Eitem ar yr agenda
DYFODOL GOFAL CYMDEITHASOL MEWNOL I OEDOLION
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol (copi’n
amgaeedig) a oedd yn cynnwys manylion argymhellion y Grŵp Tasg a Gorffen
yn dilyn ei archwiliad o ganlyniadau'r ymarfer ymgynghori.
10.10
a.m. – 10.45 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad
gan Bennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol wedi’i ddosbarthu gyda'r papurau
ar gyfer y cyfarfod.
Darparodd Gadeirydd
Grŵp Tasg a Gorffen Gwasanaethau Cymdeithasol Mewnol, y Cynghorydd W.
Mullen-James, grynodeb o bwrpas a gwaith y Grŵp Tasg a Gorffen, a diolch
i’r swyddogion am eu gwaith caled. Eglurodd mai cylch
gorchwyl y Grŵp oedd ymgynghori ar ddyfodol gofal cymdeithasol oedolion
mewnol a sicrhau cost effeithiolrwydd a gwerth gorau am arian yn Sir Ddinbych,
gan sicrhau bod defnyddwyr yn cadw eu hunaniaeth a’u cysylltiadau â’r gymuned.
Amlinellodd Bennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol y canlyniadau gan y
Grŵp Tasg a Gorffen yn dilyn cam cyntaf y broses ymgynghori, a oedd yn
cynnwys gwybodaeth a gasglwyd o adolygiadau unigolion a’r teuluoedd sy’n
defnyddio’r gwasanaethau. Gofynnwyd i’r Pwyllgor roi sylwadau ar yr wybodaeth
a gasglwyd a'r argymhellion dilynol gan y Grŵp Tasg a Gorffen ar yr
opsiynau i'w cyflwyno i'r Cabinet ar gyfer ymgynghoriad ffurfiol â'r holl
fudd-ddeiliaid. Roedd gwerthusiad opsiynau
wedi’i ddatblygu ar gyfer pob un o’r gwasanaethau mewnol a oedd wedi’u
hystyried gan y Pwyllgor ym mis Hydref, 2014 a’r Cabinet ym mis Rhagfyr 2014,
ac roedd eu hargymhellion wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Eglurodd y Cynghorydd R.L. Feeley bod y gair “ymgynghori” wedi’i newid yn
dilyn cyngor y Sefydliad Ymgynghori i sicrhau bod y broses yn cael ei hystyried
fel ymarfer casglu gwybodaeth yn cynnwys teuluoedd a defnyddwyr gwasanaeth, cyn
cynnal ymgynghoriad llawn a phriodol.
Roedd manylion ar y fethodoleg a gytunwyd gan Tîm Gweithredol Corfforaethol
ar gyfer asesu anghenion unigolion a chasglu eu barn ar ddyfodol y gwasanaeth
yn ogystal â’r cylch gorchwyl a'r amserlenni ar gyfer yr ymgynghoriad, wedi’u
darparu. Roedd yr awgrymiadau gan y Grŵp Tasg a Gorffen
yn Atodiad 1, yn dangos yn glir bod yr asesiadau a safbwyntiau unigolion a
theuluoedd wedi'u hystyried wrth gynnig atebion sy'n canolbwyntio ar
foderneiddio darpariaeth gwasanaethau drwy fodloni disgwyliadau Llywodraeth
Cymru a'r boblogaeth ehangach o ran sut mae gofal modern a chymorth yn edrych,
ar yr un pryd â chanolbwyntio adnoddau tuag at y meysydd lle mae’r galw uchaf a
chyflawni’r arbedion gofynnol hefyd.
Roedd canlyniadau’r ymarfer casglu gwybodaeth wedi’u cynnwys yn yr
adroddiad ynghylch Hafan Deg y Rhyl, Dolwen Dinbych, Awelon Rhuthun, Cysgod y
Gaer Corwen a Chynlluniau Gofal Ychwanegol ym Mhrestatyn, y Rhyl a Rhuthun.
Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai cyfanswm yr arbedion a nodwyd yn y cynigion
yn cyfateb i £680mil dros gyfnod o 2 flynedd. Roedd manylion y broses
ymgynghori a gynhaliwyd, a'r risgiau posibl a’r camau a weithredwyd i’w
lliniaru, wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.
Eglurodd y Prif Weithredwr bod argymhelliad y
Cabinet i ymgynghori’n ehangach wedi dechrau gan asesu anghenion defnyddwyr
gwasanaeth. Awgrymodd bod canfyddiadau’r ymgynghoriad ehangach
ar ddarpariaeth gofal preswyl a gofal ychwanegol, gyda chefnogaeth tystiolaeth
leol a chenedlaethol, yn cael eu hadrodd yn ôl i’r Cabinet. Teimlwyd y
dylid cyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad i’r Sefydliad Ymgynghori, a bod
manylion y rhesymau dros newid yn cael eu cyflwyno i’r cyhoedd.
Cyfeiriodd y Prif
Weithredwr at y dystiolaeth lethol yn erbyn cartrefi gofal preswyl
traddodiadol, gyda’r mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaeth yn mynegi dymuniad i
aros yn eu cartrefi eu hunain gyda chefnogaeth gofal ychwanegol. Amlinellwyd
manylion opsiynau posibl trefniadau gweithio ar y cyd gyda’r Awdurdod Iechyd. Fodd bynnag,
eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’n amhriodol peidio â datblygu’r cynigion
tra nad oedd gweithio ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd yn ddatrysiad hyfyw.
