Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 4 – 2014/15
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, y
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi amgaeedig) yn rhoi diweddariad ar
ddarparu Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 4 2014/15.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4 2014/15.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 –
17 fel ag y mae ar ddiwedd chwarter 4 o 2014/15.
Roedd yr adroddiad yn trafod tair elfen –
·
Cynllun Corfforaethol 2012-17 -
roedd nifer o ddangosyddion 'Coch' a oedd yn golygu eu bod yn 'Flaenoriaeth ar
gyfer gwella' neu lle’r oedd problem â’r data yr oedd angen ei godi - roedd esboniad
tu ôl i statws 'Coch' pob dangosydd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad ac
ymhelaethwyd arnynt ymhellach yn y cyfarfod ac mewn ymateb i gwestiynau
·
Cofrestr Prosiect Corfforaethol -
nid oedd unrhyw brosiectau â statws blaenoriaeth ar gyfer gwella ‘Coch’,
darparwyd manylion tri phrosiect ar lefel dderbyniol 'Oren' lle'r oedd materion
penodol ond roeddent yn ôl y disgwyl
·
Cytundeb
canlyniadau – Roedd y Cyngor wedi cyflawni’r nifer angenrheidiol o bwyntiau ar
gyfer taliad llawn o’r Grant Cytundeb Canlyniadau ar gyfer 2014 – 15, fodd
bynnag, cyfeiriwyd at ddau brif faes lle methwyd targedau.
Roedd y rhan fwyaf o aelodau'r Cabinet wedi
mynychu hyfforddiant ar y System Rheoli Perfformiad Verto ac felly gallent gael
gafael ar wybodaeth mewn amser go iawn. Byddai hyfforddiant hefyd yn cael ei gyflwyno i
aelodau’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad.
Canolbwyntiodd y drafodaeth ar y canlynol -
·
cydnabuwyd
y gallai’r dangosydd gwyrdd ar gyfer 'canran y prif ffyrdd A sydd mewn cyflwr
gwael yn gyffredinol' fod yn gamarweiniol ond mewn gwirionedd roedd yn
ganlyniad cadarnhaol – yn anffodus, ni fyddai'n bosibl newid y geiriad ar gyfer
y dangosydd gan ei fod yn cael ei bennu’n genedlaethol
·
roedd 'y canran o dai mewn
amlfeddiannaeth a oedd â thrwydded lawn' wedi methu’r targed cytundeb canlyniad
o 8% - eglurwyd bod newidiadau diweddar i’r gyfundrefn drwyddedu wedi arwain at
gynnydd yn nifer y Tai Amlfeddiannaeth a oedd angen trwyddedu. Ar gais y Cynghorydd Joan Butterfield,
cytunodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i adrodd ar y newidiadau
diweddar a’r sefyllfa ddiweddaraf i Grŵp Ardal Aelodau’r Rhyl
·
cwestiynwyd
y ddau ddangosydd coch o'r Arolwg Preswylwyr, lle nad oedd y preswylwyr wedi
ymateb yn gadarnhaol i'r Cyngor, oherwydd fe ymddangosai’n groes i adborth a
chyfarfodydd yn cynnwys aelodau – dywedodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol
bod y data o arolwg 2013 ac y byddai canlyniadau o arolwg 2015 sy’n
adlewyrchu’r farn ddiweddaraf ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn
·
myfyriodd yr aelodau ynghylch y
sesiwn hyfforddi ddiweddar ynghylch Rhianta Corfforaethol a oedd yn boblogaidd
iawn ac yn cynnwys trosolwg o blant sy'n derbyn gofal yn Sir Ddinbych, llwybrau
gofal ac anghenion cefnogi plant sy'n derbyn gofal a’r rhai sy'n gadael gofal -
roedd aelodau’n teimlo ei bod yn bwysig rhoi cyhoeddusrwydd a hyrwyddo
profiadau cadarnhaol a gwaith drwy'r Timau Cyfathrebu a hefyd fe drafodwyd eu
cyfrifoldebau eu hunain yn hynny o beth
·
eglurwyd
bod y Cyngor wedi diogelu eu helfen ariannu o gyllidebau ysgolion ond nid oedd
ganddynt reolaeth dros doriadau i elfennau eraill o arian ysgolion a ddarperir
yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru – trafodwyd rheoli a lliniaru cyllidebau
ysgolion gan y Fforwm Cyllideb Ysgolion hefyd.
Dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn darparu
tystiolaeth o'r prosesau cadarn a heriol sydd ar waith gan y Cyngor. Tynnodd sylw at gyflawniad sylweddol y
Cyngor i gynnal lefel gyson uchel o berfformiad er gwaethaf yr hinsawdd
ariannol anodd a llongyfarchodd bawb a oedd ynghlwm wrth hyn. Croesawodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill sylwadau'r Aelodau ar yr adroddiad a gofynnodd bod Cabinet yn
derbyn ac yn nodi'r adroddiad.
PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 4 2014/15.
Ar y pwynt hwn (11.55 am) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.
Dogfennau ategol: