Eitem ar yr agenda
DARPARIAETH AR GYFER DEFNYDDWYR GWASANAETH PLANHIGFEYDD ABERCHWILER YN Y DYFODOL
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol (amgaeir copi) sy'n ceisio barn y Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed i ddiwallu anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol yn dilyn terfynu contract gydag asiantaeth staffio Planhigfeydd Aberchwiler.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol ei adroddiad, y dosbarthwyd copi
ohono cyn y cyfarfod. Amlinellodd gefndir i'r penderfyniad ym
mis Rhagfyr 2014 i ddatgomisiynu gwasanaethau cyfleoedd gwaith a ddarperir ar
hyn o bryd gan asiantaeth ym Mhlanhigfeydd Aberchwiler, a cheisio gwasanaethau
amgen ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth mewn mannau eraill yn y sir.
Roedd manylion am
aelodaeth y grŵp tasg a gorffen cyfleoedd gwaith a gafodd y dasg o
archwilio’r gwasanaeth cyfleoedd gwaith a ddarperir gan y Cyngor ar gyfer pobl
ag anableddau dysgu, gweledigaeth Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer gwasanaethau
gofal cymdeithasol modern, a'r pwysau cyllidebol wedi eu cynnwys o fewn yr
adroddiad.
Roedd yna ar hyn
o bryd 27 unigolion yn mynychu planhigfeydd Aberchwiler, roedd y mwyafrif
ohonynt yn mynychu gwasanaethau cyfleoedd gwaith eraill ar rai dyddiau o'r
wythnos. O’r 27 unigolyn hyn roedd 21 naill ai wedi cytuno
i gynyddu nifer y dyddiau roeddent yn mynychu eu lleoliad(au) arall/eraill neu
wedi darganfod lleoliadau amgen, tra bod chwech ar hyn o bryd yn mynychu'r
sesiynau blasu mewn gwasanaethau amgen cyn penderfynu beth orau oedd yn bodloni
eu hanghenion. Dim ond un defnyddiwr gwasanaeth nad oedd yn
cymryd rhan yn y broses ar hyn o bryd.
Nid oedd y defnyddiwr
gwasanaeth hwnnw wedi mynychu Planhigfeydd Aberchwiler yn rheolaidd.
Mewn ymateb i
gwestiynau'r Aelodau, cynghorodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion:
·
Roedd chwe
defnyddiwr gwasanaeth ar fin cael eu trosglwyddo i Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari,
roedd nifer o’r unigolion hyn wedi nodi eu dymuniad i aros gyda'i gilydd a
gweithio gyda'i gilydd. Roedd y dymuniad hwn wedi cael ei barchu;
·
Byddai’r
gwasanaeth rheoli gardd presennol, a oedd yn darparu cyfleoedd gwaith ar gyfer
7 o unigolion yn cael eu trosglwyddo i'r Gerddi Botanegol yn y Rhyl. Byddai
trosglwyddo i'r Gerddi Botanegol hefyd yn lleihau amser teithio ar gyfer y rhan
fwyaf o'r defnyddwyr gwasanaeth hyn;
·
Byddai’r
staff cefnogi yn yr holl leoliadau cyfleoedd gwaith amgen yn staff cyflogedig,
nid gwirfoddolwyr. Buasent hefyd yn cael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu
a Gwahardd (DBS)
·
Amlinellwyd
y costau dangosol y pen ar gyfer y gwasanaethau amgen yn yr adroddiad ac roedd
y rhain yn sylweddol is na chostau’r gwasanaethau sy’n cael eu caffael ar hyn o
bryd gan yr asiantaeth staffio ym Mhlanhigfeydd Aberchwiler;
·
Roedd
yr atebion a drefnwyd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth unigol yn cael eu
hystyried fel trefniadau tymor canolig i’r tymor hir, yn amodol ar ddim newid
yn eu hanghenion a bod y darparwr yn cydymffurfio â’r gofynion contract e.e.
ansawdd, perfformiad a chostau. Fodd bynnag, ni ellid rhoi sicrwydd
pendant na fyddai pethau yn newid yn y tymor hir oherwydd cyfyngiadau cyllideb
neu bolisïau’r Llywodraeth yn y dyfodol;
·
Os,
ar unrhyw adeg, byddai’r defnyddiwr gwasanaeth neu eu teulu/ gofalwyr yn
anfodlon gyda'r gwasanaeth a ddarperir gallent ofyn am symud i gyfleuster
cyfleoedd gwaith amgen;
·
Roedd
y gwasanaeth yn Aberchwiler yn wasanaeth a gomisiynwyd, ac nid oedd yn cael ei redeg
gan y Cyngor ei hun. O ganlyniad, roedd y grym i derfynu'r
contract gyda'r darparwr a chanfod gwasanaethau amgen mewn mannau eraill ar
gyfer y defnyddiwr gwasanaeth wedi’i ddirprwyo i'r Pennaeth Gwasanaethau
Cefnogaeth Gymunedol yn unol â Chynllun Dirprwyo i Swyddogion y Cyngor;
·
Unwaith
roedd y penderfyniad wedi'i wneud a’i gyfleu i’r asiantaeth dan sylw, roedd y
Tîm Anghenion Cymhleth yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, ar y cyfle cynharaf,
wedi dechrau gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd a gofalwyr i ddod o
hyd i wasanaethau amgen addas ar eu cyfer. Prif
ffocws y gwaith hwn oedd i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer y
defnyddwyr gwasanaeth a sicrhau eu bod yn hapus yn eu hamgylchedd newydd;
·
Hysbyswyd
Cynnig, yr asiantaeth oedd yn gweithredu Planhigfeydd Aberchwiler, am fwriad y
Cyngor yn gynnar fis Ionawr 2015 i derfynu'r contract o 30 Mehefin 2015.
Cyfrifoldeb yr asiantaeth oedd hysbysu ei staff o'r newidiadau wedi hynny;
·
O ran
yr effaith o gau Planhigfeydd Aberchwiler ar ddefnyddwyr gwasanaeth, dim ond
mewn dau achos yr oedd effaith negyddol wedi'i asesu. Roedd
y Tîm Anghenion Cymhleth yn gweithio gyda’r unigolion, teuluoedd a gofalwyr hyn
gyda'r nod o liniaru effaith negyddol;
·
Cadarnhawyd
na ddylai unrhyw unigolyn ddioddef caledi ariannol oherwydd y newid yn y
ddarpariaeth;
·
Cafodd
pecynnau gofal ar gyfer pob unigolyn eu monitro, gwerthuso a'u hadolygu'n
rheolaidd – roedd hwn yn ofyniad statudol. Serch
hynny, yn achos cyn-ddefnyddwyr gwasanaeth Aberchwiler, byddai ymweliadau monitro
yn cael eu cynnal yn eu lleoliadau newydd bob mis eraill er mwyn sicrhau eu bod
yn setlo a bod y lleoliad yn bodloni eu hanghenion unigolyn;
·
Roedd defnyddwyr
gwasanaeth a oedd yn defnyddio cyfleoedd gwaith anableddau dysgu weithiau yn
newid eu lleoliadau yn ôl dewis personol;
·
Cadarnhawyd
bod gweithwyr proffesiynol sydd â chymwysterau addas o fewn y Tîm Anghenion
Cymhleth wedi cynnal asesiadau effaith ar bob defnyddiwr gwasanaeth unigol yr effeithio
arnynt gan ddatgomisiynu gwasanaethau yn Aberchwiler;
·
Nododd Aelodau'r
angen i wella cyfathrebu, yn enwedig gydag aelodau lleol, gan y gallai hynny
