Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CWYNION EICH LLAIS – CHWARTER 4
Ystyried
adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol (copi’n amgaeedig) sy'n darparu
trosolwg o'r canmoliaethau, awgrymiadau a chwynion a gafodd Sir Ddinbych o dan
Bolisi Adborth Cwsmeriaid y Cyngor 'Eich llais', yn ystod Chwarter 4 2014/15.
9.35
a.m. – 10.10 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad gan y Swyddog Cwynion Corfforaethol, sy’n darparu trosolwg o’r
canmoliaethau, awgrymiadau a chwynion y mae Cyngor Sir Ddinbych wedi eu derbyn
dan bolisi adborth cwsmeriaid y cyngor,
‘Eich Llais’, yn ystod Chwarter 4 2014/15 (Atodiad 1) wedi’u dosbarthu gyda’r papurau ar gyfer y
cyfarfod.
Cyflwynodd
Bennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg yr adroddiad ac egluro y byddai’r Swyddog
Cwynion Corfforaethol, Cwsmeriaid a Chymorth Addysg, yn dilyn adolygiad, yn
gweithio gyda’r gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol, disgwylir y byddai hyn
yn gwneud y broses yn fwy gwydn. Cadarnhaodd
y byddai Adroddiad nesaf Cwynion Eich Llais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
fel adroddiad ar y cyd gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol.
Cyfeiriwyd at
fylchau ar draws y sefydliad yn yr adroddiadau blaenorol, ac awgrymwyd bod y
Pwyllgor yn ystyried cyflwyno dull sy’n fwy systematig a dysgu o’r
canmoliaethau, cwynion ac awgrymiadau a dderbyniwyd.
Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth am unrhyw
faterion perfformiad ac yn gwneud argymhellion i ymdrin â'r rhain yn unol â
hynny.
Roedd penawdau ar gyfer Chwarter 4 wedi'u
hymgorffori yn Atodiad 1.
·
Roedd y Cyngor wedi derbyn
78 o gwynion yn Ch4, gan ddod â’r cyfanswm blynyddol i 411, gostyngiad o 19% o
gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
·
Roedd y Cwynion yn erbyn y Gwasanaethau
Amgylcheddol wedi gostwng o 39%; 14 yn
Ch4 o gymharu â 23 yn Ch3.
·
Bu gostyngiad yn nifer y cwynion yn erbyn yr adran
Priffyrdd ac Isadeiledd am y tro cyntaf eleni. Gostyngiad o 48%; 15 yn Ch4 o
gymharu â 29 yn Ch3.
·
Roedd cwynion cam 2 ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y
Cyhoedd wedi cynyddu o 75%; o 4 yn Ch3 i 7 yn Ch4.
·
Derbyniodd y cyngor 103 o ganmoliaethau yn ystod
Ch4.
·
Derbyniodd y cyngor 16 o awgrymiadau yn ystod Ch4.
Manylion perfformiad – Ch4:-
·
Ymatebwyd i 88% (66/75) o gwynion cam 1 o fewn
terfynau amser ‘Eich Llais'. Nid oedd hyn wedi diwallu’r targed corfforaethol o
95%.
·
Ymatebwyd i 67% (6/9) o gwynion cam 2 o fewn
terfynau amser ‘Eich Llais'. Nid oedd hyn wedi diwallu’r targed corfforaethol o
95%.
·
Deliwyd â 92% (69/75) o’r cwynion yn llwyddiannus
yn ystod cam 1.
·
Amlygwyd pedwar maes gwasanaeth â statws COCH;
Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg, yr Amgylchedd, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd
(cam 2) a’r Adran Priffyrdd ac Isadeiledd (cam 2).
·
Roedd 3 maes gwasanaeth wedi eu hamlygu’n OREN; Tai
a Datblygu Cymunedol, Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, Priffyrdd ac Isadeiledd.
Ymatebodd
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg i’r cwestiynau gan yr Aelodau mewn
perthynas â phroblemau a gafwyd gyda system EMMA. Eglurwyd
bod system EMMA yn ddatrysiad dros dro wrth aros i osod system Rheoli Cyswllt
Cwsmer newydd fyddai’n cael ei gosod erbyn diwedd y flwyddyn. Cadarnhaodd
bod llyfryn Eich Llais ar gael yn ddwyieithog ac y dylid dangos a dosbarthu
fersiynau'r ddwy iaith yn gyfartal.
Cyfeiriodd y
Cadeirydd at y ffigyrau canran yn yr adroddiad a holi os oedd y gwasanaethau oedd
yn methu â bodloni eu targedau o fewn y terfynau amser penodol yn cael eu
monitro. Cadarnhaodd Bennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg
bod y toriadau'n cael eu monitro’n rheolaidd a’u codi gyda’r Penaethiaid
Gwasanaeth perthnasol a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Eglurwyd
mewn achosion lle y bu methiant parhaus i ddiwallu terfynau amser gellir dwyn
yr adran dan sylw gerbron y Pwyllgor i ddarparu eglurhad.
Cyfeiriodd y Prif
Weithredwr at yr angen i godi proffil o ran cwynion a chanmoliaethau gan
arddangos proses o ddysgu, ac nid dim ond nodi’r nifer a dderbyniwyd. Cyfeiriodd
at yr argymhelliad bod y Pwyllgor yn cynorthwyo gyda'r agenda trwy gwestiynu
ymateb darparwyr gwasanaeth i’r sylwadau a dderbyniwyd. Awgrymwyd
y gallai hyn effeithio ar gynllunio darpariaeth gwasanaeth yn y dyfodol, a
chynnwys cyflwyno systemau a newidiadau cadarnhaol mewn ymarfer i ddelio a’r
cwynion. Cadarnhaodd Bennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg
bod adroddiad o’r hyn a ddysgwyd o adborth cwynion wedi’i gyflwyno'n flaenorol
i’r Pwyllgor hwn a’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, ac fe gytunwyd bod yr
adroddiad yn cael ei atodi at yr adroddiadau chwarterol yn y dyfodol.
Mewn ymateb i
bryderon a godwyd gan y Cadeirydd mewn perthynas â’r Gwasanaeth Cyllid ac
Asedau, eglurodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg bod y materion yn
ymwneud â’r Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau wedi trosglwyddo i'r Adran
Cwsmeriaid a Chymorth Addysg, ac roedd hyn wedi’i amlygu’n goch yn awr. Eglurodd
Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg bod y mater wedi’i godi yng nghyfarfod
Bwrdd CIVICA Refeniw a Budd-daliadau a’u bod wedi'u hysbysu y byddai’r mater yn
cael ei adrodd.
Yn ystod y
trafodaeth a ddilynodd gofynnodd y Cadeirydd bod yr ystadegau a nodwyd yng
nghopïau papur y rhaglen yn cynnwys canllawiau dangosyddion lliw i gynorthwyo’r
aelodau e.e. ‘G’ ar gyfer Gwyrdd ac ati.
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad yn:-
(a) derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, a
(b) chytuno bod copi o adroddiad yr hyn a
ddysgwyd o adborth cwynion yn cael ei atodi at yr adroddiadau Chwarterol yn y
dyfodol.
Dogfennau ategol: