Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD BLYNYDDOL IECHYD A DIOGELWCH CORFFORAETHOL
Ystyried
adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (copi’n amgaeedig)
sy'n darparu diweddariad ar reoli Iechyd a Diogelwch o fewn CSDd o safbwynt tîm
I a D Corfforaethol.
10.50
a.m. – 11.25 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad gan y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, a oedd yn darparu
diweddariad ar reoli iechyd a diogelwch yn Sir Ddinbych fel y gwelir o safbwynt
Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol, wedi’i ddosbarthu gyda’r papurau ar gyfer
y cyfarfod.
Cyflwynodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol yr adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ynglŷn â
diweddariad blynyddol ar reoli iechyd a diogelwch yn Sir Ddinbych. Roedd gweithgareddau'r Tîm
Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yn cynnwys nifer o weithfannau gweithredol yn
Sir Ddinbych ac roedd gwelliannau o ran ymwybyddiaeth a rheoli iechyd a
diogelwch wedi’u harsylwi. Pan fydd gwendidau, bylchau neu broblemau yn cael
eu nodi mewn systemau neu broses rheoli, mae cymorth, cyfarwyddyd a
hyfforddiant angenrheidiol yn cael ei ddarparu yn unol â faint o adnoddau sydd
ar gael.
Roedd adborth Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn awgrymu bod rheoli
diogelwch Sir Ddinbych yn gadarnhaol. Er gwaethaf y ffaith
ein bod mewn sefyllfa gadarnhaol ar y cyfan, mae’n bwysig nad ydym yn llaesu
dwylo a rhaid i ni barhau i arwain a chefnogi’r broses o wella Iechyd a
Diogelwch.
Roedd y data ar gyfer nifer y damweiniau/ digwyddiadau o fis Ebrill 2014 i
fis Mawrth 2015 yn nodi bod nifer y digwyddiadau wedi gostwng o 2013/14. Roedd
y gostyngiad yn adlewyrchu’r cyngor a ddarparwyd i’r ysgolion fel y cyfranwyr
mwyaf i’r niferoedd, ac roedd y Tîm yn ymwybodol bod posibilrwydd nad oedd pob
digwyddiad yn cael eu hadrodd. Roedd digwyddiadau Rheoliadau Adrodd am Anafiadau,
Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus (RIDDOR) hefyd wedi gostwng yn rhannol
oherwydd roedd gofynion adrodd RIDDOR wedi’u newid ar ddiwedd 2013.
Darparwyd manylion un digwyddiad sylweddol, yn ymwneud â gweithiwr rheoli
gwastraff, a arweiniodd at archwiliad llawn gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd
a Diogelwch gan ganfod nad oedd unrhyw fai ar y Cyngor.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion ynglŷn â:-
·
Monitro
systemau diogelwch yn y gweithle.
·
Cais
gan y crwner i edrych ar bromenâd Prestatyn yn dilyn cwymp a arweiniodd at
farwolaeth. Roedd yr adroddiad wedi’i gynnwys fel
Atodiad 2.
·
Depo
fflyd - Roedd Atodiad 3 yn darparu manylion am broblem barhaus gyda
Plastecowood.
·
Roedd
pryderon yn ymwneud â Chlwb Hwylio y Rhyl, Wal y Cei a’r Iard Gychod wedi’u
cynnwys yn Atodiad 4. Cofrestr Amddiffyn Staff.
·
Strwythur
Tîm Iechyd a Diogelwch Corfforaethol.
·
Adrodd
am Ddamweiniau / Digwyddiadau
Cyfeiriodd y Cynghorydd A. Roberts at adran 4.1.3 yr adroddiad ac amlygu
pwysigrwydd sicrhau bod adeiladau ysgol yn cael eu cynnal a’u cadw i osgoi
damweiniau. Cadarnhaodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol bod yr holl ddamweiniau a adroddwyd mewn ysgolion yn cael eu
cofnodi’n electronig a’u hasesu’n unigol i benderfynu os oes angen camau
pellach. Hysbyswyd yr Aelodau bod gwybodaeth fanwl yn cael
ei chyflwyno i’r Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Lles Corfforaethol, a bod gan bob
ysgol Bwyllgor Iechyd a Diogelwch, a oedd yn monitro materion iechyd a
diogelwch yn yr ysgol.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd M.Ll Davies ynglŷn â diogelwch yn adeiladau’r
Cyngor a’r pwysigrwydd bod staff ac aelodau’r cyhoedd yn arddangos eu
bathodynnau adnabod, cytunodd y RhGD i ymchwilio i’r pryderon a godwyd
ynglŷn â diogelwch ac ymwelwyr adeiladau’r Cyngor.
Ymatebodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol i gwestiwn gan y Cynghorydd G.Sandilands ac fe gadarnhaodd bod y
lefelau hyfforddiant a ddarparwyd i staff wedi aros yr un fath yn 2015 a 2014.
Eglurodd bod y cyrsiau sydd ar gael wedi’u hysbysebu ar TRENT ac ar y fewnrwyd,
gyda’r hyfforddiant a ddarparwyd yn canolbwyntio ar gyfrifoldebau personol.
Mewn ymateb i
ymholiadau ynglŷn â hawliadau yn erbyn yr Awdurdod, eglurodd Rheolwr
Iechyd a Diogelwch Corfforaethol bod cydymffurfio â darpariaethau Dyletswydd
Atebolrwydd Deiliaid mewn Cyfraith Sifil, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i’r
Cyngor gymryd rhagofalon rhesymol, yn cael eu defnyddio fel sail amddiffyn pe
bai hawliad yn erbyn y Cyngor.
Mynegwyd pryderon
ynglŷn â phroblemau oherwydd gwylanod, yn enwedig ar dir ysgolion. Cadarnhaodd
Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol bod yr wybodaeth a’r canllawiau sy’n
gysylltiedig â’r testun hwn wedi’u cydymffurfio gan Bennaeth Cwsmeriaid a
Chymorth Addysg a’u dosbarthu i’r ysgolion. Amlinellwyd manylion y ddeddfwriaeth berthnasol a’r
goblygiadau cyfreithiol ar gyfer y Pwyllgor. Cadarnhaodd Bennaeth
Cwsmeriaid a Chymorth Addysg, er bod y mater y tu hwnt i gylch gwaith y Cyngor,
ei bod hi a Phennaeth y Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd wedi cytuno i
archwilio’r opsiynau sydd ar gael a darparu cyngor i fynd i’r afael â’r broblem
yn y dull priodol.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at y gwaith rhagorol a wnaed gan y Tîm Iechyd a
Diogelwch Corfforaethol. Eglurodd bod Awdurdod Gweithredol Iechyd a
Diogelwch wedi gofyn i Gyngor Sir Ddinbych ddarparu copïau o’r systemau
diogelwch a ddefnyddir yn y busnes casglu gwastraff i awdurdod cyfagos, gan eu
bod yn ystyried systemau Sir Ddinbych fel enghraifft o’r arfer gorau.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad:-
(a)
yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi gweithgareddau’r Tîm Iechyd a Diogelwch
Corfforaethol, ac
(b)
yn gofyn i Reolwr y Gwasanaethau Democrataidd ymchwilio’r pryderon a godwyd
ynglŷn â diogelwch mewn perthynas ag ymwelwyr sefydliadau’r Cyngor.
Dogfennau ategol:
- HS Report, Eitem 6. PDF 102 KB
- HS Report - App 1, Eitem 6. PDF 166 KB
- HS Report - App 2, Eitem 6. PDF 199 KB
- HS Report - App 3, Eitem 6. PDF 86 KB
- HS Report - App 4, Eitem 6. PDF 64 KB
- HS Report - App 5, Eitem 6. PDF 96 KB