helpu i chwantu pryderon ymhlith defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd a chwalu'r
sïon di-sail mewn cymunedau o ran newidiadau gwasanaeth fel yr un penodol yma;
·
I
hwyluso adleoliad y gwasanaeth rheoli gardd i'r Gerddi Botanegol yn y Rhyl,
roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian mewn gosod offer trydanol ar y safle, ar y
sail ei fod yn cael ei weld fel buddsoddiad tymor canolig o leiaf. Serch
hynny, ni ellid rhoi unrhyw sicrwydd pendant yn yr hinsawdd ariannol presennol
gwasanaethau cyhoeddus na fyddai'r newidiadau yn digwydd yn y dyfodol;
·
Er
bod cost y gofal a'r profiadau a ddarperir i'r defnyddwyr gwasanaeth yn bwysig,
ansawdd y gwasanaeth a ddarperir a’r canlyniadau cysylltiedig ar gyfer y
defnyddiwr gwasanaeth oedd y penderfynyddion pennaf gwerth am arian y
gwasanaeth. Y prif benderfynydd oedd ansawdd bywyd pob
unigolyn;
·
Ni
wnaed adolygiad pob defnyddiwr gwasanaeth unigol ar wahân. Yn
ogystal ag ystyried mewnbwn y defnyddiwr gwasanaeth, roedd barn y darparwr
gwasanaeth, teulu a gofalwyr y defnyddiwr gwasanaethau wedi eu hystyried wrth
benderfynu ar y lleoliad cyfle gwaith amgen mwyaf addas ar gyfer y defnyddiwr
gwasanaeth. Roedd pob defnyddiwr gwasanaeth wedi cael cyfle i
roi cynnig ar amrywiaeth o leoliadau amgen cyn y gofynnwyd iddynt ddewis eu
ffafriaeth. Mewn rhai achosion roedd eiriolwr allanol wedi
cael eu cysylltu gyda'r nod o sicrhau asesiad annibynnol;
·
Byddai’r
unigolion hynny ag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth un i un ym
Mhlanhigfeydd Aberchwiler yn parhau i dderbyn hynny yn eu lleoliad newydd os
oes angen;
·
Roedd
y broses asesu anghenion ar gyfer person ag anableddau dysgu yn broses statudol
sy'n rhaid i’r Cyngor ei dilyn yn ôl y gyfraith. Roedd
Sir Ddinbych ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn cynllun peilot Llywodraeth Cymru
i ddatblygu dull effeithiol o fesur canlyniadau;
·
Roedd
sicrwydd ychwanegol ar ansawdd y lleoliadau amgen ar gael ar ffurf
adroddiadau’r rheoleiddiwr, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cymru, ar y gwasanaethau hynny;
·
Roedd
y Cyngor yn gwneud pob ymdrech yn y blynyddoedd diwethaf i wneud Aberchwiler yn
endid dilys, ond roedd hyn wedi profi'n anodd iawn;
·
Roedd
rhieni/gofalwyr wedi cael cyfle i ymweld â sefydliadau cyfleoedd gwaith i weld
drostynt eu hunain y gwaith, gofal a goruchwyliaeth oedd ar gael. Fodd
bynnag, nid oedd yr holl rieni/ gofalwyr yn derbyn y gwahoddiadau;
·
Dim ond un
gŵyn a gafwyd oddi wrth ddefnyddiwr gwasanaeth/ teulu defnyddiwr
gwasanaeth/ gofalwr ynghylch y
newidiadau i ddarpariaeth y gwasanaeth.
Roedd y gŵyn benodol
wedi'i thrin a’i datrys i fodd had y defnyddiwr gwasanaeth a’u teulu/ gofalwr. Roedd
y rhan fwyaf o'r cwynion eraill a dderbyniwyd mewn perthynas â chau
Phlanhigfeydd Aberchwiler wedi'u cyflwyno gan staff y Planhigfeydd neu aelodau
o'r cyhoedd;
·
Roedd
y Cyngor ar hyn o bryd yn helpu i glirio hen safle’r Planhigfeydd i sicrhau ei
fod yn cael ei drosglwyddo'n ôl i’r perchennog mewn cyflwr glân a thaclus i
sicrhau nad oedd yn 'safle ddolur llygad'
Caniataodd y
Cadeirydd i aelodau o'r cyhoedd a oedd yn bresennol i ofyn cwestiynau. Mewn
ymateb i'r cwestiynau hyn, ymatebodd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol
a Swyddogion fel a ganlyn:
·
cadarnhawyd
na ymgynghorodd y Cyngor yn uniongyrchol gyda gweithwyr yn Aberchwiler ynghylch
ei gynigion i ddatgomisiynu’r gwasanaeth gan nad oedd y staff yn staff y Cyngor
Sir, roeddent yn cael eu cyflogi gan Cynnig a chyfrifoldeb Cynnig fyddai unrhyw
ymgynghoriadau gyda gweithwyr;
·
Cynghorwyd
nad oeddent yn ymwybodol o unrhyw bryderon diogelwch sy'n ymwneud â’r Ganolfan
Sgiliau Coetir, gan fod yr holl wasanaethau amgen ar gyfer defnyddwyr
gwasanaeth Aberchwiler wedi cael asesiad risg. Roedd
y Ganolfan Sgiliau Coetir hefyd yn cael ei defnyddio gan Addysg ac felly
byddai’n destun asesiadau risg a DBS rheolaidd gan y Gwasanaeth hwnnw. Addawodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i edrych eto ar y mater hwn;
·
Cynghorodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod dull sy'n canolbwyntio ar y
defnyddiwr gwasanaeth wedi'i fabwysiadu ar gyfer cynnal yr asesiad o anghenion
defnyddwyr gwasanaeth Aberchwiler yn y dyfodol. Roedd
hyn yn cynnwys y rhiant/ rhieni/ gofalwr/ gofalwyr ac roedd wedi'i ymestyn i
asesu eu hanghenion gofal cymdeithasol ehangach. Roedd
pob defnyddiwr gwasanaeth, teulu/gofalwr unigol wedi cael gwybod bod gwasanaeth
eirioli annibynnol ar gael a’u hawl i’w ddefnyddio
·
Cadarnhawyd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod rheolau cenedlaethol a oedd yn llywodraethu comisiynu gwasanaethau – roedd
Planhigfeydd Aberchwiler yn wasanaeth a gomisiynwyd – ac fel y cyfryw roedd
angen i benderfyniadau o ran comisiynu/ datgomisiynu gwasanaethau o'r fath gael
eu gwneud gan weithiwr proffesiynol sydd â chymwysterau addas;
·
Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau bod y Fforwm Anableddau Dysgu wedi cael
gwybod am ddatblygiadau o ran Planhigfeydd Aberchwiler drwy gydol y broses. Gwasanaethodd
cynrychiolwyr y Fforwm ar y Grŵp Tasg a Gorffen Cyfleoedd Gwaith, a oedd
wedi cynnal adolygiad o Blanhigfeydd Aberchwiler fel rhan o'r adolygiad
ehangach o Gyfleoedd Gwaith i bobl ag anawsterau dysgu ar draws y sir. Roedd
Mencap, a fu'n gwasanaethu ar y Fforwm, wedi cychwyn a hwyluso’r digwyddiad 'Caffi
Byd', lle'r oedd darparu gwasanaethau cyfleoedd gwaith yn y dyfodol wedi cael
ei drafod gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid.
Cydnabu swyddogion y pwyntiau a wnaed gan
aelodau o'r cyhoedd a oedd yn bresennol bod teuluoedd neu ofalwyr weithiau yn
dawedog o ran cwyno am wasanaethau a ddarperir i bobl ddiamddiffyn, gan eu bod
ofn y gallai’r defnyddwyr gwasanaeth dderbyn lefel gwasanaeth hyd yn oed
gwaeth, neu i’r gwasanaeth gael ei dynnu'n ôl, o ganlyniad. Ar
y sail hon cafodd safle Facebook 'Arbed Aberchwiler' ei sefydlu mewn ymgais i
gael clywed lleisiau’r llai huawdl, gan fod teuluoedd a gofalwyr yn aml wedi
ymlâdd ac nid oedd yn teimlo y gallant gwyno. Roedd
y cyfryngau cymdeithasol yn arf effeithiol a hygyrch ar gyfer aelodau o'r
cyhoedd i leisio eu pryderon neu i rannu eu cwynion.
Pwysleisiodd swyddogion bod yr holl
gwynion wedi cael eu trin yn gyfrinachol. Pe
na bai’r cwynion yn cael eu rhannu, byddai’n llyffetheirio gallu'r Cyngor i
wybod am y problemau er mwyn ceisio eu datrys a gwella gwasanaethau. Roedd
nifer o ffyrdd y gallai cwynion neu bryderon gael eu codi h.y. naill ai'n
uniongyrchol gyda'r Cyngor, drwy Gefnogwyr Gofalwyr y Tîm Anghenion Cymhleth
neu drwy sefydliadau annibynnol fel y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr Gogledd
Ddwyrain Cymru (GGOGDdC). Byddai pob cwyn unigol yn cael ei thrin a
byddai ymateb yn cael ei anfon at yr achwynydd
Ar ddiwedd y drafodaeth cydnabu'r Aelodau
bod gwersi i'w dysgu o'r broses o ddatgomisiynu gwasanaethau ym Mhlanhigfeydd
Aberchwiler. Roedd cyfathrebu yn
allweddol i bob agwedd ar waith y Cyngor. Gallai
cyfathrebu effeithiol ac amserol gyda rhanddeiliaid ac aelodau lleol leddfu
pryderon a chwalu mythau. Roedd mynegiant pryderon yn seiliedig ar ffeithiau yn
bwysig iawn gan y gallai pryderon a godwyd ar achlust neu ffeithiau hanner
cywir y potensial i greu amgyffrediad ffug a dwysáu pryderon, yn enwedig
ymhlith preswylwyr diamddiffyn. Roedd yn bwysig bod y negeseuon cywir yn
cael eu cyfleu i'r bobl iawn ar yr adeg gywir, yn enwedig pan oeddent yn
cynnwys materion emosiynol. O ganlyniad:
Penderfynwyd: - yn amodol ar y wybodaeth a ddarparwyd a'r
sylwadau uchod -
(a) nodi'r
canlyniadau cadarnhaol yn gyffredinol ar gyfer yr unigolion dan sylw;
(b) bod
adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn hydref 2015 gyda chasgliadau’r
adolygiad i fodlonrwydd cyn-ddefnyddwyr gwasanaeth hen Blanhigfeydd Aberchwiler
ar eu lleoliadau cyfleoedd gwaith newydd, y canlyniadau ar eu cyfer hwy a'u
teuluoedd/gofalwyr;
(c) bod
yr adroddiad yn manylu ar y gwersi a ddysgwyd gan y Cyngor yn ystod ac ar ôl y
gwaith datgomisiynu; a
(d) bod
y canfyddiadau yn adroddiadau arolygu diweddaraf AGGCC ar y sefydliadau
cyfleoedd gwaith hynny hefyd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad (os nad oedd
adroddiadau diweddaraf y rheoleiddiwr ar gael eto ar gyfer y sefydliadau hynny,
yna dylid cynnwys arwydd o bryd y disgwylir iddynt fod ar gael)
Daeth y cyfarfod
i ben am 11:10am
Dogfennau ategol:
- Aberwheeler Report 220615, Eitem 5. PDF 91 KB
- Aberwheeler Report - App 1 220615, Eitem 5. PDF 142 KB