Eglurodd Bennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol
bod yr adroddiad yn adlewyrchu safbwyntiau’r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaeth,
gyda’r cynigion gwreiddiol wedi’u diwygio i gynnwys datrysiadau da iawn i
ddarparu cefnogaeth. Cadarnhawyd nad oedd amserlen na dyddiadau wedi’u
cytuno hyd yn hyn, ac na fyddai unrhyw newidiadau’n cael eu gweithredu, nac
unrhyw atgyfeiriadau’n cael eu hatal, cyn i’r Cabinet gytuno ar benderfyniad. Cyfeiriwyd at
safon uchel y gwasanaeth a ddarparwyd gan weithwyr gofal Sir Ddinbych, ac at
weithio gyda'r Awdurdod Iechyd yn y dyfodol. Cyfeiriodd at y
datganiad o fwriad, targedau hyfforddi yn y dyfodol ac arbedion posibl yn cael
eu cyflawni trwy ddarparu gwasanaethau mewn ffordd wahanol.
Darparwyd cadarnhad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Cymorth Cymunedol y gallai’r defnyddwyr gwasanaeth aros yn eu lleoliadau presennol ac y byddai’n
rhaid i’r Awdurdod ddiwallu eu hanghenion. Fodd bynnag, gellir ystyried dulliau gwahanol o ddarparu a darparwyd
manylion y ddarpariaeth gwasanaeth i gefnogi gofalwyr.
Cyfeiriodd y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts at
benderfyniad a wnaed gan y Cabinet y dylid cynnal ymarfer ymgynghori ehangach
gan gynnwys y cyhoedd. Eglurodd er ei fod yn croesawu newid roedd yn
teimlo mai dim ond sylwebaeth ynglŷn â'r sefyllfa bresennol oedd wedi’i
darparu ac nad oedd tystiolaeth o’r buddion i’r cyhoedd a’r defnyddwyr
gwasanaeth yn yr adroddiad. Amlygwyd bod angen darparu tystiolaeth benodol bod
defnyddwyr gwasanaeth yn dymuno cael mwy o annibyniaeth, ynghyd â datblygu
cynllun strategol cyn llunio unrhyw benderfyniad terfynol. Pwysleisiodd
bwysigrwydd yr angen i amlinellu safbwynt strategol gofal yn Sir Ddinbych i
sicrhau eglurder yn y dyfodol. Holodd y Cynghorydd Roberts sut y byddai
darpariaeth gofal yn ardal Rhuthun yn cael ei ddiwallu yn y dyfodol.
Cododd yr Aelodau nifer o faterion a darparwyd yr
ymatebion a ganlyn gan y swyddogion:-
·
Roedd
unrhyw bryderon a godwyd gan aelodau o staff ynglŷn â darpariaeth
gwasanaeth yn y dyfodol a’r gofynion wedi derbyn sylw ar unwaith.
·
Roedd
ansawdd darpariaeth gwasanaeth wedi’i fonitro’n rheolaidd, gyda rheoli ansawdd
yn sicrhau bod safonau darpariaeth wedi’u bodloni.
·
Roedd
targedau hyfforddi ar waith i sicrhau bod staff wedi’u cyflogi gan sefydliadau
annibynnol yn derbyn yr hyfforddiant cywir.
·
Eglurwyd
y byddai’r costau’n gysylltiedig â darpariaeth gwasanaeth yn lleihau, ond
gallai gynyddu dros gyfnod o amser gyda chwyddiant.
·
Mynegodd
yr Aelodau’r safbwynt y dylid cynnal lefel y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y
gwasanaeth.
·
Mynegwyd
cefnogaeth ar gyfer penderfyniad y Cabinet mewn perthynas â Dolwen, ac
ynglŷn â chysondeb y staff yn y categorïau gwahanol yn y Cartref.
·
Cyfeiriwyd
at y cysylltiad rhwng y GIG a darparwyr Gofal Cymdeithasol.
·
Mynegwyd
pryder na allai’r lefel o ofal dydd sy’n cael ei ddarparu gan Sir Ddinbych a’i
staff gael ei efelychu gan y darparwyr gofal dydd preifat.
·
Bod
yr holl fudd-ddeiliaid perthnasol, gan gynnwys cymdeithasau tai, yn cael eu
cynnwys yn y broses ymgynghori.
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd siaradodd Mr David Jones
o Langollen ynglŷn â’r darpariaeth gwasanaeth yn ardal Llangollen a’r
dirywiad yn y galw am wasanaeth o ganlyniad i newid yn y gofynion cymhwysedd. Cyfeiriodd at y
cynnydd posibl yng nghostau’r gwasanaeth fesul preswylydd o ganlyniad i hyn ac
amlinellodd yr cyfleoedd sydd ar gael i Sir Ddinbych ddylanwadu ar y Bwrdd
Iechyd i sicrhau darpariaeth gofal cymdeithasol priodol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y gefnogaeth a fynegwyd
ar gyfer y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet o ran ymarfer ymgynghori ehangach
bod adroddiadau’r dyfodol yn cynnwys manylion yr ymchwil perthnasol a wnaed a
chyfnod ymgynghori y gellir ei ymestyn os oes angen.
(a)
PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor yn:-
(b)
(c) cefnogi ystyriaeth y Cabinet o adroddiad
ym mis Medi mewn perthynas â chynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
(d) argymell bod cynigion neu opsiynau yn
adroddiadau'r dyfodol yn nodi'r ymchwil a’r dystiolaeth waelodol, ac
(e) argymell y gellir ymestyn y cyfnod
ymgynghori, os oes angen.
Dogfennau ategol:
- In-house TF report 160715, Eitem 5. PDF 105 KB
- In-house TF report - App 1 160715, Eitem 5. PDF 498 KB
- In-house TF report - App 2 160715, Eitem 5. PDF 457 KB
- In-house TF report - App 3 160715, Eitem 5. PDF 397 KB
- In-house TF report - App 4 160715, Eitem 5. PDF 387 KB
- In-house TF report - App 5 160715, Eitem 5. PDF 316 KB