Eitem ar yr agenda
METHODOLEG AR GYFER PENNU FFIOEDD PARCIO CEIR PRIODOL YN SIR DDINBYCH
Ystyried adroddiad ar y cyd gan Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd ac
Amgylcheddol a'r Rheolwr Trafnidiaeth, Parcio a Diogelwch y Ffyrdd (copi
ynghlwm) sy'n gofyn am farn aelodau ar y fethodoleg a ddefnyddir i bennu
ffioedd meysydd parcio yn Sir Ddinbych a'r egwyddorion a fabwysiadwyd ar gyfer
negodi trefniadau cymhorthdal gyda chynghorau tref a/neu gyrff
eraill.
9:35am – 10:30am
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, a
oedd yn nodi’r dull a ddefnyddiwyd i benderfynu ar daliadau parcio ceir priodol
yn Sir Ddinbych, a’r egwyddorion a fabwysiadwyd ar gyfer trafod y trefniadau
cymhorthdal gyda Chynghorau Tref, a/neu unrhyw gyrff eraill, wedi’i ddosbarthu
gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y Cynghorydd D.I. Smith yr adroddiad ac esboniodd bod y broses o
bennu ffioedd a thaliadau wedi’i dirprwyo i lefel Pennaeth Gwasanaeth, gyda’r
eithriad y byddai angen ymgynghori â’r Aelodau ynglŷn ag unrhyw newidiadau
cynhennus.
Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol nad oedd taliadau meysydd
parcio Sir Ddinbych wedi’u cynyddu ers 6 blynedd ac mae manylion am hyn yn
Atodiad A. Roedd y diffyg a brofwyd
wedi’i unioni gan draws-gymorthdaliadau o’r gyllideb cynnal a chadw priffyrdd
gyffredinol. Roedd goblygiadau darparu
traws-gymorthdaliadau ar sail barhaol wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Roedd y broses o bennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2016-17 yn ymgorffori’r
broses Rhyddid a Hyblygrwydd, a gellir ystyried yr anghysondeb presennol yn y
gyllideb fel rhan o’r broses honno. Er
mai’r Aelodau fyddai’n penderfynu ar lefelau cyffredinol y gyllideb, nid oedd
yn deg, nac yn rhesymol, disgwyl iddynt bennu taliadau ar gyfer meysydd parcio
unigol, ar gyfer hyd arosiadau unigol, a dyna pam yr oedd y swyddogaeth honno
wedi’i dirprwyo i lefel swyddog. Byddai
angen datblygu’r trefniadau codi taliadau mewn ffordd resymegol a theg, ac
roedd y dulliau a ddefnyddiwyd i gael sefyllfa deg a rhesymol ar gyfer codi
taliadau, o fewn y gyllideb sydd wedi’i dyrannu, wedi’u cynnwys yn yr
adroddiad.
Darparwyd amlinelliad o’r egwyddorion sylfaenol a ddefnyddiwyd i benderfynu
ar lefelau’r taliadau, ynghyd â:-
-
Costau darpariaeth.
-
Rheoleiddio’r mannau parcio sydd ar gael.
-
Amserlenni prisio.
-
Cyfraddau taliadau arfaethedig ar gyfer Sir
Ddinbych.
-
Y lefelau taliadau canlyniadol a oedd yn debyg iawn
i’r rhai a oedd ar waith yng
Nghonwy.
-
Dadansoddiad o gynnig Cyngor Tref Prestatyn i
dalu cymhorthdal ar gyfer meysydd
parcio Sir
Ddinbych.
Rhoddwyd crynodeb gan y swyddogion o’r atodiadau
canlynol, sydd wedi’u cynnwys gyda’r adroddiad:-
A. Methodoleg fanwl
B. Y cyfraddau taliadau
arfaethedig
C. Cymariaethau gyda
darparwyr gwasanaeth eraill a Chynghorau eraill
D. Taflen Cwestiynau
Cyffredin a baratowyd er mwy trafod Cymorthdaliadau Cynghorau Tref
E. Asesiad o’r Effaith ar
Gydraddoldeb
Cyfeiriodd y Cadeirydd at ddiben y drafodaeth, i
archwilio’r broses o gyflenwi’r gwasanaeth o fewn y gyllideb, a pheidio ennill
unrhyw fudd economaidd drwy gyflwyno strwythur arall ar gyfer meysydd
parcio. Roedd o’r farn bod dau faes
penodol i’w trafod, ac y byddai’n bosibl eu cysylltu er mwyn cyflawni’r nod yn
y pen draw.
Codwyd y pwyntiau
perthnasol canlynol gan y swyddogion a rhoddwyd yr ymatebion canlynol i’r
materion a godwyd gan yr Aelodau:-
·
Un o
nodau’r adolygiad oedd atal pobl rhag parcio drwy’r dydd oherwydd bod hyn yn cyfyngu
ar y nifer o leoedd parcio sydd ar gael ar gyfer pobl a allai fod eisiau siopa.
·
Roedd manylion y data traffig a pharcio
wedi’u darparu ar y fantolen, a rhoddodd y swyddogion amlinelliad o sut y
cafodd y ffigurau eu llunio.
·
Cyfeiriwyd at y camsyniad bod codi’r taliadau
yn rhwystro ymwelwyr rhag ymweld â’r ardal.
Rhoddwyd cadarnhad mai’r cynnig manwerthu oedd yn cael y dylanwad mwyaf
ar y dewisiadau a wneir gan ddefnyddwyr gwasanaeth.
·
Rhoddwyd amlinelliad o’r broses weithredu ar
gyfer mynd i’r afael â’r problemau a nodwyd.
·
Pwysleisiwyd pwysigrwydd cyllideb gytbwys, a
rhoddwyd cadarnhad y gallai’r Aelodau ddiwygio’r gyllideb drwy’r broses pennu
cyllideb pe byddant yn dymuno gwneud hynny.
·
Cadarnhawyd y gallai Sir Ddinbych ystyried
cynigion o ddarpariaeth cymhorthdal gan Gynghorau Tref. Fodd bynnag, byddai pob achos yn cael ei
ystyried ar ei rinweddau ei hun, a chyfeiriwyd yn benodol at y trefniadau
presennol gyda Chynghorau Tref Prestatyn a Rhuthun.
·
Roedd y gyllideb yn cael ei chydbwyso ar hyn
o bryd drwy’r gyllideb cynnal a chadw, a phwysleisiwyd pwysigrwydd cyflawni’r
gwasanaeth o fewn y gyllideb.
·
Mewn ymateb i’r cyfeiriad gan Aelodau at
feysydd parcio yn eu hardaloedd eu hunain, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau
Priffyrdd a’r Amgylchedd bod pob maes parcio a’u lleoliadau penodol yn wahanol,
a’r bwriad oedd cynnal strwythur sylfaenol o’r polisi o ran meysydd parcio
arhosiad hir ac arhosiad byr.
·
Trafodwyd goblygiadau ariannol buddsoddiad
pellach mewn peiriannau Talu ac Arddangos.
Cyfeiriwyd hefyd at fuddiannau posibl i ddefnyddwyr y gwasanaeth pe
byddai taliadau digyswllt a thaliad drwy ffôn clyfar yn cael eu cyflwyno.
·
Pwysleisiwyd y byddai’n bwysig nodi na
ddylai’r Cyngor weithredu na darparu darpariaeth parcio ceir ar sail fasnachol,
na cheisio cynhyrchu elw o’r incwm a dderbynnir.
Yn ystod y drafodaeth
ganlynol, mynegodd yr Aelodau eu barn ar y materion canlynol:-
-
Consensws
cyffredinol y Pwyllgor oedd cefnogi cynnydd o 10c i 20c i’r taliadau, ac y bydd
y gyfundrefn taliadau yn seiliedig ar gyfnod hanner diwrnod o 3 awr yn hytrach
na 4 awr. Rhagwelwyd y byddai pobl yn
rhoi’r gorau i’r arfer o brynu dau docyn 4 awr yn hytrach na phrynu tocyn
drwy’r dydd yn sgîl y newid arfaethedig hwn.
-
Cyfeiriwyd at y posibilrwydd o’r rhaglen adfywio
yn Y Rhyl a’r ymateb negyddol posibl i gynnydd yn y taliadau parcio ceir.
-
Awgrymwyd y dylid ystyried y posibilrwydd o
gyflwyno cyfnod gras, 5 neu 10 munud o bosibl, i ddefnyddwyr gwasanaeth a oedd
wedi mynd y tu hwnt i’r cyfyngiad amser ar eu tocynnau parcio. Nid oedd y swyddogion yn credu y byddai hyn
yn ymarferol ac y byddai’n anodd pennu ffiniau derbyniol.
-
Yr angen i sicrhau bod darpariaeth parcio
arhosiad byr ar gael i siopwyr lleol ac ymwelwyr i’r trefi yn y Sir.
-
Cafwyd cais am eglurhad o’r cytundeb a wnaed
gyda deiliaid trwydded o ran defnyddio meysydd parcio arhosiad hir ac arhosiad
byr.
-
Darparwyd yr esboniad mai dim ond un maes
parcio a oedd wedi gweld cynnydd mewn incwm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Awgrymwyd yr angen am gymhelliant i gynyddu’r
defnydd a wneir o feysydd parcio, a chyflawni’r gyllideb yr un pryd.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr argymhellion yn yr adroddiad
a nodwyd y sylwadau canlynol. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, bu i’r Pwyllgor:-
·
pwysleisio nad oeddent yn gorff gwneud penderfyniadau
ond eu bod yn cymeradwyo’r argymhellion bod angen cydbwyso cyllidebau, yn
cynnwys y gyllideb meysydd parcio, yn amodol ar y broses Rhyddid a Hyblygrwydd.
·
cytuno bod y fethodoleg yn yr adroddiad yn darparu dull
rhesymegol o bennu taliadau, penderfynu ar lefelau incwm a chyflawni prif angen
gweithredol y gwasanaeth, h.y. cynyddu argaeledd lleoedd ar gyfer siopwyr ac
ymwelwyr, a
·
nodi y gallai fod yn bosibl amrywio’r gyllideb derfynol
drwy broses pennu cyllideb y Cyngor, yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau a allai godi
drwy’r broses Rhyddid a Hyblygrwydd, a gallai hyn effeithio ar y taliadau y
byddai angen eu codi. Esboniodd y
Cadeirydd, er mwyn egluro’r sefyllfa, y
dylai unrhyw benderfyniad ar gynnydd neu ostyngiad i’r taliadau gael eu gwneud
ar ôl y broses o bennu’r gyllideb.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor:-
(a)
yn derbyn
ac yn nodi cynnwys yr adroddiad, ac
(b)
yn
cefnogi’r argymhellion yn yr adroddiad, yn ddarostyngedig i’r sylwadau uchod,
ac yn arbennig yr isaf o’r ddau fand taliadau a band tariff arfaethedig a
ddangosir yn Atodiad B gyda chyfnod hanner diwrnod o 3 awr.
Dogfennau ategol:
- Car Park Pricing Review Report 090715, Eitem 5. PDF 123 KB
- Car Park Pricing Review Report - App A 090715, Eitem 5. PDF 286 KB
- Car Park Pricing Review Report - App B 090715, Eitem 5. PDF 215 KB
- Car Park Pricing Review Report - App C 090715.docx, Eitem 5. PDF 28 KB
- Car Park Pricing Review Report - App D 090715, Eitem 5. PDF 472 KB
- Car Park Pricing Review Report - App E 090715, Eitem 5. PDF 99 KB