylwedyddion:
26 pleidlais o
blaid, 4 yn erbyn ac 1 yn ymatal.
PENDERFYNWYD bod
y Cyngor yn cytuno i:
·
Nodi'r cynigion arbedion Cam 4 a restrir
yn Nhabl 1 a chymeradwyo'r cynigion a restrir yn Nhabl 2:
·
Cymeradwyo'r cynnig a gyflwynwyd gan yr
aelodau i beidio â thalu treuliau i aelodau sy'n mynychu cyfarfodydd fel
sylwedyddion:
Dogfennau ategol: